Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

CYMANFA LLANDRINDOD ER DYFN=…

News
Cite
Share

CYMANFA LLANDRINDOD ER DYFN= HAU BYWYD YSBRYDOL, Awst 7fed dros yr neg, 1905. AT Y BRODYR A'R CHWIORYDD YN NGHRIST DRWY DYWYSOGAETH CYMRU. ANWYL GYFEILLION,—Gyda chalonau orlawn o foliant diolchgar am yr arwyddion am lawer o fendith a gyfranwyd yn ddiweddar gan ein Tad Nefol drwy ei Ysbryd Sanctaidd ymhlith yr eglwysi a'r bobl, yr ydym yn eich serchog wahodd i'r drydedd Gymanfa er dyfnhau y bywyd ysbrydol, a gynhelir yn Llandrindod o Awst 7fed dros yr iieg, 1905. A gawn ni gwrdd unwaith eto mewn cynhad- ledd i ymgynghori A'n Duw ac a'n gilydd, i ddisgwyl wrth Dduw, yr Hwn a weithia i'r neb a ddisgwylia," ac i geisio yr ysbryd hwnnw o ildiad ac ufudd-dod a rydd le cynyddol i'r Ysbryd Glan yn ein calonau, fel y gallo Efe heb atalfa na rhwystr "weithio ynom weithredu o'i ewyllys da Ef ? Mae y tywalltiad diweddar o'r Ysbryd Glan ar y Dywysogaeth, gyda'r canlyniad o ddeffroad a chynnulliad miloedd o eneidiau gwerthfawr i Deyrnas ein Harglwydd lesu Grist, wedi cyffroi calon Eglwys Crist drwy'r byd. A chyda'r fath adfywiad ynghylch cadwedigaeth, oni allwn hefyd edrych am adfywiad ynghylch sancteidd- had, ac yn ffordd-lwybr y bywyd a'r rhodiad sanctaidd ? Amcan y Gymanfa yw gosod allan ar gynllun yr Ysgrythyr Lan y bywyd Ysbryd- lawn a'r nerth a'r ddarpariaeth i'w fyw allan gerbron Duw a'n cyd-ddynion. Dymunwn yn neillduol, os yr Arglwydd a'i myn, weinidogaethu i'r rhai sydd yn ieuanc yn y ffydd, ac a ddy- munant gyfarwyddyd a help ymarferol yn y bywyd Cristionogol, neu i'r rhai sydd mewn penbleth neu anhawsder gyda golwg ar risiau graddianol ffordd sancteiddrwydd, neu i'r rhai hyny a newynant ac a sychedant am y profiadau fyth uwch neu ddyfnach hynny yn y dirgelwch mawr-oedd guddiedig er oesoedd, ond yr awrhon a eglurwyd-" Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant" (Col. I., 26-27). Bydded i'r Ysbryd Glan Ei Hun, yr Hwn yn y dyddiau diweddaf hyn sydd wedi ymsymud ar gynulleidfaoedd cynulledig yn nghyfarfodydd y Diwygiad," alw allan Ei bobl, ac i ymsymud ar unigolion ac ar gynulleidfaoedd fel ag i ddwyn oddiamgylch yn y Gymanfa yn Llandrindod ganlyniad nerthol a bendigedig, yr hwn a duedda i ogoniant Duw ac a ymleda dros y tir, gan gyrhaedd hyd yn nod i eithafoedd y ddaear.- Yr eiddoch yn ffyddlawn yn Nghrist Iesu, ALBERT A. HEAD, (Ymddiriedolwr Cymanfa Keswick), Cadeirydd a Chynhullydd. Wimbledon. CVNGHOR CYFEIRIADOL. Y Parchn. Grange Bennettt, Hornsey, Llun- dain W. Edwards, B.A., D.D., Prifathraw Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd; Griffith Ellis, M.A., Bootle, Lerpwl; D. Wynne Evans, Caer; Stephen George, B.A., Llandrindod; D. Garro Jones, Llandrindod; James Jones, B.Sc., Llan- drindod Owen Prys, M.A., Prifathraw Coleg Trefecca; D. Pugh, Rheithordy, Ysceifiog, Tre- ffynon; John Pugh, D.D., Caerdydd; J. M. Saunders, M.A., Abertawe; yr Anrhydeddus Talbot Rice, ficer Abertawe; Dr. Rawlings, Abertawe; a Mr. W. P. Roberts, Llundain. Ysgrifenyddion Trefniadol Myg. Parch. J. Rhys Davies, 256, Portland Street, Southport, a Mrs. Penn Lewis, Great Glen, Leicester. Ysgrifenydd Lleol Myg. Mr. H. D. Phillips, The Vista, Llandrindod. Trysorydd Myg. Mr. E. A. Morgan, The Firs, Llandrindod. Archwiliwr Myg. Mr. E. Peters Morris, Llandrindod.

Advertising

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.,.

Y DYFODOL-

- Gohebiaethau.

DEATH OF MR. EVAN WATKIN,…

Advertising