Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

CYFARFOD MISOL RHYFEDD.

News
Cite
Share

CYFARFOD MISOL RHYFEDD. H Rhyfedd yw yr unig air allaf ddefnyddio ynglyn ag eisteddiad diweddaf Cyfarfod Misol Llundain. Gwyr rhai mae'n debyg nad tebyg i gyfarfodydd y wlad yw yr unrhyw gyfarfod yma. Gyda chwi ceir dau neu dri diwrnod o bwyll- gorau ac o gyfarfodydd pregethu, ond yma mae amgylchi'adau yn rhwystro i'r Cyfarfod Misol gyfarfod ond am noswaith, ac ni wneir dim ond trin materion amgylchiadol--math o bwyllgor mawr. Wrth gwrs, nid yw y gwaith wneir yn llai bendithiol, gan mai yr Arglwydd a bia'r 'cwbl, ac efe sydd yn llywodraethu. Ond rhywsut neu gilydd, nid yw Pwyllgor, gelwch chwi ef yn bwyllgor neu yn Gyfarfod Misol, yn cyfleu y syniad o foddion gras, a dyna paham y rhoddais y gair Rhyfedd yn y penawd i ddesgrifio y Cyfarfod Misol gynhaliwyd, nos Fercher, Mai 3 lain. Yr oedd lie i ofni y deuai tan gwahanol i dan y Diwygiad yno, oherwydd yr oedd mater neillduol i'w drafod ag yr oedd peth gwres wedi ei wastraffu ynglyn ag ef mewn cyfarfod blaen- orol; ond pan ddaeth y cwestiwn gerbron, .gofynwyd am, a chaed, ymdriniaeth arno yn yr ysbryd goreu, a therfynwyd ef i foddlonrwydd pawb. Yr oedd yn bresenol gyda ni y Parch. J. J. Roberts (Iolo Caernarfon), Porthmadog, a •rhoddwyd ganddo anerchiad byr yn llawn cyd- ymdeimlad ag eglwysi Llundain, ac yn galondid i'r aelodau fyned ymlaen i wneyd eu goreu ym mhob cyfeiriad Yna cafwyd ychydig sylwadau gan y Cadeirydd, a chododd y naill frawd ar ol y Hall i adrodd fel yr oedd y Diwygiad wedi cyrhaedd yr eglwys y mae ef yn weinidog arni neu yn swyddog ynddi. Yr oedd yr Amenau yn uchel ac yn lliosog, ac o'r diwedd aeth, yn ddiarwybod, yn gyfarfod gweddi. A dyna gyfarfod gweddi Nid ffurf oer, ond calonau ar dan yn diolch am bresenoldeb yr Arglwydd yn yr eglwysi ac yn y Cyfarfod Misol, ac yn ymbil yn daer am ragor o'r cawodydd hyfryd. Rhedodd teimladau y cyfarfod yn uchel iawn, ac yn y canol torwyd allan i ganu- Cerdd ymlaen, nefol dan, Cymer yma feddiant glan. 'Nid wyf yn cofio a fu canu o'r blaen mewn eisteddiad o Gyfarfod Misol Llundain, ond gwn nas gallai fod canu fel ag a gawd y tro hwn- •canu a'i lond o weddio. Wedi canu, aed ymlaen ymhellach i weddio, a chymerwyd rhan gan .amryw, pob gweddi yn myned yn syth i'r nef, ac yn dwyn ei hatebiad yn ol i'r cyfarfod. Canwyd 0, fy enaid co'd dy olwg, Gwel yn amlwg ben y bryn ac yn yr olwg ar Galfaria, ymwahanwyd i fyned a'r newyddion da i'r eglwysi. Bydd y Cyfarfod Misol yn well o'r cyfarfod hwn, bydd ei aelodau yn well, bydd yr eglwysi yn well. Fel y dywedais o'r blaen, nid yr un dull geir i'r Diwygiad ym mhob eglwys, ac os nad oes swn -ac anhrefn, dychmygir gan rai nad oes diwygiad. Cyhuddant hefyd rai o ddynion duwiolaf yr eglwysi o fod allan o gydymdeimlad a'r bobl ieuainc, ac a'r Diwygiad, am nas gall y cyfryw rai weled yr angenrheidrwydd o ddangos eu teimladau mewn ffurf fyddai'n annaturiol iddynt. Dywedid fod Cyfarfod Misol Llundain a'i aelodau yn oer a dideimlad, ac mewn ambell gyfarfod gofynid i'r Brenin mawr am achub gweinidogion a blaenoriaid Methodistiaid Llun- dain, weithiau wrth eu henwau. Yr oedd yn anhawdd i'r rhai oeddynt wedi gweithio yn yr eglwysi am flynyddau gredu fod angen am y fath gyfeiriadau na sail i'r cyhuddiadau; ac y Irlae presenoldeb amlwg y Duw mawr ei hunan Yn y Cyfarfod Misol diweddaf yn brawf diym- ,^ad fod holl gydymdeimlad y gweinidogion a'r blaenoriaid gyda'r Diwygiad; ac yn wir mae Pregethau y gweinidogion, cynghorion y blaen- ^"iaid, a gwaith a gweddiau yr oil wedi dangos hyn yn eglur cyn i'r amlygiad hwn gymeryd lie.

Advertising

Pobl a Phethau yng Nghymru.

CYLCHDEITHIAU GWEINIDOGION…

Advertising