Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

0 WLAD Y GORLLEWIN.

News
Cite
Share

0 WLAD Y GORLLEWIN. LLYTHYR MISS ELLINOR WILLIAMS. Wythnos yn Youngstown, a Pythefnos yn East Greenville. MAWR oedd fy awydd i ymweled a Youngs- town, dinas y dur. O'i maintioli y mae yn un o drefydd prysuraf y Talaethau. Mae y gwaith mawr sydd yno yn troi allan dunell o ddur bob mynud ddydd a nos. Mae yn lie da i'r gweith- wyr medrus; y cyflogau yn uchel, ac mae ol cyfoeth ar y ddinas-tai gwychion, heolydd llydain, masnachdai eang, capelau mawrion, ie, llawnion o bobl. Y wlad o amgylch Youngstown sydd hynod o brydferth, ar gwr Talaeth Ohio- gwlad fras y gwenith. Yr oedd y Parch. J. T. Lloyd yn Nghymanfa Homestead, a mmau trwy ei garedigrwydd ef a'i eglwys, yn cael yr anrhydedd o wasanaethu am Sul yn ei Ie. Anffortunus fu y tywydd. Daeth un o ystormydd y West ar ein gwarthaf bore Sul, ac ataliwyd llawer oedd wedi cychwyn rhag dod i'r capel. Daeth eraill yn wlyb eu gwala. Y mae eglwys Youngstown bron a bod y gryfaf fedd Bedyddwyr Cymreig America. Mae y demi hardd yn urddasol yr olwg ac yn ddiddyled. Mae y Saesneg wedi cario y dydd yn yr eglwys hono, a thrwy hyny mae tyrfa fawr o bobl ieuainc yn cynull yno ar nos Suliau. Mae cyrddau yr wythnos yn fywiog a llawn o ysbryd crefydd. Derbyniais groesaw mawr gan y Parch. J. B. Davies, gweinidog parchus yr Annibynwyr Cym- reig. Cawsom gwrdd nefolaidd un noson yn ei gapel, pan bregethai y brawd Griffiths o Dre- forris i dyrfa fawr. Bone=setter Rees. Gwelais y meddyg enwog J. Rees, Ysw., yn yr oedfa. Bone-setter Rees ei gelwir gan y bobl, a than yr enw yna ei cyflwynwyd i mi. Mae yn Gymro rhagorol, Llettyais gyda gwahanol ffryndiau—Mr. a Mrs. David Davies, Covington Street; Mr. a Mrs. Frank Edwards, David's Lane Mr. a Mrs. J. Aubrey. Mae y lienor enwog J. Aubrey yn ddyddorol ei gwmni. Un noson yr oedd genyf gyhoeddiad yn Sharon. Cychwynais ar nawn heulog, ond cyn ein bod wedi myned haner y ffordd, dyna y wybr yn gollwng ei chyrtan du trosom y corwynt yn pasio ac yn taraw ffenestr ein cerbyd nes ei malurio yn llwch Dyna'r mellt yn dechreu ehedeg a'r taranau yn swnio fel pe yr hen gread wedi troi i chwyrnu yn ofnadwy arnom, ac ar- llwysai y gwlaw o bob cyfeiriad. Erbyn cyraedd Sharon llifai yr heolydd; yr oedd y coed yn llarpiau ar draws y llwybrau, wedi eu tori gan y mellt. 0, yr oedd yn dorcalonus meddwl am gapel. Gwelais weithdy cryddion ar heol. Aethum i mewn yn wylaidd i ofyn gawn i aros i gysgodi am ychydig. Erbyn myned i mewn dau Gymro oedd yno. Ar ol peth amser cefais fy hunan yn nghartref Mr. a Mrs. John Devereux. Erbyn saith o'r gloch yr oedd yr ystorm wedi tawelu, a minau yn cael anerch capelaid o'm cydgenedl. Cawsom gyfarfod rhyfeddol o dda; ac yr oedd dau o weinidogion yr Annibynwyr yno gyda ni-y Parch. Owen Thomas o S. Sharon, a'r Parch. Brynfryn Morgan, gweinidog yr eglwys Seisnig. Yn East Greenville. Bum noson arall yn Girard. Gwan yw yr eglwys yno, ond daeth rhai Cymry oedranus iawn i'r oedfa. Wedi gadael Youngstown yr oeddwn i fyned i East Greenville am Sul, lie o'r neilldu, canys nid yw y cars yn myned ym mhellach na Brookfield, ac yr oedd dwy filldir a haner o ffordd i gerdded, ond daeth y brawd Thomas Rees a'i gerbyd i'm cwrdd. Dyma wlad ardderchog yw y parthau hyny o Dalaeth Ohio, a dywedir fod glo goreu yr America i'w gael yno, ond am ryw reswm nid yw yn cael ei

Advertising

MR. H. W. LUCY'S REMINISCENCES…

CYMRAEG CAERDYDD.

0 WLAD Y GORLLEWIN.