Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

EISTEDDFOD YN AFFRICA.

News
Cite
Share

EISTEDDFOD YN AFFRICA. Gwyl Fawr yn Johannesburg. Cynhaliwyd eisteddfod hynod o lewyrchus yn Johannesburg ar y 24ain o fis Mai diweddaf, ac yn ol yr adroddiadau sydd wedi dod i law oddiwrth ein ddarllenwyr yn ngwlad yr aur cymerid cryn ddyddordeb yn yr hen wyl gan bob Cymro yn y rhanau hyny o'r byd. Dydd Gwyl Buddug yw'r 24ain o Fai gan wladwyr Affrica, a dangosant eu bod yn deyrngar iawn tuag at y famwlad trwy gadw coffa y ddiweddar frenhines yn fythol fyw. Gan mai dydd gwyl ydoedd daeth y torfeydd i'r brifddinas yn blygeiniol o bob tref a thalaeth; ac roedd y Cambrian Society wedi gwneyd trefniadau addas er croesawu pob Cymro a ddeuai yno o bellder ffordd. Mr. T. R. Price, C.M.G.-prif reolwr y rheilffyrdd-yw llywydd y Gymdeithas hon, ac efe oedd cadeirydd pwyllgor yr eisteddfod hefyd. Tal o Fon oedd y trysorydd, a gwr yn llawn brwdfrydedd eisteddfodol yw efe. Bu raid iddo adael ei hen wlad, Mon mam Cymru, beth amser yn ol er mwyn adfer ei iechyd, a da genym ddeall fod hinsawdd De Affrica yn cytuno yn rhagorol ag ef. Mr. Hugh Gwynne,, mab i Zabulon Dafydd," oedd yr ysgrifenydd a 'doedd bosibl wrth ei well. Sicrhawyd y Drill Hall at wasanaeth yr wyl, a daeth Maer y dref yno i agor y gweithrediadau ac i lywyddu yn nghyfarfod y boreu. Canodd Mr. Arthur Davies, Llangefni, gan yr agoriad, Cymru Fydd," a gwobrwywyd y buddugwyr a ganlyn, yn mysg ereill:—Desgrif gan, Machlud Haul yn Ne Affrica," Mr. W. Cyssog. Corau plant, rhanwyd rhwng Cor Avenue a Chor Mr. Bull. Cyfieithu o'r Ellmynaeg i'r Saesneg, Miss Mackenzie, ac o'r Gymraeg i'r Saesneg, "Mair." Y goreu ar bryddest y goron oedd Athron," a chan nad oedd yn bresenol coronwyd ei gyn- rychiolydd. Prif ddarn corawl, y Rand Choir, o dan arweiniad Mr. Glenton. Mr. T. R. Price oedd y llywydd yn yr hwyr, a chaed cynulliad mawr eto. Yn y cystadleu- aethau enillwyd yr unawd tenor gan Mr. Jones. Unawd baritone, Mr. Patrick. Unawd soprano,. Miss Dick. Adroddiad, Miss Lane. Unawd baritone (agored), Mr. Soames, o Pretoria. Cystadleuaeth corau meibion, Cor Apollo. Yr oedd amryw gystadleuaethau yn yr adran gelfyddydol, a dywedai Mr. Dyer Davies, un o'r beirniaid, fod cryn welliant yn yr adran hon i'r hyn ydoedd flwyddyn yn ol. Da genym ddeall fod yr oil wedi profit llwyddiant.

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.

Advertising

Am Gymry Llundain.