Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

SUL YN LLYDAW.

News
Cite
Share

SUL YN LLYDAW. (Gan Keinion Thomas.) Sul heb gyhoeddiad ydoedd. Trefnasid ef i fod yn Sul gorphwys wedi wythnosau a misoedd o gyfarfodydd diwygiadol. Yr oedd yn peri mwynhad digel i mi feddwl pe gofynasai cyfeillion Quimper neu Pont FAbbe i mi bregethu nas gallwn gydsynio. Gallwn ddiolch am Dwr Babel weithiau. Un o'm cwmni fedrai siarad tipyn o Ffrancaeg, ac yr oedd yn rhaid i hwnw gymeryd yr ychydig a feddai yn gynil, am na wyddai pa funyd y byddai'n dda iddo yr oil oedd ganddo. Llawn tlotach oedd hi arnom yn y Lydawaeg. Nid oedd genym ddwsin o eiriau yn yr iaith hono, a hyny rhwng tri o honom. Barddonasai rhai o garedigion v Cynghrair Celt- aidd wrthyf o dro i dro yn nghylch tebygrwydd y Llydawaeg a'r Gymraeg. Gwelais neu clywais mor anhebyg oeddynt cyn i mi fod bum' mynud yn Finistere. Ac fel hyn y diflanodd swyn y rhamant a greasai y beirdd Celtig yn fy meddwl. Wedi agor drws un o gerbydau y tren elai o Dinan i Brest, gwelais Hen Wreigan, Gymreig ei Golwg, yn ceisio cysgu ar gornel y fainc. Meddyliais fod Rhagluniaeth wedi rhoi yr hen foneddiges yn fy llwbyr o bwrpas i mi wel'd mor debyg oedd ein dwy iaith i'w gilydd. Dechreuais ar fy ngorchwyl o gydmaru'r ieithoedd ar unwaith. Rhoddais bwniad caredig ac anogaethol i'r hen naih, a dangosais fy mhedion iddi gan waeddi traed a gwenu arni'n apeliadol. Edrychodd hithau ar fy esgidiau'n geryddol fel pe am ddweyd nad oedd ganddi ronyn o gydymdeimlad a mi. Os oedd genyf gyrn, na ddylaswn wisgo esgidiau mor dynion Wedyn treais hi hefo rhanau ereill o'm corph, gan waeddi eu henwau yn Gymraeg a hithau yn dechreu edrych arnaf yn ofnus a drwgdybus. O'r diwedd pwyntiais at fy mhen, ac yn y fan rhoes yr hen wraig nod lawn o gydymdeimlad, a deallais ar ei gwedd ei bod yn gwbl sicr mai truan oeddwn wedi dianc o le enwog yn Nyffryn Clwyd, neu sefydliad daionus cyffelyb. Rhag codi gormod o ofn ar yr hen greadures peidiais a fy nghampau yn y Gymraeg. Tynais dorth fach o fara allan, a darn o chocolate, a rhoddais beth iddi. Tawelodd ei llygaid wedi hyn. Rhyfedd fel y Dealla Pawb laith y Cylla! Yn fuan daeth dau foneddwr i fewn a deallent Ffrancaeg a Llydawaeg, a rhoisant ar ddeall i ni mai hen foneddiges unieithog oedd ein cyd- deithreg oedranus a'i bod yn dychwelyd o Paris. Eglurasant iddi mai Cymry oeddym, ac mai ceisio cydmaru ei hiaith hi a'r eiddom ninau yr oeddwn wrth wneyd yr ymdumiau rhyfedd a'i dychrynasai. Goleuodd ei llygad yn yr eglur- had a chanasom yn iach i'n gilydd yn Belle Ile- Begard ar y telerau goreu. Tybiais un min nos drachefn y deuwn yn hyddysg yn iaith y Llydawiaid ond dechreu yn iawn. Clywed Llydawr yn siarad Cymraeg yn y tren wrth ddod i fyny o St. Pol de Leon (neu Kastell Pol fel y geilw'r Llydawiaid y lie) a roes fodolaeth i'r dybiaeth. Wrth ein clywed ni yn siarad Cymraeg cododd dyn ieuanc wedi ei wisgo yn niwyg morwr o'r Lynges Ffrengig yn y lie nesaf atom. Rhoes ei bwysau ar y cefn-gorn a gofynodd, A fedrwch chwi siarad Cymraeg ? "Medrwn, Cymry ydym." "A fedrwch chwi siarad Cymraeg ? Gallaf." Yn mhle y dysgasoch chwi Gymraeg?" "Yn Maesteg." Beth aeth a chwi yno ? Mynd yno i werthu wynwyn." Deallasom iddo fod yn Maesteg chwe' mis o bob blwyddyn am chwe' blynedd. "Bum i agos a bod yn briod yn Maesteg," meddai y morwr. "A phwy?" "A merch hwn-a-hwn, y teiliwr." Beth rwystrodd y briodas? Ei mham oedd yn erbyn Lewis y Ffrenchman." "Nid Ffrancwr ydych." Na Llydawr, ni fedrwn French nes mynd i'r llynges. Medraf siarad Saesneg hefyd, ac er pan aeth y llong i Naples yr wyf wedi dysgu Italian." Yr oedd yn dda iawn ganddo glywed C) mraeg oblegid nid oedd wedi clywed gair ers tair blynedd. Gwahodd- asom ef i'n llety yn Morlaix i gael swper gyda ni, ac wedi swper hebryngasom ef i'r tren am Paris a Toulon. Gwelais fod Louis yn ben- gampwr ar ieithoedd, ac felly digalonais. Ni bu clywed Jaffrennou yn siarad Cymraeg yn Cairhaix, a chydmaru y Lydawaeg a'r Gymraeg drwy gyfrwng Ar Bobl" ac Ar Vro yn fawr o help ychwaith. Yr oedd yn nos Sadwrn pan gyrhaeddasom Quimper, neu Kemper, fel y gelwir y ddinas gan y Llydawyr. Yr oeddym wedi gadael Guide-book Joanne" yn nhren Kastell Pol, oblegid anghofiasom bobpeth yn ein llawenydd o gwrdd a Lewis, Yr oedd ein llythyrau a'n cyfeiriadau yn y llyfr hwnw, ac felly nid oedd genym ddim i'w wneyd ond galw yn y Post Office i holi am dy Mr. Jenkyn Jones, y Cenhadwr. Daethom o hyd iddo heb ddim trafferth, oblegid y mae Mr Jones yno bellach ers ugain mlynedd. Er ein bod yn ddieithr hollol i'r Cenhadwr, a'n llythyrau wedi colli, yr oedd mor gynes ei groesaw fel na fynai i ni fyn'd o'i dy y noson hono. Yr oedd yn dda genym gael cwmni ein cydwladwr er mwyn deall ochr grefyddol bywyd Llydaw. Dechreuodd y Bedyddwyr eu cenhadaeth at y Llydawiaid yn 1834, a'r Methodistiaid yn 1842. Mr. Jenkins oedd y cenhadwr cyntaf i fynd i Morlaix, a Mr. James Williams oedd y cenhadwr cyntaf i fynd i Kemper olynydd Mr. Williams yw Mr. Jenkyn Jones. Darllenasom eiriau bychanus am waith y Protestaniaid yn llyfr Baring Gould ar Lydaw, ond ni roddwn fawr o bwys ar yr hyn a ddywedai, gan mai person uchel-eglwysig ydyw. Felly yr oeddwn yn falch o'r cyfle i glywed yr ochr arall. Yr oedd rhai o'm cyfeillion Pan-Celtig hefyd wedi ceisio tynu darlun lied wyn o Babyddiaeth Llydaw, fel rhwng pobpeth yr oedd arnaf awydd mawr gwybod pa fodd yr oedd pethau mewn gwir- ionedd. Cefais brawf lied fuan o natur y gwaith a wneir gan y cenhadon Protestanaidd. Galwodd dyn yn nhy Mr. Jones oedd yn Atheist Ychydig Fisoedd yn ol, ond sydd erbyn hyn yn m\ nychu'r gwasanaeth a gynhelir gan y cenhadon yn un o'u gorsafoedd yn y wlad. Yma dylwn ddweyd fod i'r gen- hadaeth sydd o dan ofal Mr. Jones lawer o ganghenau, a math o ganolbwynt i gylch eang yw Kemper. Cyn gadael y gwr fuasai yn anffyddiwr, dylwn ddweyd ei fod yn arweinydd Plaid Llafur yn y gymydogaeth lie mae'n byw, a medd ddylanwad mawr ar ei gydweithwyr. Mae cael gafael ar un dyn o fath hwn yn rhwym o effeithio ar gylch eang. A deallais yn fuan, wedi ymddyddan a Mr. Jones, fod hwn yn un o bwyntiau cryfaf ei waith. Mae wedi bod yn llwyddianus iawn gyda dynion gelyniaethns i grefydd, a rhai difater. Nid perswadio y Pab- yddion i adael eu heglwys a wna'r genhadaeth yn gymaint ag enill y difater a'r anffyddol i gofleidio Cristionogaeth. Gwyr pawb fedd adnabyddiaeth o Ffrainc mor bwysig yw y gwaith hwn, oblegid mae'r dynion wedi gadael yr eglwysi bron oil, ac nid oes ynddynt ond gwragedd a phlant. Gallwn nodi amryw engreiphtiau o Llwyddiant Ymdrechion y Protestaniaid yn y cyfeiriad hwn, ond rhaid brysio at hanes y Sul. Yr oeddym i gael gwasanaeth yn Kemper yn y boreu, ac yna i fynd i lawr i Pont 1' Abbe at y nos. Yr oedd trefn yr addoliad yn y boreu yn hollol fel yr hyn a geir yn un o eglwysi Protestanaidd Ffrainc. Pregethai Mr. Jones, ac ar ol pregethu prysurodd ymaith i un o'r gorsafoedd at ddau o'r gloch. Gadawyd ni dros y prydnawn o dan ofal caredig Mrs. Jones, yr hon gyda'i theulu, fu'n groesawgar iawn i ni. Wed'yn hwyliasom am Pont 1' Abbe gyda llythyr at Mr. Evan Jones. Buom mewn tipyn o drafferth yn yr orsaf i roi ar ddeall pwy a geisiem, ond wedi mynd dros y bont yn ngofal bachgen, gwelem wr a gwedd Gymroaidd ganddo yn hwylio at y gwesty. Buan iawn y deallasom mai hwn oedd y cenhadwr. Yr oedd ei oedfa i ddechreu am wyth. Hon oedd y bedwaredd oedfa iddo y diwrnod hwnnw. Yr oedd wedi teithio dros Ddeng Milldir i Hau yr Had Da. Yr oedd mor ffres ag erioed yn dechreu ei bedwaredd daliad am wyth o'r gloch. Oddeutu deg ar hugain oedd yn yr oedfa, a gwrandawent gyda sirioldeb mawr ar y genadwri. Canwyd amryw gyfieithiadau o emynau Cymreig, sydd yn "Telyn y Cristion "-emyn-lyfr yn y Lydawaeg o waith Mr. Jenkyn Jones. Taraw- iadol iawn i ni oedd clywed Llydaw yn cael ei chanu ar Mae Crist a'i w'radwyddiadau" yn y cyfieithiad Llydewig. Yna cyn ymadael bu un o honom yn dweyd hanes y Diwygiad yng Nghymru, yn Gymraeg, a'r llall yn siarad ychydig eiriau yn Saesneg, a'r Cenhadwr yn cyfieithu. Wed'yn buom yn ysgwyd llaw a'n gilydd oil, ac yn addaw gweddi dros ein gilydd, ac wedi i un o'r Llydawyr fynd i weddi, ym- adawsom. Gwahoddwyd ni i fynd i ystafell y Cenhadwr i gael swper. Y Cenhadwr ei hun oedd yn gweini arnom. Erbyn hyn yr oedd yn bur hwyr, a phob swn wedi distewi oddiallan, ac yn nhawelwch yr oruwch-ystafell sylweddolais mor unig yw bywyd y brodyr sydd wedi gadael eu gwlad I Gludo yr Efengyl i WIedydd Ereill, ac mor ddyfal y dylem fod i wneyd pobpeth a allom i'w helpu a'u .calonogi. Dylem gadw'r cymundeb rhyngom a hwy yn agos iawn. Os bydd dynion ieuainc Cymru yn mynd drosodd i Lydaw i dreulio eu gwyliau, myned pob un ddod i gyffyrddiad a'r rhai sy'n cadw lamp crefydd bur yn oleu yno. Purion peth yw cyfathrachu a phobl sy'n siarad iaith gyffelyb i'r eiddo ni ar lwyfan eisteddfod, ond mil gwell yw cael cydblygu glin o flaen yr un Duw mewn lie addoli. Wrth ddarllen llyfr Baring Gould, gwelwch mor selog oedd ein tadau i fynd a'u crefydd hwy drosodd i Lydaw. A laciwn ni, Brotestaniaid, yn ein sel ? Gweddir llawer dros Cassia a'r plant bach duon. A yw enaid pagan du yn werthfawrocach na phagan gwyn ? A raid meddwl a gweddio mwy dros y cenhadon sy'n ymladd a llewod yn Affrica, neu deigrod yn India, nag a wneir dros y dynion glewion sy'n brwydro a dynion anhywaith yng ngwledydd Pabyddol y byd ? Boreu Llun, Mai laf, canasom yn iach i Kemper, gan wynebu ar Karnac, Paris, a chartref. Ond er wedi cefnu ar y wlad, erys ein meddwl a'n calon gyda'r dynion ffyddlon sy'n dal Baner y Groes yn Finistere. r

ARHOLIADAU GORSEDD Y BEIRDD.