Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

MORGAN LLWYD 0 WYNEDD.

News
Cite
Share

MORGAN LLWYD 0 WYNEDD. Nid fel ysgrifenwr Cymraeg llithrig, cadarn, ystwyth, y mae a fynom, ar hyn o bryd, a Morgan Llwyd, ond carem edrych ar ei weithiau fel mwnglawdd lie y gall y llygad craff ganfod a'r llaw gyfarwydd gaboli defnyddiau amhrisiadwy tuagat egluro hanes Lloegr a Chymru a gwelir hyd yn oed yn gliriach, ddadblygiad un o'r cymeriadau rhyfeddaf, penaf, a mwyaf ysbrydol a gafwyd erioed yng Nghymru. Ychydig, mewn cymhariaeth, o gyfeiriadau a wnaeth Morgan Llwyd at bersonau a digwyddiadau neillduol yn ei oes. Nid yw, er enghraifft, mor llawn o'r Rhyfel Cartrefol a Huw Morus neu'r Hen Ficer; a cheir mwy o hanes Piwritaniaeth yng Nghymru mewn un tudalen o "Hunangofiant Vavasor Powell" nag yn holl weithiau Morgan Llwyd. Nid hoff ganddo, chwaith, Son am Dano ei Hun nag am ei hanes. Anfynych y cyfeiria ato ei hun; a phan y gwna, nid yw yn ymddangos ei fod yn ymwybodol o hyny bob amser. Ych- wanega hyn at ddyddordeb y cyfeiriadau ac feallai y maddeuir i ni cyn myned yn mhellach am roddi ychydig o hanes y gwr hynod hwn fel y traethir ef, gan mwyaf, ganddo ef ei hun. Fel hyn y dywed yn Hanes Rhyw Gymro :— ym Meirionydd gynt im ganwyd yn Sir Ddinbych im newidiwyd yn Sir y Mwythig mi wasnaethais yn Sir Fonwy mi briodas." Credwn mai yn y flwyddyn 1619 y ganwyd ef, yn ardal Maentwrog, yn sir Feirionydd; a newidiwyd ef i fuchedd newydd a chrefydd bur yng Ngwrecsam, dan weinidogaeth danllyd Walter Cradoc, tua'r flwyddyn 1635, pan oedd y gwr mawr hwnw wedi gorfod ffoi o'i giwrad- iaeth yng Nghaerdydd ac wedi cael dinas noddfa yn y Gogledd. Tebyg yw i Forgan Llwyd ddilyn ei athraw i Lanfair Waterdine, pan yrwyd Cradoc ar ffo o Wrecsam gan blaid yr Eglwys. Pan dorodd y Rhyfel Cartrefol allan, yr oedd Cradoc a llawer o'r saint wedi ymgasglu yn Llanfaches, lie yr oedd William Wroth, Gwir Apostol y Ffydd yng Nghymru, yn dirwyn ei ddyddiau hir a gogoneddus i ben a theg ydyw casglu mai pan yn Llanfaches, yn sir Fonwy," y priododd Morgan Llwyd. Nis gwyddom pwy oedd ei wraig, ond cofus genym glywed y diweddar Mr. T. E. Ellis yn dweyd fod ewyllys Morgan Llwyd—yr hon sydd eto ar glawr yn Somerset House-yn dangos ei bod wedi goroesi ei gwr. Bu iddynt feibion a merched; ac y mae rhai o'u disgynyddion heddyw yn Doriaid ac yn Eglwyswyr selog yn Neheubarth Lloegr Ond nid yn hir y par- haodd "mis mel" Morgan Llwyd yn Llan- faches. Buan y gorfu i'r saint "-ar ol marw William Wroth a'i gladdu-ffoi i dref Bryste, prif ddinas noddfa'r Piwritaniaid yn y Gorllewin- barth. Meddai Morgan Llwyd :— Ym Morganwg cenais heddyw drannoeth neidio i sir Gaerloyw yngwlad yr haf mi gefais ayaf Gwelais Fristow deg yn drymglaf." Yn yr haf, yn y flwyddyn 1642, y torodd y rhyfel allan, Tebyg yw mai yng nghauaf 1642-3 y trigodd Morgan Llwyd yng Ngwlad yr Haf. Yn 1643 cwympodd Bryste i ddwylaw'r Brenhin. Yr oedd yr holl wlad ond Llundain, rhanau o'r siroedd dwyreiniol, a rhan o Gaer Efrog, yn eiddo'r Brenhin ac yn y cyfnod blin hwn y can odd Morgan Llwyd ei gainc cyntaf Mae honom ychydig, o blant cystuddiedig A adawyd yn unig ynghymru." Naturiol oedd i ddyn gofio am yr amser dedwydd pan oedd ei ddeadell i gyd yn gryno yn y gorlan. Hawddfyd ir hen ddyddiau, ar holl ordinhadau pan oedd ein heneidiau ni'n llwyddo Hawddfyd in dyscawdwyr, hawddfyd in holl frodyr Mae'r enaid yn rhywyr yn cwyno." Vae victis! Da fyddai i'r rhai a feiant y Piwritaniaid am eu chwerwder yn erbyn eu gelynion gofio pa fodd yr ymddygwyd tuag atynt hwy yn nydd eu trallod. Dyma ddesgrifiad 1 Morgan Llwyd Mae'r defaid ar wasgar, mewn tristwch a galar mae rhai yn y carchar yn pydru. Mae rhai wedi ymadael, gan gymryd hir tfarwel v mae rhai yn y dirgel yn llechu." Ond, drwy'r cyfan, ni phallodd ei ffydd yn Nuw ac yn Ei allu gwaredigol: Er maint ydiw'n gofid, ni gredwn ei 'ddewid ni feiddiwn ni newid mon harglwydd. Or diwedd fe'n cofia, fe'n cynnal, fe'n nertha fe ddaw ag an helpa ni'n ebrwydd. Er bod y tywyllwch, y gauaf ar trisfwch, Y nos ar anialwch ynghymru yr haul a fyn godi, y wawr a fyn dorri, A Christ fyn reoli heb paliu." -W. LLEWELYN WILLIAMS, M.A., B.C.L., yn y Geninen am Gorphenaf.

CYFARFOD MISOL M.C. LLUNDAIN.

EISTEDDFODAU CAERNARFON.

Advertising