Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Am Gymry Llundain.
News
Cite
Share
Am Gymry Llundain. DRWY'R Sul nesaf cynhelir cyfres o gyfarfodydd Diwygiadol yn City Road, gan yr Efengylesau o Gymru-yr olaf cyn eu hymadawiad—a nos Lun yn y Leysian Mission Hall, City Road. Hyderwn y bydd i'n cydwladwyr wneyd y cyfarfodydd hyn yn hysbys. Gweler y man- ylion yn ein colofnau hysbysiadol. ST. SIOR.—Aadefir yn gyffredin yn East Finsbury fod areithiau Mr. Lloyd-George wedi gwneyd mwy na'r cyfan er adeniil y rhanbarth i'r Rhyddfrydwyr. SYR DAVID.—Un o wrthwynebwyr cyndynaf i gynllun yr L.C.C. dros gael trams cyfleus i ganolbarth y ddinas oedd Syr David Evans, y cynfaer Cymreig. ANRHEGION PENBLWYDD.—Ni ddaeth yr un Cymro enwog yn ddigon uchel ar y rhes i gael anrhegion blaenaf y Brenin eleni. Y maent oil yn rhy anhunangar a theyrngarol i wthio eu hunain i'r fath gylchoedd feallai. AWGRYM I HOWELL J.—Yn newisiad Mr. Baker dros East Finsbury dangosodd y Llun- deiniwr ei fod yn barod i anrhydeddu yr hwn a'i gwasanaetha yn ffyddlon ar y L.C.C. Y mae Mr. Howell J. Williams wedi enwogi ei hun eisoes ac enill parch mawr fel aelod gweith- gar a selog, a sicr pe deuai allan dros ranbarth Islington yr anfonent ef i St. Stephen yn ogystal ag i Spring Gardens. PH-REFINDOD ARALL.-Ar ol hir dawelwch mae'r eglwys fechan, lie bu Goronwy Owen yn giwrad rhyw gant a haner o flwyddi yn ol, yn dod yn fan cyfleus i Gymry Llundain fyned ar bererindod. Bu cymdeithas y Tabernacl yno rai Sadyrnau yn ol o dan arweiniad Elfed, a deallwn yn awr fod pobl Charing Cross ar fyned i dalu teyrnged o barch i'r hen le hefyd. EGLWYS HENAFOL.—Mae'r eglwys yn henafol iawn, ac iddi gadwyn arall a'i cysyllta a Chymru heblaw ei nodded i'r hen Oronwy yn ei ddyddiau blin. Bu un o'r offeiriaid yn Esgob Llanelwy, a thra yn dal yr Esgobaeth glynodd hefyd wrth ficeriaeth Northolt, ac ar ei dranc drwy henaint mynodd gladdu ei weddillion o fewn ei muriau. "RAMBLo.Myn y bobl ieuainc yma sy'n myned ar y pererindodau wythnosol alw eu hunain yn "ramblers," ac nid rhyfedd i un hen gyhoeddwr parchus yn un o'r eglwysi y nos o'r blaen, wrth gyhoeddi am y daith i Northolt, ddweyd fel hyn, Ma'r bobl ifenc 'ma'n mynd 1 'ramblo' i'r North Pol dydd lau nesaf." Wel, gobeithio iddynt ddod adref yn ddiogel. DIWYGIO'R CWRDD MISOL.-Caed y bodd- had o droi'r Cwrdd Misol diweddaf yn gyfarfod diwygiadol, a deallwn fod llawer gwell hwyl wedi bod ar ol hyn ar faterion yr Hen Gorph yn Llundain. Y mae gormod o ymgecru wedi ei nodweddu ar hyd y blynyddau, a hyderwn fod gwawr newydd ar ddod trosto gyda'r ysbryd newydd a bendithfawr hwn. BETH SY'N BECHOD.-Mae rhai o'r bobl Jeuainc mwyaf aiddgar tros y Diwygiad mewn Penbleth mawr pun a yw'r chwareuon cusangar yma sydd mor boblogaidd yn eu plith ar wib- deithiau yr haf yn bechod a'i peidio. Apeliodd Un ferch ieuanc at flaenor sur y dydd o'r blaen, a thystiai hwnnw yn groyw mai arfer ddrwg iawn ydoedd. Ond wedi gosod y mater ger bron y gweinidog--gwr ieuanc a hoyw— dywedai mai peth hollol ddiniwed ydoedd. Gobeithio na cheir ymraniad yn yr eglwys ar y mater. CAIS AM LYTHYR TROSGLWYDDIAD.-Beth amser yn ol anfonodd y Parch. J. Davies— Shirland Road gynt, ond yn awr o'r :Merica-. Sais at Gvmdeithasfa'r Methodistiaid yn y Deheudir am lythyr trosglwyddiad i'rfrawdoliaeth o'r tu draw i'r Werydd. Erbyn cyfarfyddiad y Gymdeithasfa'r dydd o'r blaen yr oedd llythyr arall wedi ei dderbyn yn gofyn am ohirio y mater, yr hyn a wnaed. EISIIIU EGLURHAD.—Ond ni adawyd y mater yn llonydd y fan honno. Yr oedd cenadwri wedi dod o Gyfarfod Misol Llundain ynghyd a manylion yr helynt yn Shirland Road, ac ar ol cryn siarad penderfynwyd yn unfrydol-" Yn gymaint a bod Mr. Davies yn dymuno parhau yn aelod o'r Gymdeithasfa hon, ein bod yn datgan nas gallwn ganiatau hyny, heb iddo o fewn y chwe mis nesaf yinweled a Chymru a'r Gymdeithasfa er rhoi rheswm boddhaol am ei fod yn byw ar wahan oddiwrth Mrs. Davies." GLYNU WRTH REOLAU.—Mae'n debyg fod rheolau ar faterion o'r fath gan y Gymdeithasfa a'u bod yn glynu > n gadarn wrthynt, ond gallem feddwl mai dyledswydd y C.M. yn Llundain, i ddechreu, ddylai fod y fath ymchwiliadau. Dylai materion personol o'r fath gael eu penderfynu gan yr ychydig, ac nid eu llusgo i gyhoeddus- rwydd talaeth gyfan. PRIODAS GWEINIDOG.—Dydd Mercher yr wythnos ddiweddaf priodwyd trwy drwydded, yn Nghapel M.C. Hammersmith, y Parch. R. Silyn Roberts, M.A., Blaenau Ffestiniog, a Miss Parry, B.A., darlithydd yn Ngholeg Aber- ystwyth. Rhoddwyd y cwlwm priodasol gan y Parch. Francis Knoyle, gweinidog y He, a chan nad oedd ond ychydig wedi eu hysbysu o'r amgylchiad hapus ni ddaeth ond nifer fechan i wylied y gweithrediadau. Gwasanaethodd Mr. W. Roberts, M.A., Wrecsam, fel y gwas priodas, a Misses Myfanwy Parry a L. A. Richards fel y morwynion. Aeth y ddeuddyn dedwydd i'r Cyfandir i dreulio eu gwyl fel. Boed pob llwydd ar yr uniad. Y DIWYGIAD.-Parheir i gynal cyfarfodydd diwygiadol yn ein mysg a chaed cynulliadau boddhaol yn City Road a Barrett's Grove, pan fu'r gwahanol genhadon yn arwain yn y gwaith. Yr wythnos hon cynhelir odfeuon arbenig yn Shirland Road o nos lau i nos Sadwrn. YMWELTADA U.- Tymbor y dieithriaid yw misoedd yr haf, a chlywir am amryw o ym- welwyr yn ein mysg y dyddiau presenol. Deuant o bob parth o'r ddaear, a'r Sul diweddaf caed presencldeb gwyr o bellafoedd y 'Merica, canolbarth Affrica, ac ynysoedd y Manilla mewn un capel Cymraeg, heb son am nifer o rai ar dro o Gymru ei hun. MR. ALFRED DAVIP,s.-Mae'r Aelod Seneddol tros fwrdeisdrefi Llanelli a Chaerfyrddin yn trefnu i fyned am daith hirfaith ar draws y byd er lies i'w iechyd. Nis gwyr yn iawn eto pa bryd y dychwela ond cred fod yr etholaeth mewn dwylaw diogel hyd nes y cyrhaedda adref eto. CYNHADLEDD Y BEDYDDWYR.—Bydd yr wythnos nesaf yn wythnos fawr yn hanes enwad y Bedyddwyr. Cyferfydd cynrychiolwyr holl Fedyddwyr y byd mewn cynhadledd yn Llundain, yr hon sydd i barhau am ddeng niwrnod. Yng nglyn a'r gynhadledd cynhelir cyfarfod cyhoeddus yn Castle Street nos lau, pryd y llywyddir gan Mr. Lloyd-George, A.S., ac yr areithir gan y Parchn. John Thomas, M.A. (Liverpool), Charles Davies (Caerdydd), Dr. Morris (Aberystwyth), Dr. Gomer Lewis, a R. G. Roberts (Cefnmawr). Y DIWYGIAD.—Daeth y genhadaeth ddiwyg- iadol, o dan ofal Mri. Torrey ac Alexander, i derfyniad yn Llundain ddydd Llun diweddaf. Ar nos Lun cynhaliwyd math o gyfarfod diolch- garwch mawr yn yr Albert Hall, a'llanwyd y neuadd eang hyd yr eithaf. Yn ol adroddiad yr arweinwyr caed 13,675 o ddychweledigion at Grist yn ystod y genhadaeth, ac roedd y treuliau yn agos i £ 17,000. Yr oedd y casgliadau yn rhyw bum cant yn fyr i gyfarfod a'r gofynion, ond gwnaed y diffyg i fynu yn ystod yr odfa derfynol. DIWYGIWR CYMDEITHASOL.-Un o apostolion y mudiad dros anedd-dai iachus yw Mr. Robert Williams, pensaer poblogaidd, 10, Clifford's Inn, ac y mae wedi gweithio llawer er sicrhau tai priodol i weithwyrPrydain i fyw ynridynt. Y mae Mr. Williams yn awdurdod arbenig ar awyriad aneddau, a chred mai yr unig ffurdd i sicrhau cenedl iach a llwyddianus yw trwy ofalu fod y preswylfeydd wedi eu cynllunio ar safonau iechydol. Yr wythnos hon cyhoeddodd mewn cysylltiad a Mr. Knee -gyfrol arbenig ar y pwnc o anedd-dai priodol, a chondemniant yn ddi-lol y trefniadau presenol yn ogystal a'r llacrwydd cyffredinol ynglyn a thai i weithwyr mewn ardal- oedd gwledig ac ar gyffiniau ein trefydd. Ond i ni wella ein preswylfeydd mae'n amlwg yr alltudir llawer o'r anhwyldebau presenol o'n plith hefyd. MASNACHDY NEWVDD.- Yr wythnos hon agorodd y Mri. Williams a Davies, Earl's Court, fasnachdy eang arall yn Buckingham Palace Road. Yno y mae Mr. William Evans—gynt o fasnachdy Mr. T. J. Harries, Oxford Street- wedi ymuno a hwy, a bwriada'r tri wyr poblogaidd hyn wneyd ardal gorsaf Victoria yn ganolfan i fasnachwyr Cymreig, fel y mae ereill wedi gwneyd ag Oxford Street. Y mae'r rhagolygon hefyd yn dra addawol gan fod y dyddiau cyntaf wedi bod yn llawer gwell na gobeithion goreu y gwyr profiadol hyn. Llwydd iddynt. HANES Y CS MMRODORION.—Nos Fawrth nesaf y cynhelir ymgomwest bentymhor y Cymmrodorion, a disgwylir cynulliad lliosog i'r wledd. Y mae'r ysgrifenydd, Mr. Vincent Evans, wedi dechreu ar gyfres o erthyglau yn y Geninen i draethu hanes y Gymdeithas anrhyd- eddus o'r cychwyn, a does neb yn fwy add s i'r gwaith hefyd. Mae hanes y Cymmrodorion yn mynd yn mhell iawn yn ol, ac er fod amryw droion o aflwydd yn ei gyrfa y mae erbyn hyn wedi cyrhaedd cryn fri ac yn abl bellach i wneyd llawer dros ten a hanes Cymru. DIARDDEL YSGRIF.- Tra yn son am y Geninen nis gallwn lai na chyfeirio at ysgrif hynod a ymddengys yn y rhifyn presennol. Morgan Llwyd o Wynedd" yw'r penawd, a cheir math o fywgraffia I o'r arwr Piwritanaidd ynghyd a beirniadaeth ar ei lyfr gorchestol, Y Tri Aderyn," ac arwyddir yr ysgrif gan Mr. Llewelyn Williams. Ond ar glawr y rhifyn ceir y dadganiad croyw nad yw Mr. Williams yn gyfrifol am lawer o'r brawddegau na'r geiriau sydd ynddi, fel mae'n anhawdd i'r darllenydd cyffredin wybod pun ai Mr. Williams ai'r golygydd sy'n siarad pan fo rhyw frawddeg dywyll o dan ystyriaeth. Rhyw ddiofalwch
Advertising
Advertising
Cite
Share
THE TYPEWRITER FOR BEAUTIFUL WORK. YOST Made of Best Materials only. Sent on Trial FREE for One Week. Catalogue and Particulars on Application. THE YOST TYPEWRITER CO., LTD., 50, Holborn Viaduct, LONDON, E.C. CARDIFF-33, Royal Arcade. SWANSEA-35, Exchange Buildings.