Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

----------______n______----------Enwogion…

News
Cite
Share

-n_ Enwogion Cymreig.-XXXIV. Y Parch. Owen Evans, D.D. jH R fod y gwr y cyflwynwn ddarlun a braslun o hono i'n darllenwyr y tro hwn yn cael edrych arno fel hynafgwr er's blynyddau, y mae mor hoew ei ysgogiadau ac mor dirf ei _eddwl a'i ysbryd a bachgenyn. Dywedodd y ^uveddar Dr. John Thomas am dano ar un ^hlysur ei fod ef yn amheu weithiau a fu Di\ Wen Evans erioed yn ieuanc gan mor addfed yooedd yn ei flynyddoedd cynaraf; ac y mae y rhai a'i hadwaenant heddyw bron a myned i gredu nad a ef byth yn hen. Ac nid wedi cadw Jeuengrwydd hwn drwy esmwythder a segur- 0c\ y mae. Nid oes yr un Cymro wedi SWeithio yn fwy dyfal mewn astudio, teithio, Pr6gethu ac ysgrifenu. Yr ydym yn gobeithio y bydd iddo cyn gadael y byd, a phell fo'r dydd Wnnw, egluro y dirgelwch pa fodd i weithio yn paled ac aros yn hoenus ac ieuanc hyd ymlaen flynyddoedd sydd fel rheol yn boen a binder. Ganwyd Dr. Owen Evans Ym Mhenybontfawr, Kaldwyn, ar y igeg o Dachwedd, 1829, k ¥ y mae yn awr yn ei unfed-rnlwydd-ar- j.y^theg-a-thriugain. Efe oedd yr hynaf o nifer os°g Q a'r hynaf o dri o frodyr a ^Awynasant i weinidogaeth yr Efengyl—y A^au eraill ydynt y Parch. David Evans, Heol st> Caerfyrddin, a Thomas Evans, Amlwch. fJ§wyd ef dan argraffiadau crefyddol cryfion yn ^eu'ac nid oedd ond deng mlwydd oed pan sylerbyniwyd ef yn aelod eglwysig. Tynodd ffr ,.yr eglwys fel bachgen o ddoniau anghy- Co •. ln> a phan nad oedd ond un-ar-bymtheg fe'i bregethu. Yn ol arfer 11awer o bre- cha^1"' ieuainc yr oes honno ymgymerodd a blvn ys§°'j a bu yn y gwaith hwnnw am rai ynyddau. Pan Yn Un=ar=hugain -^On alwad oddiwrth Eglwys Berea< sir SuiJ ac °rdeiniwyd ef yno ddydd Llun y i'r §^n' T 851, bedair-blynedd-ar-ddeg a-deugain Symu gwyn diweddaf. Ym mhen tair blynedd blyn i Maentwrog, ac ym mhen tair yr esi ^rachefn i Lundain i gymeryd gofal y tro P Fetter Lane. Arosodd yn Llundain sy^ "wnnw am chwe' blynedd. Yn 1S63 y 1 Wrecsam, lie y bu hyd 1867. Yn e§Wv yn honno derbyniodd alwad i hen s enwog Llanbrynmair, ac fel "Evans LIanbrynmair" fel,yyr^ adnabyddus drwy holl Gymru, ac Ar°SQd^Waenir ef hyd heddyw gan liaws mawr. C%n Jn° am hedair-blynedd-ar-ddeg, pryd y £ etter j a gwahoddiad ei hen eglwys yn ■^rif^i ane i ddychwelyd i Lundain. Ac yn y cwbiuy-> am bron ugain mlynedd, hyd mau hanner can' mlynedd yn y wein- idogaeth, pryd yr ymddeolodd o ofalon gwein- idogaethol ac y symudodd i fyw i Lerpwl. Ond y mae yn parhau i deithio, pregethu, ac ysgrifenu gyda'r un dyfalwch ag o'r blaen. Saif Dr. Owen Evans er's llawer o flynyddau ym mysg pregethwyr blaenaf ei enwad. Ym mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth aeth yn ddwfn i ffafr yr eglwysi, a choleddid disgwyl- iadau uchel yn ei gylch. Ond pa mor uchel bynag oeddynt cyflawnwyd hwy i gyd. Fe y Y PARCH. OWEN EVANS, D.D. gofynid i ni roddi desgrifiad o hono mewn un ymadrodd, dyna fyddai- Pregethwr Efengylaidd. Mae yn ddarllenwr ac efrydydd eang a manwl. Nid yn ami y gwelir ym meddiant unrhyw weinidog Cymreig lyfrgell hafal i'w eiddo ef. Ond er ei fod yn berffaith gyfarwydd a'r holl lenyddiaeth dduwinyddol ddiweddaraf, nid yw hynny wedi peri iddo newid nemawr ddim o'i olygiadau ar bynciau sylfaenol crefydd. Nid yw'r "gwin newydd" at ei archwaeth ef, yn ddi- betrus gwell yw yr hen ganddo. Traddoda y genadwri yn null ac ieithwedd y Piwritaniaid, ond gyda gwres y Diwygwyr Methodistaidd. Nis amheuwyd ef erioed o fod yn anuniongred. Ni fedd fawr o gydymdeimlad a'r duedd sydd mewn rhai i droi y pulpud yn llwyfan i drafod pob math o bynciau gwyddonol, cymdeithasol, a gwleidyddol ynddo. Nis gwyddom am odid neb y mae yr ysbryd diweddaraf" wedi effeithio mor lleied arno, a hynny nid am ei fod yn cau ei hunan rhagddo, ond am mai ei argyhoeddiad gonest ydyw nad oes dim yn y diweddar sydd yn well ar gyfer cyflwr dynoliaeth nag a geir yn yr hen. Ac yn y dyddiau hyn mae'n amheuthyn clywed pregethwr o'r fath. Ond nid y neilldu- olrwydd hwn yn unig a'i gwnaeth ac a'i ceidw yn boblogaidd. Ceir ynddo gyfuniad o ddoniau a'i gosodant ar ei ben ei hun, ac a sicrhant iddo yn gyfiawn y safle uchel a gyrhaeddodd. Er amled y galwadau arno i wasanaethu yr holl eglwysi nid esgeulusodd Dr. Evans ddyled- swyddau bugeiliol. Cylchoedd celyd yw amryw o'r cylchoedd y Ilafuriodd ynddynt, yn enwedig Llanbrynmair, lie y mae chwech o ganghenau yn gysylltiedig a'r eglwys. Ond ni adawodd i bellder ffordd na thywydd garw ei lesteirio i wneyd y gwaith a ymddiriedwyd iddo. A thrwy ei weinidogaeth gref a'i ffyddlondeb bugeiliol gwelodd lwyddiant mawr yn y gwahanol leoedd y Ilafuriodd ynddynt. Saith ugain oedd nifer yr eglwys yn Fetter Lane pan ymsefydlodd yno y tro cyntaf, ond tynai ar saith cant pan adawodd hi yn y Tabernacl, King's Cross, yn 1901. Dan ei arweiniad a'i gymhelliad ef talodd yr eglwysi v y bu mewn cysylltiad a hwy fwy na £10,000 o ddyledion eu haddoldai, ac ymffrostia ef na bu galw am gymhorth bazaar ar gymaint ag un amgylchiad. Ond y mae ei genedl dan ddyled fawr i Dr. Owen Evans am ei Gwasanaethu drwy y Wasg yn ogystal ag yn y pulpud. Dechreuodd fel awdwr yn 1868 gyda chyfrol ar Wyrthiau yr Arglwydd Iesu." Cafodd honno y fath dder- byniad croesawgar fel y dilynwyd hi gan gyfrolau eraill ar Ddamhegion Crist," Oriau gyda'r Iesu," Oriau Olaf yr Arglwydd Iesu," "Merched yr Ysgrythyrau," "Yr Aberthau Iuddewig," a chyfrol o bregethau. Ysgrifenodd hefyd esbon- iad lied faith ar y Diarhebion a Llyfr y Prophwyd Hosea i'r Beibl Teuluaidd a gyhoeddwyd gan Mr. Thomas Gee, heblaw erthyglau bron dirif i amrywiol gyfnodolion. Mae er's tair blynedd yn gyd-olygydd y Dysgedydd gyda Mr. Josiah Thomas, Lerpwl. Delays y pethau hyn oil ei fod yn weithiwr difefl yn ei fyfyrgell. Ond y mae wedi gwneyd ei ran o blaid rhyddid gwladol a chrefyddol, a gwyr beth yw dioddef colled oblegid hynny. Pan yn Llanbrynmair cymerodd ran lied flaen- llaw yn etholiad 1880. Daliai gae bychan, ond cyn pen pythefnos wed i'r etholiad aeth y perchenog a'r cae oddiarno, a bu raid iddo werthu ei anifail mewn canlyniad. Mae eisoes wedi bod yn y llys droion yn Lerpwl fel Gwrth- wynebwr Goddefol i'r Ddeddf Addysg. Cafodd brofion droion iod ei dalentau a'i lafur gwasanaethgar yn cae.1 eu gwerthfawrogi. 0