Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
GOFIDUS fydd gan yr oil o gyfeillion Mr. a Mrs. R. Roberts, 71, Waverley Road, Waltham- stow, glywed am eu trallod drwy farwolaeth ddamweiniol eu geneth fach Dilys. Ymddengys i'r fechan fyned i gefn y ty i chwareu, lie 'roedd twb golchi yn cynwys rhyw ychydig fodfeddi o cldwfr, ac mae'n ymddangos i'r plentyn fod yn chwareu a phluen oedd ar wyneb y dwfr, ac iddi orgyrhaedd ei hun a boddi. Sicr y cyduna pawb a ni yn ein cydymdeimlad a'r rhieni yn awr eu galar. Nodded y Nef fyddo arnynt.
Advertising
Advertising
Cite
Share
SUPPORT and ENCOURAGE THE MAKING and WEARING of our Highland Tweeds, DIRECT FRO Vi THE ISLANDS OF LEWIS AND HARRIS, To help the Crofters and Cottars of these Islands. Call or write for Patterns. Numerous Sslections at Mrs. STEWART MacKENZIE, of Seaforth's, LEWIS and HARRIS TWEED DEPOT, 47, PARK STREET, W. (3 minutes' walk from Marble Arch).
PENTECOST YN Y BALA.
News
Cite
Share
PENTECOST YN Y BALA. (Gan y Parch. D. Stanley Jones.) Ni raid dweyd wrth yr un Cymro, sydd yn caru gwlad ei enedigaeth, pa Ie mae y Bala. Fel yr oedd Jerusalem a'r mynyddoedd o'i hamgylch, felly hefyd y mae mynyddoedd Meirionydd o amgylch y Bala. Saif y lie ar gwrr gogleddol Llyn Tegid, mewn dyffryn ffrwythlawn, a ddyfr- heir gan y Ddyfrdwy a'r Tryweryn. Rhwng arucheledd y mynyddoedd a thirioni y dyffryn tawel, anhawdd fuasai meddwl am olygfeydd dymunolach na'r rhai a geir yn y Bala a'r amgylchoedd. Ond er y saif y dref yng nghanol ceinder un o'r broydd tirionaf, ac yn swn murmur di-dewi tonau llyn mwyaf Cymru, bydd y Bala yn enwog mewn hanes yn herwydd ei chysylltiad ag Ymneillduaeth y wlad. Dywedir fod Geneva i Brotestantiaeth, yn amser Calvin, yr hyn oedd Rbufain i Babyddiaeth. Dywed un am Geneva yn y dyddiau hyny :—" It was The Moral Capital of the half of Christendom." Felly, hefyd, gellir dweyd mai y Bala, yn amser y tadau, oedd moral capital Gogledd Cymru. A thestyn llawenydd i bawb sydd yn caru achos y Gwar- edwr, yw y ffaith ddarfod i Dduw gofio y Bala mor amlwg yn ei ymweliad presenol a'n gwlad. Rhoddodd Ymneillduwyr y Bala Eisteddfod y Llungwyn, am eleni, heibio, er mwyn cynal cyfarfodydd crefyddol ar y dydd hwnnw; a rhoddodd Duw Bentecost iddynt yn dal am iddynt feddwl mor anwyl am Ei, Enw Ef ac am eneidiau dynion. Golygfa i'w Hir Gofio oedd gweled pobl y wlad oddiamgylch yn dylifo i'r dref yn gynar yn y boreu, a phob un a rhyw ddwysder yn ei wedd oedd yn gysgod o'r dis- gwyliad oedd yn ei galon. Cyfarfod i gofio angeu y groes oedd yn y boreu, ac erbyn deg o'r gloch yr oedd capel eang y Methodistiaid wedi ei lenwi at y drysau gan bobl awyddus i "wneyd hyn" er cof anwyl am un aeth i Galfaria yn eu lie A phan a'i yr elfenau oddiamgylch, gwelid "dagrau me]us iawn D yn esmwyth dreiglo dros lawer grudd, a chlywid swn ami i ochenaid yn dianc i ddweyd gofid cudd y galon wrth yr unig Dduw fedr drugarhau. Gobeithio na bydd i neb oedd yn y Cymundeb Cysegredig foreu Llun ail-groeshoelio y Ceidwad eto. Erbyn 1.30 yr oedd y miloedd pobl wedi ymgynull i Green y Bala," er mwyn ymffurfio yn orymdaith i gerdded drwy y dref. Pan yn sefyll ar lawr y Green, yng ngoleuni tyner mis Mehefin, ac yn swn can felus plant y Diwygiad, nis gallwn lai na meddwl am y pethau mawr a wnaed gan Ysbryd Duw yn y fan hon yn yr hen amseroedd. Dychmygwn weled Ebenezer Morris a'i "gap du" yn codi fan acw i ddweyd gyda hyawdledd gwefreiddiol am oludoedd gras y Nef; a theimlwn ryw ysbryd- iaeth yn ymgripio drwy fy ngwaed wrth i mi feddwl fy mod yn sefyll ar y llecyn lie y bu hyawdledd sanctaidd John Elias a Henry Rees yn disgyn fel gwreichion byw ar gydwybodau y bobl a safent ar dywarchen yr hen Green. Ond nid oes amser i fryd y galon redeg ar ol y pethau gynt a fu rhaid cychwyn Gyda'r Orymdaith sydd eisoes yn dechreu symud i gyfeiriad Y dref. Ar y blaen, y mac dau o'r dychweledigion, yn cario baner y Groes, ac yn ysgrifenedig arm y frawddeg, Er mwyn lesu." Ni chlywais yr un o'r ddau oedd yn dwyn y faner yn dweyd yr un gair ond yr oedd y ffaith eu bod yno yn dyst byw o allu y Gwaredwr i achub pechadur. Os nad oeddynt yn dweyd yr un gair, yr oedd- ynt, fel Lazarus gynt, yn eistedd gyda'r Iesu ac yn bwyta wrth y bwrdd. Y prawf goreu f° Lazarus yn fyw oedd ei fod yn bwyta. Felly, hefyd, yr oedd gweled y bechgyn hyn yn ym- hyfrydu ym mhethau yr Efengyl yn brawf eu bod yn fyw i bethau byd arall. Ar ol cerdded tan ganu trwy brif heol y dref, a dychwelyd, drwy gwrr o'r Plase, i Gapel y Methodistiaid a Chapel yr Annibynwyr, cafwyd Cyfarfodydd Dymunol, ac awel deneu yn chwythu yn esmwyth dros bobpeth. Am 5.30, yr oedd y ddau gapel etO
Am Gymry Llundain.
News
Cite
Share
harian, a'i tybed y gall ein haelodau aros yn dawel yn y Ty heb guro yn ba haus am agoriad cyflawn i'r holl ddadleniadau, a chosp amserol i bob un sydd wedi bod ar fai ? Rhaid cofio fod Cymru yn gorfod talu ei chyfran-a chyfran go fawr hefyd-tuag at y colledion enfawr hyn. DYCHWELEDlGION. Siomedig genym oedd gweled nifer mor fechan o'n pobl wedi dod yn 01 i gynteddau St. Stephen dydd Mawrth. Hyderwn na wna materion addysg yng Nghymru gadw ein prif arweinwyr yng Nghymru am ysbaid hir yn awr gan fod galwad arbenig am eu gwasanaeth a'u presenoldeb yn Nhy'r Cyffredin am rai wythnosau bellach. CANOL HAF.-Dyma ni wedi treulio haner y flwyddyn ac yn dechreu siarad am fyrhad y dydd unwaith yn rhagor. Er i ni gael y dydd hwyaf yn ystod yr wythnos rhaid addef na chafodd Llundain lawer o dynerwch hafaidd ynglyn a'r dydd. Mae'r tywydd wedi bod yn llawer rhy gyfnewidiol i ni allu mwynhau y tymhor gyda'r tawelwch a haedda. GWASGARU'R BOBL.-Ond mae'r tymhor teithio wedi dod. Son am fyned tua Chymru mae'r dinaswr bellach, a'r wythnos hon gwelwn wrth y trens a aethant allan o'r gorsafoedd fod amryw o deuluoedd a'u gwynebau am lanau mor yr Hen Wlad. Gan fod y gwasgaru wedi dod nid syndod fod y cyrddau diwygiadol yn dechreu llaesu a'r torfeydd yn cilio yn gyflym allan o'r capelau gan feddwl mwy am yr iechyd nac am bybyrwch crefyddol. Y CYFARFODYDD.—Caed llawer o hwyl gyda'r cyrddau yn City Road yr wythnos hon yn ogystal a chyda'r cyrddau hapus a deimlwyd yn y Tabernacl yr wythnos gynt. Nid oedd y sel mor danbaid ag a welsom yn rhai o'r capelau Methodistaidd, ond hyderwn fod yn hawdd cael ffrwyth daionus o'r tawel a'r tyner yn ogystal ac o'r trist a'r gwaeddi. YNG NGWLAD GORONWV.—Dydd Sadwrn diweddaf aeth adran o Gymdeithas Lenyddol y Tabernacl am dro i Eglwys Northolt, lie y bu'r Prif-fardd Goronwy Owain yn giwrad o 1755 i 1757. Eglwys fechan wledig yw Northolt hyd y dydd hwn, a hawdd y gallwn ddirnad sut na arhosodd yr hen Oronwv yno yn hir gan ei fod mor dawel ac mor ddiarffordd o Lundain. Yno ni chai ond rhyw haner can punt yn y flwyddyn, ac mae meddwl am godi teulu-a thyaid o honynt- ar gyflog mor fach yn ddigon i ddystewi awen pob gwr o deimladau prydyddol. EI LAWYSGRIF.—Daeth ficer presenol yr eglwys i'n tywys ar draws y lie. Y mae'r gwr presenol yn lienor ac yn hynafieithydd, a gwyddai felly bob peth gwerth ei wybod am ei hen ragflaenydd. Yn rhestr priodasau yr eglwys yr oedd Goronwy wedi gwenyddu'r seremoni a hithau ei wraig, Elinor Owen, wedi bod yn dyst fod y cwlwm wedi ei selio yn briodol. PRIODAs.-Unwyd mewn glan briodas yng nghapel M.C. Clapham Junction, dydd Mercher diweddaf, Miss Elizabeth Jenkins, St. Phillip's- street, Battersea, a Mr. Rees Thomas, Bryn- amman. Rhoddwyd y briodasferch i ffwrdd gan Mr. J. J. Lewis, St. Phillip's-street, ac yn gweini arni fel morwyn briodas oedd Mrs. Lewis. Mr. Joseph Jenkins oedd y dyn goreu, a chlymwyd y cwlwm priodasol gan y Parch. Llewelyn Edwards, M.A. Aeth y par ieuanc i Gymru i dreulio eu mis mel gyda phob dymuniad am ddyfodol hapus a dedwydd.—F. BATTERSEA TOWN HALL.-Fel y gwyr ein darllenwyr, eglwys ieuanc perthynol i'r Annibyn- wyr sydd yn addoli yn y lie uchod, ond er yn fechan mewn nifer etto, y mae yma weithio dyfal a chaled wedi bod er pan ei sefydlwyd. Y maent erbyn hyn wedi sicrhau tir yn Battersea Rise i adeiladu capel arno, ond ar hyn o bryd' nid ydynt am adeiladu ond ysgoldy yn unig. Fel y bydd yr eglwys yn cynnyddu byddant yn mynd ymlaen gyda'r adeilad arall. Dydd Sul diweddaf cafwyd yma Mr. Philip Jones (Aber- dar), Miss Maggie Jones (Mardy), a Miss Roberts i arwain cyfarfodydd diwygiadol, ac nid oes amgen dweyd fod yma gyfarfodydd llwyddianus wedi eu cynhal, a'r oil yn yr hen iaith. Nos Sul caed oedfa hwyliog o'r dechreu i'r diwedd, a chynulleidfa oedd yn llanw y neuadd fechan sydd ganddynt. Ni chafwyd ond un weddi Saesneg drwy yr oil o'r cwrdd. Ein dymuniad yw ar iddynt fyned ymlaen yn y dyfodol fel ag y maent wedi gwneyd hyd yn hyn, ac y bydd iddynt gael adeilad gwych yn deilwng o'r enwad yn Battersea Rise yn fuan.-D. CLAPHAM JUNCTION.—Y mae y bobl ieuainc yma yn cadw yn fyw y don ddiwygiadol sydd wedi cael ei deimlo yn holl eglwysi Cymreig Llundain. Yn nechreu y wythnos hon trefnwyd i gael Mr. Philip Jones (Aberdar), Miss Maggie Jones (Mardy), a Miss Roberts i gynnal cyfar- fodydd diwygiadol. Buont yma am dair nos- waith, a chafwyd ar y cyfan gyfarfodydd hwyliog a chynes.—L. FALMOUTH ROAD.-Mewn cyfarfod a gynnal- iwyd nos Sul diweddaf, penderfynodd aelodau yr eglwys uchod wneyd ychwanegiad o £5° y flwyddyn at gyflog presenol eu gweinidog, y Parch. S. E. Prytherch. Gwna hyn y cyflog yn ^350 y flwyddyn. Dymunol onide yw gweled yr arwydd sylweddol hwn o'r teimladau da sydd yn ffynu rhwng yr eglwys a'i gweinidog, a dymuniad llu heblaw eich gohebydd yw- Bydded i lwyddiant y gorphenol etto barhau." G. W. F. POPLAR.—Ar yr 8fed o'r mis hwn rhoddwyd gwledd o de a bara brith, ynghyd a danteithion eraill, yn rhad ac am ddim i blant y Band of Hope ac eraill o'r eglwys uchod, ac amryw o'r gymydogaeth nad oeddynt yn dal cysylltiad a'r eglwys. Yr arlwy-yddion haelionus a thra charedig yn y wledd hon oeddynt Mr. a Mrs. Evans, Chrisp Street. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan Mrs. Evans, yn cael ei chyn- horthwyo gan nifer luosog o foneddigesau, a gwnaeth pawb eu rhan i foddlonrwydd. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol, mewn canu ac adrodd, yn benaf gan ac er mwyn y plant. Cafwyd unawdau, deuawdau, a chanodd y cor yn rhagorol dan arweiniad Mr. Dani Williams. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan Mr. Philip, Aberdyfi, a rhoddodd anerchiad teilwng i'r plant. Pasiwyd pleidlais unfrydol o ddiolch i Mr. a Mrs. Evans am eu caredigrwydd yn rhoddi y wledd, ac i'r brodyr ieuainc am addysgu y plant dros dymor y gauaf, ac i bawb fu yn cynorthwyo gyda'r te a'r cyngherdd. Yna ymwahanodd pawb gyda dymuniad i gael rhyw- beth tebyg yn fuan eto.-AELOD.