Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
ttlclsb Cbapel, Sussex Rd, HOLLOWA.Y. A GRAND EVENING CONCERT AND COMPETITION will be held at th above Chapel on Thursday, June 29th, 1905, when (the famous Mr. BARRY LINDON will appear. Assisted by several well-known Artistes. COMPETITION TEST PIECE (open to all voices), LEAD KINDLY LIGHT." (D. Pughe Evans.) Prize £1 Is. Chairman JOHN DA VIES, Esq. Accompanists Miss CASSILDA LINDON & Mr. G. ROLANDS. Doors open 7.30. Commence 8 prompt. Tickets, 1/- BARRELS GROVE, Z' HIGH ST., STOKE NE WING TON. N. REVIVAL = = MEETINGS will be conducted by the SUNDAY at 11, 3, and 6.30, Monday and Tuesday Evenings at 8. JUNE 25th, 26th, 27th. ALL INVITED. CAPEL Y GOHEBYDD. Cyfarfodydd Diwygiadol, yn cael eu harwain gan y DIWYGWYR IEUAINC O'R DEHEUDIR. Rhoddir gwahoddiad cynes i Bawb. Capel Romford Road, Stratford. Sabboth nesaf am 77, 3, a 6.30. CYNHELIR Cyfarfodydd Diwygiadol, 0 dan Arweiniad y tair EFENGYLES ADNABYDDUS, Miss S. A. JONES, Nantymoel, MAGGIE DAVIES, Maesteg, a „ MARY DAVIES, Gorseinon. Ail ymweliad, ar olaf ar hyn o bryd. Rhoddir Gwahoddiad cynes a thaer i holl Gymry cylchoedd Stratford. HARRISON & SONS, Welsh Printers, 45, 46 & 47, ST. MARTIN'S LANE, LONDON, W.C. Progressive and Impregnable. These two words sum up the Methods and Position of THE MUTUAL LIFE Insurance Company of New York. R. A. McCURDY, President. A Mutual Company without a Single Shareholder. ALL PROFITS GO TO THE POLICY-HOLDERS. Our PoUcics arc FREE a1' to Residence and Travel. GOVERNED bv British Law. PAYABLE in Sterling. SUBJECT to remission of Income Tax. NOTED for simplicity and liberality. Write for Booklet Number 308. It tells all about the 20 payment Life Policy- The best all-round Contract for Single or Married Men. Apfilv to Ifead Office for the United 16,17 & 18, CORNHILL, LONDON, E.G. D. C. HALDEMAN, General Manager or to O- LLOYD < wm, Bryn Gwynedd," Teignmouth Road, Brondesbnry, N.W. ASSETS NEARLY £ 90,000,000. Howard Lewis, TENOR. Soloist at St. Andrew's, Queen Victoria Street. Voice Production and Solo Singing. For vacant dates and Terms apply to— 109, BALHAM HIGH ROAD, S.W. DAVID RICHARDS, A.R.C.0., ORGANIST OF KING'S CROSS TABERNACLE, PIANIST TO MADAME PATTI (BARONESS CEDERSTROM). Eessons Given on Piano and Organ. For Terms apply- 8, MORNINCTON RD., RECENT'S PARK, N.W. Cyfeirierpob Gohebiaeth a fwriedir fn colofnau, The Editor"; pob Hysbysiad, "The Adver- tising Manager"; a phob Archeb, The Managera'r oil i'r Swyddfa, 45, 46, 47, St. Marati's Lane. W.C. Bydd yn hyfrydwch gan y Golygvdd dderbyn gohebiaethau ac erthyglau i'w hystyried., ond ni-s gellir ymrwymo i ddychwelyd ysgrifau gwrthod- edig. The Editor invites correspondence. All letters must be signed with the full name of the writer. and tlze address must also be given, not necessarily for publication, but as a guarantee of good faith.
Nodiadau Golygyddol.
News
Cite
Share
Nodiadau Golygyddol. Y GWARADWYDD DIWEDDAF. Ymddengys fel pe na bae y gwaradwydd a'r gwarth sydd yn ymdywallt ar Brydain o Dde- heubarth Affrica byth i beidio. Yn hytrach y mae y gawod ddiweddaf o hyd yn drymach a mwy dinystriol na'r rhai o'i blaen. Nid ydym yn meddwl fod yn y wlad hon heddyw nemawr i berson o'r tu allan i'r anturiaethwyr tramorol a drigant yn ein mysg, heb wahaniaeth i ba blaid wleidyddol y perthyn, nad yw erbyn hyn yn pruddhau ac yn cywilyddio bryd bynnag y meddylia am ein hanes yn Affrica er amser ym- gyrch Jameson. Nis gellir beio un blaid mwy na'i gilydd am fyned i ryfel: yr oedd yr holl genedl yn ymarferol yn cytuno i hynny. Mae erbyn heddyw yn cytuno yr un mcr gyffredinol nad oedd dim angen am dynu y cledd o'r wain, fod yr adroddiadau a anfonid yma gan yr anturiaethwyr ar y Rand yn hollol gamarweiniol ac anwireddus, ac y gallesid drwy ymarfer ychydig amynedd sicrhau pobpeth y dymunid ei sicrhau, hyd yn nod meddiant Prydeinig o'r Transvaal heb dywallt dyferyn o waed. Ond nid oedd y camsyniad difrifol hwnnw namyn dechreuad. Bu Deheubarth Affrica yn foddion i ddadguddio i ni mor amharod oeddym ar gyfer rhyfelgyrch o'r fath, mor ddiamgyffred oedd cynrychiolwyr Prydain yn Nhrefedigaeth y Penryn ac yn Natal o gryfder ac adnoddau y gwrthwynebwr, ac mor llac ydoedd ein holl drefniadau milwrol. Ond y dadguddiadau diweddaraf yn adroddiad y Pwyllgor o dm lywyddiaeth Syr William Butler yw y mwyaf gwaradwyddus o'r cwbl. Dengys hwn yn glir fod ein trefniadau nid yn unig yn liac, ond hefyd tod ym mlith y bobl a'i gweinyddant ddiffyg anrhydedd. Neu beth bynnag, fod y rhai a'i gweinyddant yn ceisio cuddio a nawddogi eraill na feddant yr anrhydedd lleiaf. Mae meddwl fod dynion i'w cael a fedrant gymeryd mantais ar genedl oedd eisoes wedi ei thlodi o dclau can' miliwn, a chenedl a waedai mewn gofid a hiraeth am ddegau 0'1 bechgyn glewaf, i'w hysbeilio drachefn o fil- iynau yn ofnadwy, ond mae meddwl fod y dynion hynny yn cario eu hanfadwaith ymlaen drwy gyd-ddealltwriaeth, yn ol adroddiad y pwyllgor, a swyddogion yn y fvddin, yn rhy ofnadwy i'w goelio. Ni buom ni erioed ym mhlith addolwyr gwyr y cotiau cochion, ond arferem gredu fod byddin Prydain Fawr yn rhydd oddiwrth y llygredigaethau sydd mor adnabyddus ym mysg rhai o fyddin- oedd y Cyfandir. Nis gallwn gredu felly mwy oni phrofir fod yr adroddiad hwn yn anghywir ac annheg. Nid ydym am gondemnio neb nes ei gael yn euog, ond y mae un ffaith yn addefedig fod prif gynrychiolydd y cwmni mas- nachol a brynai nwyddau perthynol i'r fyddinr ac a'i gwerthai yn ol drachefn am fwy na dwbl y pris, gan wneyd elw o £2,000 y dydd, yn frawd i'r prif swyddog milwrol oedd a gofal y gwerthu a'r prynu arno. Dichon fod gan y swyddog hwnnw, a'r swyddogion eraill y ceir eu henwau o dan y fath gwmmwl yn yr adroddiad, ryw esboniad i'w roddi ar bethau. Nid o., s ond un peth i'w ddweyd ynglyn a'r mater--rhaid cael ymchwiliad trwyadl a dioed iddo, a hwnnw yn ymchwiliad gan J lys arbenig o dan lywyddiaeth un o'n barnwyr. Mae'n dda genym weled fod bron yr holl newyddiaduron o bob lliw gwleidyddol yn cytuno yn hynny. Yn wir, ymddengys i ni mai yr unig ymchwiliad boddhaol fyddai yr un a geid drwy roddi r cyhuddedigion ar eu prawf. Os bu prima facie case erioed y mae yn adroddiad y Cadfridog Butler, ac oni bae ein bod yn cofio am ddad- ganiad yr Erlynydd Cyhoeddus ynglyn ag achos- Whittaker Wright ni allasem amgyffred ei ddad- ganiad nad yw yr adroddiad yn dangos tystiol- aeth ddigon cref i gymeryd cwrs cyfreithiol. Un o nodweddion mwyaf anymunol y cyfnod ydyw amharodrwydd llawer o'r awdurdodau uchaf 1 amddiffyn y cyhoedd drwy ddwyn troseddwyr o ddosbarth a safle neillduol i brawf. Mae y dystiolaeth yn yr adroddiad ynglyn a'r chwech cwmni masnachol a enwir ynddo yn anwrth- wynebol, a dylent gael eu herlyn heb oedi cymaint a diwrnod. A phe baem ni yn lie y swyddogion milwrol a enwir, ac yn ddieuog o r pethau a osodir yn eu herbyn, buasem yn hawlio cael ein dwyn i brawf, oblegid mai felly yn unig y caem gyfle i adfer ein henw da. Ond rhaid cael ymchwiliad trwyadl, a dibyna ar Dy y Cyffredin i'w drefnu. Drwg genym or fod dweyd fod 1 lai o awydd hynny yn y Llywodraeth nag a ddisgwyliem. Paham y rhaid i unrhyw Lywodraeth ddangos y duedd leiaf i achlesu swyddogion a fyddant o dan gwmwl. Nid pwnc plaid ydyw o gwhl, ac mewn blynyddoedd a fu ni chawsai ystyriaethau felly ddod i mewn. Sonir yn awr mai gan Bwyllgor Detholedig 0 Dy y Cyffredin y gwneir yr ymchwiliad. Gobeith- iwn nade. Ni feddai pwyllgor felly nemawr fwy o awdurdod derfynol na'r pwyllgor a gyflwynodd yr adroddiad sydd wedi cynyrchu y fath gyffro. Ac y mae allan o'r cwestiwn iddo fedru gor- phen ei waith cyn i Dy y Cyffredin ohirio y^ mis Awst, ac yna darfyddai am dano hyd onio a I ail-benodid ef ar gyfarfyddiad y Ty ddechreu y flwyddyn nesaf. Ond y gwrthwynebiad mwya iddo ydyw y byddai lliw gwleidyddol arno, 16 ar y cyffelyb bwyllgor fu yn \mholi i rai °r gweithrediadau yn Neheubarth Affrica. Dy wedwn eto mai nid pwnc plaid yw y ond pwnc o osod y cyfrifoldeb lie dylai to am ysbeilio y cyhoedd o chwe' miliwn o bunaU, o adfer enw da y gwasanaeth cyhoeddus, ac atal yn llwyr unrhyw lvgredigaeth gweinyda a all fod wedi dod i mewn i'n trefniada milwrol. Ac ni ddylai gwahaniaethau gwlei yddol ymyryd yn y mesur lleiaf a'r pethau hyn- 0