Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Byd y Gan.
News
Cite
Share
Byd y Gan. Cian IDRIS. SUL y Dnndod ydoedd y Sabboth diweddaf, a chaed heulwen nef drwy gydol y dydd. CAED cyrddau cenhadol bron ar gongl pob heol, ac ar y fynedfa i bob un o'r parciau. Y mae gwir adfywiad ym mysg y Saeson. NID yn unig yn yr ystyr grefyddol y mae'r Saeson yn ymddeffroi, eithr hefyd yn yr ystyr gerddorol. Cafwyd cyfarfod ddydd Sadwrn diweddaf er hyrwyddo y mudiad newydd, "Musical Competition Festivals," neu, a'u galw wrth eu henw Cymreig, Eisteddfodau Cerddorol. CYNHELIR cynhadledd gyntaf y mudiad hwn brydnawn ddydd Mawrth, yn Conduit Street, pryd y cymerir y gadair gan Lady Mary Lygon. Darllenir papyr ar Gynyrch Lleisiol mewn Dosbarthau Corawl," gan Mr. H. J. Wood. Ereill sydd gyfrifol am bapyrau ydynt, Miss Wakefield, Dr. McNaught, Dr. Somervill, a Mr. W. H. Leslie. Cyhoeddir eu papurau, fel pamphledau, yr ydym yn cael ar ddeall. Y MAE eisoes 39 o'r Gwyliau hyn mewn bod Cynwysa y rhai hynny sydd yn y rhanbarthau Llundeinig gorau y Tonic Solffa a'r Ysgolion Sabbothol a gynhelir yn y Palas Grisial, cys- tadleuaeth Corau Clybiau'r Genethod a gyn- helir yn Westminster, cystadleuaeth Clybiau St. Cecilia, a Gwyl Stratford. Y MAE y seindorf The Besses-o'-th'-Barn," sydd mor adnabyddus yn y Canolbarthau, ac a gymerasant ran mor ami yng nghystadleuaethau y Palas Grisial, yn talu ymweliad a Paris. Ac ar eu ffordd yno cynhelir cyngherdd ganddynt yn y Trocadero heno. Chwareuir ganddynt yfory (y Sul) yng Ngherddi y Tuleries. Ni chodir tal ond trosglwyddir y rhoddion gwir- foddol er budd tylodion Paris. YN y Royal Academy of Music, ennillwyd v "Charles Rube Prize," am driawd llinynol, gan Miss Mary Burgess, Miss Hilda Barnes a Miss Gwendolen Griffiths. Mr. John Bardsley ennill- odd y Joseph Mass Prize i denoriaid. I'R rhai hynny o'n darllenwyr ag sydd yn hoff o gerddoriaeth y mae gwledd yn eu haros yn y Palas Grisial heddyw'r prydnawn pryd y cynhelir N-r Wyl Brydeinig, dan arweiniad yr enwog a'r adnabyddus Dr. Cowen. CAED cystadleuaethau rhagorol yn Eisteddfod Caer yn ddiweddar rhwng corau Manceinion, Birmingham, Lerpwl, a chor Trecynon. Enill- odd cor Manceinion y wobr gyda 58 o farciau, tra yr oedd Trecynon yn ail da gyda 57. A BARNU oddiwrth y corau fu'n ymgystadlu yn ddiweddar yn Neheudir a Gogledd Cymru, yn ogystal a Gogledd Lloegr, gellir disgwyl y bydd y safon yn uchel yn yr Wyl Genedlaethol eleni. Bydd cor o Lundain yno wrth gwrs. Y RHAI mwyaf poblogaidd ym myd y gan yn ystod yr wythnos a aeth heibio oeddynt Madame Melba, Muriel Foster, a Her Kubelik. CYNHALIODD Cynghor y Tonic Solfa eu cy- farfod blynyddol yn ddiweddar, pryd y caed adroddiadau ffafriol iawn am ledaeniad cyfun- dfefn y Solffa. Ym mysg yr aelodau yr oedd nifer dda o'n cydwladwyr, y rhai a dystient i'r ^ynydd a wnaed yn ddiweddar yn yr Hen Vvlad gyda'r nodiant newydd. YM mysg y lliaws siaradwyr yr oedd Dr. ^-oward, yr hwn a ddywedai fod cyfundrefn y Solffa yn ^ai i gynyddu ac fod gweithiau new- yddion a phwysig yn cael eu cyhoeddi yn y nodiant. Yr oedd efe ei hun yn addysgu y gyfundrefn i 300 o ddisgyblion. Y PARCH. Cynffig Davies (Menai Bridge), a siaradai ar ran Cymru, gan ddweyd fod y Diwygiad wedi profi yn symbyliad i gerddoriaeth, ac yr oedd hynny yn cyfrif yn ffafr y Solffa. Yr oedd gan y Diwygiad ddwy aden, gweddi a chaniadaeth. Yr oedd y Solffa wedi bod yn cynyddu am 30 mlynedd ac ymddangosai fel pe bai Rhagluniaeth wedi gosod y gyfundrefn i barotoi ar gyfer y Diwygiad. Yr oedd yn gysur, meddai, canfod fod y gyfundrefn yn cynorthwyo dynoliaeth ar wastadeddau uchel meddwl a theimlad. DYWEDAI Mr. Walter Harrison, Mus.Bac., mai Solffawyr ydoedd aelodau cor Gogledd Stafford, y rhai sydd mor adnabyddus fel ennill- w\r ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol. Ac y mae mwy na hanner cor enwog Dr. Coward, o Sheffield, yn Solffawyr. YM mysg y rhai a etholwyd yn arholwyr y mae Mr. W. Dunn Williams, Caerfyrddin; Mr. E. Rowlands, Llanbrynmaif; Mr. W. Howell, Porth; Mr. T. J. Hughes, Llwynhendy, a Mr. H. Lloyd Williams, Colwyn Bay. Ym mysg yr rhai a dderbyniwyd yn "Fellows" yr oedd yr arweinydd poblogaidd, Dr. Coward. DYWEDAI cyfaill wrth Esgob Carlisle mai y prif a'r cyntaf beth ym mywyd Mr. Balfour (y Prifweinidog) ydoedd cerddoriaeth yr ail, golf; ac yn drydydd, feallai, cerddoriaeth
CERDDORIAETH Y CYMRY.
News
Cite
Share
CERDDORIAETH Y CYMRY. [Ysgrifenodd yr enwog a'r gwladgarol John Parry (Bardd Alaw), liaws o lythyrau gwerthfawr i'r Cambro Briton — hen gyhoeddiad campus- ar Gerddoriaeth y Cymry. Cynwysa;r llythyrau hynny sylwadau rhagorol ar nodweddion a hanes llawer o'n halawon cenedlaethol. Cyhoeddwn ddau o honynt (fel ag yr ymddangosasant yng Nghreal y Corau) yn y rhifyn hwn gan gredu y byddant o ddyddordeb i'n darllenwyr.] Rhif I. SYR,—Yn y llythyrau hyn, bydd yn angen- rheidiol i mi egluro fy hun mewn dull gwahanol i fel y gwnaethwn pe yn cyfarch personau cyfar- wydd a'r gelfyddyd, a gochelyd ymadroddion anghyffredm. Canys ychydig a'm deallent pe y dywedwn, "fod trawsgyweirio o'r tonydd i'r llywydd yn gofyn 4ydd lion, neu y rhaid cael 7fed lleddf i drawsgyweirio o'r tonydd i'r islyw- ydd, &c., &c." Teimlaf yn ddyled arnaf ddweyd cymaint a hyn, rhag ofn i ryw frawd anfoddog deimlo tuedd i feio fy anwybodaeth tybiedig. Yn ystod fy mywyd proffesiadol, mi a gefais y ffawd dda o glywed engreifftiau o braidd bob cerddoriaeth genedlaethol yn y byd—o alawon uchelddysg yr Italiaid hyd ryfelganeuon gwylltion yr Indiaid anghelfydd. Ac ni raid i gerddoriaeth Gymreig ildio i un o ran nodweddiad cenedl- aethol. Beth a all fod yn fwy nodweddiadol na'r hen Gadlys ? Y mae'r anfarwol Handel wedi ei defnyddio yn un o'i operaon a dywed Mr. Cramer, y chwareuwr piano enwog, fel hyn am dani yn ei Instruction Book Y mae'r alaw yma yn esiampl ardderchog o gerddoriaeth genedlaethol y Cymry; y mae gwreiddioldeb a nodweddiad hyf yn cael eu huno yn yr alaw." Codiad yr Ehedydd sydd alaw ardderchog arall, llawn o hyfdra a pheroriaeth. Dywedodd Haydn ei bod yn un o'r cyfansoddiadau goreu a gl) wodd efe erioed. Y mae hon yn bur boblog- aidd gyda chantorion yng Nghymru. Alaw Gymreig ydyw'r gan enwog, Cease your funning," yn y" Beggar's Opera"—sef Llwyn Onn wedi ei newid ychydig. I'r un alaw'y mae'r gan a ysgrifenais i Mr. Braham a elwir Beauty in tears." Ond, er mwyn rhoddi i'r darllenwyr feddylddrych am amrywiol arddulliau a nodweddau'r alawon Cymreig, byddai yn well i mi eu dosranu, gan wneyd y cvfryw sylwadau arnynt ag a farnaf yn briodol, a nodi y rhai hynny a genir fynychaf yng Nghymru. Yr wyf wedi trefnu a chyhoeddi dwy gyfrol o gerddor- iaeth Gymreig i seindorf filwrol; hefyd, casgliad i'r piano, y bib, a'r violoncello; a Detholion o Alawon, gyda geiriau Seisnig cyfaddas; yr hyn a brawf nad wyf yn anghydnabyddus a'u pryd- ferthion. Rhif. 11. SYR,—Y mae yn llawer haws desgrifio darlun, neu gerdd, na chyfansoddiad cerddorol. Gellir rhoddi egluriadau pur fanwl ar ddarluniaeth, a gwneyd dyfyniadau o gerdd ond, mewn cerdd- oriaeth, y mae yn angenrheidiol cael naill ai nodau lleisiol neu offerynol i roddi meddylddrych priodol am eu hansoddion gwych neu wael. 0 ganlyniad, ni bydd fy ymdrech i ddesgrifio mewn ysgrifen brydferthion nodweddiadol cerddoriaeth Gymreig yn agos mor effeithiol a phe y rhoddid engreifftiau ar y delyn neu'r piano. "Y Gadlys," sydd gyfansoddiad beiddgar, llawn o ynni, ac yn un o'r tonau nodweddiadol hynny ag nas gall hyd yn oed dyn cwbl anghy- farwydd a cherddoriaetb ei chlywed heb ei theimlo yn rymus. Y mae telynorion Cymry yn gyffredin yn ei chwareu yn E leddf—yr hyn sydd rhy uchel i leisiau cyffredin. Y mae rhai o alawon goreu Cymru, Ysgotland a'r Iwerddon, yn y cywair lleddf. Y mae rhyw- beth yn addfwyn a boddhaol yn y modd lleddf. Fel prawf o'i ddylanwad ar y galon ddynol, ni raid i mi ond crybwyll —bydded dyn mewn trallod, neu dan ofid meddwl dwys, ac os a efe i chwilio am gysur mewn caniadau crefyddol (fel y gwneir yn fynych), bydd yn sicr o ddewis y cywair lleddf. Fel y gwyddis, yn y cywair lleddf y mae "Morfa Rhuddlan a Dafydd v Garreg Wen," ac yr wyf yn apelio at deimladau fy nghydwlad- wyr, pan glywant yr alawon hyn yn cael eu canu neu eu chwareu yn dda, ai ni byddant yn teimlo rhyw ymsyniad tynerfwyn, hyfryd ac ai ni bydd llygaid llaith yn fynych yn amlygu calon lawn ? Y mae isalaw (bass) y don bydd yn awr dan fy sylw (" Y Gadlys ") yn arddunol a hynod a phan yn cael ei chwareu gan seindorf, neu ar y delyn, neu y piano, rhaid y rhydd yr hyfrydwch mwyaf i'r glust. Nid yw mor hawdd ei chwareu ar y delyn Gymreig ag ar delyn bedal. Gan fod tair rhes o dannau i'r delyn Gymreig (y rhes ganol yn cynwys yr hanner tonau), y mae'r chwareuwr yn gorfod dodi ei fys rhwng y ddwy res allanol pan ddigwyddo lleddfnod neu lonnod achlysurol tra y mae'r troed yn gallu gwneyd hynny gyda'r delyn bedal. Wrth bwyso gyda'r troed ar bedal, y mae'r nod gofynol yn dod yn hanner ton uwch, ac wrth dynu effaith y pedal daw yn hanner ton is. Y mae hwn yn welliant mawr ond er hynny, y mae gan y delyn Gymreig, heblaw ei hymddangosiad hybarch a diaddurn, lawer o fanteision, yn enwedig mewn darnau a redant yn unsain ac y mae hyn yn digwydd yn fynych mewn am- rywiadau ar y gwahanol alawon. Yr oedd y delyn yn cael ei chyfrif bob amser yn brif offeryn gan y Cymry yn yr hen amser gynt rhawn oedd y tannau, ac felly y parhaodd hyd ddechreuad y bymthegfed ganrif. Hyd y cyf- nod hwnnw hefyd nid oedd ganddi ond un res o dannau; ond yr oedd y chwareuwr yn gallu cynnyrchu llonnod neu leddfnod trwy ryw ddefnyddiad celfydd o'r bys a'r fawd- yr hyn nas gwyr neb yn awr pa fodd yr oedd yn cael ei wneyd.
Advertising
Advertising
Cite
Share
BAKER & HAMMOND, HEBERT HOUSE, Opposite "Metropole," DENMARK HILL, S.E. Upholsterers, Decorators, Cabinet Makers, and Furnishers. Furniture, Carpets, Bedsteads. House Furnishings. LINOLEUMS for home and SHOP purposes Before furnishing your home CONSULT US. We keep a large stock, and shall be pleased to show you same. WELSH people are cordially invited. Estimates free for Removals. Telephone 2497 Hop.