Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
YSTADEGAU EGLWYSI Y METHOD=…
News
Cite
Share
YSTADEGAU EGLWYSI Y METHOD= ISTIAID YN LERPWL. Dyma ystadegau y Cyfundeb Methodistaidd yn Lerpwl fel y darllenwyd hwy yn y Seiat Fawr ddydd Llun y Sulgwyn "Capeli a lleoedd pregethu, 56 capeli wedi eu helaethu alu hadnewyddu, 3 un capel wedi ei agor (yn Middlesbrough) nifer yr eglwysi, 37, lleihad o un gweinidogion, 34 pregethwyr, 19; diaconiaid, 173, lleihad o bump; cymun- wyr, 7,8 35-cynnydd yn Lerpwl a'r cylch, 35, lleihad yn yr eglwysi cenhadol, 21 derbyniwyd o had yr eglwysi, 91, lleihad o 79; hefyd o'r byd, 171, cynnydd o 46; derbyniwyd o eglwysi eraill y dref, 283, lleihad o 26 derbyniwyd o eglwysi eraill, 728, lleihad o 39; derbyniwyd o wledydd tramor, i nifer y plant a fedyddiwyd, 144; lleihad o 18; plant yn yr eglwysi, 2.368, lleihad 017; aelodau ar prawf, 119, cynnydd o un; dychweledigion, 154, cynnydd o 34; tros- glwyddo i eglwysi'r dref, 330, lleihad o 35; symud i eglwysi eraill, 620, cynnydd o 7 hefyd i wiedydd tramor, 34, cynnydd 022; gadawyd heb drosghvyddiad, 9-8, lleihad o 34 diarddel- wyd, 23, cynnydd o 10; gwrthgilwyr, 40, lleihad o 19 marwolaethau, 107, cynnydd o 4; aelodau, 12,580, lleihad o 96 ) sgolion Sul, 55, cynnydd o 0 3 athrawon a swyddogion, í 28, cynnydd 014 athrawesau, 227, lleihad o 5; ysgolorion dros bymtheg oed, 3,977, cynnydd o 8; dan bycntheg, 2,461, cynnydd o 41 cyfanrif yr ysgolorion, •*7)393) cynnydd o 58 cyfartaledd y presenoldeb, 4,048, cynmdd o 16 ymgeiswyr llwyddianus yn y mats llafur, 573, lleihad 0 32. Cyllid. Casglwyd at y Feibl Cymdiithas, £747 cyn- nydd o .£432; casghadau cyfundebul: y Genhadaeth Gartrefol, £257; y Genhadaeth Dramor, £761; y Gronta Fenthyciol, y Symudiad Ymosodol, ^135; achosion Seisnig, ^84; y Gronfa Cynbaliol, ^227. Cynnydd yn y casgliadau cyfundebol o Zi at y Symudiad Ymosodol, a lleihad o ^87 yn y lleill. Casgliadau at yrysbyttai, &c., ^407; cynnydd 0 ;6"54; Ybgol Sul. £.no, cynnydd o Z43 amcanion cyffredinol, ^"1,067, cynnydd o ^"187; tlodior., ^397, lleihad o £35; tuag at adgy- weirio adeiladau, &c., ^3,802, cynnydd o ^2,000 achosion eraill, £1,595, jleihad o ^419 cydswm y casgliadau cyffredinol, £ 10,288, cynnydd o Z2,244 cydswm y casgl- iadau at y weinidogaeth, £ 5,657, cynnydd o jC,91 > y cyfanswm, yn Gynwys petli rhent, £ i5,93° 5s- i^c., cynnydd o £ 2,216; dyled bresenol ar y capeli, 14,350, lleihad o .£696 cyfartaledd cyfraniadau ) r aelodau at y weini- dogaeth, 14s. sic., cynnydd o 51k. cyfartaledd 2 tuag at bob amcan £ 2 SS. 9;ÎC., cynnydd o 4 5s. 7^c. eglwysi wedi cytranu drus £ 1 yr aelod at y weinidogaeth Garston, £r 4s. O'C. 2 Bethlehem, Douglas Road, £ 1 is. i-ic. Chat- 2 ham Street, .£'1 os. 4c. Yn yr eglwysi cenhadol —Millom, £ 1 6s. 8|c.; Middlesbrough, jQi 4s. o^c. St. Helens Junction, £ 1 os. 10c.
Pobl a Phethau yng .,Nghymru.
News
Cite
Share
Pobl a Phethau yng Nghymru. Bu farw'r Dr. H. R. Hughes, Tanyfynwent, Bangor, yn 88 mlwydd oed. Un o Huwsiaid Plas Coed, sir Fon, oedd y Doctor, a chefnder i'r diweddar Mr. Bulkeley Hughes, A.S. Os oes arnoch eisiau dysgu caru eich gwlad, rhaid i chwi ei gadael," ebai Mr. Pritchard Jones, Niwbwrch, Uchel Sirydd Mon. Gobeithio nad ydyw hyn yn golygu fod y rhai sy'n aros gartref ddim yn ei charu. YR oedd tua chwe' mil o wirfoddolwyr yn gwersyllu ar forfa Conwy. Yr oedd yr hen dref gaerog yn llawn afiaeth yr hen ddyddiau gynt. CHWAREU golff y bu'r Mri. Llojd-George a Herbert Lewis, y Llungwyn, ar forfa Criccieth. Cafodd y blaenaf gryn nychdod a gofid yn ddi- weddar, a gobaith ei etholwyr ydyw y dwg awyr bur ei gartref y gwrid i'w fochau eto. GWEINIDOG Wesleyaidd yw'r Parch. H. O. Hughes. Dywedodd yn Nghaernarfon ddydd Mercher fod llwyddiant Wesleyaeth yn anrhaethol fwy pwysig na chadwraeth yr iaith Gymraeg. 1 Z71, Dyma'r ffordd i feithrin y teimlad cenedlaethol, onide ? DYWEDODD Mr. Lloyd-George wrth un a ym- ddiddanai ag ef yng iNghriccieth ddiwedd yr wythnos nad yw yn pryderu dim yng nghylch y modd yr ymddyga gwyr Morganwg yn wyneb y bygythiad y rhoddir Deddf Gorthrech mewn grym yno. HYSBYSIR fod Lerpwl wedi cyfranu mil o bunnau yn barod i Drysorfa y Cadgyrch, er nad oes unrhyw apel wed) ei anfon allan nag un casgliad wedi ei wneuthur. DYWEDODD Arglwydd Balfour wrth ohebydd a alwodd gydag ef i'w holi, fod y Pwyllgor a ben- ZD derfynodd le y Llyfrgell a'r Amgueddfa yn hollol unol yn ei dyfarniad, ac wedi rhoddi eu rhesymau yn y cofnod cysylltiedig a'r adroddiad. ENW pobl Sir Aberteifi ar shebeens yw "tafarnau smwglier," Nid drwg, wir Ond y gwaethaf ) w y dywed traed-deithwyr drwy Gymru fod mwy o'r tatarnau hyn yn Ngheredigion nag yn unrhyw sir arall oddiallan i Forganwg. DYWEDIR mai yr Esgob Pritchard Hughes yw yr esgob cyntaf i gymaint a danlen ei destyn yn G)mraeg yn Eglw, s GadeirioL Llandaf er d/ddiau yr Esgob Morgan Owen. NID oes brinder ymgeiswyr am y Sedd dros Ranbarth Gwyr. Yn ychwanegol at y tri Williams sydd ar y maes yn barod, enwir Mr. W. D. Benson a Mr. Lleufer Thomas, dau far- gyfreithiwr adnabyddus ar Gylchdaith Deheudir Cymru, fel ymgeiswyr tebygol. Os apethau ym mlaen lei hyn am dipyn bydd yr ymgeiswyr cyn lliosoced a'r etholwyr. HSSBYSIR fod Mr. T. Gwynn Jones yn bwriadu dwyn allan argraffiad darluniadol o'i awdl fuddugol ar "Ymadawiad Arthur." Ni argreffir ond nifer bennodol o gopiau. ANFONWYD llythyr allan ar ran' Cymdeithasfa Chwarterol y Methodistiaid Calfinaidd gan y Par^h. Rees Evans, Llanwrtyd, a'r P.rch. P. D. Morse, Wolfe's Castle, at holl eglwysi y Cyfundeb yn Neheudir Cymru a Llundain, yn annog yr holl aelodau i fod yn llwyrymwrthodwyr. AR ol llwyddo i gael y Llyfrgell Genedlaethol i'r dref, y mae pobl Aberystwyth yn ymwroli. Dywedir eu bod yn myned i wneyd cais am gael yr Eisteddfod Genedlaethol naill ai yn 1907 neu 1909. Yn 1S65 y bu yr hen sefydliad yno ddi- weddaf, ac y mae'n bryd iddi fyned i wlad y Cardis eto. YN Seren Cymru y mae tri dosbarth o ddysg- yblion ym mhlith Bedyddwyr Mon-dysgyblion y torthau, dysgyblion y pregethwr o bell, a dysg- yblion y pregethwr nice. Felly wir Y DYDD o'r blaen bu farw y Parch. John Davies, Pennant, Ceredigion. Cafodd ei barlysu tua dwy flynedd yn ol, ac ni bu yn alluog i bre- gethu er hynny. Claddwyd ef yn mynwent eglwys Llanbadarn, Trefeglwys, i'r lie yr hebryngodd o'i flaen ei anwyl briod, a'r oil o'r plant, ond y mab sydd yn awr yn fyw, ac yn ngwasanaeth y General Post Office yn Llundain. DVDl) Mawrth, Mehefin 13eg, tra yn dilyn ei orchwyl ar waelod ei fargen, cyfarfyddodd Richard Jones, o Rhiwlas, a damwain yn Twll Dwndwr, trwy i ddarn o'r graig syrthio arno. Yr oedd oddeutu dwy dunell ° bw\sau. Anafwyd ef yn ddifrifol, yr hyn a brofoddyh angeuol iddo- yn mhen oddeutu dwy awr a haner yn yr ysbyty. Yr oedd yn ddyn caredig a chymwynasgar iawn, a phob amser yn tueddu at fod yn chwareus. Yr oedd yn hynod o gymeradwy gan ei gyd- weithwyr. \'r oedd yn 32 mlwydd oed, ac yn un o blant y Diwygiad, ac erbyn hyn credwn ei bod n talu'n rhagorol. Gorchwyl anhawdd oedd iw gyd-weithwyr, y rhai oeddynt yn gwein- yddu arno, ar ol ei ryddhau o dan y plyg, oedd ei wrando yn adrodd yr emyn hwnnw ag y mae Ilawer o ganu wedi bod arno yn y Diwygiad yma, "0 Dduw, rho im' Dy hedd," gyda phwyslais arbenig, ac yn dymuno ar ei gyd-weithwyr ei ganu ond ni allai neb ganu o dan y fath deim- ladau. Gadawa wraig a chwech o blant i alaru eu colled ar ei ol. Mae cydymdeimlad mawr k hwy, a'n dymuniad yw ar i Dad pob gweddw ac amddifaid daenu aden Ei gariad trostynt. Cyn- haliodd Mr. Pentir Williams drengholiad ar gorph y trancedig ddydd Iau, pryd y dygwyd rheithfarn o "farwolaeth ddamweiniol." Cymer- odd y gladdedigaeth le ddydd Sadwrn. YN ei adroddiad blynyddol, gyflwynodd i'r Cynghor Dint sig yr wythnos o'r blaen. mae D:, Jones, Swyddog Meddygol Ffestiniog, yn ail adrodd, gyda phwyslais neillduol hen awgrymol eiddo, sef yr angenrheidrwydd am Ysbytty Cy- hoeddus yn yr ardal. Dywedai fod cannoedd o bunnau yn cael eu gwario ar gapelau ac organau yn yr ardal, yr hyn a fawr g\meradwyai; ond pwyntiai allan y ddyledswydd fawr o ddarparu ar gyfer y claf a'r clwyfus. Awgrymai yn gyntl mai y gweithwyr ddylent symud gyda'r mater yma ond er mor amserol a phriodol yw awgryiw y swyddog, mae yn ofnus nad yw amgylchiadau presenol na rhagolygon gweithwyr yr ardal yn gyfryw ag y gellir yn rhesymol ddisgwyl Idda gael y sylw dyladwy.
Advertising
Advertising
Cite
Share
CYMRY LLUNDAIN. CEFNOliWCH GYMRU. R. H. dONES, From POOLE'S. LADIES'& GENTLEMEN'S TAILORr 8, ELEPHANT ROAD (Close to Elephant and Castle Station), NI W KENT RO/»D, S.E- On receipt of a po-teard, R. H. J. vwill call on Customers living at a distance. SUI TS from 35/ OVERCOATS from 35/" LADIES' COSTUMES from 21 Gns. LADIES' TAILORING a Speciality- BRETHYN DA, GWnlTH OA, f Ok IAD FeAJYNOL
IIIN LOVELY WALES..I
News
Cite
Share
of the 13th and 14th centuries have been found among the ruins. We have no space to dwell upon the many other attractions of the valley and the hills, such as the Pillar of Elisy," supposed to be over 1,000 years old; the lovely ramble along the canal side to Llantysilio the Chain Bridge over the river near Berwyn Station the Horseshoe Falls, &c. A few miles beyond Berwyn Station lies Glyndyfrdwy, and the tourist will find himself on classic ground there also. Probably the great Welsh chieftain, Owen Glyndwr, was born here; anyhow, every nook and corner on the hillsides are associated with his history. No wonder that a man who spent a large portion of his time in this Eden of beauty should have been a patron of the arts as well as an ardent lover of freedom. Thanks to the Great Western Railway Com- pany Llangollen in these days is easily accessible, and duting the summer months especially, the facilities for travelling there are a great credit to the directors.