Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
UNDEB YSGOLION SABBOTHOL Y…
News
Cite
Share
UNDEB YSGOLION SABBOTHOL Y M.C., LLUNDAIN. CYMANFA'R PLANT. Wrch gyflwyno yr adroddiad canlynol o weith- rediadau ein plant yn Jewin nos Iau, Mai 25am, ar achlysir yr wyl flynyddol cydnabyddir yn ddiolchgar ein dyled i'r cyfeillion hynny fuont yn ein gwasanaethu mewn gwahanol ffyrdd yn y Gymanfa, nid yn unig am eu gwaith ond hefyd am eu parodrwydd yn ymgymeryd a'r cyfryw. Priodol yw enwi Mr. W. VV. Griffith, Wilton Square, o dan lywyddiaeth ddeheuig yr hwn y cawsom un o'r cymanfaoedd mwyaf llwyddianus yn hanes ein cyfundeb yn y brif- ddinas. Bu Mr. Madoc Davies, A.R.C.M., a'r Parch. D. C. Jones, y Borough, yn gweithredu fel beirniaid ar y gerddoriaeth a'r adroddiadau, ac hefyd y Parch. Garnon Owen fel cynorthwywr yn y rhag-brawf. Gwasanaethwyd ar y berdoneg gan un sydd eroyn hyn, o herwydd ei chysylltiad a Chymanfa'r Plant-Mrs. D. R. Hughes, yn cael ei hystyried yn gyfeilles fynwesol i bawb o'r plant ydynt yn cystadlu yn flynyddol yn eu gwyl arbenig eu hunain. Sicr yw nad oes angen ymhelaethau ar gymwysderau yr uchod, cry- bwylliad o'u henwau yn unig a sicrha eu bod yr iawn rai yn yr iawn Ie. Megys yn y blynyddau gynt yr oedd y cystadlu yfn mhob rhan o'r rhaglen amrywiol wedi cyrhaedd safon uchel, ac yr oedd yno nifer liosog ym mhob dosbarth yn ymgeisio. Teimlwyd ychydig yn siomedig mai dau gor yn unig esgynasant i'r llwyfan, yn enwedig gan fod un a gyfenwir yn "Gyfaill i'r Plant" wedi rhoddi tarian werthfawr at wasanaeth y pwyllgor, er tynu ein corau allan. Yr ydym yn llawn hyderu y gwelwn yn y blynyddau nesaf fwy o lafur ac ymdrech yn y cyfeiriad hwn, a gobeithir y bydd caredigrwydd y cytaill a nodwyd yn gyfryw i fod yn symbyliad i eraill i geisio codi salon ein cystadleuaethau trwy gyfranu o'r un )sbryd ag a'i meddianodd ef. Y mae yma le i wella mewn llawer iawn o'n heglwysi a'n hysgolion yn y cyfeiriad hwn, ac er fod amgylchiadau neill- duol wedi bod ar y ffordd i lafurio gyda'r plant eleni, hyderwn y bydd yr oil yn deilliaw ar fwy o weithgarwch a mwy o ffyddlondeb yn y dyfodol. A ganlyn yw rhestr y rhai fu yn fuddugol Adroddiad i rai dan 8 oed.-I, Mary Morris, Mile End Road, a Lily i ugh, Jewin 3, Megan Foster, Portobello Road; 4, Gwilym Hughes, Willesden Green. Adroddiad i rai dan 12 oed.—1, Nannie Williams, Jewin; 2, Lalla Thomas, Morley Hall; 3, Myfanwy Jones, Jewin. Adroddiad i rai dan 16 oed. — 1, Helena Furnall, Shir- land Road; 2. David I'ugh, Jewin, a Bessie Parry, Willesden, Green 4, Eleanor Williams, Harlesden. Unawd i ran 8 oed.-I, Megan Foster, Portobello Road; 2, Getta Morgan, Jewin; 3, Margaret Mary Williams, Mile End, a Gwen Williams, Charing Cross. Unawd i rai dan 12 oed. — 1, Lizzie Davies, Jewin 2, Muriel Job, Jewin 3, Olwen Job, Jewin. Unawd i rai dan 16 oed.-I, Lalla Thomas, Morley Hall; 2, Mary Morgan, Jewin; 3, Annie Morgan, Falmouth Road, a Jennie Lucretia Jones, Jewin. Deuawd i rai dan 16 oed.-I, Lalla a Robbie Thomas, Morley Hall; 2, Jennie a Mary Morgan, Jewin. Unawd ar y berdoneg i rai dan 12 oed. — 1, Olwen Job, Jewin; 2, Lizzie Davies, Jewin 3, Muriel Tob, Jewin. Unawd ar y berdoneg i rai dan 16 oed.—1, Jennie Lucretia Jones, Jewin 2, Mary Morgan, Jewin 3, Lily Dowell, Stoke Newington. Map o Gymru.—1, Lily Dowell, Stoke Newington 2, Francis Davies, Wood Green 3, T. H. Williams, Mile End. Cor o blant dan 16 oed. -I, Cor Falmouth Road.
Advertising
Advertising
Cite
Share
WHEN YOU ARE UP WEST Call in the Cabin tea Rooms, 89, REGENT STREET, and refresh yourself with the finest Tea obtainable. LUNCHEONS. TEAS. DINNERS. POPULAR PRICES. JY.[USIC- finest American Iced Soda fountain in Condon. W. L LLOYD MANAGER
CYMANFA BEDYDDWYR SIR QAERNARFON.
News
Cite
Share
CYMANFA BEDYDDWYR SIR QAERNARFON. Yr wythnos hon cynhaliwyd Cymanfa Bed- yddwyr Arfon yn mhen tref y sir, o dan lywydd- iaeth y Parch. S. Pierce, Penrhyndeudraeth. Yr oedd ynghyd gynulliad lliosog iawn o gynrychiolwyr. Ymdriniodd y Llywydd yn ei anerchiad o'r gadair a'r Diwygiad yn benaf. Dywedodd fod y deffroad wedi ychwanegu 800 at nifer aelodau eglwysig yr enwad yn y sir er y gymanfa ddi- weddaf, a bod yr enwad drwy Gymru wedi cynyddu dros bedwar-ugain-a-deg o filoedd. Cydnabyddai fod i'r mudiad rai agweddau nad apelient yn gryf ato ef yn beisonol. Nid oedd yn ffafr pethau eithafol. Ystyriai fod y fam a ofalai am gysur ei phriod a'i phlant yn cyflawni galwadau crefydd mor wirioneddol a'r hon a esgeulusai ei chartref ac a fynycha gyfarfodydd diwygiadol hwyrol. Vr oedd yr ychwanegiadau rhyfedd a gawsant yn ddiweddar at eu rhif yn gosod cyfrifoldeb new- ydd difrifol ar yr Eglwysi, a byddai effeithiau y Diwygiad yn ol fel y c\mhwysai yr Eglwysi eu hunain i gyfarfod y sefyllfa newydd. Os gallent gadw y tan cysegredig i gynneu ni byddai raid idclynt ymofyn am gynorthwyon oddiallan megis difyrion ac adloniadau mewn trefn i sicr- hau cyd-weithrediad y bobl ieuainc yn ngwaith yr Eglwysi. Dewiswyd yr Athro Silas Morris, Bangor, yn Gadeirydd y Gymanfa am y flwyddyn nesaf, a y Mr. R. E. Jones, Llanberis, yn Is-gadeirydd. Pasiwyd y penderfyniad canlynol yn gwbl unfrydol Fod y Gymanfa hon yn dadgan ei chydsyniad calonog a'r cadgyrch cenedlaethol yn erbyn Deddfau Addysg 1902 a 1904, a gweinyddiad y cyfryw gan y Llywodraeth bresenol, a'u bod yn awdurdodi y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd i wneyd apel ddifrifol at bob eglwys yn y Sir am drefnu casgliad i'r Drysorfa Genedl- aethol sydd newydd ei hagor." Pregethwyd ynglyn a'r Gymanfa gan y Parchn. Charles Davies, Caerdydd; E. T. Jones, Llan- elli; E. Evans, Bangor; Dan Davies, Llandudno; a D. Wyre Lewis, Nefyn.
SYR FREDERICK TREVES AR EFFEITHIAU…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
SYR FREDERICK TREVES AR EFFEITHIAU ALCOHOL. Nid oes ym Mhrydain feddyg enwocach na Syr Frederick Treves, ac y mae ei safle uchel a'i brofiad bron digyffelyb yn gosod gwerth neillduol ar bobpeth a ddywed. Y dydd o'r blaen traddododd anerchiad o flaen Undeb y Merched ynglyn a Chymdeithas Ddirwestol Eglwys Loegr, a dywedodd bethau sydd yn rhwym o adael effeithiau dyfnion ar syniadau ac arferion pawb o synwyr a difrifoldeb. Dyma rai o osodiadau y llaw-feddyg enwog :— i. Ni bu cyfeiliornad mwy na thybied fod gwerth meddyginiaethol mewn alcohol. 2. Y mae alcohol yn wenwyn penodol. 3. Arferir ef lai-lai bob blwyddyn gan feddygon y byd. 4. Y mae alcohol yn ffug bwyd-flysiwr. 5. Gwanychu, ac nid cryfhau, y cyfansoddiad a wna efe. 6. Nid yw ei effaith o ddaioni tybiedig, ond symbyliad mynud awr. 7. Nis gall milwyr ar daith weithio os oes alcohol ynddynt. 8. Ar y daith i Ladysmith nid y dynion tal a byr, y mawr na'r bychan, gwympodd allan o'r gadran o 30,000 o filwyr, eithr yr yfwyr. 9. Gwna'r ddiod i'r galon guro yn gyflymach, y pulse yn gryfach, a chroen y wyneb yn goch- ach; ond cynted y paid yr effaith cura y galon yn wanach na chynt. 10. Y mae y ddiod yn anghyson a gwaith da. 11. Nis gwna ac nis gall alcohol "gadw oerni b allan." 12. I fod yn "fit" at unrhyw orchwyl, rhaid i ddynion ieuainc ymwrthod ag ef.
IGohebiaethau.
News
Cite
Share
Gohebiaethau. [Nid ydym mewn un modd yn gyfrifol am syniadau ein gwahanol ohebwyr.] NEED OF REFORM. SIR,—Allow me to use your co'umns once again, to reply to Eisteddfodwr." This gentleman says that I am libelling my fellow-countrymen in London. That statement is incorrect. What I have said I have said, and I make no compromise He practically asserts that I have departed from the truth. However, I will leave that fir wiser men than Eisteddfodwr to judge but let him kindly remember that I can give him particulars of a recent scene, that will verify and justify every statement made in my former letter. The case I now have in my mind would be deemed disgraceful by every considerate person. Can Eisteddfodwr" distinguish between heavenly and disgraceful scenes? The whole matter rests on that point. If his long experience is limited to Welsh gatherings in London, if his ambitions have never risen to any higher level, and if his imaginations cannot be uplifted to a nobler standard, then, of course, the London Eisteddfod, being his highest object, naturally represents the height of his idealisrn- If he has experienced no better things, naturally he is quite content to say that there is no room for complaint. I maintain that hissing, using bad language, abusing adjudicators, is disgraceful. I have seen and heard this done, therefore, I am perfectly justified in bringing forward facts which are indisputable,—perhaps Eisteddfodwr does not consider such things disgraceful to a community of Welsh Christians. Again, he has had 25 years' London experience. Surely he might have learnt in that time that Eisteddfodau are not Institutions. The Eisteddfod is an institution, and each successive Eisteddfod is .a repetition of the old institution. A person who is in this stage, let him be ever so patriotic, and ever so ready to white-wash Welsh weakness," has no right to be heard on the matter. This is what Butler would call coming from home is a state of di-order in which he ought to be discontent to find himself in at home." I hope he wil take care not to rush into print again. It is not the duty of a patriot to hide the faults of his people. That may be the road to popularity, but such popularity would be vain glory. I still adhere to every statement made in my formei letter, and sincerely trust that it will lead people to see and acknowledge past faults, and, consequently, take steps towards future improvements. Yours truly, HAYDN.
Advertising
Advertising
Cite
Share
ARE YOU WEARING §One of those steel trusses which cause you about as much pain as the rupture, and which in tne warm weather, when you are perspiring freely, cut and chat you almost beyond endurance If so, you will be glad to knoW that there is a simple method 0 cure which has enabled hundreds of ruptured people to rid selves entirely of rupture, so tha no truss of any description was what this method has done we are referred to Mr. George Clayton, 9, Slater's Buildings, Sutton-in-Ashfield, Notts, who had suffered excruciating pain from a navel rupture for 5 years, when he tried the Rice method. He was 0 years old, but it cured him so he gave up wearing a trus A method which effects such cures deserves wide pubhci y> as well as thorough investigation by every ruPtu^s person. To learn all about this method and how it cured the severest forms of rupture, write for the bool", sent free to all ruptured persons, upon application W. S. RICE, Rupture Specialist (DeP*' 2423), 8 & 9, Stonecutter Street London, E.C. Don't wait until to-morrow—> might forget the address, but write at once now. Extract from the "WEEKLY DISPATCH," April 9th, 1905* Rupture. Statements that have appeared in these columns to ^cept that it was highly improbable that rupture could be cured by operation have been questioned by a rupture sPe, W. S. Rice, 8 and 9, Stonecutter Street,' London, E.C., w brought us indisputable proofs that he has cured ruptures arS kinds and conditions (among them ruptures of over all standing, people up to S4 years of age, and ruptures w ntjrely appearances were irreducible), so that the truss was jj0^vn dispensed with even in the hardest kinds of work. He ha!> 0f us the original letters from cured patients, the which we have no reason to doubt, and has explained so l"0T^r° fae his method of cure, and his reasons for believing he can j]oVired> severest forms of rupture if his instructipns are carefully '°aseS ^is that we have now no hesitancy in believing that in many c treatment without operation is successful."