Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

CYMANFA GERDDOROL GYNTAF WESLEYAID…

News
Cite
Share

CYMANFA GERDDOROL GYNTAF WESLEYAID CYMREIG LLUNDAIN. Cynhaliwydhon yn City Road noslau, Mehefin y iaf, o dan arweiniad galluog Mr. Maengwyn Davies. Dymunaf longyfarch yr enwad ar eu llyfr tonau newydd, dan olygiaeth Mr. Maengwyn Davies a Mr. Wilfrid Jones (dau o blant Meirion). Buont hefyd yn ddigon eang a rhyddfrydig i ofyn 1 brif gerddor enwad arall, ac un sydd erbyn hyn, trwy gydsyniad cyffredinol, yn cael ei ystyried yn brif gerddor ei genedl-Mr. Emlyn Evans—i'w cynorthwyo. Mae ymdrech wedi ei wneyd ers deugain mlynedd i wella Caniadaeth y Cysegr yn Llundain. Bu yma yn gynar yn y sixties undeb cerddorol rhwng gwahanol eglwysi Jewin Crescent, Alders- gate, Fetter Lane, a Nassau Street, o dan arweiniad y Parch. John Mills, oedd yn wein- idog yn Nassau Street y pryd hyny, Mynorydd a Mr. Peters yn is arweinyddion—coffa da am y ddau. Gwnaetbant fwy na neb yn eu hoes (ac eithrio y diweddar gyfaill hoff, Mr. Hugh Edwards) dros ganiadaeth y cysegr. Yr oedd Mr. Peters yn arweinydd medrus, y goreu yn ei ddydd, ond yr oedd yn ormod o wr boneddig i arwain pan fyddai y Parch. J. Mills yn bresenol, am ei fod yn un o Millsiaid Llanidloes, teulu yr Ydym yn ddyledus iawn iddynt fel cenedl. Tipyn yn araf a difywyd oedd y Parch. J. Mills er yn gerddor galluog. Byddai y Gohebydd yn arfer dweyd—" piti na chai ef weld yspryd i ddeffro tipyn arno." Cynhaliwyd y Gymanfa Gerddorol gyntaf yn Aldersgate yn 1870 dan arweiniad yr enwog Tanymarian, Cefais y fraint o fod yn ysgrifenydd iddi, a chryn ran yn ei dwyn oddi amgylch. Yr oedd %fr newydd Stephens a Jones newydd ei gy- noeddi yr adeg honno. Yr oedd yr oil o'r tonau o'r llyfr, ynghyd a dwy chant a dwy anthem. Cafwyd hwyl dda gyda Moriah a nai o'r tonau, ac wrth ganu y chant, Duw sydd noddfa," daeth rhyw deimlad rhyfedd dros y gynnulleidfa, ni welais ddim cyffelyb iddo ond unwaith—ym mhen blynyddau mewn cymanfa Falcon Square dan arweiniad diail Eos torlais. Yr oedd y rhyfel ofnadwy rhwng Ffraingc a Germany yradeg honno, a rhai o'r brwydrau mwyaf yn cyrneryd lie y dyddiau hynny, a phan ddeuwyd yr adnod "Gwna i ryfeloedd beidio hyd Jthaf y ddaear," &c., daeth rhyw wefr rhyfedd r°s bawb, ac yr oedd wedi ticlo y Gohebydd— yr hwn lywyddai y gymanfa-ac, yn ei ddull "eillduol ei hun, dywedai tra yr oedd dwy wlad h bron yn ein hymyl yn lladd eu gilydd, ein °d ni mewn heddwch a thawelwch yn cael y aint o ganu salm yng nghanol prif ddinas y y J a bu raid ail ganu y Salm. w rT mae rbyfedd mor lleied y cynnydd sydd e 1 bod ynglyn a chanu Salmau. Byddwn yn hoff iawn pan ddaethum i Lundain gyntaf o fynd i ddau le yr oedd y chantio goreu glywais erioed, sef Weigh House yn amser yr enwog Dr. Binney, yr hwn a ystyrid yr Awdurdod Uwchaf ar ganu Salmau ymhell o neb yn ei oes, ac Union Chapel, Islington, yn amser Dr. Allon ond rywfodd mae gan lawer ragfarn yn erbyn chantio am yr arferir gwneyd gan Eglwys Loegr a'r Pabyddion, ond y mae canu Salmau ymhell cyn bod yr un o'r ddwy eglwys. Cenid y Salmau yn y Deml yn nyddiau per ganiedydd Israel, a pham y gwarafunir i wneyd yn ein dyddiau ni. Nid wyf yn gwybod ond am Un Capel Cymreig yn Llundain lie cenir chant ac anthem bob nos Sul. Canwyd Salm-don nodedig o brydferth o waith yr arweinvdd yn City Road, Clodforaf di, 0 Arglwydd." Hefyd canwyd ton o waith yr organydd ar eiriau poblogaidd iawn y dyddiau hyn o waith yr anfarwql Hiraethog, Dyma gariad fel y moroedd," ynghyda thon o waith yr ysgrifenydd gweithgar, Mr. H. Watkin, er cof am ei anwyl dad, ynghyda'r anthem fyth-hyfryd Pebyll yr Arglwydd (Dr. Parry). Aeth rhai o'r tonau yn dda, yn enwedig Dim ond Iesu (Emlyn Evans) a Rheidol" (Ieuan Gwyllt), a'r hen alaw Gymreig "Trefdeyrn." Cafwyd cymanfa dda iawn, ac ystyried mai hon oedd y gyntaf. Ymdrechai yr arweinydd gael Geiriad a Brawddegiad Da, ynghyd a phwyslais, a gwnai i ffwrdd a'r hen arferiad ffol ac ystrydebol o aros ar ddiwedd pob llinell, sydd yn cael ei wneyd mewn naw o bob deg o'n haddoldai. Bum yn synu lawer gwaith at rai oedd yn gwybod yn amgenach. Pwy synwyr sydd mewn aros ar ddiwedd y llinell gyntaf ym mhennill swynol Elfed :—- Pwy sydd gyda'r wawr yn rhodio Rhwng y blodau yn yr ardd ? Ynghyda lliaws mawr o enghreifftiau allesid roddi mewn pennillion gyda'r naill linell yn rhedeg i'r Hall. Gwnai Maengwyn i ffwrdd a hynny yn hollol fel cerddor chwaethus a deallus. Goheithio y bydd y gymanfa yn foddion i wella caniadaeth y cysegr ym mhlith enwad parchus y Wesley aid Cymreig yn LIundain. MEIRIONFAB.

NEW WELSH OPERA.

[No title]

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.

.Y DYFODOL

NATIONAL EISTEDDFOD.