Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

Enwogion Cymreig.-XXXIII.…

News
Cite
Share

Enwogion Cymreig.-XXXIII. Y Parch. Thomas Phillips, B.A. 1, PENNOD ddyddorol ac addysgiadol yn hanes crefydd yn Llundain ydyw hanes dirywiad yr hen Eglwysi canolog a fuont gynt mor lew- yrchus, a'r ymdrechion arbenig i'w hadfywio a'u hadfer drwy eu troi yn sefydliadau cenhadol ar raddfa eang. Y diweddar Hugh Price Hughes a bia y meddylddrych, ond y mae lhaws eraill wedi ei fabwysiadu a'i berffeithio. Y diweddaf o'r hen addoldai i fyned dan oruchwyliaeth y trawsnewid yw Capel Bloomshury-capel sydd mor anwyl i bob Bedyddiwr ag yw City Road i'r.Wesleyaid, neu Dabernacl Whitfield a Chapel Westminster i'r Annibynwr. Gwnaed y lie yn enwog gan Dr. Brock a'r Farch. J. P. Chown, gyda'u hyawdledd cysegredig, ac o fewn y muriau y cyferfydd y llwythau Bedyddiedig bob ows Mai. Ond y mae'r gogoniant cyntefig wedi ymadael, a phenderfynwyd cario ym mlaen y gwaith yno ar linellau newyddion. Ac i Gymro yr ymddiriedwyd y gorchwyl o frwydro a'r an- hawsderau, a hynny nid am ei fod yn Gymro yn gyrnaint ag oherwydd mai efe a ystyrid yr unig ddyn yn ei enwad a feddai y cymhwysderau i ymgymeryd a'r anturiaeth. Brodor o Sir Benfro Ydyw y Parch. Thomas Phillips, ac y mae ei Yrrtddangosiad a'i dafod yn sicrhau mai Dyfedwr ydyw. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1868, wrth droed Mynydd Preseli; ac awyr iach, golygfeydd swyncl, a thraddodiadau rhamantus y fro honno a 1 maethodd ym mlynyddoedd mebyd. Coll- odd ei dad pan yn bedair blwydd oed, ond gofalodd Rhagluniaeth yn dyner am dano, a rhoddodd yntau ei hun yn ei llaw. Yr oedd ^rdal ei faboed yn llawn o gymeriadau nodedig, ynion cryfion o feddwl a chryfach na hynny 0 ysbrydolrwydd. Cyfarfyddent ar y fynwent Wrth y capel bob nawn neu hwyr Sabboth, ac yno byddent yn trin pob math o bynciau, yn enwedig pynciau gwleidyddol a duwinyddol. Y Pennaf o honynt ydoedd y Parch. Henry Price, gwejnidog Rhyd Wilym. Gwnaeth y gwr da Wnnw argraffiadau dyfnion ar y bachgen Thomas Phillips. Pan yn bur ieuanc gwnaeth roffes gyhoeddus o'i ffydd, a bedyddiwyd ef yn hyd Wilym—rhyd a elwir felly oblegid mai ynarfan yr arferai hen bregethwr enwog o'r ]'gio Jones fedyddio ei ddychweled- Pan yn ddwy-ar-bymtheg oed Traddododd ei Bregeth Gyntaf y capel bychan lie y magesid ef. Yr oedd dd •?^clnawn Sul wedi bod yn darllen un o ei au Spurgeon ar bregethu, ac wrth f0(j darUen daeth yr argyhoeddiad iddo ei g ^rwyddi yn cael ei alw i efengylu i'w h0 dyni°n. Aeth i'r capel y nos Sabboth yr t n° arfer, heb ddweyd gair wrth neb am yn a deimlasai yn y prydnawn. Ond er ei syndod pan oedd y gwasanaeth tua'r hanner, dyma un o'r diaconiaid yn codi ac yn dweyd yn dawel y byddai i Thomas Phillips annerch y gynulleidfa. Er nad oedd wedi parotoi dim ystyriai fod yn rhaid ufuddhau i'r alwad. Pwy all esbonio y cyd-ddigwyddiad cydrhwng gwaith y bachgen yn darllen y prydnawn y ddarlith a gynhyrfodd ynddo awydd pregethu a gwaith y diacon ym mhen ychydig oriau wedyn yn ei alw i hynny? Mae yn ymyl ugain mlynedd er y Sabboth hwnnw, ond nid yw y cof am dano wedi gwywo dim ym meddwl Mr. Phillips. Yn y flwyddyn 1886 aeth i Goleg Llangollen, ac ym mhen dwy flynedd i Goleg y Brifysgol, Y Parch. THOMAS PHILLIPS, B.A. Bangor, lie yr arhosodd hyd 1891. Bu ei yrfa golegol yn ddisglaer ryfeddol. Graddiodd ym Mhrifysgol Llundain, gan gymeryd anrhydedd mewn Athroniaeth. Yn ystod y blynyddoedd hyn daeth i gyffyrddiad a dau ddyn fuont yn ysbrydoliaeth iddo, a theimla yn fwy dyledus iddynt nag y gall geiriau ddatgan-y Prifathro Gethin Davies, o Langollen, a'r Athro Henry Jones, o Fangor. Cynhyrfodd Henry Jones ynddo awydd anniffoddadwy am wybodaeth, a dysgodd ef i feddwl drosto ei hun. Er mai athraw mewn athroniaeth ydoedd, cytunai ei holl fyfyrwyr yn y cyfnod hwnnw mai duwin- yddiaeth ydoedd ei hoff-bwnc. Gosododd Gethin Davies ef ar y ffordd i fod yn efengylwr, ac o dan gyfarwyddyd y gwr anwyl hwnnw yr ymgymerodd gyntaf a gwaith cenhadol. Yr oedd Eglwys Genhadol berthynol i'r enwad mewn rhan o Rosllanerchrugog a breswylid yn benaf gan Saeson, a'r mwyafrif o honynt o ddosbarth isel iawn. Rhoddodd Prifathraw Llangollen ofal yr achos hwnnw ar Thomas Phillips, ac yno, ym mhlith gwehilion glofaol sir Ddinbych yr aeth ef drwy ei brentisiaeth ar gyfer y gwaith y mae yn awr wedi ymgymeryd ag ef yn Bloomsbury. Yn Kettering a Norwich. Ar derfyn ei dymhor athrofaol cafodd alwad o hen Eglwys enwog Kettering, yn swydd Northampton. Gan ei fcd yn argyhoeddedig y byddai yn debycach o wneyd gwell gwasan- aeth ym mhlith y Saeson nag ym mhlith y Cymry penderfynodd ei derbyn. Meddai yr Eglwys yn Kettering hanes. Yno y sefydlwyd Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr, ac y rhodd- odd Dr. William Carey gychwyniad i genhad- aethau diweddar. Yno y buasai Andrew Fuller, John Keen Hall, James Mursell, a John Brown Myers yn gweinidogaethu. Yr oedd yr achos wedi dirywio rhagor yr hyn a fuasai, ond wynebodd Mr. Phillips yr anhaws- derau yn wrol. Coronwyd ei ymdrechion a llwyddiant mawr. Llanwyd y capel mewn dwy flynedd o amser, ac ychwanegwyd cant a hanner at rifedi yr Eglwys. Sefydlodd gangen- eglwysi yn y dref ac yn y pentrefi oddiam- gylch. Cerddodd ei glod drwy Eglwysi ei enwad, a daeth enw Phillips o Kettering yn adnabyddus yn agos ac ym mhell. Y mae yn werth cofnodi iddo gael galwad o Bloomsbury yr adeg honno, ond ni welai y cwmwl yn symud tua Llundain ar y pryd. Yn nechreu 1900, er gofid mawr i Kettering, symudodd i Norwich i ofalu am Eglwys y Santes Fair. Bu yr un mor llwyddianus yno drachefn, Gorlenwid yr addoldy fore a hwyr. Cymerodd Neuadd Andreas Sant bob nos Sul, ac ar ol yr oedfa yn y capel cynhaliai wasanaeth yn honno i ddynion yn unig, a chai gynulleidfa o wyth i naw cant l'W wrandaw yn gyson. Mae yn wir bregethwr, ei agwedd yn ddeniadol, ei lais yn beraidd a hyglyw, ei feddwl yn ddiwylliedig, ei olygiadau yn efengylaidd, ei argyhoeddiadau o wirionedd yr efengyl yn ddyfnion, a'i awydd am lesoli ei gyd- ddynion yn Ilosgi fel tan. Pan y gwahoddwyd ef gan Undeb Bedydd- wyr Llundain i ymgymeryd a gofal y mudiad newydd yn Bloomsbury teimlodd ar unwaith fod yr alwad yn un na feiddiai ei throi heibio. Yr oedd yn argyhoeddedig er's talm fcd mudiad o'r fath yn angenrheidiol yn nghanol y ddinas. Fel y dywedodd yn y cyfarfod i'w roesawu, nid pryder na gobaith yw y teimlad uchaf yn ei galon, ond rhyw ymwybyddiaeth dawel o hyf- rydwch ei fod yn ymgymeryd a gwaith sydd