Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

PREGETHWYR Y SABBOTH INESAF.

Y DYFODOL

Gohebiaethau.

Advertising

---_.-----. BUSINESSES FOR…

GROCERS & OTHERS.

Pobl a Phethau yng Nghymru.

News
Cite
Share

Anrhyd. John L. Griffiths, y trafnoddwr sydd newydd ei bennodi i Lerpwl, er mai yn America y ganwyd ef. Un o sir Gaernarfon ydoedd ei fam, a'i dad yn fab i'r diweddar Mr. John Griffiths, Maesymeillion, yn Nyffryn Tywi. Mae y trafnoddwr yn gefnder i'r Parch. T. A. Penry, Aberystwyth. PRIN y buasai neb yn derbyn barn golygydd papur mor wrth-Gymreig a'r Western Mail ar unrhyw bwnc llenyddol Cymreig, ond cred efe ei fod yn awdurdod digoll ar ein hiaith a'i gramadeg. Ceisiodd yn ddiweddar ein cywiro trwy hawlio mai benywaidd yw'r gair neges," ond mae'n eglur nas gwyr ond ychydig am y gair na'r modd ei arferir. Cynghorem ef i geisio gan ryw Gymro droi i Eiriadur Dr. Owen Pugh, yr ail gyfrol o argraffiad 183 2-yr argraffiad safonol, gydag engreifftiau-ac os dywed ar ol hyn mai benywaidd yw'r gair yno bydd raid i ni ei droi heibio fel efrydydd an- obeithiol. Mewn cyfarfod cystadleuol a gynhaliwyd dro. yn ol fe gynygiwyd gwobr am y cyfieithiad difyfyr goreu o'r hen rigwm :— Da yw alarch ar y llyn, A da yw'r gog yn canu Da i mi yw gwybod hyn- Ei bod hi yn fy ngharu. Wele'r cyfieithiad goreu ":— Good is alarch swimming pool, And good is deryns canu Good for me is gwybod this- That she is in my caru MUDIAD llenyddol," ebe Mr. Lloyd-George Wrth olygydd y World's Work, yw y mudiad Cenedlaethol Cymreig wedi bod bob amser. Mae yn wahanol yn yr Iwerddon. Mudiad crefyddol a pholiticaidd yn fwy na llenyddol yw y mudiad cenedlaethol yno. Nid yw y mudiad crefyddol yng Nghymru ond cymharol ddiweddar-rhyw gant a hanner o flynyddoedd yn ol y cychwynodd, a rhyw ddeugain mlwydd oed yw ein mudiad politicaidd. Ond y mae hanes llenyddiaeth a chenedlaetholdeb Cymru yn mynd yn ol dros ddwy fil o flynyddoedd. Ac yr wyf yn meiddio dweyd mai yng Nghymraeg yr ysgrifena y beirdd mwyaf sydd yn fyw ym Mhrydain heddyw. Pe'r ysgrifenent yn Saesneg byddent yn fwy poblogaidd ym mhlith darllenwyr Seisnig nag unrhyw fardd Seisnig sy'n fyw. Ni raid i mi enwi ond dau un yw yr Athro John -Morris Jones, gwr y bu ei yrfa athrofaol yn ^eillduol o ddisglaer ac mae'r llall yn weinidog Ymneillduol yn Llundain, y Parch. Elfed Lewis." CAFWYD cynhadledd arall ar bwnc y Gym- Jae§ yn yr Ysgol y Sadwrn o'r blaen. Cyfar- tyddodd athrawon elfenol Mon ac Arfon yn ■Mnorthaethwy, a chawsant air ar y pwnc gan yr Athro J. Morris Jones ei hun, Mr. T. J. Williams, Bangor, a Mr. W. J. Gruffydd, Ysgol Sir Biw- maris. Fe wna'r cvnhadleddau hyn lawer o les, ond mae'n dod yn fwy i'r amlwg beunydd fod angen rhywbeth arall. Cyn y ceir gwir ddiwygiad yn y cyfeiriad hwn rhaid rhoddi hyfforddiant training Cymreig i'r athrawon sy'n bwriadu dtfyn eu galwedigaeth yn Nghymru. Mae gor- ged o lawer ohonynt yn methu gweled y rheswm gWyddonol dros arfer y (iymraeg. Nid ydynt yn rnedru gwahaniaethu rhwng dysgu Cymraeg ^.dysgu'r plant yn Gymraeg Pe bai bwriad y r\vygWyr yn hyn o beth i roddi 'pwnc" arall y niyrdd o bynciau sydd gan yr athrawon i'w cymeryd" eisoes, buasai'n cydymdeimlad a Wynt. Eithr nid gwneyd yn ofynol fod i bawb dysgu darllen, siarad, ac ysgrirenu Cymraeg Ydyw'r bwriad o gwbl—er fod hynny'n rhwym ? ddilyn fel pe heb yn wybod—ond sicrhau'r a^'l i blant y Cymry i gael eu dysgu yn yr iaith y yn ddeall oreu. Golyga hyn newid y dull draddodi addysg, wrth gwrs; ond yn sicr nid y wanegu baich at Iwyth yr athrawon fyddai adr}ny" ^6 ddylai'r rhai sydd wrth eu crefft yn fod mor effro i bobpeth newydd ag g y^'r nieddygon, dyweder, i bob darganfyddiad V newydd eill wneyd yn ofynol newid 1 o feddyginiaethu unrhyw afiechyd.