Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Pobl a Phethau yng Nghymru.
News
Cite
Share
Pobl a Phethau yng Nghymru. TREFNIR i gael Cymanfa Wleidyddol yn Llandrindod yn mis Gorphenaf. DYWEDIR fod yr eos i'w chlywed yn ardal Porthmadog y dyddiau hyn. MAE erthygl edmygol ar Mr. D. Lloyd- George yn y Pall Mall Magazine am Mehefin. BVDD yr Archdderwydd Hwfa Mon yn ngwyl cyhoeddi'r Eisteddfod yn Nghaernarfon ar yr 22ain o'r mis hwn. MAE'R drydedd Ysgol Haf Gymreig i gael ei chynal eleni yng Nghaerdydd. Mae'r prif athrawon yn yr iaith wedi addo eu gwasanaeth. YMADAWODD Mr. Arthur Clendon, prifathro Ysgol Sir Dolgellau, i fod yn brifathro Ysgol Ramadegol Handsworth. Tybed y ceir Cymro yn awr yn ei le ? MAE'R llong ryfel newydd, Carnarvon," wedi dal ei phrawf yn llwyddianus, ac fe gychwyna ei gyrfa yn y llynges Brydeinig yr wythnos hon. BYWYD yn y Berwyn ydyw testyn y nofel ddiweddaf ynglyn a Chymru. Ymdrech Owen Prydderch" yw'r teitl, a Sais, Mr. Walter M. Gallichan, yw'r awdwr. OFNIR y bydd gostwng yng nghyflogau rhai o chwarelwyr Ffestiniog yn fuan oherwydd fod y fasnach lechi mor wael. Gostyngwyd cyflogau chwarelwyr Rhiwfachno bump y cant. AR ol hepian am flynyddau lawer y mae pobl Caerdydd o'r diwedd yn ceisio adeiladu cartref priodol i leoli Coleg y Brifysgol. Y mae gwir angen am yr adeilad hefyd, a'r syndod yw fod tref gyfoethog fel hon wedi aros yn dawel cyhyd. NID yn ami y ceir cyfle i feirniadu'r Athro J. Morris Jones fel bardd, ond ar ol ei englynion diweddar i Meiriadog mae'r man feirniaid yn talu 'rhen chwech iddo ac yn ei gystwyo yn arw am arfer gormod o ansoddeiriau yn ei englynion. MAE teimladau chwerw yn ffynu yn Lerpwl ar ol ymweliad Mr. Evan Roberts, y Diwygiwr. Yr oedd ei gondemniad o "Eglwys Rydd y Cymry yn beth mor eithafol nes pery i bleid- wyr y Parch. W. O. Jones i fod yn fwy selog nag erioed o blaid y gwr erlidiedig hwnnw. TYSTIAI'R Prifathro John Rhys, mewn cyfar- fod o'r Bwrdd Canol Cymreig, fod bechgyn Ysgolion Sirol Cymru yn gwneyd gwaith campus yn Rhydychain. Y mae un,—Mr. T. W. Phillips, Machynlleth,—newydd enill un o brif wobrwyon y Brifathrofa mewn rhyddiaith. MAE eglwys Gymraeg, Dewi Sant, Lerpwl, newydd gael ei hadgyweirio, a'r Sul o'r blaen, bu Arglwydd Faer y dref ar ymweliad a'r lie yn ei rwysg swyddogol, a daeth torf fawr o bersonau ynghyd i roddi cefnogaeth i'r achos. Pregeth- wyd yn Saesneg am y tro gan Esgob Lerpwl. MAE Mr. Clem. Edwards-ymgeisydd Rhydd- frydol dros fwrdeisdrefi Dinbych-wedi myned i breswylio o fewn i'r etholaeth yn awr. Yn ol pob argoelion fe rydd frwydr galed i'r aelod presenol ar adeg yr etholiad nesaf, ac os llwydda fe wnaiff aelod campus at y rhestr wych o wyr y gyfraith sydd genym yn y Senedd. DENGYS adroddiadau diweddaraf llysoedd yr Ynadon fod y don ddiwygiadol yn dechreu cilio yn ol. Yn Ruabon yr wythnos ddiweddaf yr oedd amryw o bersonau wedi eu gwysio i ymddangos o flaen y fainc am feddwi a dirwywyd hwynt. 0 ardal y Rhos ar Cefn y daethent, ac yno y mae'r Diwygiad wedi bod gryfaf yn y Gogleddbarth. DYWEDIR, yn y Goleuad, mai un o hynodion Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn ddiweddar oedd clywed Robertson o Brighton yn pregethu yn Gymraeg yno. Nid dyma'r tro cyntaf i'r hen bregethwr patchus o Brighton fod yn pregethu yn y lie hwn. Dylai y pregethwyr yma gofio fod pobl pur gyffredin yn ddigon craff i adnabod Robertson o Brighton. MAE'R trefniadau gogyfer a ffurfio tref Merthyr yn Gorphoraeth bron a chael eu cwbl- hau. Bydd pobl yr hen dref yn ymfalchio bellach ar eu dyrchafiad, ond y drwg yw mai nid rhyw wag ymddangosiadau o'r fath ac a geir ynglyn a chorphoraeth sydd i buro bywyd cyffredin y lie. Elsieu rhagor o lendid sydd ar Merthyr ac nid rhagor o arddangosfa. CLYWAIS, ebe Nodwr" yn y Goleuad, am eglwys gyda'r Methodistiaid sydd yn rhifo pum' cant o aelodau, yn rhoi £32 y flwyddyn i'w bugail. Pan glywais, mi gredais mai Z320 ddylasai y swm fod ond-na, jQz2 yw r cyflog Mae cryn lawer o bobl yn y wlad sydd yn disgwyl cael myned i'r nefoedd yn rhad iawn. Ac yn awr a phryd arall, cewch eglwys heb ddim ond pobl felly ynddi. YNG nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Gymreig Capetown, dewiswyd Mr. R. O. Wynn Roberts, arolygydd y dref, yn is-lywydd. Bu Mr. Roberts yn arolygydd Caernarfon dro yn ol, ac fe ymbriododd a merch i'r diweddar Lewis Lewis, Cwellyn. Gwelwn fod Mr- Roberts wedi darlithio ar ei Daith o ugain mil o filldiroedd." Anerchwyd hefyd ar "Robert Owen," gan Mr. G. Cleaton Jones, mab y diweddar Barch. J. Eiddon Jones. YMDDENGYS fod galw arbenig am Gymry Americanaidd pan fo ar Lywodraeth y wlad honno eisieu trafnoddwyr. Cymro trwyadi sydd wedi ei anfon i Gaerdydd, a Chymro yw yr
Am Gymry Llundain.
News
Cite
Share
i Lundain i fod yn fargyfreithiwr, ac y mae wedi dod i safle a dylanwad yn y gyfraith, fel mai colled yn ddiau fydd ei fyned yn ol i Gymru. Ond mae cael gwasanaeth gwr fel efe wrth lywyddiaeth y Coleg yn sicr o ddwyn ffrwyth ar ei ganfed i'r bywyd Cymreig, oherwydd gwyr Mr. Davies yn well na'r mwyafrif beth yw angep Cymru, a pha fodd mae gwella ein to ieuainc trwy eu gyrfa golegol. YN Wilton Square caed cyfarfodydd hwyliog ynglyn a'r Diwygiad yr wythnos hon. Prif arweinydd y genhadaeth yno oedd Mr. Seth Joshua, gwr sydd yn dra enwog gyda'r mudiad ymosodol yng Nghymru. Er hynny mewn capel mor Gymreig a Wilton Square, siomedig oedd cael cymaint o Saesneg, a'r canlyniad oedd i'r cyfarfodydd ddioddef nid ychydig mewn dwysder a brwdfrydedd nodweddiadol o gyrddau'r Diwygiad yn y wlad. Caed amryw o ddychweledigion yn ystod yr wythnos. YR wythnos nesaf maes arbenig y cenhadon Cymreig fydd Capel Holloway, ac mae parotoadau helaeth wedi eu gwneyd yn Sussex Road tuag at sicrhau cysuron y rhai a ddeuant i'r lie. Yn ychwanegol at yr hysbysiadau arferol y mae pobl Holloway wedi dechreu ar waith cenhadol ymysg Cymry esgeulus yr ardal trwy fyned allan o dy i dy er dod o hyd i bawb nag sydd yn mynychu lleoedd o addoliad yn bresenol. Dyma ddechreu, bellach, ar waith gwir Ddiwygiadol ymysg Cymry, ac ofer fydd unrhyw siarad os na wneir rhywbeth yn ein heglwysi tuag at ddod o hyd i'r rhai sydd wedi mynd ar ddisperod yn y ddinas fawr hon. MAE rhai o'r eglwysi Cymreig wedi credu mai eu cenhadaeth yw myned allan i'r prif heolydd er dyddori y bobl a'u canu ac a'u hanerchiadau Seisnig, ond er cystal gwaith yw hynny nid ydym yn meddwl mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol i ni gyfiawnhau ein bodolaeth. Fel Cymry, at y Cymry y dylem apelio, a bydd ein gwaith yn y cyfeiriad hwnnw yn sicr o fod yn fwy llesol yn y pen draw Mae miloedd o'n cydgenedl yn y ddinas nas gwelir hwy o fewn i'r un lie o addoliad, a'r unig ffordd i'w cael yw trwy i ni edrych ar eu holau. A dyna mae pobl Holloway wedi ei gychwyn yn awr ynglyn a'u cenhadaeth amserol. Boed llwydd i'w llafur. Bu Mr. Hopkyn Rees yn rhoddi hanes ei lafur yn y maes cenhadol o flaen cynulliad o'i gydgenedl yn y Tabernacl, King's Cross, nos Fawrth diweddat, a hanes rhyfedd o doddedig ydoedd hefyd. Fel y gwyddis, y mae Mr. Rees ar ymweliad ar wlad hon am ychydig seibiant ar ol ei lafur, ac mae clywed o'i enau am y gwaith rhagorol a wneir trwy gynorthwy y Gymdeithas Genhadol yn anogaeth gref ar i bawb roddi ati o ddifrif er cynorthwyo dwylaw y rhai sydd yn gwneyd gwaith mor dda er gwar- eiddio ac achub eneidiau yn nhywyll leoedd y ddaear. Cadeirwyd gan y Parch. Elfed Lewis. CLAPHAM JUNCTION.—Wedi hir ddisgwyl, a disgwyl yn hyderus, cawsom y fraint o gael ym- weliad gan yr efengylesau o Ddeheudir Cymru yn yr eglwys uchod y Sul, Llun, Mawrth, a Mercher diweddaf. Yr oedd paratoadau enfawr wedi eu gwneuthur gan y swyddogion a'r cyfeillion ieuainc er mwyn cael cyfarfodydd llwyddianus. Appwyntiwyd ymwelwyr i fyned o gylch y gymydogaeth i chwilio allan am y Cymry sydd ar wasgar, ac fe fu eu hymweliadau yn llwyddianus tu hwnt i'w disgwyliad, oblegid daethant o hyd i nifer fawr o'u cydwladwyr, fel yr oedd yn amlwg boreu Sul, pan yr oedd y capel yn gysurus o lawn i'r oedfa gyntaf. Daeth y bobl ieuainc ynghyd am chwarter wedi deg i gynhal eu cyfarfod gweddi, a chawsom ernes yn hwnnw, o'r bendithion gafwyd yn ystod y dydd. Yr oedd y cyfarfod mewn llawn hwyl pan ddaeth yr efengylesau a'r efengylwr i fewn, ac yr oedd naws fendigedig ar yr oil. Cyfarfod gweddol ddistaw a syml oedd y cyfarfod hwn-pob un yn dweyd adnod, neu weddi, neu gan, un ar ol y Hall yn dawel a dibetrus. Yr oedd rhyw swyn hyfryd ar y cwbl, ac yn ddiddadl yr oedd ysbryd y peth byw" yn bresenol. Yr oedd y tair efengyles -sef Miss S. A. Jones (Nantymoel), Miss Maggie Davies (Maesteg). Miss Mary Davies (Gorseinon), a Mr. Philip Jones (Aberdare)-yn nerthol iawn. Yr oedd Miss Jones yn brydferth yn ei sylwadau ar ddylanwad cariad yr Iesu, a hyn oedd wedi ei wneyd iddi hi er dechreu y Diwygiad. Cafodd wrandawiad astud gan y gynulleidfa pan yn ei hanerch. Aethpwyd ym mlaen gyda'r cwrdd yn y modd mwyaf hwylus ag oedd yn bosibl. Yr oedd Mr. Philip Jones, hefyd, yn nerthol, ac yn wir o dan ei arweiniad yr oedd yr oil o'r cyfarfodydd. Yr oedd ei erfyniad am i'r oil o'r bobl ieuainc i blygu i alwadau eu Ceidwad yn daer iawn. Ym mhob un o'r cyfarfodydd yr oedd y capel yn orlawn. Rhwng y cwbl y mae y cyfarfodydd i gyd wedi bod yn llwyddianus tuhwnt i bob disgwyliad, a hyderwn y bydd eu hoi yn-aros ar yr eglwys am flynyddau i ddod.-L. SCHOLASTIC.-It is with pleasure we learn that Miss Winifred Matthias, the second daughter of Mr. and Mrs. Matthias, of Cross Street, Hatton Garden, has successfully passed the Advanced Board Examination of the Royal Academy of the Royal College of Music, having obtained higher marks than any previous pupil of the school, namely, the Welsh Girls' School, Ashford She has our sincere wishes that her career in the future will be as successful as in the past.