Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Y DEFFROAD CREFYDDOL.

News
Cite
Share

Y DEFFROAD CREFYDDOL. Shirland Road. Fel yn yr Hen Wlad y mae eglwysi Cymreig Llundain yn lied gyffredinol wedi cyfranogi yn weddol helaeth o'r ysbryd diwygiadol. Nid yw wedi dod yma eto yn ol disgwyliad, mwy nag yr oedd teyrnas nefoedd ym mysg yr Iuddewon. Yr ydym ninau yn Shirland Road wedi derbyn mesur lied helaeth o ddylanwad yr ymweliad. Nid yw fel rheol yn gyffrous, ond yn hytrach yn dawel a dwys. Yr oedd cyfarfodydd gweddiau wedi eu cynnal bron bob nos er dechreu y flwyddyn, ac yr oedd arwyddion amlwg o foddlonrwydd Pen yr Eglwys ar ein gwasanaeth. Tua diwedd mis Chwefror, aeth Mr. W. Price ac eraill i wrando ar Evan Roberts. Ar eu dychweliad taflwyd mwy o ynni a brwdfrydedd i'r gwaith. Ar Mai 16eg daeth y ddwy ferch ieuainc, Miss Davies a Miss Evans, o'r Ceinewydd, i fyny atom, gweinyddasant am wyth noson yn olynol. Yr oedd y gwasanaeth o dan urddas yn eu dwylaw. Daeth Mr. M. P. Morgan, Blaenanerch, atom am ychydig nosweithiau, a dilynwyd ef gan y Parch. T. Jones, Coedllai, gwr oedd yn meddu ar gymwysderau arbenig i arwain mewn cyfar- fodydd o'r fath. Boreu Sabboth teimlwyd rhyw ysbrydiaeth yn cerdded trwy'r gynulleidfa nas gellir ei ddarlunio mewn geiriau, ond nas anghofir gan bob un oedd yn bresenol. Dygwyd y gyfres gyfarfodydd i derfyniad yn Hammer- smith nos Fercher. Yr oedd presenoldeb yr Ysbryd yn amlwg yn llanw y lie. Yr oedd yr eneiniad oddiwrth y Sanctaidd' Hwnnw i'w deimlo yn amlwg a'i brofi. Ychwanegwyd llawer at rif yr eglwys o nifer y rhai gobeithiwn a fyddant byth yn gadwedig. Pe buasai eich gofod yn caniatau buaswn yn dweyd wrth y merched :—Yr ydych wedi ennill sefyllfa newydd yn yr eglwys yn gydmarol ddiweddar. Onid yw yn un o arwyddion cyflawniad addewid fawr y dyddiau diweddaf-" eich meibion a'ch merched a brophwydant." Daliwch afael yn eich rhagorfraint, a chymhwyswch eich hunain fwy fwy i gyflawni y gwaith. Eto ychydig mewn cydmariaeth o addysg gyflwynir yn y cyrddau gweddi; y mae hyn yn ein gosod o dan rwymau ychwanegol i weithgarwch dros yr Ysgol Sul, fel y byddom yn cael diwygiad nid yn unig gwresog ond goleuedig hefyd.- H.E.

BISHOP OWEN AND THE REVIVAL.

THE REVIVAL. IS IT REAL?

THE ROYAL NATIONAL EISTEDDFOD…

RHYL EISTEDDFOD.

Advertising