Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Byd y Gan.

News
Cite
Share

Byd y Gan. Gan IDRIS. CYFEIRIWYD genym yr wythnos o'r blaen, yn y nodiadau hyn, at Eisteddfod Gerddorol dair- sirol a gynhaliwyd gan y Saeson, a'r hon a barhaodd am dri niwrnod. Yn awr y mae genym y gorchwyl pleserus o hysbysu ein dar- llenwyr fod Saeson Deheubarth Llundain wedi penderfynu cynhal Eisteddfod fawr yn hollol ar linellau Gwyl Genedlaethol y Cymry. GWARCHOD pawb Beth sydd yn bod ? Pwy a wyr na ddaw yr Eisteddfod yn brif Sefydliad yn yr Ynysoedd Prydeinig Cynhelir un yn flynyddol gan y Gwyddelod a'r Llydawiaid, ac y mae'r Albanwyr yn ymddeffroi hefyd. Ond, i goroni'r oil, wele blant John Bull yn agor eu Ilygaid i ddefnyddioldeb ein hen Wyl, ac megis yn curo eu cleddyfau yn sychau. HYD yn hyn, fel y mae'n hysbys i bawb, pethau un diwrnod sydd wedi mynd a bryd ac amser y Sais; a mynych y clywir oddiar ein Ilwyfanau cyhoeddus mai rhedegfa y Derby ydyw ei brif wyl flynyddol ef ac mai'r Eisteddfod ydyw Jerusalem y Cymro. Tra y chwery un a phethau isel-wael yr hen fyd yma, ymhyfryda'r llall mewn llenyddiaeth dda, cerddoriaeth dda, celfau cain, a phethau goreu ei wlad. BETH sydd i gyfrif am yr adfywiad hwn yn hanes y Sais ffroen uchel ? Yn un 'peth credwn fod y diwylliant a gymer le ym mysg y cenedl- oedd Celtaidd yn dylanwadu arno o'r diwedd Y mae drych clir wedi cael ei osod o flaen ei Wyneb, ac y mae yntau druan yn gweld ei hun, ac wedi sylweddoli ei sefyllfa salw ymddeffroa a cheisia ddod o hyd i gyfrinach yr athrylith Gymreig. Ac ymddengys ei fod wedi dod i'r grediniaeth mai yn yr Eisteddfod y gorwedd cuddiad y gyfrinach. OND nis gwyr y Sais am goleg rhagbarotoawl y Cymry, sef cyfarfod llenyddol a cherddorol y pentref—lie yr heuir yr hadau a fedir yn yr Wyl Genedlaethol. Dyma lie y cychwynwyd ein prif gerddorion, ein prif feirdd a'n llenoriori. Y niae ein calon yn cynesu wrth feddwl am gwrdd bach y pentref a'r plant medrus. YN awr, ddarllenwyr, gan fod dylanwad ein Heisteddfod i'w weled megis yn puro broydd yr ochr hon i Glawdd Offa, dros y dwfr yn yr Ynys Werdd, a chyda'n brodyr yn Llydaw, &c., glynwn wrthi. Er mor hapus ydyw y canlyn- j ladau hyn i ni, nid rhyfyg ynom, feallai, fyddai datgan ein teimladau yn y fan yma ynglyn ag adran gerddorol yr Eisteddfod Genedlaethol. Credwn y gellid gwneuthur dirfawr les drwy roddi mwy o sylw i gyfansoddiadau. Cwynir gan rai fod cerddoriaeth Gymreig yn brin; ac t, er mwyn symud esgus o'r cwyno o gyrhaedd y dosbarth anwladgarol hyn, credwn pe cynygid gwobrwyon da am gydganau, canigau, a chan- son Cymreig trwyadl, y tynai hynny dalent y Cymry allan ac y cawsem ddigon o gerddoriaeth dda a nodweddiadol o'n cenedl yn ogystal a theilwng o safon yr oes a drigwn ynddi. Y MAE i bob cenedl ei nhodweddion a'i thueddiadau, ac fel rheol, portreadir y rhai hynny yn ei cherddoriaeth genedlaethol-y Cymry yn ^nwedig felly, i'n tyb ni. Daeth cor o Gaernarfon 'Lundain, flynyddoedd lawer yn ol, a chanasant darnau Cymreig i foddlonrwydd mawr y gynull- ^dfa. Cawsant gymeradwyaeth uchel anghy- redin, am eu bod yn feistriaid ar y gerddoriaeth a genid ganddynt ac am na chlywodd y Saeson erJoed o'r blaen y fath gerddoriaeth. Ond pan aeth y Cor i ganu Saesneg cafwyd hwy yn brin ac nid oedd y gymeradwyaeth ond gwan. WRXH ddweyd hyn, nid ydym am i neb eddwl ein bod yn cyfleu syniad y dylai ein ^Jdwladwyr gyfyngu eu hunain i gerddoriaeth ^ymreig. Na, culni anfaddeuol fuasai hynny. r ydym bob amser yn cymhell pawb i ymgyd- a yddu a cherddoriaeth aruchel a chlasurol y bydysawd yn annibynol ar wlad a chenedl. Ond nid ydym yn foddlon gwneyd hynny ar draul lladd elfenau cerddorol ein cenedl ein hun. DIGON tebyg i eiddo cor Caernarfon ydoedd tynged cor o Ffrancod ddaethant i'r Palas Grisial un tro. Enillasant glod mawr, ond nid trwy ddyfod i Lundain i ganu darnau ag yr oedd y Saeson yn eu clywed yn barhaus. Nage, ond trwy ddyfod, fel Ffrancod, i ganu darnau Ffrengig-darnau ag yr oeddynt yn eu deall, eu teimlo, a'u caru-darnau nad allai neb eu canu gystal a hwy eu hunain. Yn wir, pan aethant i ganu God Save the Queen yn Saesneg, aeth yn fethiant hollol arnynt. YN fynych y mae cerddoriaeth genedlaethol yn wreiddyn neu safon a gwrthrych awen fardd- onol. Daw yn gronfa i'r oil sydd fuddiol ac adeiladol i'r teimladau dynol neu anwyl gan y genedl; a thrwy yr adgofion difrif, cynwysa yn unedig gyda un gallu naturiol i gynnyrchu cy- ffroad, ennilla ddylanwad cyfareddus ar y galon, yr hyn nad oes gan un gelfyddyd arall hawl na gallu iddo. Ymddengys fod cariad at wlad yn gydgronfa o ganiadau cymdeithasol a theulu- aidd, ac yn cynwys y teimladau hynny ar ba rai yr effeithir f wyaf gan gerddoriaeth genedlaethol. YCHYDIG nodau, pa mor syml bynag eu cenir y ig nghlywedigaeth dynion wedi ymadael a'r wlad lle'u magwyd, ym mhellderoedd y ddaear, a ddwg ar gof iddynt gyda nerth a chyflymder y fellten, ddelweddau a theimladau melusion yr hen wlad a'r gymydogaeth, yn enwedig yr hen dy lle'u magwyd —lle'u suwyd i gwsg tawel ac esmwyth gan felodau peroriaethus eu mamau gwnai hynny yn fwy effeithiol na'r desgrifiad cywreiniaf a'r darluniau tebycaf o'r He. Ac adsefydlai y meddwl ar unwaith ar y golygfeydd hynny a unwaith fwynheid, a chyda adgofion grymus o'r melodau a genid ynghanol y gwrthrychau amgylchynol, a'r cynghaneddiad swynol a gafaelgar, adseinid o'r creigiau a'r clogwyni j'w melusgerddi. Mae cerddoriaeth genedlaethol yn fendith amhrisiadwy i'r wlad a'r byd--hi a esmwytha lafur ac a ysgafnha drist- wch; oddicartref, fel y sylwyd, adgoffa i ni y cariadau a adawsom, a'r gobaith sydd o'n blaen. CYNHALIWYD Cymanfa'r Plant yng Nghapel Jewin nos Iau yr wythnos ddiweddaf, pryd y caed noson lawen ac adeiladol. Credwn mai hwn ydyw y sefydliad blynyddol mwyaf ben- dithiol a fedd Cymry Llundain. Yn ygwanwyn, wrth gwrs, y bu'r plant yn llafurio, a'r noson dan sylw ydoedd eu Hydref-a mawr ydoedd llawenydd y medelwyr wrth weled cynhauaf toreithiog. Fel yr heuir, felly hefyd y medir. Yr oedd yn amlwg fod rhieni y plant wedi bod wrthi yn ddiwyd yn eu parotoi, ac yn sicr y mae achos i'r mamau a'r tadau fod yn falch o blant mor anwyl a galluog a'r rhai oeddynt yn ymgystadlu yn y Gymanfa. YN yr adran gerddorol dangoswyd cynydd mawr. Yr oedd safon unawdau y rhai bach yn wir uchel, ac yn rhoddi boddlonrwydd nid bychan i'r beirniad parchus, Mr. Madoc Davies (ac anhawdd fuasai cael un gwell nag efe i glorianu'r plant). Ynglyn a chystadleuaeth y corau yr oedd y brwdfrydedd penaf, ac yr oedd yn astudiaeth i wylio gwynebau y plant pan ar y llwyfan, a'u harweinydd o'u blaen. Yr oedd penderfynolrwydd yn nodwedd gref iawn ynddynt, hawddgarwch a diniweidrwydd hefyd oeddynt nodweddion amlwg. Caed datganiadau hapus iawn gan y ddau gor, sef Jewin a Falmo.uth Road, ond yr olaf, dan arweiniad Mr. Morgans, aeth a'r wobr. Hir y parhao Cymanfa Plant y Methodistiaid yn ein plith. CEIR adroddiad llawn o'r Gymanfa yn ein rhifyn nesaf. Y mae'n ofidus genym orfod cof- nodi marwolaeth Mrs. Jenkins, mam un o ysgrifenyddion y Gymanfa. Yr oedd yr ym- adawedig yn barchus iawn ym mhlith ei holl gydnabod, ac y mae ei phlant yn barchus a defnyddiol iawn yn Eglwys Jewin. Llawer gwaith y gwelsom hwy yn canu ac yn adrodd ar y llwyfan cystadleuol. Nodded y nef fyddo ar y teulu yn awr eu galar. CYNGHERDD rhagorol ydoedd yr un roddwyd gan Gor Cymry Llundain nos Lun yn Neuadd y Frenhines. Yr oedd y prif unawdwyr yno ac yn canu yn deilwng o honynt eu hunain. Y maent mor adnabyddus i bawb fel nad oes angen amgen na'u henwau :—Miss Maggie Davies, Miss Muriel Foster, Mr, William Green, Mr. Ffrangcon Davies, a Herr Hans Wessely, y crythor. Miss Sallie Jenkins a Mr. Merlin Morgan oeddynt yn cyfeilio, a Mr. F. B. Kiddle wrth yr organ. AM y corau, nis gellir ond eu canmol yn fawr. Yr oedd y cor meibion yn canu'n dda a phan gymerir i ystyriaeth nad oedd y cor cymysg wedi cael ond ychydig o ymarfer gyda'u gilydd rhaid dweyd iddynt ganu yn rhagorol. Yr oedd eu dadganiad o Hail, Bright Abode" yn un gwych. Llongyfarchwn Mr. Morgan ar lwydd- iant y corau, a'r cyngherdd yn yr ystyr gerddorol z;1 beth bynag. YR oedd adran o'r cor meibion yng ngardd- wyl Mr. E. R. Cleaton, y dydd o'r blaen, a chanwyd ganddynt hen donau Cymreig, dan arweiniad Mr. Morgan, gyda chryn hwyl, a chaed unawdau gan Mri. Maldwyn Evans, Tim Evans, Ted Jenkins a B. D. Morgan. Gofynodd Mrs. Cleaton i un o fechgyn y parti beth ydoedd y Cymraeg am Thank you very much," a n doniol oedd ei chlywed, yn dweyd Diolch yn fawr i chwi ar y diwedd. CAED cyngherdd dyddorol gan Gymdeithas Handel yn Neuadd y Frenhines nos Fawrth diweddaf. Ffurfiwyd y Gymdeithas hon yn yr Hydref, 1882, i'r pwrpas o ymarfer cerddor- iaeth glasurol, lleisiol ac offerynol. Cychwynwyd y rehearsals yn 4, Carlton Gardens, preswylfa Mr. Balfour y pryd hynny. Y mae'r Prif- weinidog wedi parhau yn aelod ar hyd y blyn- yddau, ac yn cymeryd cymaint o ddyddordeb yn y Gymdeithas heddyw ag erioed. Ail-ar- graphwyd gan Mr. Balfour, yn ddiweddar, erthygl ddyddorol a ysgrifenwyd ganddo yn y flwyddyn 1887 ar y cerddor Handel. Y mae Mr. Herbert Gladstone yn aelod o'r Gymdeithas hefyd. Bu farw Madame Florence Lancia yr wythnos ddiweddaf. Bu y gantores hon yn enwog iawn yn y byd cerddorol. Cyrhaeddodd uchaf- bwynt ei bywyd yn y flwyddyn 1864, pan ber- fformiwyd Faust (Gounod) am y tro cyntaf yn Saesneg. Yr oedd Sims Reeves a Santley hefyd ym mysg y perfformwyr. GWELWN y dechreuir tymhor Cyngherddau y Promenade, yn y Queen'n Hall, ar y Igeg o Awst. Ymddengys y bydd cryn nifer o'n cyd- wladwyr yn canu yn y cyngherddau hyn eleni. Y GWYN gyffredin, ar hyn o bryd, ym mysg y cerddorion proffeswrol yw, fod cerddorion amhroffeswrol yn ffrydio maes eu galwedigaeth. CAWN son am Gymanfa Ganu y Wesleyaid yn City Road yn ein nodiadau yr wythnos nesaf.

Advertising