Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Pobl a Phethau yng Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yng Nghymru. MAE Caerdydd ac Aberystwyth yn disgwyl am ddedfryd gwyr Llundain ar eu ceisiadau am y Greirfa a'r Llyfrgell. HYSBYSIR fod Mr. Lloyd-George i dalu ym- weliad a Chaerfyrddin yn ystod y mis nesaf er rhoddi hawliau Mr. Llewelyn Williams yn eglur o flaen yr etholaeth yno. Bu Mr. Sam Evans a'i briod ar ymweliad ag Aberystwyth am rai dyddiau yn ddiweddar, ac 'roeddent yn canmol iachusrwydd y dref yn fawr. UN o hawliau Caernarfon dros gael y Greirfa ydoedd fod mwy o bapurau Cymraeg yn cael eu hargraffu ynddi nag yn y Deheudir i gyd MAE'R gweinidogion fuont yn amheu galluoedd Evan Roberts, y Diwygiwr, ar y dechreu, yn .addef yn awr eu bod wedi camgymeryd, ac mae rhai o hcnynt-a gawsant eu ceryddu gan eu •cynulleidfaoedd—mor eithafol yn eu canmoliaeth 0 hono yn awr ag oeddynt yn eu condemniad ar y cychwyn. AR 01 i Mr. Evan Roberts, y Diwygiwr, dalu ymweliad a Beddgelert un diwrnod yr wythnos ,ddiweddaf, ysgrifenodd y llinellau canlynol o'i ;gyfansoddiad ei hun yn llyfr yr ymwelwyr yn Ngwestty Prince Llewellyn — Diwygiad Mawr Beddgelert, 0 ogoneddus frawddeg Dal dy enw, paid a marw, Er mor arw mwy; • Gloywa'th gledd-yn y Bedd, Bydd hedd, nid clwy'. ( EVAN ROBERTS, Casllwchwr. YR wythnos hon penodir Cofrestrydd newydd i Goleg Aberystwyth, yn olynol i'r diweddar T. Mortimer Green. Y mae pwyllgor y penodiad wedi dewis chwech o enwau i fyned o flaen y pwyllgor, sef Mr. Frank Davies, Man- chester; Mr. J. H. Davies, M.A., Llundain; Mr. W. J. Evans, Llundain; Mr. Winston Pack, Leek; a'r Parch. J. Owen Thomas, M.A., Menai Bridge. MAE'R ysgol haf Gymreig i'w chynal eleni yn Nghaerdydd, ac mae'r Cymry gwybodus a ganlyn wedi addaw bod yn bresenol ac i ddar- lithio i'r efrydwyr :—Proneswr Powell, Caer- dydd Proffeswr Anwyl, Aberystwyth Proffeswr J. E. Lloyd, Bangor; Proffeswr J. Morris Jones, Bangor; Mr. O. M. Edwards, Rhyd- ychen, ac amryw eraill. MYN y Western Mail fod Cymraeg y papyr hwn yn anghywir, a beia ni am ddweyd neges da," ac nid "neges dda." Benywaidd yw "neges," yn ol gramadeg y Mail, ond mae'n amlwg mai Cymraeg Caerdydd yw ei safon, ac nid Cymraeg ein llenorion goreu. Mae troi "neges" yn fenywaidd yn ddigon i beri i esgyrn yr hen Ddr. Owen Pugh anesmwytho yn y llwch, ond beth mae'r Mail yn hidio (am lenorion safonol y Cymry ?

[No title]

Advertising

MARWOLAETH Y PARCH. JOSIAH…

---.-..---JOINT COUNTIES'…

Pobl a Phethau yng Nghymru.