Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

SEFYDLIAD Y PARCH. J. DAVIES…

News
Cite
Share

SEFYDLIAD Y PARCH. J. DAVIES (gynt Shirland Road) YN AMERICA. Diau y bydd yn dda gan ein darllenwyr Llundeinig ddarllen hanes sefydliad y gwruchod fel gweinidog eglwys y M.C. yn Racine, Wis., yr hwn a gynhaliwyd nos Lun, Ebrill 24ain. Fel hyn yr ysgrifena gohebydd yr hanes yn y Drych Tua diwedd y flwyddyn 'ddiweddaf, daeth y Parch. John Davies i wasanaethu yr eglwys am dymor, a gwnaeth ei weinidogaeth alluog a difrifol argraff mor ffafriol fel y penderfynwyd estyn gal wad iddo. Yr oedd yn un o'r rhai mwyaf unfrydol a chynes y mae yn bosibl i unrhyw weinidog ei derbyn. Atebodd Mr. Navies Yr Alwad yn Gadarnhaol, ac y mae wedi dechreu ar ei dymor gweinidog- aethol ers amryw Sabbothau, a hyny dan yr amgylchiadau mwyaf calonogol a gobeithiol. Daeth cynulleidfa luosog ynghyd i'r cyfarfod croesawol. Llywyddwyd gan Thomas D. Howell. Traethwyd ar ran y ddiaconiaeth yn gryno ac i'r pwynt gan James R. Morris. Galwyd ar Thomas Lloyd Williams i siarad ar ran yr eglwys, ac nid oedd modd cael ei gymwysach. Cofiai yn dda yr oil o'r gweinidogion fuont yn aros yma; ac yr oedd ei nodiadau ar bob un o honynt yn glir a chymedrol. Siaradwyd ar ran yr ysgol Sabbothol gan John H. Lewis, yr hwn ddatganai fod Mr. Davies eisoes wedi llwyddo i gryfhau v sefydliad hwnw mewn rhif ac effeith- lolrwydd. Cyflwynodd Miss Jennie Rowlands anerchiad i Mr. Davies dros y gymdeithas Ym- drechol; a Mrs. Thomas D. Howell ar ran y Juniors ac adlewyrchai yr anerchiadau glod nid bychan i'r ddwy foneddiges am y gallu a'u nodweddid. Galwodd y llywydd ar y Parch. J. C. Jones, Chicago, i ddarllen penderfyniadau a basiwyd yn Undeb y Oweinidogion Cymreig yn Llundain, o'r hwn yr oedd Mr. Davies yn aelod gweithgar. Y mae enwau y gweinidogion a ffurfient yr undeb -tua deunaw mewn nifer—yn yr ohebiaeth; ac y mae wedi ei harwyddo yn swyddogol gan y Parchn. F. Knoyle, B.A., cadeirydd; John E. Davies, M.A., trysorydd; D. C. Jones, ysgrif- enydd. Mynega yn y modd mwyaf cymeradwyol am Mr. Davies, fel y dengys y dyfyniad a ganlyn Bu Mr. Davies yn aelod gwerthfawr o'r Dndeb hwn oddiar ei dderbyniad, Hydref iofed, *896, hyd heddyw (Ebrill ueg, 1905). Dar- ^enodd i ni o bryd i bryd bapyrau galluog ar rai o'r llyfrau mwyaf chwyldroadol a gyhoeddwyd yn y cyfnod; a chawsom ef yn un o'n haelodau galluocaf a ffyddlonaf a pharchusaf. Profodd el hunan yn ein mysg yn ddyn o gymeriad difrycheulyd, unplyg a gonest. Nodweddid ef §an ddifrifwch a dwysder gweddus i'w swydd a'i Walth. Cawsom ef yn Gyfaill Ffyddlon a Phur; a meddai wroldeb moesol i draethu yn ddiofn argyhoeddiadau ei feddwl a'i ysbryd. Gwnaeth es dirfawr drwy ei bregethau coeth, galluog, a'i a^eithiau dirwestol miniog, i'w gydgenedl yng i^ghymru a threfi mawrion Lloegr. Mae ei tynediad i'r America yn golled ddirfawr i'r P^lpud Cymreig yn y wlad hon. Eiddunwn .^0 bob cysur, nerth, ac arweiniad dwyfol yn el waith, a'i gylch newydd.' "Yr oedd y Parchn. J. E. Jones, Milwaukee, V' C. Jones, Chicago, yn wahoddedig i gymeryd r an arbenig yn amcan y cyfarfod. Traethodd y cyntaf ar 'Berthynas yr Eglwys a'i Gweinidog,' diweddaf ar 'Berthynas y Gweinidog a'i glwys,' ac yr oedd y ddwy araeth yn dra cnymwysiadol o ran y materion, ac yn hyawdl a gwresog o ran y traddodiad. Cafwyd anerch- ladau croesawol gan y Parchn. Dr. Colville, o'r Bresbyteraidd; D. Ellis Evans, o'r eglwys ynullcidfaol j a Dr. McKillop ar ran Undeb J Gweinidogion, o'r hwn y mae Mr. Davies yn elod. Gyda Haw, yr oedd Mr. Davies wedi arllen papyr hyawdl a gwresog bore y diwrnod Wnw yn nghyfarfod undebol y gweinidogion ar y Diwygiad yng Nghymru, nes codi y teimladau yn bur uchel. "Galwyd ar y gwr parchedig i gydnabod yr areithiau llongyfarchiadol a wnaed, a gwnaeth hyny yn fyr a gweddus. Diolchodd i'w frodyr yn y weinidogaeth am eu presenoldeb, ac am eu dymuniadau da iddo ef ac i'r eglwys. Datganodd mai ei awyddfryd a'i ymdrech penaf a fyddai cael yr eglwys a'r gynulleidfa i sylweddoli eu perthynas ysbrydol a Iesu Grist. Dymunai gael ei ryddhau hyd yr oedd yn bosibl oddiwrth ymyryd a materion allanol ac amgylchiadol yr achos, ac ymdreulio yn gwbl a'r rhanau mwyaf ysbrydol a hanfodol. Un o'r gorchwylion mwyaf dyddorol a syl- weddol yn y cyfarfod oedd Cyflwyniad Anrheg i Mr. Davies. Cymerodd chwiorydd yr eglwys y mater mewn Ilaw, a chwblhawyd yr amcan yn anrhydeddus mewn modd dystaw, ac ychydig o amser. Gal- wodd y Llywydd ar Mrs. John H. Lewis i ddyfod yn mlaen i gyflwyno i Mr. Davies bwrs hardd yn cynwys 123.75 doleri, yr hyn a wnaeth gydag anerchiad nodedig o ddestlus a phwrpasol. Daeth Maldwyn Jones hefyd yn mlaen, ac ar ran Cymdeithas Ymdrechol y Plant, cyflwynodd swm sylweddol i'w bugail gofalus. Diolchodd Mr. Davies am yr anrhegion, a hyderai y cai y gynulleidfa deimlo oddiwrthynt mewn budd ac adeiladaeth yn y dyfodol. Yr oedd y canu dan arweiniad John H. Jones, a datganodd y cor yn dra medrus amryw anthemau a thonau. Cafwyd can gan gor y plant, dan arweiniad Miss Winnie Davies, yn hynod foddhaol. Ac nid y lleiaf o ran swyn ac effeithiolrwydd oedd yr unawd gafwyd gan Mrs. W. C. Davies. Yr oedd yn naturiol a melodaidd. Yr oedd y trefniadau yn gyflawn, a chariwyd hwy allan yn gymeradwy. Ac er i'r cyfarfod barhau am dair awr, nid oedd arwydd fod neb wedi blino, yn hytrach yn mwynhau yr oil yn fawr. Fel yr awgrymwyd, dechreua y brawd parch- edig ei lafur yma gyda y Rhagolygon Mwyaf Calonogol. Y mae yr eglwys mewn sefyllfa gref, gefnog, unol, a ffyddlon. Bu y cyfarfodydd gweddi a gynaliwyd trwy y misoedd diweddaf, er dechreu y flwyddyn, yn foddion i gynyrchu llawer o wres ac adnewyddiad ysbrydol yn yr aelodau yn gy- ffredinol. Ymdafla Mr. Davies i wahanol ranau y gwaith a'i holl egni a'i yni; ac y mae ei bre- gethau meistrolgar, yn nghyd a difrifwch ac angerddoldeb ei deimlad, yn cario dylanwad grymus ar bawb. Chwanegwyd tua thri-ar-ddcg at yr eglwys er y pryd y dechreuodd ar ei lafur. Parhaed felly am dymor hir."

THE PROPOSED PLEBISCITE IN…

Advertising