Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Byd y Gan.

News
Cite
Share

Byd y Gan. Qan IDRIS. I GARWYR y gan, heb os nac onibai, canol- bwynt y dyddordeb cerddorol yn ystod yr wythnos nesaf fydd y cyngherdd inawreddog a :gynhelir yn Neuadd y Frenhines gan Gor Cymry Llundain, nos Lun, a bydd hwn yn gyngherdd iw hir gofio. Bydd y ddau gor yno'n gryno, sef y parti meibion addawol ynghyda'r cor cymysg—yn rhifo, fe'n hysbysir, dros gant a hanner o leisiau tra chyfoethog. CYNORTHWYIR y corau gan yr enwogion 'cerddorol canlynol Miss Maggie Davies, Miss Muriel Foster, Mr. William Green, Mr. D. Ffrangcon Davies, a Herr Hans Wessely, y Crythor. Yr oedd yn dda genym weled ar- Weinydd y corau, Mr. Merlin Morgan, yn y cwrdd canu y noson o'r blaen, ar ol yr anhwyldeb y bu yn dioddef dano yn ddiweddar. Y mae'r selni Wedi gadael gryn dipyn o'i 61 ar bryd a gwedd y cprddor, a diau y cymer rai wythnosau cyn y pilia'r olion ac yr adennilla Mr. Morgan ei lechyd arferol. Ond hyderwn y caiff ddigon o lierth i gario ei gyngherdd drwodd yn llwydd- ianus nos Lun, ac yna cymered orphwys. Y MAE cyngherddau Cymreig hynod wedi eu cynhal yn Llundain o bryd i bryd, ac nid y Uelaf ei bwysigrwydd, yn ol yr hanes, ydoedd hwnnw a gynhaliwyd ar y 4ydd o Orphenaf, 1862, yn Neuadd Sant Iago, drwy offerynoliaeth J cerddor a'r telynor gwych, Mr. John Thomas '(Pencerdd Gwalia). Yr oedd gan y telynor gor yn rhifo pedwar cant o leisiau, a seindorf o ugain o delynoresau teg yn eu gynnau gwynion yn canu'r telynau aurliwiedig. Pan ganodd y 'Cor mawr hwnnw, dan arweiniad yr enwog Benedict, "Rhyfelgyrch Gwyr Harlech," ym- dorodd yr holl dorf allan mewn bloedd o :§ymeradwyaeth, ac ymddangosai y Saeson oedd- ynt yn bresenol fel pe wedi eu trawsffurfio yn Gymry glan gloyw. ER fod y darnau sydd wedi eu dethol i'w canu yn Neuadd y Frenhines nos Lun nesaf yn emau cerddorol oil, ac y mae'r corau yn canu Jo fendigedig, credwn y buasai dadganiad o Ryfelgyrch Gwyr Harlech yn iechyd i galon pob enaid Cymreig, ac yn ysbrydiaeth i'r Saeson, a chyda llaw, yn foddion, feallai, i roddi hergwd nil yr hen Ddic Shon Dafydd. Mewn gwir- jonedd, cyngherdd Cymreig a fuasem ni yn n°ni i hwn fod, gan ei wneyd yn sefydliad ;1ynyddol drwy ba un y gallesid dwyn i sylw a awon a cherddoriaeth Gymreig. Ond feallai y ceir hyn yn y man; a chofied pawb y bydd Wn yn gyngherdd o radd uchel. WRTH son am gerddoriaeth Gymreig arweinir '?! 1 feddwl am araeth a draddodwyd un tro gan ^aihaiarn yng Ngwledd y Cambrian Society. J1*1?' ddywedai y bardd :—" Mewn perthynas nwsig y Cymry, y mae yn ddiddadl fod genym wsig o'r iawn ryw yn yr hen donau cenedl- aethol; a dylem fod yn falch o honynt. Y mae P°b teimlad yn cael ei bersonoli yn yr hen awon—y prudd, y lion, y dwvs, a'r afiaethus. e*vn gair, y mae y peth byw hwnnw ynddynt ■a k anfarw°li barddoniaeth a miwsig, ac ni ghofir mohonynt tra y bydd y byd mewn bod. ho Sanu deg ar hugain neu ddeugain o stoP^° j ond gan y cymerai hynny fgj^y a^r neu dair 0 amser, gwell peidio (lech- yd Er nad wyf yn scientific musician, yr wyf iawn o fiwsig, ac yn gwybod cryn blwc yrnJ~°nau cenedlaethol yr Italiaid, y Ffrancod, Ellmyn, yr Albanwyr, y Saeson a'r Gwyddelod ac yn bendifaddeu am yr hen alawon Cym- dywedaf, gyda hyder, nad oes un genedl ^.n haul yn perchen alawon yn cynwys mwy o enaid y g|n na'r hen alawon Cymreig." llawYNA ysbryd Cymreig onide! Diau fod ° G^mrv °'r un farn a'r bardd enwog. Y ein halawon cenedlaethol wedi derbyn teyrnged warogaethol gan y rhan fwyaf o'r prif gyfansoddwyr. Gwelir hwy fel perlau disglaer yng ngweithiau Handel, a gwnaeth Haydn a Beethoven gasgliad a threfniad o honynt; nid ihyfedd eu bod yn cael eu hanwylo gan y galon Gymreig. Pan gynhaliwyd cyngherdd o honynt yn Llundain flynyddoedd yn ol, yr oedd y Saeson wedi penfeddwi wrth eu gwrandaw; ac yn nesaf at gylchwyl fawr Handel yn y Palas Grisial, y flwyddyn honno, y cyngherdd Cymreig ydoedd y mwyaf llwyddianus a gogoneddus. Cwynid ar y pryd am nad oedd y cor yn Gymry, Ond beth yn amgen a allesid ddisgwyl-pa gor Cymreig a syrthiodd mewn digon o gariad at ein halawon i gynhal cyngherdd o honynt ? Cyrchu dwfr dros afon yw y pechod parod i amgylchu y Cymry. YR ydym yn ddyledus fel cenedl i'r cerddorion enwog Edward Jones, bardd y Brenin, ac un o delynorion penaf ei oes; Parry, o Riwabon; John Parry, Bardd Alaw; Owain Alaw a Dr. Joseph Parry, a llu eraill o gerddorion gwych sydd wedi mynd tuhwnt i'r lien, ac i'r rhai sydd gyda ni yn awr ym mysg pa rai y gellir enwi John Thomas (Pencerdd Gwalia), Emlyn Evans a David Jenkins, ac eraill, am gadwraeth ein hen alawon. Ond credwn mai y Pencerdd wnaeth y gwaith mwyaf o honynt oil ynglyn a'r alawon Cymreig. Aeth gyda'i delyn i'r Cyfandir, a thrwy swyn ei thannau hi yn unig, heb lyth- yrau cymeradwyaeth, aeth at y mawrion. Efe a ennillodd ei ffordd i balasau'r pendefigion, ac hyd oed i eiddo'r penau coronog. Ymwelodd a Leipzic, Hanover, Vienna, Moscow a St. Petersburgh a chafodd gyfleustra i chwareu ei alawon cenedlaethol ym mhresenoldeb rhai na chlywsant erioed hyd hynny y delyn yn cael ei chwareu gan ddwylaw Cymro genedigol diled- ryw. Hefyd, cyhoeddwyd ganddo rai cyfrolau hardd o'n hen alawon. Y PRIF bwnc, neu o'r hyn leiaf y peth sy'n denu sylw y gohebwyr cerddorol ar hyn o bryd yw y nifer o blant sy'n ymddangos ar y llwyfan cerddorol-yn grythwyr, yn berdonegwyr a chantorion, &c., ac y mae un bachgen, sef Florizel von Reuter, yr hwn nad yw ond megis plentyn o ran oedran, wedi dangos cymhwys- derau cryfion at gyfansoddiadau. Nid ydyw yr elfen bresenol o'r synwyr cerddorol yn beth anghyffredin. Yn wir, gellir dyweyd am yr oil o'r cewri, iddynt fod yn prodigies," a defnyddio gair y gohebwyr. Bu i Gymru ei "phrodigies" yn y ddau fachgen hynny a enillasant wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn erbyn cerddor- ion yr oes honno-un am chwareu ar y delyn a'r llall am drefniant o hen alaw. Pwy oedd y ddau fachgen, medd rhywun ? Neb llai, na'r diweddar Brinley Richards, a'r presenol Delynor Brenhinol, Pencerdd Gwalia. HEFYD, hynod eu hanes, gwyddis, ydoedd y prodigies hynny a ddaethant i'r amlwg drwy y bardd, y lienor, a'r cerddor enwog Llew Llwyfo-yn enwedig yr eneth fach honno o ardal Dreffynnon a fu gydag ef ar hyd a lied Cymru yn swyno pawb a'i pheraidd lais, a'r hon ym mhen blynyddau wedyn a ddaeth i Lundain gan ryfeddu yr holl gritics, sef Madame Edith Wynne. Ac y mae'n ddyddorol darllen barn gohebydd y Times am dani yn canu yr hen alaw Bugeilio'r Gwenith Gwyn," yn y Palas Grisial, un tro (hyd yr adeg honno, wrth gwrs, yr oedd y Gymraeg yn cael ei hystyried yn rhy glogyrnaidd i ganu arni gan y gohebydd hwn). Ond wedi iddo glywed Eos Cymru yn canu yr hen alaw Gymreig hon, cafodd ei swyno gymaint fel y dywedai fod y Gymraeg yn swynol ac yn seinio yn debyg i'r Eidalaeg. Y mae gan yr Hen Wlad ei phrodigies heddyw hefyd. YR ydym bob amser yn barod iawn i ddyfynu o'r Daily News farn Mr. E. A. Baughan ar wahanol faterion, a dyma fel yr ymresyma ef ar gwestiwn y "prodigy":—"It is of some value in estimating the peculiarity of this early musical development to remember that in hardly any other walk of life are there prodigies. Even in music itself creative talent is very seldom shown at an abnormally early age. Mendelssohn was more or less of a prodigy composer, but then he was comparatively a young man, Mozart, it is true, began writing while still a mere boy. And in modern day young Florizel von Reuter has shown considerable aptitude for composi- tions. These are exceptions. But there are no cases on record, I believe, of a poet writing finished work at the age of 10 or 12, of a boy philosopher or scientist." GEIRIO yn aneglur wrth ganu ydyw'r elfen gryfaf tuagat ddinystr cantor neu gantores. Y dydd o'r blaen cawsom y fraint o wrando ar denor yn canu, ond yn ein byw nis gallern ddal yr un gair a genid ganddo. Gresyn hynny hefyd, gan fod y cantor hwn yn feddianol ar lais gogoneddus, ac yn Gymro hefyd. Proffwydodd rhai cerddorion ychydig flynyddau yn ol y buasai y Cymro hwn ar y blaen i Ben Davies erbyn hyn, a hynny ar gyfrif ei lais cyfoethog. Ond fel arall y mae, y mae'r geirio gwael yn difuddio'r llais da, ac y mae'r cantor mor bell ar ol Ben Davies ag erioed. AGORWYD chwareudy newydd nos Lun, sef y Waldorf, gydag opera, ac yr oedd yn dda genym weled i'r anturiaeth gael cefnogaeth deilwng. Y mae Ilawer cais wedi ei wneyd o bryd i bryd i redeg opera yn Llundain, and nis gellir dweyd i'r un fod yn llwyddianus. Dywed rhai mai anturiaeth Moody Manners yn Drury Lane ydoedd yr oreu a wnaed er llesoli y cy- hoedd. Ond, wrth gwrs, y mae'r anturiaeth yn y Waldorf, ar hyn o bryd, gan Mr. Henry Russel, o dan amgylchiadau gwahanol, oblegid y mae Covent Garden mewn llawn mynd, fel y gwyddis, ac y mae yn rhaid i bob cwmni sefyll yn ail i Syndicate y lie hwn, gan fod hawlfraint yr operaon goreu yn eu meddiant, a'r cantorion mwyaf ar eu llwyfan. Ond gan y bwriedir cyflwyno cynyrchion ysgeifn ar lwyfan y Waldorf, a phrisiau mynediad i mewn yn gymhwys i'r dosbarth cyffredin, y mae lie i gredu y bydd llwyddiant yn dilyn yr anturiaeth. YN Covent Garden caed nosweithiau campus, meddir, yn ddiweddar. Mawr oedd y siomedig- aeth nos Sadwrn am nas gallai Madame Melba ymddangos yn Rigoletto," ac ofnid gan lawer na fuasai y "prima donna yn alluog i gymeryd ei lie nos Lun gyda prif denorydd y byd, Signor Caruso, yn "La Boheme." Ond fel arall y bu pethau, cafwyd y ddau gyda'u gilydd, ac y mae enwau Melba a Caruso ynddynt eu hunaint yn ddigon i ddenu Ilond ty'r opera unrhyw ddydd, yn annibynol ar brisiau uchel y mynediad i mewn. Da oedd genym weled parti o Gymry ieuainc yn myned yno nos Fawrth i glywed Tannhauser." Ar yr 8fed o'r mis nesaf, gyda Gorchymyn Brenhinol, rhoddir perfformiad gwladwriaethol o Faust," er anrhydedd i ym- weliad Alfonso XIII. o'r Hispaen, a Lloegr. 0 DAN arweiniad Mr. S. Coleridge Taylor, rhydd Cymdeithas Handel berfformiad o "Odysseus" (Max Bruch), yn N euadd y Fren- hines nos Fawrth nesaf. CAFODD Mr. Edward German dderbyniad calonog yn Bournemouth y dydd o'r blaen ar achlysur perfformiad un o'i weithiau.

Advertising