Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

WALES IN PLYMOUTH.

ALAWON CYMRU YN LLYDAW.

Advertising

JIWBILI BARRETT'S GROVE, .'LLUNDAIN.…

Advertising

Pobl a Phethau yng Nghymru.

News
Cite
Share

ER mwyn ceisio cyfanu'r rhwyg etholiadol yn Mwrdeisdrefi Caerfyrddin a Llanelli, y mae gweinidogion ymneillduol y lie wedi danfon llythyrau at y ddau ymgeisydd i ofyn a fyddant yn barod i dderbyn pleidlais rhagbrawfol er cael gweled pa un o'r ddau sydd i sefyll ar adeg yr etholiad cyffredinol. ———— MAE eglwys yr Annibynwyr, Bethesda, Sir Gaernarfon, wedi rhoddi galwad unfrydol i'r Parch. Rhys T Huws, gweinidog Bethel, i ddod i'w bugeilio. Deallir fod yn mwriad Mr. Huws i dderbyn yr alwad. MYN pobl Llandudno i'r Sabboth fod yn ddiwrnod diwaith mor bell ag y mae a wnelo a gweision cyhoeddus y dref. Yr wythnos hon penderfynasant nad oedd seddau i'w llogi allan ar lan y mor yn ystod yr haf a'r nos Sabbathau gan y byddai hynny yn golygu gwaith i lawer o'r bobl. Rhaid i'r ymwelwyr felly foddloni ar fyned i'r eglwysi i orphwys ar nos Suliau bellach. MR. IFANO JONES, Llyfrgell Rad Caerdydd, sydd wedi ei benodi yn olygydd y golofn Gymreig yn y Cardiff Times yn olynol i Dafydd Morganwg. Mae Ifano yn lienor gwych ac yn cymeryd llawer o ddyddordeb mewn materion Cymreig. YN ei wrthwynebiad i gynllun Addysgwersi Cymreig a gynnygiwyd yn ddiweddar yng Nghaernarfon gan Proffeswr J. Morris Jones ac eraill, y mae Rheithor Dinbych yn hollol gysson ag ymddygiad yr Eglwyswyr tuag at ein hiaith yn ystod y ddwy ganrif ddiweddaf. Er hyn oil y mae'r Cymry yn glynu wrth eu mam- iaith ar waethaf pob gwawd a dirmyg. CWYNA llawer o giwradiaid Cymru fod eu cyflogau yn llawer rhy fychan i gyfarfod a'u treuliau beunyddiol. Credant y dylent gael llawer mwy o arian nag a roddir iddynt yn gyffredin, onide bydd raid iddynt oil fyw bywyd meudwyol. Gwarchod pawb, beth a ddeuai o'n 'merched cyfoethog wedyn ?