Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. CYFARFODYDD PREGETHU. — Cynhelir y cyrddau blynyddol ynglyn ag Eglwys Camber- well a chapel East Ham yn ystod y Sul (yfory) a nos Lun. DR. OWEN EVANS.—Yr oedd ei hen gyd- nabod yn Llundain yn falch i weled yr Hybarch Ddoctor yn edrych mor dda, ac yn dal mor gadarn i bregethu ag erioed. Cafodd oedfaon hwyliog yn Barrett's Grove ddechreu yr wythnos, a bydd eto yn gwasanaethu yn East Ham yfory. Y GREIRFA GENEDLAETHOL. — Disgwylir dyfarniad y pwyllgor ar y mater hwn cyn pen ychydig ddyddiau, a deallwn fod pobl Caerdydd yn dra hyderus y daw y Greirfa a'r Llyfrgell i'w rhan hwy. CASGLIADAU LLUNDAIN. — Y mae Cymry Llundain wedi bod yn dra selog dros gais Aber- ystwyth o'r cychwyn ynglyn a mater y Llyfrgell, a deallwn fod yn agos i ddwy fil o bunnau wedi eu haddaw at yr adeilad gan fechgyn ieuainc o'r ddinas hon. Go dda, wir. Y SEIRI RHYDDION.—Mae cynulliad terfynol yr adran Gymreig o'r Urdd hon i'w gynhal yr wythnos nesaf yn y Criterion, a chan fod gwahoddiad i ferched am y tro diau y bydd torf liosog yn y wledd. Deallwn fod yr urdd yn parhau i gynyddu mewn rhifedi a dylanwad. Y CYMMRODORION.-Mae trefniadau ar droed i gynhal garddwyl pentymhor y Cymmrodorion yn mis Mehefin, a chan fod Mr. Vincent Evans yn hen law medrus i drefnu cynulliad poblog gellir ymddiried y llwydda eleni eto i gael digon o atdyniad i hudo gwyr enwog o bob man ac o bob rhan o Gymry i'r unfan am y tro. Y GOHEBYDD BACH.—Caed cipdrem amserol ar fywyd "Y Gohebydd" o flaen Cymdeithas y Brythonwyr nos Iau yr wythnos ddiweddaf. Er nad oes amser hir oddiar y bu'r cymeriad cenedlaethol hwnw farw, eto ychydig iawn o Gymry Llundain heddyw sydd yn cofio am dano. Mynd a dod yw hanes y bywyd Cymreig, ac mae deng mlynedd yn oes faith i lawer o honom yma. Da genym felly ddeall y ceir cofiant o'r Gohebydd yn fuan, ac y ca'r to presenol fantais i ddarllen ei hanes cyn bo hir. Y PROFFESWR A'R GYMRAEG.- YVrth wrando ar nifer o blant Cymry Llundain yn dweyd eu hadnodau mewn capel Cymraeg y dydd o'r blaen, sylwai'r Proffeswr Lewis o Aberhonddu fod yn dda ganddo eu clywed yn dysgu Cymraeg mor dda. Er mai Cymraeg Llundain oedd ganddynt, eto yr oedd hyny yn well na Saesneg Cymru, ac o bob peth gwrthun ganddo y mwyaf oedd clywed plant yn Nghymru Gymreig yn adrodd eu hadnodau mewn seiat yn Saesneg. Y DIWYGIAD.—Cwestiwn cyffredin ym mysg ein cydgenedl y dyddiau hyn yn y Brifddinas ydyw-" A yw y Diwygiad wedi, cyrhaedd Llundain ? Nid ydym am ateb y gofyniad yn

Advertising

[No title]

Pobl a Phethau yng Nghymru.

Am Gymry Llundain.