Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

COR CYMRY LLUNDAIN.

NOSON YN CHARING CROSS.I

News
Cite
Share

NOSON YN CHARING CROSS. Golygfa ryfedd i un heb gynefino a'r Diwyg- iad oedd i'w weled yn Charing Cross pwy noson (ysgrifena gohebydd). Yn y pulpud yr oedd tair merch ieuanc, ac yn y brif gadair yn y set fawr yr oedd merch ieuanc arall, oddeutu 15 oed. Yn mysg y cyffredin ynghanol y llawr yr oedd Mr. Herbert Lewis, A.S. Yn lie bod y gweddiwr neu y dechreuwr canu yn y canol, codai fel tafod o dan, yma, fan acw a thraw ar hyd y lie. Weithiau dri neu ychwaneg yn gweddio ar unwaith. Tra yr oedd un yn siarad o'r set fawr yr oedd dwy fenyw yn gweddio gyda'u gilydd. Nis gallwn eu gweled ac ni ddeallwn air. Yr oedd yn rhywbeth rhwng siarad a chanu ond yn felodaidd hynod—ryw nefolaidd ddeuawd. Yna dyna llais mawr yn dechreu rhedeg nodau swnus megis cynghan- adroddiad rhyfedd o weddi. Beth all y peth fod? Ai serchiadau ysbrydol yn torri yn gân- fel bardd, cerddor a sant yn canu i'w anwylyd- yr Arglwydd lesu? Hapusrwydd oedd yn llenwi'r lie fel tonau'r afon-hapusrwydd ys- prydol. "Away, away divine music" meddai Richter, "thou speakest to me of things I have never seen." Yr oeddwn newydd ddod o glywed arweinydd Cymru, Mr. Lloyd-George, yn helpu i groesawu Cymro i Gapel Bloomsbury. Ymddengys mai cenhadaeth Cymry, meddai Mr. George, oedd bod yn genhadon. Yn amser boreuol Cristion- ogaeth bu iddynt bron roi eu delw eu hunain ar yr Eglwys yn Ewrob. Oni bai am gyfoeth a gallu daearol Rhufain, hwyrach mai ffurf Gymreig neu Geltaidd fuasai ar yr Eglwys Gristionogol yn Ewrob heddyw. Yr wyf wedi meddwi heno, meddai un yn y cyfarfod diwygiadol, ac ni sobrai i hyd dragwydd- oldeb. Ehedai fy meddwl at ddydd y Pentecost. Nid rhyfedd i rai o'r Iuddewon gyhuddo Pedr ac eraill o fod yn feddw os oedd yr olygfa yn debyg i'r un oedd yn Charing Cross. Daeth i'm meddwl fel yr oedd Ymherodraeth Rhufain wedi bod am flynyddau yn ymestyn ei chyfun- drefn wladol dros y byd. Organization ardder- chog. Ond corph marw ydoedd. Ah, its heart, its heart was cold And so it could not thrive yng ngeiriau Mathew Arnold. Ond wele Duw yn Jerusalem ar ddydd y Pentecost yn anadlu yn y corph marw hwn, anadl einioes, a dacw Ymherodraeth Rhufain yn mynd yn enaid byw. Rhed trydan bywyd o ran i ran nes llenwi y cyfan. Heddyw ni fachlud yr haul ar Ymher- odraeth Prydain. Y mae yn organization fawr a rhyfeddol. Ond corph marw yw. A yw yr enaid byw wedi ei anadlu yn y corph marw yng Nghymru yn ein dyddiau ni?—J. R. J.

Advertising

Enwogion Cymreig.-XXXII. Watcyn…