Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

COR CYMRY LLUNDAIN.

News
Cite
Share

COR CYMRY LLUNDAIN. Ymgom gyda'r Ysgrifenydd. Lie bynnag y cyferfydd dau neu dri o Gymry Llundain y dyddiau hyn gellir bod yn sicr fod eu hymddiddan ynghylch un o ddau beth; naill ai am y gwasanaethau diwygiadol yn y gwahanol addoldai, neu am gyngherdd Cor Cymry Llundain yn y Queen's Hall ar y nos Lun olaf o'r mis presennol. Mae y gwahanol newyddiaduron, chwareu teg iddynt, yn rhwystro i ni anwybyddu y blaenaf, ac y mae aelodau y cor, yn feibion a merched, yn gwneyd yr un gymwynas i'r olaf. Rhaid fod brwdfrydedd aelodau y cor ynglyn a'u hanturiaeth yn peri llawer o lawenydd i'r pwyllgor, ac os oes gwobr yn ol i ddiwydrwydd diflino a dyfalbarhad di-ildio bydd y cyngherdd yn y Queen's Hall yn un o'r rhai mwyaf llwyddianus yn hanes y neuadd enwog honno. Y diwrnod o'r blaen llwyddwyd i gael gair gyda Mr. E. T. Williams, yr ysgrifenydd. Gair brysiog, wrth gwrs, oherwydd, fel arferol, nid oedd gan Mr. Williams amser i gymeryd gwynt. Er hynny, y mae gennyf deimlad caredig at yr ysgrifenydd, am mai efe yn unig, o'r rhai sydd yn dal cysylltiad a'r cor, a adawodd i mi fyned oddiwrtho heb ofyn i mi bwrcasu tocyn. Dim amser oedd ganddo, mae'n debyg. Gyda'r meddylddrych yn fy nghalon y buasai erthygl hanesyddol a'r "Gorau Cymreig Llun- dain o ddyddordeb i ddarllenwyr CYMRO LLUNDAIN. mentrais fyned at Mr. Williams i gael deunydd i'r ysgrif. Dyna oedd fy mwriad, ond bu raid i mi ymfoddloni ar hanes un cor. Gadewch i'r meirw gladdu eu meirw," meddai Mr. Williams. Nid oes ond un cor yn cynrychioli yr hen wlad yn y brifddinas yn awr, a hwnnw ydyw Cor Cymry Llundain." Er nad yw y cor yn oedranus o ran dyddiau y mae hanes dyddorol yn perthyn iddo. I ddechreu, nid oedd ond tri-ar-ddeg yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf. Nifer anlwcus, ond yn ffodus nid oeddynt yn barod i adael i'r hen ofergoeledd eu digaloni. Aethant ym mlaen yn galonog, ac ym mhen pythefnos yr oedd eu nifer wedi chwyddo i ddeg-ar-hugain. Yn yr ystafell o dan addoldy y Methodistiaid Calfinaidd yn Charing Cross Road, ym mis Hydref, 1902, cymerodd y cyfarfod cyntaf Ie, ac ym mhlith y tri-ar-ddeg yr oedd Mr. Merlin Morgan, Mr. James Davies, Mr. W. Williams (yn awr o Lanwrtyd), a Mr. E. T. Williams, yr ysgrifenydd. Gofynwyd i Mr. Merlin Morgan ymgymeryd a'r gwaith o arwain. Cydsyniodd i wneyd, ac nid yw ef na'r cor wedi cael achos i edifarhau am hynny. Mae tuedd mewn rhai uwchfeirniaid i gon- demnio cystadleuaethau cerddorol ar y tir eu bod yn rhwystrau i wir ddiwylliant cerddorol. Beth bynnag am hynny, y mae llawer o'r natur ddynol hyn yn nod yn y cerddor, ac un o wendidau-os gwendid hefyd-y dyn naturiol ydyw yr awyddfryd i ragori ar ei gymydog. Ac y mae'n ddiddadl fod y cystadleuaethau hyn wedi creu gwybodaeth fwy gyffredinol am gerdd- oriaeth yng Nghymru. Naturiol felly ydoedd i aelodau y cor ieuanc roddi eu bryd ar fod yn oreugwyr ar y llwyfan eisteddfodol, ac ym mhen pedwar mis-hynny yw, Chwefror, 1903-yr oeddynt yn un o'r saith cor oedd yn cystadlu yn Eisteddfod Falmouth Road yn y Queen's Hall. Ni lwyddasant i gipio'r wobr, ond rhoddasant ddatganiad rhagorol, a dyfarnwyd eu bod yn ail i Gor Rhymney, gyda llaw, y cor buddugol yn Eisteddfod Merthyr. Y darn cystadleuol ydoedd "The Destruction of Pompeii," ac y mae beirniadaeth Dr. McNaught ar yr achlysur yn werth ei hail-adrodd. Dyma ddywedodd ef:—" Although the choir was a young one, the voices being somewhat raw, the rendering gave great promise; the conception was fine, the attack superb, and the expression in the storm was intensely dramatic." Calonogwyd yr aelodau yn fawr gan y geiriau uchod a phenderfynodd y cor, oedd erbyn hyn wedi cyrhaedd pedwar ugain mewn nifer, fyned i lawr i Gymru i gystadlu ar yr un dernyn yn Eisteddfod y Pasg yn Aberpennar. Gwenodd ffawd ar eu hymdrechion y tro hwn, a dyfarnwyd hwy yn oreu o'r pum cor oedd yn cystadlu. Trwy hyn cawsant yr anrhydedd, nid yn unig o fod y cor cyntaf o Lundain i gystadlu yng Nghymru, ond hefyd y cor buddugol cyntaf o'r brifddinas. Parodd y llwyddiant hwn iddynt roddi nod uwch o flaen eu llygaid, ac yn yr haf dilynol gwelwyd hwy yn Eisteddfod Genhedlaethol Llanelli, ond yno bu raid iddynt foddloni ar ganmoliaeth uchel yn unig. Ni ddigalonwyd hwy gan yr aflwyddiant hwn. I'r gwrthwyneb, ymroddasant i'w gwaith gyda mwy o egni nag erioed, a gwelwyd ol eu llafur pan wnaethant eu hymddangosiad yn Eistedd- fod Queen's Hall yn Chwefror, 1904. Ond, mewn cystadleuaeth hynod o galed, bu raid bod yn foddlon eto ar yr ail Ie. Gydag adgofion hapus am eu hymweliad blaenorol, y Pasg dilynol aethant drachefn i Aberpennar, ond profodd y cwpan yn chwerw y tro hwn, er iddynt roddi datganiad ardderchog. Cariwyd y wobr ymaith gan Gor Resolven, ond dengys beirniadaeth y Daily Chronicle nad oedd Cor Cymry Llundain nepell ar ol. "The London Welsh Male Choir," medd y newyddiadur a enwyd, "gave a magnificent rendering of the test piece, 'King of Worlds,' the prize, however, being given to Resolven." Gwelir felly fod y cor, mewn deunaw mis wedi cystadlu bum' gwaith, wedi bod yn fuddugol unwaith, ac yn ail deirgwaith. Nid oes ofod i fanylu ar eu hymdrechion diweddaraf, ond y maent oil yn adlewyrchu clod ar Gymry Llundain, nid yn i gymaint o herwydd y llwyddiant a ddilynodd eu hymroddiad ond oherwydd eu penderfyniad di-droi-yn-ol i ddal ym mlaen ac i wneud pob datganiad o'u heiddo yn deilwng o "hil Gomer" yn y brifddinas. Ymwelsant y flwyddyn ddiweddafa Chaerfyrddin ac Abertawe, ond daethant adref o'r ddau le yn waglaw. Cystadleuaeth fythgofiadwy ydoedd un Abertawe. Heblaw Cor Cymry Llundain, yr oedd yno gorau Caerdydd, Rhymney, South- port, a Manchester, a phedwar cor arall. Caer- dydd aeth a'r dorch, ond gosodwyd Cor Llundain yn gydradd a bechgyn y Rhymni am yr ail Ie. Signor Randegger ydoedd y beirniad, a dyma ei farn am ddatganiad Cymry Llundain :— A very fine performance; artistic; magnificent bass." Pan ystyrir fod y cor wedi bod yn teithio drwy'r noson flaenorol y syndod ydyw iddynt gyrhaedd safle mor uchel. Daw y gystadleuaeth nesaf a ni i'r flwyddyn bresenol, ac y mae'r ymdrechfa galed yn yr Albert Hall yn fyw yng nghof y miloedd oedd yno. Gwyr pawb erbyn hyn mai y cor budd- ugol yno oedd Aberdar, ac mai ail le a roddwyd i gor Cymry Llundain, er iddynt roddi datganiad godidog. Yn ystod tymhor byr eu bodolaeth ymdrech- odd y cor ymdrech deg wyth gwaith—pum' gwaith yng Nghymru a theirgwaith yn Llundain -ond er iddynt fod mor agos i'w gipio gymaint o weithiau, ni ddaeth y sylwedd i'w dwylaw ond unwaith. Y canlyniad naturiol ydyw fod y gyllidfa yn wag, a chyda'r amcan o'i llenwi y mae'r cor wedi penderfynu cynhal cyngherdd mawreddog yn y Queen's Hall ar y nos Lun olaf ym Mai (y 29am). Yn ychwanegol at y ddau gor—y Cor Cymysg a Chor y Meibion -datgenir gan Miss Maggie Davies, Miss Muriel Foster, Mr. William Green, a Mr. FfraDgçon Davies, tra y chwareuir ar y crwth gan Herr Hans Wessely. Y mae argoel am gyngherdd hynod Iwyddianus, ac yn sicr ni chynaliwyd yn ystod y tymhor sy'n dirwyn i ben un cyngherdd mwy haeddianol o gefnogaeth Cymry Llundain nag anturiaeth y "London Welsh Male Choir." Gobeithio y gwelir ein cydwladwyr yno yn lluoedd, modd y galluogir y cor i fyned ym mlaen yn ddirwystr am flyn- yddoedd meithion i ddyfod i ymladd dros anrhydedd, ac er gogoniant Cymry prifddinas y byd. J. O.

NOSON YN CHARING CROSS.I

Advertising

Enwogion Cymreig.-XXXII. Watcyn…