Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

Enwogion Cymreig.-XXXII. Watcyn…

News
Cite
Share

Enwogion Cymreig.-XXXII. Watcyn Wyn. HYNOD mor ddibartiaeth ydyw awen Cymru. Waeth beth fo nodwedd pres- wylwyr unrhyw gymydogaeth,.boent dref- wyr neu wladwyr, masnachwyr neu amaethwyr, torwyr glo, cloddwyr haiarn, holltwyr creigiau, neu grefftwyr, mae'r awen yn sicr rywdro o weled rhywun yn eu mysg yn deilwng o'i chyfrinach a'i mantell. Rhana hi ei ffafrau mor amhleidiol a'r gwanwyn a'r haf, a lie bynnag y rhenir hwy yno y ceir gwyrddlesni, a blodau, a Uawenydd. Canodd Watcyn Wyn bennill telyn rywdro yn diweddu fel hyn :— Ni welir Cymru'n Gymru lwyd Tra Dyffryn Clwyd yn glasu, a gellir ychwanegu na lwyda ychwaith tra y bo awen fel ei awen ef yn glasu ei llenyddiaeth, ac yn dwyn anadl gwanwyn i'w chanlyn lie bynnag yr elo. Awenydd Cymreig ydyw Watcyn Wyn. Ac eto nid oes ynddo ddim yn gwireddu y syniad poblogaidd am awenydd ychwaith—neu y syniad a fu yn boblogaidd hyd yn bur ddiweddar beth bynnag. Cofus genym ddarllen desgrifiad o hono dro yn ol yn ei bortreadu yn rhyw fod difrif-ddwys, tawedog, heb wen ar ei wyneb odid amser, yn ferthyr gwastadol i'r pruddglwyf, ac yn dwyn pawb a ddeuent i gyffyrddiad ag ef dan yr unrhyw glefyd anaele. Tebyg mai dynion felly oedd Dafydd Ionawr, Eben Fardd, ac Islwyn, ac mae eu cymeryd hwy yn safon wnaeth y neb a dynodd y portread. Ond pe hynny fyddai nodweddion awenydd ni chai Watcyn Wyn byth fyned i mewn i'r gaingell gysegredig. Mae ef mor siriol a'r wawr, mor ysgafn-galon a'r ehedydd, mor siaradus a ffrwd y mynydd, mor naturiol a bwrlwm y ffynon, ac mor syml a dirodres a'r Mynydd Du yng ngolwg yr hwn y ganed ef, Driugain Mlwydd ac Un i'r seithfed dydd o fis Mawrth diweddaf. Anhawdd credu hefyd ei fod wedi gweled treigliad cynnifer o flynyddoedd. Adroddodd englyn i Syr Watcyn pan lywyddai y barwnig hwnnw yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl yn mis Medi diweddaf, ac wedi cyfeirio at ryw Tagoriaethau ynddo dibenodd drwy ddywedyd- A nyddwr englyn iddo Yw hen fardd 'run enw a fo. Ond pwy oddigerth ei hun a feddyliai am alw Watcyn Wyn yn hen? Cyn i'r afiechyd trwm sydd wedi ei ysigo yn ystod y misoedd diweddaf ymosod arno nid oedd fawr iawn o arwyddion heneiddio ar ei gorph, ac nid oes arwyddion felly ddim ar ei feddwl a'i ysbryd eto. Fel y mwyafrif o fechgyn ardaloedd ei febyd dechreuodd ennill ei fara yn gynar yn y lofa, a bu wrthi yn torri glo hyd nes ei fod yn saith-ar- hugain oed. Ond yr oedd ei dueddfryd yn rhedeg i gylch gwahanol, ac yn yr oedran a grybwyllwyd gadawodd y pwll ac aeth i'r ysgol i Ferthyr Tydfil, lie yr arosodd dair blynedd fel disgybl yn gyntaf, ac wedyn fel is-athraw. Yn 1874 dechreuodd bregethu, ac yn 1875, ac efe yn unarddeg-ar-hugain mlwydd oed, aeth i Goleg Caerfyrddin. Yr oedd gryn dipyn dros yr oed- ran arferol i frwydro a thasgau celyd, ond y fath ydoedd ieuangrwydd ei natur ef fel na theimlodd nemawr anhawsder i gydredeg a rhai ddeng mlwydd yn ieuangach. Ysgol y Gwynfryn. Yn 1879, ar derfyn ei dymhor yng Nghaer- fyrddin, aeth yn athraw cynorthwyol i Ysgol Photo by J. T. TVilliailis, I [Ammaliford. WATCYN WYN. Ramadegol Llangadog. Symudwyd yr ysgol o Langadog i Ammanford ym mhen y flwyddyn, a symudodd yntau yno gyda hi. Ni bu yn hir cyn cymeryd ei holl ofal fel prifathraw, a daeth Ysgol y Gwynfryn yn dra phoblogaidd, yn enwedig fel sefydliad i barotoi pregethwyr ieuainc ar gyfer y colegau. Cyrchent iddi o bob cwrr o Gymru. Yr oedd iachusrwydd hyfryd y lie, a'r safle gyfleus yng nghanol cymydogaethau poblog llawn o gapeli, yn ddigon o atdyniad iddynt, yn gwbl annibynol ar gyfaddasder a rhagoriaeth yr addysg a gyfrenid. Mawr yw dyled y Cymry i'r ysgolion rhagbarotawl, fel y gelwir hwy ac er fod y chwyldroad yn effeithio ar y sefydliadau addysgol fel ar bobpeth- arall yn ein gwlad, a hynny er gwell, gobeithio, diau yr erys y cof am yr ysgolion hyn yn wyrdd hyd onid el cenhedlaeth arall, o leiaf, heibio. Faint bynag yw gwasanaeth Watcyn Wyn fel athraw wedi bod, fel Bardd ac Eisteddfodwr yr adnabyddir ef gan yr holl genedl. Yma y mae yn ei awyr a'i elfen gynhenid ei hun. Nis gwyddom pa mor gynar y dechreuodd "lenydda," chwedl yntau, ond gwyddom ei fod wedi dilyn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda ffyddlondeb difwlch bron am ddeugain mlynedd. Cyr- haeddodd safle uchel fel bardd cyn dechreu pregethu, a chyn gadael y coleg cyhoeddodd gyfrol o'i gyfansoddiadau, a bu yn fuddugol- iaethwr yn rhai o gystadleuaethau gwyl y genedl. Yr wyf," ebe ef ei hun, wedi cystadlu fy shar, ac wedi ennill peth a cholli llawer." Ond pe gallai pob cystadleuydd ymffrostio mewn meddiant o gynnifer o lawryfon a Watcyn Wyn ni byddai raid iddo gwyno. Nis gallwn nodi y degwm o honynt. Bu yn gydfuddugol ag Islwyn am bryddest ar yr Angel" ym Mhwll- heli yn 1875. Coronwyd ef ym Merthyr yn 1881 am bryddest ar "Fywyd," cariodd y gadair yn Aberdar yn 1885 am awdl "Y Gwir yn Erbyn y Byd," ac nid oes namyn tri arall yn fyw i ennill y gadair a'r goron-dau brif lawryf barddas Gwalia. Ennillodd hefyd y gadair yn Eisteddfod Ffestiniog yn 1891, gyda gwobr yn gyfartal i wobr yr Wyl Genedlaethol, ac iddo ef y syrthiodd coron eisteddfod fawr Ffair y Byd yn Chicago yn 1893. Dyna ei ymgais eisteddfodol ddiweddaf, ond parha i lenydda o hyd, ac y mae wedi beirniadu cyn amled a neb yn eisteddfodau yr ugain mlynedd diweddaf. Cara yr hen sefydliad a chariad plentyn cara yr holl ddefion cysylltiedig a hi. Pan ad-drefnwyd Gorsedd y Beirdd yng Ngwrecsam yn 1888 yr oedd Watcyn Wyn yno, a dewiswyd ef yn ysgrifenydd mygedol i'r Gymdeithas. Ac y mae wedi parhau yn ffyddlon iddi ym mhob hin. Pan fu ychydig o "chware ffrae" rhwng y Cymmrodorion a'r gorseddwyr, a rheini yn cadw draw, clywid ei lais o ganol y cylch cyfrin yn dweyd fod Y deml ddi-do'n gwisgo gwen Heb ei llond o glwb Llunden., A phan wisgai y beirdd ei hurddwisgoedd newydd yn Eisteddfod Caernarfon yn 1884, chwareuai gwen boddhad ar wefusau Watcyn Wyn, a gwaeddai o ben y Maen Llog Hen awen mewn siwt newydd Yma'n sionc ar y maen sydd. Ie, dyn yn ei elfen mewn 'steddfod ydyw, am mai 'steddfod Cymru ydyw. Mae'n caru swn y