Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

WALE5 IN PARLIAMENT.

Advertising

WALES AND TARIFF REFORM.

GWYLIAU CREFYDDOL MAI.

News
Cite
Share

GWYLIAU CREFYDDOL MAI. Y mae'r eglwysi a'r cymdeithasau moesol a chrefyddol Seisnig yn brysur y dyddiau hyn gyda'r gwyliau blynyddol. Gwyliau pen tymhor ydynt. Cyhoeddant eu treuliau. Profir yr oruchwyliaeth. Yng ngwyl y Feibl Gymdeithas achwynid fod Z35,000 o ddiffyg yn y derbyn- iadau. Rhanwyd 350,000 o gopiau am ddim ym mhlith milwyr Rwssia a Japan. Gwerthwyd 160,000 o gopiau uwchlaw a wnaed yn flaen- orol. Yr oedd gwyl Cymdeithas Rhyddhad Crefydd mewn.hwyliau campus. Rhoddodd y mudiad goddefol a brwydr addysg awel gref yn oedfa y cyfarfod cyhoeddus. Wrth gwrs, cafodd Cymru le amlwg yn y gweithrediadau. Aeth y lie yn oddaith pan safodd Mr. Lloyd- George i anerch y dyrfa fawr. Yr oedd ganddo eiriau melus i'w mynegu am ddylanwad hyfryd y Diwygiad. Ni lesteiriodd y Diwygiad ronyn ar yrfa brwydr addysg, eithr bu yn symbyliad i ddadeysylltiad yr Eglwys a'r Ysgol Genedlaethol. Yn oedfa Genhadol y Bedyddwyr yr oedd peth achwyn oblegid diffyg o ,£10,613 yn y derbyn- iadau eleni. Cytunwyd i godi cronfa arbenig o Z,30,000 mewn tair blynedd er cynyddu incwm rheolaidd blynyddol y Gymdeithas. Llwyddiant hyfryd fu ar lafur Undeb yr Ys- golion Sul yng nghorph y flwyddyn. Y maeael- odau Cymdeithas RhyngwladwriaethoI Darllen y Beibl yn 850,000—cynnydd o 30,000 mewn deuddeng mis. Prif orchwyl y Gymdeithas hon yw sefydlu Ysgolion Sul i ddarllen gair Duw dros wyneb y ddaear. Cyfeiriwyd at y ffaith fod y gwaith da wedi cynyddu yn Rwssia er gwaethaf y rhyfel. Mewn dyled y mae Cym- deithas Genhadol Llundain o £ 2,700. Gwneir apel arbenig am haelioni ychwanegol yn wyneb y sefyllfa yn China-sefyllfa sy'n dangos fod y maes yn llawn addfed i'r cynhauaf. Cyfarfydd- odd yr Undeb Cynulleidfaol o dan amgylch- iadau eithriadol mewn mwy nag un ystyr. Bythefnos yn ol bu farw Mr. Mitchell, yr ys- grifenydd, yn hynod annisgwyliadwy, a thaflodd hynny yr Undeb i brudd-der mawr. Mae yn myned drwy argyfwng pwysig ar hyn o bryd, a disgwylir yn hyderus pa fodd y gweithia y cyf- ansoddiad newydd sy'n dod i rym yn awr. Yng nghyfarfodydd Cymdeithas Genhadol y Trefed- igaethau cymerid rhan neillduol gan ein cyd- wladwyr Dr. Llewelyn Bevan a Mr. William Jones, A.S.

DRASTIC CHANGES PROPOSED IN…

[No title]

Advertising