Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

SIR MARCHANT WILLIAMS AND…

LLYFRGELL PENIARTH.

Advertising

<2=^® BETI DDALL.

News
Cite
Share

agored, a phan y rhoddaf bwniad i ti dywed wrthyf, sut un fydd yn dyfod tuag atom." Synais ei chlywed, ond nid oedd genyf amser i aros i wylio, eithr yr oedd yn amlwg i mi fod Beti yn methu gweled rhywbeth a ewyllysiai weled, ac am unwaith yn gorfod gofyn benthyg llygaid un arall. Yn mhen tua mis; aethum gyda'm cyfaill y gweinidog, i weled Beti yn ei chartref. Yr oedd hyn ar brydnawn Sabboth, am y rheswm mai dyna yr unig adeg y byddai yn sicr o fod i mewn. Derbyniwyd ni ganddi yn y modd mwyaf croesawgar. Synwn weled ei hen ystafell mor lan a threfnus. Yr oedd dau wely ynddi, yr agosaf i'r ffenestr o'r ddau wedi ei guddio a lien o lian a grogai ar fachau uwchben. Clywem swn pesychiadau poenus yn dyfod o'r tu ol i'r lien, yr hyn a brofai fod rhywun yn y gwely. Yr oedd fy nghyfaill wedi dweyd wrthyf ar y ffordd- Y mae y ddynes wael y crybwyllais wrthych fod Beti yn rhoi nodded iddi wedi ei chladdu er dydd Mercher, ond y mae ganddi un arall yn ei lie yn barod." Aeth y gweinidog i gysuro y dioddefydd y tu ol i'r lien, a gadawodd finnau i ysgwrsio gyda Beti. Wedi ychydig ymddiddan, gofynais iddi am esboniad ar y digwyddiad y buaswn yn dyst o honno y nos Sadwrn honno. O mae yn ddigon hawdd ei esbonio," meddai, gan wenu. Byddai rhywun wrth fyned heibio tuag wyth o'r gloch bob nos Sadwrn, er's rhai misoedd yn arfer rhoddi dwy geiniog yn fy Haw. Peth anghyffredin oedd imi gael mwy na cheiniog gan neb, a meddyliais mai rhyw wr boneddig o duedd braidd yn gybydd- lyd raid fod y rhoddwr. Ond wythnos cyn yr hyn y buoch chwi yn dyst o hono, cyffyrddodd flaenau bysedd y cymwynaswr a chledr fy llaw. Rhyfeddais pan ddeallais fod y bysedd hynny wedi caledu drwy lafur, a gallwn gymeryd fy llw mai courduroy oedd defnydd y llawes a gyffyrddai a'm garddwrn. Er mwyn penderfynu gradd gymdeithasol fy nghymwynaswr y ceisiais wasan- aeth par o lygaid eraill am dro." "A gawsoch chwi oleuni ar y mater," meddwn. Do. Pan y rhoddais bwniad iddo, dywed- odd yr hogyn mai saer maen cyffredin ei wisg oedd yn dyfod. Nis gadewais iddo fyned heibio y tro hwnnw. Ymeflais yn ei law, diolchais iddo yn gynnes am ei garedig-iwydd, a dywedais wrtho nad oedd angen iddo roddi cymaint a dwy geiniog i mi. Ond beth 'ddyliech chwi oedd ei ateb, syr, pan wthiai yr arian i'm llaw ? Dywedodd ei fod ef yn eu rhoddi er mwyn ei fam, oedd yn ddall fel finnau, ac yn byw i lawr yn sir Benfro. Onid oedd o'n garedig ? Gwnaeth 1 mi feddwl am fy anwyl Rolant." Yr oedd ei llygaid tywyllion yn llawn o ddagrau, ac nid oedd fy rhai innau yn sychion lawn chwaith. Ar ol sychu ei gruddiau a chongl ei ffedog, aeth ymlaen "Mi welais i ddigwyddiad rhyfeddach na hwna unwaith. Dyn cyfoethog gwirioneddol oedd hwnnw. Arferai fyned heibio gyda cham- rau beilchion am flynyddau, heb roddi elusen 1 mi unwaith. Meddyliwn fod ei gam er's peth amser braidd yn fwy sigledig, ac un noson, dyma efe yn gadael y palmant ac yn taraw yn erbyn y lamp-post. O'r fan honno gwnaeth ei ffordd tuag ataf, a chan roddi hanner coron yn fy Haw, dywedodd, a'i lais yn union fel llais plentyn wedi dychryn, 'Cymerwch hwn, wraig dda, yr wyf finnau yn myned yn ddall fel chwithau.' Ni chlywais swn ei draed byth Wedyn, tebyg genyf ei fod yn cerbydu ar ol hynny." Erbyn hyn, yr oedd y gweinidog wedi ymuno a nl, a dywedodd, Y mae ein hamser i fyny, ond cyn ymadael, ewch i ffarwelio a'r dioddef- ydd sydd tu ol i'r lien yna." Aethum. Dych- yynais pan welais pwy oedd hi, neb amgen na'r non a welswn yn myned heibio Beti ddall o dan y bont, ac yn edrych i wyneb ei chydymaith i Weled a oedd y saeth wedi ei daraw. Nid oedd ganddi yn awr druan fwy nag ychydig ddyddiau 1 fyw, ac ar ol myned yn outcast cafodd le i l^di ei p}ien jawr gan yr un yn ej rhy_ uddio pan ar y ffordd ddrwg. Aeth misoedd a Blynyddoedd heibio, a daeth Beti a minnau yn gyfeillion mawr. Llaweroedd o weithiau y gwelais hi yn rhanu elusenau i rai tlotach a mwy truenus na hi ei hun. Ac yn ddieithriad, gofalai am ddweyd, "Oddiwrth Rolant." Yr oedd hyd yn nod creaduriaid mudion yn ei hadnabod, ac yn crynhoi o'i chwmpas. Gwelais hi yn rhanu o'i chrystyn i hen gi teneu yr olwg arno, ac yn ei gyfarch yn garedig, Da ngwas i. Buasai Rolant yn dy hoffi di." Nid oedd dim allasai beri iddi ang- hofio priod ei hieuenctyd. O'r diwedd, dechreuodd amlder dyddiau a hinsawdd wenwynig gauafau ddweyd ami. Sylwn ei bod yn gwywo. Nis gallaf anghofio y bore cyntaf y gwelais ei lie yn wag. Gwnaethum ymholiad ar unwaith, a deallais fod ei hysbryd wedi ehedeg at ei hanwyl Rolant y noson cynt. Bu farw heb ddim cystudd. Am y tro olaf safwn i a'm cyfaill, y gweinidog, yn ei hystafell dlawd. Yr oedd y corff yn yr arch ar y gwely, a gwen nefolaidd ar y wyneb. Ac ar y gadair yn ymyl yr oedd y Beibl mawr yn agored ar y lie y buasai yn darllen o hono ddiweddaf. Ar y tudalen aswy, yr oedd dwy linell wedi treulio yn drwm drwy ami gyffyrddiad bysedd hirion Beti, ond wrth graffu, gwnaethom allan y geiriau, Yn dy oleuni di y gwelwn ni oleuni."