Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

<2=^® BETI DDALL.

News
Cite
Share

BETI DDALL. MENYW oedranus, unig, ddall, gyffredin ei gwisg, bob amser yn eistedd yn yr un llecyn yng nghysgod mur un o'r pontydd ffordd haiarn a groesant heolydd Llundain-dyna arwres y tipyn hanes hwn. Yr wyf yn mynegu hyn ar y dechreu modd y gallo y rhai nad yw cymer- iadau felly yn eu dyddori droi i'r tudalenau nesaf ar unwaith. Hwyr a bore, wrth fyned yn ol a blaen tua'r ddinas, sylwn arni yn eistedd yn warsyth ar ystol isel ar ochr ogleddol y bont, ei chefn yn pwyso ar y barau heiyrn cryfion, a Beibl y deillion yn gorwedd bob amser yn agored ar ei glin. Adnabyddid hi gan bawb a dramwyent y ffordd hono-gan yr heddgeidwaid, y cerbyd- wyr, y gwerthwyr nwyddau-fel "Beti Ddall." Yr oedd wedi arfer bod yno ar bob tywydd, haf a gauaf, dros gynifer o flynyddoedd, nes yr edrychid arni bellach bron fel darn o'r bont ei hun. Ar nosweithiau tywyll y gauaf, pan na ellid ei gweled, gwyddid ei bod yno, oblegid byddai ei llais uchel i'w glywed yn darllen yn mlaen heb hidio y tywyllwch na'r oerni. Yr hyn a barodd i mi gymeryd sylw neillduol o honi gyntaf ydoedd gwrando ar ymddiddan rhyngddi a dau neu dri o baentwyr a ddeuent bob rhyw ddeunaw mis i baentio y colofnau a'r barau heiyrn. Fel yr oeddwn yn pasio clywn un o'r paentwyr yn dywedyd wrthi AVel, Beti, dyma ni wedi d'od eto." "Ie," ebai hithau, "yr oeddwn i yn edrych allan am danoch. Meddyliwn ei bod tua'r adeg i chwi dd'od." Chwarddodd y dynion wrth glywed y wraig ddall yn dweyd ei bod yn edrych am danynt, a sylwodd un yn gragwrus y rhaid fod Beti yn medru gweled, er y gwyddai yn eithaf nad oedd. Meddyliais inau ynof fy hun, ai tybed fod y fenyw ddall yma wedi'r cwbl yn rhywbeth amgenach nag wyf wedi arfer synied am dani 1 Nid oedd dim amheuaeth ynof pan glywais ei hateb parod i'r ysmaliwr Yr wyf yn gweled cryn lawer o'r hyn sy'n myned yn mlaen yma; mwy efallai na'r rhan fwyaf, pa mor graff bynag yw eu golygon." Tra yr elai yr ymddiddan yn mlaen yr oedd y dynion wedi symud Beti a'i hystol yn ofalus ychydig latheni yn mhellach, er mwyn iddynt gael lie i wneyd eu gwaith; a chyn fy mod inau wedi deffro o'm synfyfyrdod yn ei chylch, yr oedd hi wedi ail ddechreu darllen o'r llyfr. Ni feddai amser i fod yn segur rhaid oedd iddi, fel eraill, ennill ei bywioliaeth. Y peth nesaf ddisgynodd ar fy nghlyw ydoedd ei llais uchel, undonog, yn dywedyd, Yn Methlehem Judea, canys felly yr ysgrifenwyd trwy y prophwyd." Nis gallaf ddesgrifio y teimladau yn fy mynwes wrth glywed y geiriau a lefarwyd yn Jerusalem yn cael eu hadrodd allan yn nghanol swn heolydd Llundain yn mhen pedwar cant ar bymtheg o flynyddau wedi hyny. Methwn gael Beti o'm meddwl drwy y dydd. Yr oedd yr hyn ddywedodd wrth y paentwyr yn peri dyryswch i mi. Ond daethum i'r pender- fyniad na olygai fwy na'i bod yn gwybod pa un ai ychydig ai llawer fyddai yn teithio y ffordd honno, a'i bod wedi sylwi pa faint y cant o honynt oedd yn cofio y tlawd a'r angenus. Cyn hir cefais wybod fy mod yn cyfeiliorni. Boreu dranoeth, ar fy ffordd i'r ddinas, edrychais allan am Beti. Gwelwn ei bod yn ei lie. Arosais gyferbyn a hi i edrych arni. Meddyliwn ei bod yn tynu at driugain oed, ac er fod ei dillad yn hen a syml, wedi ei treulio yn y tywydd, eto ymddangosent yn weddol glyd. Nid oedd yn darllen y foment honno. Arosai yn llonydd hollol, o'r braidd y gallwn gredu ei bod yn anadlu. Yr oedd cryn swn yn yr heol ar y pryd, a thren yn prysur deithio dros y bont. Ond tra y syllwn arni, dyma hi yn hollol sydyn. yn symud; a chyn i un gael amser i ollwng ceiniog i'w llaw, clywn ei llais clochaidd yn fy nghyfarch A allaf fi fod o ryw wasanaeth i chwi, syr ? A ydych wedi colli rhywbeth ? Os yw yn y gwter medraf dd'od o hyd iddo, dim ond i chwi fy nhywys. Mae fy mysedd yn llawn teimlad- rwydd. Ond nid ydych yn crymu i lawr," meddai, gan ddisgyn ar yr ystol oddiar ba un y dechreuasai godi. A chan dynu ei llaw ar draws tudalen ei llyfr mawr, a dilyn y llinellau a'i bysedd, dechreuodd ddarllen eilwaith. Methwn ei deall o gwbl, ond argyhoeddwyd fi fod Beti Ddall rywfodd yn fy ngweled, ac yn sylwi yn fanwl arnaf. Yr oedd wedi gwybod beth oeddwn, yn mha le y safwn, ac yn mha osgo. Brysiais i roddi dernyn yn ei llaw, ac aethum i'm taith ar hyd yr ochr arall i'r heol yn gyflymach nag arfer. Y prydnawn hwnw, wrth ddychwelyd adref, cefais ddatguddiad pellach o Beti, datguddiad a'i gwnaeth yn amhosibl i mi byth wedy'n fyned heibio iddi yn ddifater. Safai dyn, llawer mwy truenus yr olwg arno na hi, yn grynedig o'i blaen. Pan ddaethum yn ddigon agos clywn ef yn dywedyd yn gwynfanus, Nid wyf wedi gwerthu prin lond dwrn heddyw." Adnabyddais ef fel cripyl a welswn yn ami yn yr heolydd a'i fasged o ferw'r dwr ar ei war. Y mae pethau wedi bod yn ddrwg hefo minnau," ebai Beti. "Ond gallaf fforddio grot i chwi. Dyma hwy," meddai, gan ollwng y ceinogau i'w law, "oddiwrth Rolant a minnau." Rolant meddwn wrthyf fy hun, gan ddyfod i'r casgliad nad oedd mor hollol unig ag y tybiwn ei bod. Ond nid oedd Beti wedi dweyd y cwbl oedd ganddi wrth y cripyl, a gwnaeth ei geiriau ychwanegol i mi ddeall fy mod wedi cyfeiliorni yn ei chylch yr ail waith. Gofalwch chwi fod y pres yn cael eu treulio yn iawn, Sam. Y maent i gyd i fyn'd am fwyd, cofiwch. Mae Rolant yn y nefoedd, a medr ef eich gweled yn eu gwario yn mhobman, os na fedraf fi." Nis gallwn beidio meddwl ei fod yn beth hynod iawn—Beti ddall yn gwneyd caredig- rwydd yn lie ei dderbyn, ac yn gwneyd hynny dan rybuddio, nid yn unig yn ei henw ei hunan, ond hefyd yn enw un oedd yn y nefoedd. Aethum ymaith yn ddistaw. Fel y treiglai yr wythnosau, cefais ddigon o brofion fod y wraig ansymudol hon, oedd a'i llygad wedi tywyllu, yn meddu rhyw ffordd i dd'od i wybod bron bob peth fyddai yn myned yn mlaen o'i deutu. Adwaenai swn troed, a byddai ganddi air o gyfarchiad i lawer o'r rhai a elent heibio. Gwyddai pa awr a fyddai unrhyw adeg o'r dydd, a beth fyddai busnes y rhai a dramwyent dan y bont, a medrai ddweyd o ba ryw, o ba oedran, ac yn mha sefyllfa y byddai y rhai a roddent elusen iddi. Amrywiai ei thon a'i dull o ddiolch i rai ieuainc, i ganol oed, ac i hen bobl, a gwahaniaethai hefyd rhwng cym- wynaswyr cyson a chymwynaswyr achlysurol. Gwnai lawer o wasanaeth i bobl yn y lie. Yr oedd cyflymder ei chlust o fwy gwerth na llygaid rhai eraill. Ami waith y rhoddodd hysbysrwydd pa bryd yr elai cerbydau neillduol heibio, a pha un ai wrtho ei hun neu gyda chydymaith y tramwyai hwn a hwn. Ond tra yn sylwi ac yn cymeryd i mewn yr holl bethau hyn, nid oedd odid i foment, oddigerth pan yn cyfarch rhywun, heb fod yn darllen o'r Beibl fyddai o hyd yn agored ar ei glin. Hynny ydoedd ei gwaith hi. Sylwais hefyd fod Beti, er yn ymddangos yn mynegu y genadwri yn ol trefn, eto ar adegau yn dwyn amrywiaeth dyeithr i mewn. Ac nid myfi oedd yr unig un, na'r cyntaf ychwaith, i gael hynny allan. Un diwrnod cyfarfyddais a'm cyfaill, oedd yn weinidog yr eglwys gerllaw i'r bont dan ba un yr eisteddai Beti, a gofynais iddo a wyddai rywbeth o'i helynt. Dywedodd ei fod yn bur gyfarwydd a hi. Yr oedd, meddai ef, yn gymeriacl nodedig, yn un a wnai lawer o ddaioni mewn llawer ffordd. Ymddengys mai ei henw oedd Elizabeth Vaughan. Yr oedd wedi bod yn weddw am lawn ddeng mlynedd ar hugain, ac yn ddall yn hwy na hynny. Collasai ei golwg drwy y frech wen. Wedi gwella o'r clefyd aeth i Sefydliad y Deillion, ac yno dysgodd ddarllen a'i bysedd. Mae mor adnabyddus," meddai fy nghyfaill, "fel y derbynia fwy o elusenau gan gymwynaswyr nag sydd yn angenrheidiol i gyfarfod ei hangenion. Ond nid oes yr un o'r rhai a roddant iddi yn agos mor garedig a haelionus ag yw Beti ei hun. Ni fedd berthynasau, eto nid yw ei llety yn yr heol gul draw byth heb ynddo rywun mwy truenus na hi ei hun yn derbyn nodded ac ymgeledd." Gofynais iddo, "A wyddoch chwi rywbeth am rywun o'r enw Rolant mewn cysylltiad a hi ?" 0 gwn. Ei gwr oedd Rolant. Mae wedi bod yn ffyddlawn i'w goffadwriaeth am ddeng mlynedd ar hugain. Pan yn gwneuthur elusen nid yw byth yn anghofio dywedyd ei bod yn dyfod oddiwrth Rolant.' Ond y peth rhyfeddaf yn nglyn a hi yw, y modd y mae yn taflu allan ymadroddion o'r Ysgrythyr ar antur. Yn awr ac eilwaith, megis o dan ryw gynhyrfiad sydyn, adrodda o'i chof adnod neu adran heb fod ar y tudalen agored o'i blaen, yn y disgwyliad y bydd i'r geiriau fod yn gymhwys i rywun ddigwyddo fod yn myned heibio ar y pryd. Ei henw hi ar yr adnodau hyn yw saethau.' A saethau ydynt hefyd. Anhawdd credu nad oes rhyw law fwy cyfarwydd na'r eiddo hi yn eu cy- feirio. Y dydd o'r blaen yr oedd y Barnwr —— yn marchogaeth heibio'r tua'r llys. Ar y pryd darllenai Beti benod o lyfr y Datguddiad, ond arosodd yn sydyn, a phan oedd y Barnwr gy- ferbyn a hi, llefodd allan, A pha farn y barnoch y'ch bernir.' Yr oedd yn amlwg fod y saeth wedi taro y Barnwr. Gobeithio fod ei dded- frydau y diwrnod hwnnw wedi eu tymheru a thrugaredd." Yn mhen yr wythnos bum yn dyst fy hunan o un o saetbau Beti yn myned ar ei hunion i'r nod. Yr oeddwn yn dychwelyd o'r ddinas, gan feddwl am rywbeth, ond pan ychydig latheni oddiwrthi, clywn ei llais clir yn dywedyd, Golud yn ddiau a gymer adenydd, ac a eheda ymaith." Ar y pryd, elai cerbyd heibio, ac oblegid y draf- nidiaeth yr oedd yn gorfod myned yn araf. Y funyd y llefarwyd y geiriau, gwelwn drwy ffenestr hanner cauedig y cerbyd wyneb gwr oedranus mor welw a marwolaeth. Ceisiai gau y ffenestr, crynai ei law fel deilen yr aethnen. Y prydnawn hwnw methasai ariandy adnabyddus yn y ddinas a dichon fod rhyw swn am hynny wedi cyr- haedd clustiau Beti, ac mai dyna barodd iddi ollwng allan y saeth honno. Cefais engraifft neillduol arall o briodoldeb nodedig ei dyfyniadau o'r Ysgrythyr. Yr oeddwn yn croesi dan y bont yn y gwyllnos, a sylwais ar gwpl yn cerdded o'm blaen. Hawdd oedd deall oddiwrth wisgiad rhwysgfawr a chrech- weniad gwag un o honynt, ei bod yn perthyn i'r dosbarth anffodus sydd, ysywaeth, mor lliosog yn ein trefi a'n dinasoedd. Yn sydyn, safodd y ddau, a chlywais y fenyw yn dweyd wrth ei chydymaith ffol, "Gadewch i ni groesi i'r ochr arall, nid wyf yn hoffi cerdded yr ochr yma." Chwarddodd yntau, gan ofyn Paham ? Beth sydd yn bod ?" Chwi gewch weled," meddai hithau, mewn rhyw don bryderus. Aeth y ddau yn mlaen, a minau yn dilyn, a phan yn ngoleu y lamp oedd bron gyferbyn a'r lie yr eisteddai Beti, dyma lais adnabyddus yn dyfod o ganol y gwyll, "Ffordd i uffern yw ei thy hi, yn disgyn i ystafelloedd angau." Peid- iodd crechwen y fenyw, a gwelwn hi yn syllu yn welw yn wyneb ei chydymaith i edrych a oedd efe wedi dal ar y geiriau. Gyda hynny collais y ddau yn nghanol y dorf o dramwywyr. Ryw nos Sadwrn, cyn pen hir iawn ar ol y digwyddiad a grybwyllwyd ddiweddaf, yr oeddwn yn myned heibio, a gwelwn un o arabiaicj bychain yr ystrydoedcl yn cwrcydu yn yniy Beti, "Tyr'di fyrnyl, Dafi," meddai, "llecha yn nghysgod fy mantell, ond cadw dy lygaid yn