Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Byd y Gan.

"CENWCH FAWL YN DDEALLUS."

News
Cite
Share

"CENWCH FAWL YN DDEALLUS." Sonia y Salmydd am ganu yn "llafar" i'r Arglwydd. Canu yn gerddgar ac yn soniarus." A dywed Paul yn y Testament Newydd, dan yr un oruchwyliaeth a ninnau, Beth gan hynny, canaf a'r ysbryd, a chanaf a'r deall hefyd." Mae Duw yn hoffi Trefn. Mae wedi goddef annrhefn. Gwrandawodd ar ganu tair ton ar unwaith,—un yn y dechreu, y llall yn y canol, a'r llall yn y diwedd. Ond mae yn anhawdd cyhoeddi cabldraeth drymach ar yr Ysbryd Glan na dweyd ei fod yn hoffi petb fel hyn yn well na threfn. Mae rhai dynion yn deall peroriaeth mor dda, fel y mae y discords lleiaf yn boen iddynt. Nid oes neb yn deall canu gystal a'r Hwn a greodd y tafod, a luniodd y glust, ac a wnaeth delyn natur. Dywed y Beibl ei fod yn "gostwng ei glust" i wrando gweddi, gellir dweyd fod ganddo fusicai ear hefyd. Oni bae fod Natur yn canu ei thon yn berffaith, byddarid ni gan ei swn; ie, pe byddai rhyw un yn llusgo ar ol, dryllid rhodau creadigaeth yn chwilfriw. Edrychwn ar yr haul, a'r lleuad, a'r mor, &c., yn cadw amser ac os medrwn, amheuwn nad yw Duw am i'w bobl gadw amser wrth ganu Ei fawl. Goreu po Berffeithiaf Fyddwn ym Mhob Da. Nid yw y meddwl byth i aros nes cyrhaedd y pen draw. Nis gwn yn sicr a chwilir rywbryd y leiaf o weithredoedd Ion i berffeithrwydd. Nid y leiaf yw cerddoriaeth. ac nid yw etto y rhai a dreiddiasant bellaf i'r gelfyddyd ond megis casglu ambell gragen ar lan y mor. Pe buasai y cerddor goreu yn y nef wedi bod am filiwn o oesau yn cyfansoddi ton, a'r nefol gor wedi cael mwy 0 hwyl canu nag erioed o'r blaen, ni feiddiant ddweyd Dyma y don oreu a genir byth. Os unwaith y tybia teulu y nef eu bod wedi cyrhaedd yr eithaf, diflasant ar ganu. Ond nid oes perygl. Bydd Duw yn agor ei gelloedd ym mhen oesau fyrdd, ac yn dangos notes a cords na welodd archangylion yr un o honynt erioed. Canu Gyda Chyssondeb. Awgryma y Salmydd y dylai y gin gyfateb i'r person. Canys Brenin yr holl ddaear yw Duw cenwch yn ddeallus." Pan y bu'r Brenin Iorwerth y VII. ar ymweliad a Chymru a mannau eraill yn ddiweddar, canwyd yr Anthem Genedlaethol yn hwyliog a gwresog. Buasai canu gwael ac angherddgar yn ddianrhydeddiddo. Buasai bron yn deyrnfradwriaeth i ganu iddo ef fel y canwyd lawer gwaith i'r Brenin Mawr. Y Cwrdd Canu. Cyn canu yn ddeallus, rhaid cael cyfarfodydd canu. Mae mwy o eisieu rhagbarotoi gyda'n gilydd i ganu na dim arall, am ein bod yn canu yr un don, ac na thai yr hen don ddim o hyd. Gweddiwn ein gweddi, a phregethwn ein pre- geth ein hunain, o ganlyniad gallwn ragbarotoi ein hunain. Ond gan ein bod wrth ganu yn cydgodi a gostwng y sain, a chydfesur amser, rhaid cyd-ddysgu. Meddyliai y diweddar Ddr. Dick eu bod yn dysgu y celfyddydau yn y nefoedd; ac os felly, bydd dosbarth mawr gan y professor of music. Tarawyd Salmydd Cymru a'r drychfeddyliau canlynol:— Pwy, meddech, yw blaenor y gan ? &c. Prin y gall blaenor y gan, seinio un silleb ond un, Na byddo'r boll nefoedd yn dan, yn molieu Duw yn gytun. Gallai eu bod yn dechreu bob yn ail, a gallai fod yn ddadl pwy ddechreuodd, lie y mae y fath gyd-darawiad ag sydd yn y nefoedd. 0

Advertising