Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

.' i Notes of the Week.

Y DYFODOL

[No title]

-.-----____._n_--Nodiadau…

News
Cite
Share

Oddigerth y penderfyniad y cyfeiriwyd ato ynglyn a'r plant, ni wnaed yn hysbys beth yw cynllun Pwyllgor Addysg Meirion i ymladd y frwydr. Eu bod yn bwriadu ymladd hyd y diwedd eithaf sydd ddiamheuol. Cadarnhaodd y Gynhadledd gynnygiad a osodwyd ger ei bron gan Mr. Haydn Jones, Towyn, yn cymeradwyo yn galonog benderfyniad y Pwyllgor i ym- ryddhau oddiwrth y cyfrifoldeb o weinyddu y Ddeddf. Ond ni ddywedodd Mr. Jones ym mha ffordd y maent yn myned i ymryddhau. Dywedodd fod Swyddfa Addysg wedi talu rhyw £ 200 i dair o ysgolion enwadol, er fod yr adeiladau yn y rhai y cerir ymlaen yr ysgolion hynny mewn ystad anaddas, ac er nad oedd y rheolwyr wedi cyflawni yr hyn a ofynai y Ddeddf iddynt wneuthur. Ffurfiwyd pwyllgor cryf i gasglu ac i dderbyn cyfraniadau er mwyn cario y frwydr ymlaen hyd nes y bo yr amcan yr ymleddir drosto wedi ei gyrhaedd, a bod y pwyllgor hwnnw i anfon allan apel at genedl- aetholwyr Cymru heb oedi.. Gwelir na ddyg- wyd i'r golwg unrhyw agwedd newydd ar yr ymgyrch. Nid dyna bwrpas y Gynhadledd. Mae y polisi cenedlaethol wedi ei wneyd yn berffaith glir yn barod, ac y mae Meirion yn cario y polisi hwnnw allan yn ei lymder mwyaf. Cael barn y genedl ar waith y Meir- ionwyr oedd amcan y cynulliad i'r Bala, ac fe gafwyd hynny yn hollol ddigamsyniol. Mae corph aruthrol o'r genedl yn benderfynol nad oes dim cynorthwy i fynd o'r dreth i gynnal sefydliadau yn y rhai y bo prawflwon vcref^ddol, a'u rheolaeth yn nwylaw personau preifat. Y mae honni mai ychydig o gynhyrfwyr yn unig sydd yn gwrthryfela yn ynfydrwydd. Gall y genedl Gymreig fod yn camgymeryd, ac y mae gan y neb a fyno hawl i anghytuno a'i pholisi, ond y mae anwybyddu y ffaith ei bod yn un ac o ddifrif yn y mater yn rhwym o arwain i ganlyn- iadau dinystriol i bob trefn ac awdurdod.