Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL, 1906.

CRITICISING THE ARMY.

Advertising

Pobl a Phethau yn Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yn Nghymru. MAE'N amlwg fod pobl Caerdydd yn dechreu crynu yn eu sgidiau rhag ofn i Aberystwyth fynd a'r Llyfrgell Genedlaethol. Defnyddiant eu holl alluoedd i atal hynny. Y dodge ddiweddaf ydyw ceisio cael allan fanylion y cytundeb sydd yn sicrhau Llyfrgell Peniarth i Aberystwyth doed a ddelo. Ysgrifenodd Maer Caerdydd at Syr John Williams ac at y Prif- athraw Roberts i ofyn iddynt hysbysu dar- pariadau y cytundeb. Ond yr ateb a gafodd ydoedd y rhoddid y cyfryw o flaen y Pwyllgor Neillduol o'r Cyfrin Gyngor sydd i benderfynu y safle. FEL arfer ar y iaf o Fai, cynhaliodd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ei gyfarfodydd blynyddol yng Nghaernarfon. Dywedir mai teneu oedd y cynulliad eleni, a phriodolir hynny i'r tywydd. Yn ol adroddiad y Trysorydd nid oedd cyfraniadau yr aelodau yn ystod y flwyddyn yn ddim ond £960. Pan gofir gynnifer o filoedd yw chwarelwyr Arfon a Meirion, y mae yn amlwg fod yr Undeb yn fethiant hollol yn eu plith. Cyfeiriodd y Cadeirydd yn ei anerchiad at yr anghytundeb rhwng rheolwyr Chwareli y Cwmni Cydweithiol a nifer o'u gweithwyr, a dywedodd fod Chwarel Pant-dreiniog wedi ei phrynu gan y Cwmni am bris rhy uchel ac yn groes i gyngor Swydd- ogion a Phwyllgor yr Undeb. Yn y cyfarfod cyhoeddus yn yr hwyr llywyddwyd gan Mr. Bryn Roberts, ac yr oedd Dr. Henry Jones (Glasgow) ymhlith y siaradwyr. Y MAE'N gof gan lawer ddarfod i'r newydd- iaduron Seisnig a thramor dalu mesur helaeth o sylw i'r Deffroad wythnosau cyntaf y flwyddyn. Erbyn hyn y mae y wasg ddyddiol yn brysur gyda gwrthrychau ereill. Tro y misolion sydd bellach. Wele restr o'r cylchgronau a'r erthyglau. am fisoedd Mawrth ac Ebrill. Ni honir fod y rhestr yn gyflawn :— The East and the West Y Diwygiad yng Nghymru. Good Words" Evan Roberts Glowr a Diwygiwr. "Homiletic Review": Evan Roberts a Di- wygiad Cymru. Missionary Review" Y Pentecost Cymreig. "Occult Review": Dirgelion Sir Feirionydd. "Quiver": Cymru a'i Hen Ddiwygwyr. "Review of Reviews (Australia): Deffroad Cymru ac E. Roberts. "World of To-day Y Diwygiad Cymreig. La Revue" (Ffrainc): Y Deffroad Crefyddol. Rassegna Nazionale (Yr Ital) Adfywiad Cyfriniaeth. MAE'N anhawdd peidio chwerthin yn ddifrifol wrth ddarllen mynegiadau cyfeiliornus,, ysmala, rhai o'r hen deithwyr Seisnig yn eu cyfrolau difyrlawn o berthynas i Greigiau'r Eira" (I- Snowy Mountains "). Dyma ddywediad Cadben Medwin yn ei "Angler in Wales, Snowdon, as its name implies, is covered with perpetual snow." Hysbysa un doniol arall,- Snow is always to be found in this alpine region." Ymfflamycha ereill i'r un cyfeiriad. Rhydd Pennant amseriad yr eira ar y Wyddfa o. Dachwedd hyd Fai. Y mae crib Brenhines y crwydrawl gymylau" (chwedl Glaslyn), gryn 780 o droedfeddi islaw lefel eira tragwyddol." Ar rai tymhorau caled, gwelwyd eira ar ein cribdyrau mawreddog ganol mis Mehefin. PRIN y bydd gwyr Llandilo a Llanybyther yn gwneyd sylw o ddynion cyffredin ar ol hyn, oblegid y mae y Dywysoges Christian wedi eu hanrhydeddu a'i grasol bresenoldeb BYDD yn dda gan liaws ddeall fod y diddan Watcyn Wyn yn well ei iechyd nag y bu; er fod lie i wella rhagor. Y mae y dysteb genedl- aethol iddo yn cael cefnogaeth gyffredinol. Bydd yn cael ei chau yn fuan, ac felly goreu po gyntaf i'r rhai a fwriadant gyfranu gyflawni eu bwriad. Y Cynghorwr Edward Thomas (Coch- farf), Caerdydd, yw y trysorydd. DEALLWN fod llyfr hymnau a thonau an- enwadol yn cael ei baratoi ar gyfer yr eglwysi Cymreig yn Neheubarth Affrica. Y Parch. D. Gwynfryn Jones, gweinidog yr Eglwys Gymreig yn Nhref y Penrhyn, yw y golygydd. CYRHAEDDA y Parch. W. Hopkyn Rees, y cenhadwr Cymreig adnabyddus yng Ngogledd China, i'r wlad hon yr wythnos yma, a bydd yn cymeryd rhan yng nghyfarfodydd blynyddol Cymdeithas Genhadol Llundain yr wythnos nesaf. Brodor o Gwmafon, Morganwg, yw Mr. Rees, a bu am rai blynyddoedd yn weinidog yn Llechryd, Sir Aberteifi, cyn iddo fynd allan i China. MAE son wedi bod ym mysg y brodyr Methodistaidd am gyhoeddi Dyddlyfr Howell Harris," yr hwn sydd mewn llawysgrif an- mhosibl ei darllen ymron, yng Ngholeg Trefecca. Amheuir a oes rhywun yn fyw sydd wedi gallu myned drwy y dyddlyfr i gyd. Rhyfedd y cysondeb difwlch wrth ysgrifenu eu helyntion, oedd mewn cydoeswyr fel John Wesley a Howell Harris. Dywedir fod yr olaf yn arllwys allan ei holl feddwl yn y cofnodion a ysgrifenai, a'u bod yn dangos gonestrwydd dihafal a ffydd- londeb mawr yn hyn o beth. HYSBYSIR, mewn modd swyddogol, y bydd i'r Pwyllgor o'r Cyfrin Gyngor a benodwyd i ystyried a phenderfynu pynciau neillduol cysyllt- iedig a sefydliad yr Amgueddfa a'r Llyfrgell Genedlaethol yng Nghymru, gynal eu cyfarfod cyntaf dydd Sadwrn, Mai i3eg. Dylai pob hysbysrwydd, &c., a fwriedir ei roddi o flaen y Pwyllgor fod yn llaw Clerc y Cyngor lawn deng niwrnod clir cyn y dyddiad crybwylledig. Y MAE Gwyneth Vaughan newydd ysgrifenu nofel arall yn sylfaenedig ar ddiwygiad 1859. 0 Gorlannau y Defaid" ydyw teitl y llyfr, a chyhoeddir ef gan Spurrell a'i Fab, Caerfyrddin. WEDI ei symbylu gan gywreinrwydd y mae un gohebydd wedi bod yn cyfrif y gwahanol enwau yn nyddlyfr yr Annibynwyr. Fel hyn y safant :-Jones, 97; Davies, 90; Evans, 77; Williams, 72 Thomas, 51 Rees, 25 Griffiths, 24; Hughes, 20; Lewis a Roberts, 18; Morgans, Phillips, a Jenkins, 15; Richards, 14; Owen, 13; Edwards, James, a Lloyd, II; Morris, 10. YMDDENGYS ystori hynod o ryfeddol yn un o newyddiaduron y Deheudir ynghylch y diweddar Lewis Jones, un o sylfaenwyr y wladfa Gymreig yn Patagonia. Gwyddai y rhai a'i hadwaenant am y cyfeillgarwch mawr oedd rhyngddo ef a'r diweddar Isaac Ffoulkes (" Llyfrbryf.") Un noswaith, wedi i'w ferch, Eluned Morgan, gyrhaedd Patagonia o Gaer- dydd, eisteddodd am ychydig wrth ochr gwely ei thad, yn ddisymwth torrodd Mr. Jones allan i wylo. Gofynodd ei briod iddo beth oedd y mater. Atebodd, Mae 'Llyfrbryf' wedi mynd." Rai wythnosau wedi hyn, darllenodd Mrs. Jones ac Eluned Morgan yn y newydd- iaduron Cymreig a ddaethant i Batagonia lod "Llyfrbryf" wedi marw yn yr un awr ag y dywedodd Lewis Jones fod Llyfrbryf' wedi mynd." Pwy all esbonio hyn ?

[No title]