Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL, 1906.

News
Cite
Share

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL, 1906. Deallwn fod rhaglen yr Eisteddfod Genedl- aethol sydd i'w chynnal yng Nghaernarfon yn y flwyddyn nesaf yn tynu at fod yn barod. Cyn- haliwyd cyfarfod o'r Pwyllgor Cyffredinol yr wythnos ddiweddaf, pryd y cyflwynodd amryw o'r is-bwyllgorau eu hadroddiadau ac y mabwys- iadwyd hwy. Cyrhaedda cyfanswm y gwobrwyon ^855, yn cael ei wneyd i fynu o £500 o wobrwyon cerddorol, ^"255 o wobrwyon llen- yddol, a ^100 am gelf. Yn yr adran farddonol a llenyddol ceir rhai pethau anghyffredin. Mae cystadleuaeth y gadair yn agored i awdl ar unrhyw destyn na bu mewn Eisteddfod Genedlaethol ers deng mlynedd ar hugain. "Branwen ferch Llyr" fydd testyn y goron. Rhoddir gwobrwyon am ganeuon priodol i'w canu ar gadeiriad a choroniad y bardd, am gywydd ar Eryri," ac am ddrama ar "Owen Lawgoch." Bwriedir, os gellir gwneyd y trefniadau anghenrheidiol, perfformio y ddrama yn ystod yr Eisteddfod. Ail-gynygia Cymdeithas yr Eisteddfod Genedl- aethol wobr o ^50 am draethawd ar enwogion Cymreig y ddeunawfed ar bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rhoddir ^15 am draethawd ar Ddiwygiadau Cymru," ac am un arall ar "Ddylanwad y Deffroad ar Lenyddiaeth Gymreig." Ymhlith y testynau eraill y mae Casgliad o enwau Lleoedd ym Mon (gwobr yn cael ei rhoddi gan Mr. Ellis Jones Griffith, A.S.), Gramadeg Cymraeg Lladin," a Chasgliad o Ddyfyniadau o Lenyddiaeth Cymru." Beirniaid y farddoniaeth fyddant y Proffeswr John Morris Jones, Berw, Machreth, Elphin, Gwili, a Silyn Roberts. Ac ymhlith y beirniaid lien bydd "Alien Raine a Morfydd Eryri." Yn yr adran gerddol a ganlyn yw y prif gystadleuaethau:— Corau heb fod dan 140 na thros r60 o rif: "The Lord is Good (D. Evans, Mus. Bac.), God in the Thunderstorm" (Schubert), a "Hilda" (J. H. Roberts, Mus. Bac.). Corau heb fod dan 60 na thros 80 o rif: "Arise, All-Potent Ruler" (D. Emlyn Evans), Cwsg fy Maban (W. M. Roberts). Corau Meibion heb fod dan 60 na thros 70 o rif: "The Rising Sun (C. M. Newman), a "The Village Blacksmith" (Dr. Joseph Parry). Corau Merched heb fod dan 30 na thros 40 A desolate Shore (Cowen), a "J esu, Lover of my Soul (Dan Protheroe).

CRITICISING THE ARMY.

Advertising

Pobl a Phethau yn Nghymru.

[No title]