Hide Articles List

3 articles on this Page

Byd y Gan.

EDWARD GERMAN'S "WELSH RHAPSODY."

- SEISNIGYDDIAETH.

News
Cite
Share

SEISNIGYDDIAETH. Fel y canlyn yr ysgrifena y Parch. James H Jenkins, Rheithor Ffynon Daf, ar Seisnigyddiaeth yr Eglwys: — Mor gyffredin, erbyn hyn, ysywaeth, ydyw y damsang ar Gymru, Cymry, a Chymraeg, nes gadewir i'r driniaeth basio heibio fel rhan o drefn naturiol pethau. Buddiol, ynte, ar adegau ydyw galw ein sylw at engreifftiau o'r fath fel apeliad at y swm hono o hunan-barch Cymraeg all fod wedi goroesi blynyddoedd hirfaith o oerfelgarwch ac esgeulusdod. Os ydyw dar- llenwyr lleyg Llandaf am droi yr ysgwydd oer at yr hen iaith, nid ydynt ond yn dilyn esiampl ffasiynol cynulliadau yr offeiriad a'r urddasolion. Y prawf mawr o ddiwylliant yn mhlith y rhai hyn, bob amser, yw parablu Saesneg Piccadilly. Gwir i Gynhadledd Esgobaethol Llandaf y llynedd basio yn unfrydol benderfyniad i newid yr hen bolisi gwrth-Gymreig. Ond beth sydd yn fwy naturiol nag i'r darllenwyr lleyg yma, ydynt, yn ami, yn fwy clerigol na'r clerigwyr, fod hefyd yn fwy eithafol Seisnigaidd na'r Saeson ? Hunllef yw y teimlad Philistaidd sydd yn taflu ei gysgod llethol dros holl gymdeithasau yr Esgobaeth hon. Tybed mai hwn yw y rheswm dros eu bod i gyd mor welw a nychlyd ? Talai y ffordd, o leiaf,"i wneud arbrawf ar ddull gwahanol i'r presenol. Un diwrnod yn Chwefror cwrddodd cofiadur y clwb a'r hyfwyn Ganon Lewis, Ystradyfodwg, yn Nghaerdydd Ar ei ffordd yr ydoedd i gyfarfod mawr blynyddol Cymdeithas Ddirwestol yr Esgobaeth yn y Neuadd Drefol. Gan fod y cofiadur fel ysgrif- enydd gobeithlu, yn aelod o'r Gymdeithas, aeth yntau yno hefyd. Cofier mai cyfarfod o'r Esgobaeth ydoedd, a hono yn cymeryd i mewn ddarnau mwyaf Gwent a Morganwg-siroedd diarhebol am faintioli eu poblogaeth. Blaenorid y gweithrediadau gan gyfarfod o aelodau pwyllgor y Gymdeithas. Er fod y cyfarfod cyhoeddus oedd i ddilyn hwn wedi ei hysbysu yn y wasg, nid oedd, wedi yr awr i ddechreu, yn bresenol ond dau ohebydd, tra y cynrychiolid y cyhoedd cyffredinol gan y Canon a'r cofiadur, a phan alwyd ar y blaenaf i lywyddu, aeth haner y gynulleidfa i'r gadair Teimlodd cofiadur y clwb ei unigrwydd i'r fath raddau fel y cymerodd ei sedd gyda bechgyn y wasg. Ychwanegwyd mewn amser at rif y gwrandawyr gan ddyfodiad tri dyn a chrotyn, ac holi yr oedd un o'r rhai hyn am gynulliad mewn adran arall o'r adeilad. Wedi darlleniad y mynegiad swyddogol am y flwyddyn, yr hwn, o ran unrhyw berthynas arbenig ag Esgobaeth Gymraeg neu ddwy-ieithawg, a fyddai yr un mor addas i Gangen Caerloyw neu Gaer- gaint o'r Gymdeithas Ddirwestol, mentrodd y cofiadur awgrymu fod agwedd y cynulliad yn arwydd fod eisieu mwy o dan Cymreig. Pan ddaeth apwyntiad cynrychiolwyr y Gymdeithas, cynygiodd fod Ficer Rhymni i weithredu fel areithiwr Cymraeg yn yr Esgobaeth. Tuedd gwrthod oedd yn Mr. Fisher, ond gall psod ei feddwl yn dawel. Gwael iawn fydd yr ochr Gymraeg os na ddaw i fyny i'r un Saesneg sydd ag enw i fyw, tra i bob ymddangosiad y drws nesaf i farw. "Gwirionedd nas gellir enill dim drwy ei gelu yw fod ein gwaseidd-dra fel cenedl yn peri i ni ymostwng i driniaeth Eglwysig na estynid i'r un maes cenhadol gan yr un o Eglwysi Cred. Elfen boenus yn yr helynt hefyd yw fod llawer o erlidwyr y Gymraeg yr un mor gydwybodol ag oedd Saul o Tarsus gynt fel gorthrymwr. 0 dan ryw gyfaredd dinystriol credant yn ddisigl fod difodiant yr iaith a'r teimlad Cymreig yn beth i'w chwenych ar dir parhad a chynydd yr Eglwys. Gyda'r fath athrawiaeth mewn bri pa ryfedd na cheir yn Ngwyl Dewi Sant mewn Eglwys Gadeiriol bob amser, heb drafferth, Feibl Cymraeg at wasanaeth y pregethwr ? Mewn hysbysiad am ysgrifenydd arianol i drysorfeydd yr esgobaeth hon ni chafwyd gair o awgrymiad fod yn ofynol i'r swyddog newydd wybod Cymraeg, er y cyfaddefir gan bawb fod plant Gomer yn gwneud i fynu ran bwysig o'r Esgobaeth."