Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

PobI a -Phethau yn Nghymru.

News
Cite
Share

PobI a Phethau yn Nghymru. Y MAE mudiad ar droed yng Nghaernarfon i godi trysorfa er rhoddi cofgolofn ar fedd yr hen gerddor hyglod, Mr. William Owen, Prysgol, awdwr "Pen Calfaria," yr hon a genir pa le bynnag yr ymgynulla Cymry i addoli, ag sydd mor boblogaidd yng nghyfarfodydd y Diwygiad. Claddwyd William Owen yng nghladdfa Cae Athraw, lie hefyd y claddwyd Ieuan Gwyllt. Nid rhy dda y cydolygai y ddau yn ystod eu bywyd, ond y mae heddwch perffaith rhyngddynt yn awr. ———— GOFYNA y GoleuadA oes rhywun all egluro paham y mae cymaint o ymrafaelio yn holl fyrddau cyhoeddus Aberystwyth ? Buasai yn ddyddorol gwybod pe ond o ran cywreinrwydd. Ac fe allasai eglurhad atal eraill rhag myned i'r cyfryw rysedd. Paham, mewn difrif, y rhaid i gwerylon personol diles a diflas warthnodi tref barchus fel Aberystwyth? Dywedodd un gwr enwog y buasai haner yr aelodau ar bob bwrdd yno yn hoffi bwrw yr haner arall dros y dibyn i'r mor. Ond paham? Atebed arall. Un peth sydd amlwg i bawb yw hyn, fod bywyd cyhoeddus y dref yn fwy teilwng o'r garsiwn nag o dref golegawl. YN ddiweddar pasiodd Cymdeithas Rydd- frydol Llafurawl y Rhondda bleidlais o ym- ddiriedaeth llwyr a diysgog yn Mabon." Anfonodd yr Aelod, yn ei ffordd ei hun, air yn ol atynt i ddiolch yn garedig am eu cefnogaeth gan eu hysbysu fod Mabon yr un o hyd." YCHYDIG ddyddiau yn ol, fel yr oedd y Barnwr Syr Horatio Lloyd yn cerdded i Lys y Man-dyledion yn Llanrwst cwympodd ar y palmant llithrig ger congl y Crown. Pan gyfodwyd ef ar ei draed gwelwyd fod ei wyneb wedi ei friwio. Fodd bynag, aeth y marchog dysgedig ym mhen amser i'r 11) s, a chyflawnocld ei ddyledswyddau. Y mae Syr Horatio wedi cyrhaedd gwth o oedran, ond cyflawna ei waith mor effeithiol ag erioed, ac nid oes un barnwr ar y fainc yn fwy ei barch, serch nad yw byth yn troi ei lys yn gwrdd adloniadol. DYWEDODD Esgob Llandaf mewn cyfarfod o Rechabiad yn Torquay ychydig amser yn ol mai syndod o'r mwyaf iddo ef ydoedd cael ei alw i'r swydd uchel o Esgob, yn enwedig pan ystyriai ddarfod iddo ychydig amser cyn ei bennodiad i anfon i'r Prif Weinidog bender- fyniadau yn llawn termau cryfion yn cynrychioli teimlad dirwestol y cylchoedd. Meddyliai trwy hynny nad oedd ganddo reswm dros gredu fod gan y Prif Weinidog deimladau cyfeillgar tuag ato. MEWN cysylltiad a'r frwydr ym Meirionydd mae trefniadau wedi eu gwneyd i gynnal cyfarfod cyhoeddus yn Nolgellau nos Fawrth, Mai 2il, ar ol cynadledd y Bala. Anerchir y cyfarfod gan Mr. Lloyd-George, ac fe ddisgwylir Mr. Herbert Roberts a'r Parchn. Griffith Ellis ac Elvet Lewis yno. Trefnir hefyd gyfarfodydd mewn rhanau eraill o'r sir, pryd yr anerchir hwy gan Aelodau Seneddol ac enwogion eraill. AM y trydydd gwaith yn ystod eiswyddogaeth cyflwynwyd par o fenyg gwynion i Faer Caerdydd am nad oedd un achos i ddyfod gerbron yr ustusiaid. Sibrydir ei fod yn bwriadu rhoddi un par i'r Amgueddfa Genedlaethol os lleolir hi yng Nghaerdydd. ———— Y MAE Ardalydd Tredegar wedi addaw £100 at Eisteddfod Afcerpennar. Ymddengys fod y Drysorfa danysgrifiol wedi cyrhaedd yn agos i fil o bunnau. Cyhoeddwyd hyn mewn pwyllgor y nos o'r blaen. Pasiwyd yn y pwyllgor hwn nad oes diodydd meddwol i fod ar dir yr Eisteddfod. Os yw yr oil ddywedir am y Parch. H. M. Roberts, Rhydlydan, yn wirionedd, anhawdd peidio tosturio wrtho. Ymddengys iddo wneyd rhai sylwadau anffafriol i'r diwygiwr yn y cyfarfoc cyffrous yn Chatham Street, Lerpwl. Aeth i'" gyhoeddiad y dydd Sadwrn dilynol i Ddinbych Trodd i fewn i "coffee tavern," ond pan ddeallwyd pwy ydoedd, gwrthodwyd bwyd a llety iddo. Dwr- diwyd ef yn arw gan amryw o'i gydnabod yn y dref hefyd, a'r Sul, gwrthododd un eglwys fechan oedd wedi ei gyhoeddi ganiatau iddo bregethu. Gwaeth na'r cwbl, y mae Gyfarfod Misol Dwyreinbarth Meirionydd, i ba un y perthyna Mr. Roberts, ar gynygiad Dr. Hugh Williams, Bala, wedi anfon *ZD b ato i ofyn iddo fod yn bresennol y cyfarfod nesaf i egluro ei ymcldygiad yn Lerpwl. Teg ydyw hysbysu fod Mr. Roberts mewn modd di- gamsyniol wedi datgan ei edifeirwch am yr hyn a wnaeth. UN effaith o gynhal Cynhadledd yr Athrawon yn L!andudno ydyw fod y Schoolmaster, cylch- grawn yr ysgolfestri, bron wedi dyfod yn gyhoeddiad Cymreig. Yn y rhifyn diweddaf ymddengys erthygl anveiniol Dr. Macnamara yn Gymraeg a Seisneg, mewn colofnau cyfochrog. YN ol Syr John Puleston, Castell Caernarfon ydyw y lie mwyaf addas yng Nghymru fel cartrefle yr Amgueddfa Genhedlaethol.

The Children's Column.

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.