Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Daioni Wnaed Gan y Merched.

News
Cite
Share

fath ysgwyd ar unrhyw genedl erioed o'r blaen. Y mae y tafarndai wedi cau yn y Gogledd. Dywedai un gwraig ty tafarn na ddarfu iddi dderbyn ond dwy geiniog trwy yr Wythnos, a'r rhai hynny oddiwrth bolisman. Yr oedd bechgyn dysgedig o goleg Rhydychen wedi llosgi llyfrau y Rationalistic Press. Yr oedd yna ddegau wedi eu hachub mewn cyfarfodydd gweddi yn y trens. Beth oedd y Diwygiad ? Dynion wedi dod i siarad a Duw ac a'u gilydd trwy eu calon. Yr oedd yna ormod o siarad trwy y pen wedi bod. Mewn un cyfarfod yr oedd yna saith cenedl yn cael eu cynrychioli, a phob un yn deal] iaith y galon. Dywedai merch leuanc yn Llandudno Junction y buasai y merched wedi dweyd llawer am yr Iesu oni bai yr Apostol Paul. Credai ef (Dr. Phillips) fod yr Apostol wedi cael ei gamddeall, ac mai cyfeirio at wragedd oedd yn cweryla yn yr eglwys yr oedd. Nid oedd ond dydd y farn ddangosai y Daioni Wnaed Gan y Merched. Ganddynt hwy yr oedd wedi clywed y gweddiau mwyaf cyfoethog. Onid oeddynt hwy yn Llun- dain yn teimlo yn falch fod cenedl fach fel cenedl y Cymry yn debyg o siglo y byd, os daliant atti. Ar derfyn anerchiad Dr. Phillips torrodd y gynnulleidfa allan i ganu "Dyma gariad fel y moroedd" ac emynau eraill, a chanwyd gyda dwysder mawr am beth amser. a llais menyw oedd yn arwain y dyblu gan mwyaf. Y Parch. J. Howell Hughes, Bala, a ddywedai fod yn amlwg fod y peth" wedi cyrhaedd Llundain. Vr oedd ef yn cofio Diwygiad 1859, a gwelodd rai oedd wedi aros yn edrychwyr ac yn feirniaid trwy yr amser yn marw yn yr un cyflwr. Fe aeth y llifeiriant heibio heb gyffwrdd a hwy. Hoffai ein gweled fel cenedl yn cael em sefydlu ar ein huchelfanau. Y Parch. T. Davies, Treorci, a ddywedai fod dyddiau wedi gwawrio pan nad oedd cyfrif amser. Yr oedd ef wedi cael y pum' mis goreu gafodd erioed. Yr oedd gwerth dyn yn cael ei deimlo, a'i achubiaeth yn cael ei brisio. Yr oedd arno ofn colli y peth wrth siarad am dano; anghofio gweddio Duw wrth feddwl am y geiriau. Annogai i'r swyddogion cael ei ysgwtio o'r neilldu pan ddeuai yr Adfywiad. Diweddwyd y cyfarfod gan y Parch. Justin Evans.

CHURCHMEN AND THE SCHOOLS.

Notes from South Wales.

Advertising

UNO Y BALA A THREFECCA.

Notes from South Wales.