Hide Articles List

1 article on this Page

Cymanfa'r Pasg.

News
Cite
Share

Cymanfa'r Pasg. Cynhaliwyd y Gymanfa hon eleni fel arfer. Yr oedd pregethu yn holl gapelau y Methodistiaid yn y cylch nos Wener y Groglith, y Sul, a nos Lun, ac yn Jewin Newydd prydnawn Gwener a boreu a phrydnawn Llun. Nos Sadwrn cyn- haliwyd Cyfarfod Dirwestol yn j ewin Newydd, a chyfarfodydd i'r Bobl leuainc yn Shirland Road, Holloway, a Falmouth Road. Y pregethwyr a wasanaethent eleni oedd y Parchn. Thos. Gray, Birkenhead; D. Williams, Llanwnda J. Davies, F.S.A., Pandy T. Davies, Treorci; D. Lloyd Jones, M.A., Llandinam; J. Howell Hughes, Bala; W. Richards, Briton Ferry; Joseph Jenkins, Ceinewydd; D. M. Phillips, M.A., Ph.D., Tylorstown; John Thickens, Aberayron; D. Jones, Mardy; H. Harris Hughes, B.A., B.D., Maenofferen; a R. R. Jones, Aber- gynolwyn. Y prif gyfarfod yn ddiau ydoedd y Seiat Gyffredinol yn Jewin Newydd bore dydd Gwener. Daeth nifer mwy nag arfer ynghyd. Llywyddwyd gan y Parch. Francis Knoyle, B.A., a dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. D. Jones. Wrth wneyd sylwadau ar yr Ystadegau, dymunai y Parch. John Davies, F.S.A., longyfarch Cyfarfod Misol Llundain ar y wedd foddhaol a gobeithiol a roddid gan eu hadroddiad am y flwyddyn ddiweddaf. Yr oedd yn dangos llafur mawr, a chariad, yr oedd yn gobeithio, at berchen y gwaith. Ni ellid disgwyl i ystadegau fynegu y cyfan o'u hymdrechion egniol mwy nag y gallai gohebydd ar faes y gwaed groniclo y cyfan o'r manylion, a rhoi i mewn yn ei adrodd- iad bob ymdrech a wneid. Un prawf o iechyd oedd gallu i gyfarfod anhawsderau, ac a barnu iachusrwydd Cyfarfod Misol Llundain yn ol y prawf hwn, yr oedd golwg galonogol ar bethau. Da oedd ganddo weled fod yna gynnydd o dri-ar- hugain yn yr aelodau mewn cymundeb. Nid oedd yn gynnydd mawr. Ond byddai y diweddar Barch. Joseph Thomas, Carno, yn arfer dweyd mai y ffordd i fynd ym mlaen oedd peidio mynd yn ol. Bum'-mlynedd-ar-hugain yn ol nid oedd nifer y capelau a'r lleoedd pregethu ond wyth. Erbyn heddyw yr oeddynt yn un-ar-bymtheg. Nifer yr aelodau mewn cymundeb bum'-mlynedd- ar hugain yn ol oedd 1,533, ac erbyn Heddyw yr Oedd yn 4,238. Yr oedd hyn yn gynnydd ardderchog, ac nis gallai unrhyw Gyfarfod Misol ddangos ei well yn wyneb anhawsderau na wyddai y wlad ddim am danynt. Yr oedd y Cyfarfod Misol yn dangos polisi doeth wrth sefydlu canghenau ar yr ymylon (suburbs). Tuedd y boblogaeth oedd ymestyn allan o ganol y trefi mawrion i'r suburbs. Gan hynny, ni ellid disgwyl i'r hen eglwysi gynnyddu llawer. Nid yr un dosbarth mwy oedd yn dod i'r Brifddinas o'r wlad, ac nid oedd y cynnulliadau mor sefydlog. Tybiai ef mai y dosbarth oedd yn dyfod yma yn awr oedd chemists, druggists, drapers, cyfreithwyr, nurses, a'r rhai hyn oil yn dyfod fel improvers. Ar ol aros am dymhor yn Llundain byddant yn dychwelyd ac yn ymsefydlu yn y wlad. Yr oedd hyn yn gwneyd yr eglwysi yn ansefydlog iawn, ac yn gwneud cymeriad y gynnulleidfa yn wahanol. Yr oedd y social status yn bur wahanol. Tair neu bedair blynedd oedd average oes sefydlog eglwys ) n Llundain. Un anhaws- der arall oedd y nifer mawr sydd yn ymadael heb docynau aelodaeth. Yr oedd y nifer yn 195, sef cynnydd o 84 er y flwyddyn o'r blaen. Mewn un eglwys yn unig yr oedd 72 wedi ymadael heb ducynau, a 43 o eglwys arall. Cwestiwn anhawdd oedd hwn ond tybiai ef y gallai Cyfarfod Misol oedd wedi arfer cyfarfod ag anhawsderau ffurfio rhyw gynllun erlleihau y nifer yma. Anhawsder arall oedd yr Un Ynglyn a'r Plant. Nifer y plant yn ol yr adroddiad oedd 1,083— cynnydd o 46 yn ystod y flwyddyn. Modd bynnag, ni dderbyniwyd ond 53 o blant yr eglwys yn gyflawn aelodau, sef rhyw dri ar gyfer pob eglwys. Beth oedd yn dyfod o'r holl blant ? Credai ef nad oeddynt oil yn tyfu i fynu yn anghrefyddol. Tebyg oedd eu bod yn ymuno a'r eglwysi Saesneg. Yr oedd yn cofio eglwys Saesnig yn cael ei ffurfio yn Llun- dain, ac yr oedd ef o blaid eu rhwymo wrth y Cyfundeb a rheffynau Saesnig, o bae raid. Yr oedd yn dda ganddo weled mai cynnydd oedd nodwedd yr Ysgol Sabbothol. Ond tra yr oedd nifer yr ysgolheigion yn yr Ysgol Sabbothol yng Nghymru yn fwy lluosog na nifer y cymunwyr, yn Llundain nid oeddynt ond ryw hanner nifer y cymunwyr. Ni chipiodd angau ond 32 o aelodau a I5 o'r plant, ac ni nodir fod ond un wedi ei ddiarddel. Yr oeddynt wedi gwneyd ymdrech egniol i dalu y ddyled ar y capelau, eto, ar wahan i roddion arbenig, yr oedd y cyfartaledd yn bur isel. Nid oedd yr achosion newyddion a chenhadol yn cael y gefnogaeth ddyladwy. Bum'mlynedd-ar-hugain yn ol nid oedd nifer yr aelodau mewn cymundeb ond 1,533, ond ceid ardreth o £467 am yr eistedd- leoedd. Yn 1904 )r oedd nifer yr aelodau yn 4,238, eto nid oedd ardreth yr eisteddleoedd ond ^831. Yn ol y cyfartaledd dylasai fod oddeutu ^1,400. Ond, yn y diwedd, nid Institute na Chlwb oedd Eglwys Dduw, ac nid oedd wedi cael ei bod o herwydd teimladau dyngarol neu gymdeithasol. Yr un oedd motto yr eglwys ac a welsai unwaith ar lighthouse- I roi goleuni, ac i achub bywyd." Yna aethpwyd yn mlaen i drafod y mater gosodedig, sef Yr Adfywiad. Y Llywydd, wrth agor yr ymdriniaeth, a ddywedodd mai dymuniad distaw yr eglwys am flynyddau oedd am y dydd y gellid dweyd Canys, wele, y gauaf a aeth heibio y gwlaw a ddarfu, a'r blodeu a ymddangosant ar y ddaear, amser yr adar i ganu a ddaeth, a chlywir llais y ddurtur yn y tir." Yr oeddynt yn dymuno cyflwyno eu diolchgarwch. i'r Arglwydd am ei ddaioni tuag attynt ac yn enwedig am y gwaith ardderchog a wnaed trwy Mr. Evan Roberts. Yr oedd yn deall fod myfyrwyr Trefecca wedi methu myned yn mlaen gyda'u arholiadau am eu bod wedi bod dan addysg uwch. Yr oedd hyn yn wir hefyd am y genedl. Yr oedd yna ormod o feirniadu wedi bod mewn rhai cylchoedd. Mewn yspryd gweddi y dylid derbyn yr Adfywiad. Y Parch. D. Lloyd Jones, M.A., Llandinam, a ddywedai fod yr Adfywiad wedi bod yn un o'r pethau mwyaf bendithiol i'r eglwysi ac i gym- deithas yng Nghymru a ddaeth iddynt ers y 40 mlynedd diweddaf. Cyn hyn yr oedd y bobl wedi ymollwng i benrhyddid a chabledd. Pan yn son unwaith wrth gyfaill am gael rhai o Cassia i weled crefydd yng Nghymru, dywedai y cyfaill y gwnai hyn fwy o ddrwg nac o dda am fod gan y Cassiaid syniad uchel am Gymru a'i chrefydd, ond pe deuent yma (yn y cyfnod cyn y Diwygiad) ac y gwelent y meddwi a chlywed yr iaith ofnadwy syrthiasai eu syniad uchel am danom. Yr oedd yr ymddygiad wedi bod yn hollol anheilwng o bobl yn byw mewn gwlad efengyl. Da oedd ganddo ddweyd fod pethau wedi newid yn hollol erbyn hyn. Yn lie fod y trens yn Dawn o feddwon cedwid Cyfarfodydd Gweddio ar y Platform. Teimlai fel pe bae y mil blynyddau wedi dod. Cydsyniai ar hyn, ddywedodd un hen wreigen gynt, 0 na bae Sassiwn y Bala yn para byth Yn enwedig dymunai weld yr Adfywiad yn parhau. yn y ffurf arbenig yr oedd wedi dod. Gwell oedd ganddo ef weled y peth yn torri allan yn mysg y bobl yn gyffredinol nac o dan ddylanwad pregethu. Yr oedd yna un peth arbenig yn nodweddu y Diwygiad—nid oedd yn gwybod am air Cymraeg am dano—ond os cai arfer gair Saesneg galwai ef yn mysteriousness. Yr oedd yr eglwysi bychain yng ngheseiliau y mynyddoedd lie nad oedd yr un cylchgrawn na phapur yn myned, a lie nad oedd yr un gweinidog yn efengylu iddynt wedi cael y caw- odydd. Yr oedd ganddo erioed—ond nid oedd wedi dweyd hynny hyd yn awr-wrtbwynehiad i lawer o machinery gyda chrefydd. N d oedd yn credu mewn mynd i le i gynnal neu gynnyrchu Diwygiad. Nis gallasai ef erioed hoffi rhyw wneud Diwygiad, fel dyn yn myned ac electric battery i rywle dan labed ei gob er mwyn gweithio trydaniaeth allan. Nid oedd yna neb ac electric battery wedi bod yn yr eglwysi bach ar y mynyddoedd. Ni fu yno un electric battery ond yr electric battery fawr o'r nef. Cyn yr Adfywiad yr oedd y cynnulliadau wedi myned yn fychan iawn, a mawr oedd yr ymofyn sut i wella pethau. Eisieu mwy o bregethu oedd barn un, mynai arall fod angen mwy o flaenor- iaid, ond cynghorion cwack oedd rhain. Erbyn hyn yr oedd y bobl wedi dod yn barod i weddio o honynt eu hunain, a'r anhawsder yn awr oedd eu hanfon adref o'r cyfarfodydd. Mewn un eglwys fechan yn y mynyddoedd, lie nad oedd ond rhyw no aelodau, torrodd y'tan allan ac yn yr Adfywiad fe chwanegwyd 26 at nifer yr aelodau. 0 ba le yr oedd y peth wedi dod ? Ni fu yr un gweinidog nac efengylydd yno hefo electric battery yn ceisio gwneud y peth. Fe ddaeth o'r un fan ac y daeth Dydd y Pentecost yr lesu hwn." Fe ellid cael dynion dysgedig ac athrylithgar i bregethu ac eto yn annuwiol. Yr oedd yna ryw ddirgelwch rhyfedd yn perthyn i'r Adfywiad yma. Yr oedd, yn un peth, wedi dangos fod cref) dd yn annibynol ar intellectuality. Intellect oedd wedi bod yn cael ei foli, ac fe ystyrid os ceid intellect i'r pwlpud y byddai crefydd yn all right. Ond nid ar ddysgeidiaeth nac ar ddynion dysgedig yr oedd crefydd yn dibynu. Dibynai fwy ar y teimladau a'r chwaeth. Yr oedd yna lyfrau anffyddol mewn argraphiadau rhad yn cael eu lledaenu trwy y wlad, ond erbyn hyn yr oedd y teimlad crefyddol wedi dod a'r rhai oeddynt wedi eu darllen yn ol ac yn eu hachub. Yr oedd crefydd yn annibynol ar drefniadau dyn. Fe allwn ni wneud y "Channel" a' r Pipes, ond Duw sydd yn anfon y gwlaw. Gwneyd y trefniadau, y channels a'r pipes, yr oedd Eglwys Rhufain ac Eglwys Loegr, a'n cyfundeb ninnau o ran hynny, ar hyd yr oesau. Ond gallern drefnu colegau ac addysg ac eto gael dynion annuwiol. Yr oedd yna syniad ffol yn ffynu fod rhywbeth arbenig yn mynd i'r pregethwr wrth iddo gael ei ordeinio fel pe bae dyn, oherwydd iddo gael ei wneyd yn bregethwr yn rhywbeth mwy neillduol na rhyw ddyn arall. Gwell oedd ganddo ef anrhefn lie 'roedd yna fywyd a theimlad na'r trefnusrwydd marw a welsai yn St. Paul's y dydd o'r blaen. Yr oedd wedi gweled yr Hafren yn gorlifo ei glanau ac yn symud darnau o concrete a'r hwn yr oedd dyn wedi patchio ei glanau. Nid yr anrhefn oedd ef yn ei werthfawrogi ond y bywyd oedd yno. Yr oedd ef o blaid rheolau gyda barddoniaeth, a rheolau gyda grammadeg, a rheolau gyda cherddoriaeth, a rheolau gydag areithyddiaeth a phethau o'r fath, ond yr oedd yn ddigon bodd- lawn i deimlad i foddi y cwbl. Dymunai ef rwydd hynt i'r Adfywiad. Y Parch. D. M. Phillips, M.A., Ph.D., Tylors- town, a ddywedai fod un o ddynion callaf tref Lerpwl, a dyn oedd a'i galon yn cydfyned a'r Adfywiad, wedi galw gydag ef, cyn dyfodiad Mr. Evan Roberts, i'w rybuddio na allai ddisgwyl mewn tref o wrtaith, ffasiwn, ac intellect Lerpwl yr un effeithiau grymus ag oeddid wedi gael yn y Deheudir. Dellwch chi ddim disgwyl gweled tri, pedwar a phump yn cydweddio ar yr un adeg yn Lerpwl" meddai y cyfaill. Yn y cyfarfod un nos Fercher yn Princes Road yr oedd yna dri yn gweddio gyda'u gilydd. Yn y cyfarfod yn y Sun Hall, lie 'roedd 5,500 yn bresenol yr oedd yna 500 yn gweddio gyda'u gilydd. Beth am wrtaith Lerpwl?" gofynai i'w gyfaill. "Wedi mynd i gyd" oedd ei ateb trwy ei ddagrau. 0 Beth allent ddisgwyl, a allent gael y gwanwyn I n heb gawodydd trymion ? Gwanwyn Ysprydol ydoedd hi yn awr. Yr oedd y gwres wedi tynu eraill i weithredu na fuasent yn gwneyd dim oni bai am y cynhwrf. Y mae yr anrhefn yn drefn o du IJduw. Bydded iddynt ddweyd wrth feirn- iaid Mr. Evan Roberts Dos dithau a gwna yr un modd." A allai un o'i feirniaid ysgwyd y dref o ben bwy gilydd fel y gwnaeth ef? 90,000 o ddychweledigion mewn pum' mis Ni fu Y