Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

i'-i Enwogion Cymreig.-XXX.…

News
Cite
Share

i i Enwogion Cymreig.-XXX. Mr. Tom John. NID yn fynych iawn y gesyd unrhyw gym- deithas fo yn cymeryd i mewn yr oil o Ynys Brydain ei hanrhydedd uchaf ar Gymro Cymreig a dreuliodd ei holl oes o fewn terfynau ei wlad ac ymhlith ei bobl ei hun. Fel rheol anwybyddir Cymru naill ai am ei bod yn fechan, neu ynte am yr ystyrir mai digon i'w Phlant hi ydyw cael gwasanaethu yn gymynwyr eoed a gwehynwyr dwfr i bobl eraill. Gellir Penderfynu, pa bryd bynnag y caiff Cymro anrhydedd gan estroniaid, ei fod wedi gwir haeddu hynny, ac mai yr unig reswm paham y telir teyrnged iddo ydyw am na allesid ymatal. Y llynedd rhoddodd Undeb Cenedlaethol yr Athrawon Elfenol yr anrhydedd uchaf a fedd i ^r- Tom John, o Lwynpia, a'r wythnos hon cynhalia yr Undeb ei gyfarfodydd blynyddol yn Llandudno o dan ei lywyddiaeth ef. Dyna ddigon o reswm dros i ninnau ei restru ymhlith ein "henwogion," a rhoddi i'n darllenwyr ychydig o fanylion ei hanes. Un o Blant Aberdar ydyw Mr. Tom John. Yr oedd ei dad, afydd John," yn un o gymeriadau mwyaf nabyddus cylchoedd crefyddol a cherddorol y rei honno. Derbyniodd y bachgen ei. addysg j reu°l ynhenysgoly Comin,—ysgola drodd allan 0 fechgyn a ddringasant yn uchel—a chafodd y lantais o hyfforddiant y fath athrawon a Dan saac Davies a Marchant Williams. Bu yno yn lsgybl-athraw yn ogystal ac fel ysgolor, ac ar rJyn ei dymhor yn y swydd honno aeth i tre r J^t^rawo^ y Boro' Road, Llundain, lie y ai-KU Y cwrs arfer0^- Wedi tymhor byrr fel law yng Ngogledd Cymru, arweiniwyd ef i j^111 Rhondda. Ymsefydlodd yn gyntaf ym .enygraig, ond ni bu ei arosiad yno yn hir. air blynead ar ddeg ar h again yn ol symudodd 11 ^ynpia, ac yno y mae wedi aros, mewn Op/5 a pharch cynyddol. Ysgol y glowyr yr ysgol pan gymerodd ef ei gofal, ond troed YsCyf yn Ysg°l Fwrdd, ac y mae yn awr yn bl*» Gyngor. Ond ni effeithiodd y dad- a u hyn ar y berthynas rhwng Tom John dd'f "^ae wedi glynu wrth ei alwedigaeth yn risi ac ^awer wedi ei gwneyd yn yn fu 1 ddringo i ryw gylchoedd eraill a ystyrient j^Wy anrhydeddus ac ennillfawr. is gall Cymru byth dalu ei dyled i athrawon ° elfenol, ac o'r braidd yr ydys yn H^Lt5ed y cyfrifoldeb a orphwys arnynt. Phlantt sy'n rhoddi cyfeiriad i feddyliau ei eU d l ^an Y maent yn dirfion ac iraidd, ac erys Efai/ .anwad yn annileadwy ar fywyd a buchedd. rhv ai nia* eu Pr°fedigaeth hwythau yw bod yn ymwybodol o hynny, a bod y wialen a'r awdurdod yn dueddol i ddod i'r golwg yn ormodol weithiau. Nis gall neb ddywedyd nad yw Tom John, beth bynnag Yn Mawrhau ei Swydd. Ysgolfeistr ydyw yn gyntaf ac yn benaf. Cyn- ysgaeddwyd ef gan natur a'r galluoedd angen- rheidiol i fod yn athraw, ac y mae y galluoedd hynny wedi eu diwyllio drwy ymroddiad a phrofiad. Edrycha ar ei alwedigaeth fel yr un fwyaf anrhydeddus, a hawlia iddi gael ei chydnabod felly. Er mwyn ei alwedigaeth y mae yn byw, hi sydd yn mynd a'i fryd yng nghwsg ac yn effro. Mae yn Ymneillduwr ac yn Radical, ond cyn hyn gwelwyd yr ysgolfeistr ynddo yn gorchfygu y naill a'r llall, ac yn eu Photo, A. W. Sargent] [Cardiff. MR. TOM JOHN. gorfodi i gilio o'r ffordd. Os oes ynddo ryw nodwedd a all hawlio bod yn gydradd i'w fawr- had o'i swydd, ei genedlaetholdeb Cymreig yw honno. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf i gefnogi y meddylddrych o astudio yr iaith Gymraeg yn yr ysgolion elfenol, ac ymladdodd yn ddewr o blaid hynny pan edrychai mwyafrif aruthrol o'i gyd-athrawon yng Nghsmru ar y peth fel Z, I breuddwyd ynfyd, a phan oedd athrawon Seisnig yn gwrthwynebu g) da ffyrnigrwydd. Nid yw yn unrhyw glod i athrawon Cymru mai gwrth- wynebwyr goddefol a fuont gyhyd ynglyn a'r pwnc hwn, ac y mae gan y mwyafrif ohonynt le i wella rhagor. Ond rhaid i bob peth oddigerth cenedlaetholdeb fod yn is-wasanaethgar i'r ysgolfeistr onide bydd yn ferw brwd lie bynna y bo Tom John. Yr oedd yn naturiol i wr yn mawrhau ei swydd fel hyn ymuno yn fpre ag Undeb yr Athrawon. I Ddeunaw mlynedd yn ol etholwyd ef yn Ji Aelod o Bwyllgor Qweithiol yr Undeb, ac y mae wedi cadw ei sedd byth er hynny. Llanwodd swyddi pwysig ynglyn a'r Undeb. Ymhen tair blynedd wedi ei ethol ar y pwyllgor yr oedd yn gadeirydd y Pwyllgor Trefniadol, a llanwodd y gadair honno am bedair blynedd. Gwaghaodd hi i fyned i gadair y Pwyllgor Seneddol, a llanwodd honno am bedair blynedd arall. Yn 1902 gwnaed ef yn gadeirydd y Pwyllgor Cyfreithiol. Cynhelir holl gyfarfodydd pwyllgorau yr Undeb yn Llundain, ac er pelled y ffordd o Gwm Rhondda yno, nid yw lie Tom John odid byth yn wag. Mae wedi bod yn bresenol mewn mwy na 220 o gyfarfodydd bob blwyddyn ar gyfartaledd yn ystod deunaw mlynedd. Cymer ddyddordeb mawr hefyd yn sefydliadau elusenol yr Undeb, a'r adeg y cyfarfu y gynhadledd yng Nghaerdydd casglodd ^1,700 i Drysorfa Gweddwon ac Amddifaid Athrawon. Buasai yn anfaddeuol i'r fath ffyddlondeb a gwasanaeth beidio cael ei gydnabod, ac ni ryfeddodd neb i fwy na 200 o ganghenau yr Undeb ei enwi ar gyfer yr Is-gadair o flaen y gynhadledd yn Portsmouth deuddeng mis yn ol. Enwasid tri arall hefyd, ond ) r oedd y mwyafrif drosto ef yn aruthrol. Cafodd gynifer ag 16,853 o bleidleisiau, nifer mwy nag a gafodd neb arall, oddigerth un, er sefydliad yr Undeb. Yn yr un gynhadledd gwnaeth araeth gref yn hawlio i'r ysgolfeistr lywodraeth gyflawn ar ei ysgol, ac yn protestio yn erbyn rhoddi caniatad i unrhyw ddysgawdwr crefyddol ymyryd a'r plant yn ystod yr oriau y b'ont dan ofal yr athraw. Pan gyrhaeddodd y newydd am ei etholiad i Gwm Rhondda yr oedd yno lawenydd dirfawr. Gorymdeithiwyd i'w gyfarfod, a chyflwynwyd iddo anerchiad addurnedig. Teimlai y Cwm, a theimlai Cymru i gyd, fod yr anrhydedd a rodded iddo yn anrhydedd hefyd iddi hithau. Nid yw Tom John yn esgeuluso ei ddyled- swyddau Fel Dinesydd yn y cylch poblog y preswylia ynddo. Efe fu yn brif offeryn i sefydlu Cymdeithas Masnach- wyr y Rhondda Ganol, i'r hon y mae o'r dechreuad yn ysgrifenydd. Ar farwolaeth Iwan Jenkins ymgymerodd a golygiaeth y Glamorgan Free Press, ac y mae yn awr yn olygydd y Rhondda Leader, yr unig newydd- iadur a argreffir yn y Cwm. Cafodd cerddor- iaeth hefyd lawer o'i amser a'i wasanaeth, ac y mae ei holl ddylanwad ym mhlaid rhinwedd a chrefvdd.