Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Notes of the Week.

Am Gymry Llundain.

Nodiadau Golygyddol.

News
Cite
Share

dod nag a feddai dadganiad cyffelyb o enau unrhyw ddyn gonest a difrifol arall fyddai wedi gwneyd y pwnc yn fater dwfn fyfyrdod a gweddi daer. Tra y cydnabyddwn yn ddifloesgni fod Evan Roberts yn ddyn anghyffredin, mor anghyffredin mewn duwiolfrydedd ag ydyw yn neillduolrwydd ei synwyrau, ei feddwl, a'i deimladau, yn ddyn sydd yn hollol ar ei ben ei hun, rhaid i ni ddweyd fod ei gyfeillion a'i edmygwyr penaf yn gwneyd cam dybryd ag ef, ac yn peryglu ei ddylanwad er daioni yn ddirfawr. Mae honni mai eiddigedd enwadol sydd yn cynhyrfu gwrth- wynebiad iddo yn annuwiol. Ac y mae dywedyd nad yw dim a ddywed nac a wna i'w amheu, ond i'w dderbyn fel mynegiad o ewyllys Duw yn gabledd. Hyd y deallwn ni nid yw y Diwygiwr ei hun wedi honni anffaeledigrwydd o gwbl. Llefara gydag awdurdod, awdurdod yn codi o ymwybyddiaeth o gymdeithas agos a pharhaus a Duw, ymwybyddiaeth o arweiniad a chyfar- wyddyd yr Ysbryd Glan. Oni lefarodd pob prophwyd felly ? Mae awdurdod a sicrwydd yn nadganiadau pob dyn difrifol ac argyhoeddedig o wirionedd ei genadwri, ond oni bydd gan un argyhoeddiad felly gwell iddo fod yn ddistaw o ran dim daioni a wna. Rhaid i gyfeillion Evan Roberts foddloni i'w eiriau a'i weithred- iadau gael eu pwyso yng nghlorian barn a dealltwriaeth y bobl. Ac yn ol fel y deallwn y mae y gwrthwynebiadau a ddangoswyd yn rhai 0 gyfarfodydd Lerpwl yn fwy o brotest yn erbyn y safle a gymer rhywrai sydd o gwmpas y Diwygiwr nag yn ei erbyn ef ei hun. Mae y genhadaeth yn Lerpwl yn awr drosodd, ac Evan Roberts wedi myned i orphwys i ryw le neillduedig yn y Nlad nad yw yn hysbys. Cyn gadael y dref gwnaeth pedwar o'r prif feddygon archwiliad arno, a'u dedfryd yw nad oes dim allan o le arno yn gorphorol na medd- yliol, ond ei fod wedi myned i ystad sydd yn galw am dymhor pennodol o seibiant a llonydd- Wch hollol. Gollyngdod dirfawr yw deall nad oes un amhariad arno, a gobeithiwn na chlywir rhagor o ensyniadau ynghylch y mad revivalist." A chymaint gollyngdod a hynny yw deall ei fod I gael gorphwysdra. Hwyrach y buasai yn well pe trefnasid iddo ei gael cyn y llafur a'r ingoedd yn Lerpwl. Rhaid fod yr hyn ddigwyddodd yn amryw o'r cyfarfodydd yno fel brathiadau cleddyf i natur mor deimladwy a'r eiddo ef. Gobeithiwn y llwyddir i gadw y man yr ym- neilldua yn guddiedig, ac y caiff berffaith lonyddwch am y tri mis nesaf. Goreu po leiaf a ysgrifenir yn ei gylch yn ystod yr;; adeg. A chadwed y rhai a anghytunasant ag ef eu syniadau iddynt eu hunain am dipyn, a dichon ond iddynt wneyd hynny y cant oleuni gwa- hanol ar bethau. Erledigaeth arno fyddai ei feirniadu a'i gondemnio yn awr. Mae Evan Roberts wedi gwneyd gormod o wasanaeth i Efengyl Mab Duw i neb ei erlid pa ffaeleddau bynag a all fod ynddo.