Hide Articles List

1 article on this Page

I.Enwogion Cymreig.—XXtX.…

News
Cite
Share

I. Enwogion Cymreig.—XXtX. Mr. J. Herbert Lewis, A.5. YM mhlith y to ieuanc o wleidyddwyr JL Cymreig nid oes yr un a hoffir yn fwy gan li.aws ei gydwladwyr, ac a berchir yn fwy gan bawb a'i hadwaenant, na'r aelod anrhydeddus dros fwrdeisdrefi Callestr. Mae o natur mor hynaws a charedig, a honno wedi ei diwyllio mor dda drwy feithriniad ac addysg briodol, nes ei fod ar unwaith yn medru gwneyd He cynnes iddo ei hun yng nghalon pawb a ddaw i gyffyrddiad ag ef. Ac yn ychwanegol at gynheddfau a thalentau cryfion, y mae wedi ei fendithio a dwy ddawn nodedig o werthfawr nad yw dynion cyhoeddus talentog bob amser yn feddianol arnynt—synwyr cyffredin a gallu i gymeryd trafferth. Nid yn ami y deuir o hyd 1 neb ag ynddo gyfuniad gwell nag a geir yn Mr. Herbert Lewis o'r nodweddion angen- rheidiol i wneyd dyn yn wasanaethwr a chymwynaswr gwirioneddol i'w genedl a'i oes. Ganwyd Ef yn Mostyn, Swydd Callestr, ychydig dros ddeugain mlynedd yn ol. Yr oedd ei dad yn fasnachwr a llong-berchenog cyf- nfol, a thrwy ei fedr a'i ymroddiad wedi codi i sefyllfa anrhydeddus ac amgylchiadau clyd. 0 ochr ei fam hanna o deulu yr Hughesiaid, y cyhoeddwyr adnabyddus o Wrecsam. Ond ni pharodd llwyddiant i deulu Mostyn Quay golli eu Cymreigiaeth na'u crefydd. Dygwyd y bachgen i fynu yn yr awyrgylch fwyaf manteisiol 1 oreu ei natur ymddadblygu. Ac y mae nodau Z, yr awyrgylch honno yn amlwg- iawn arno heddyw. Glyna yntau yn ffyddlon wrth draddodiadau cenhedia,ethol a chrefyddol ei dadau. Wedi cwrs o addysg mewn amrywiol ysgolion a cholegau, megis Prifysgol Montreal a Choleg Exeter, Rhydychen, rhoddodd gryn dipyn o amser i deithio'r gwledydd modd y gallai ym- gymhwyso ym mhellach at waith ei fywyd. Yn y blynyddoedd 1884-85 aeth gyda'i gyfaill, Mr. J- Herbert Roberts, A.S., am daith hirfaith 0 Amgylch y Byd Bron. Buont ymaith ragor na blwyddyn, ac ymwel- sant a'r Unol Daleithau, Canada, Japan, Aws- ralia, New Zealand, China, ac India. Yn ncua aethant drwy yr holl sefydliadau perthynol 1 genhadaeth y Methodistiaid Calfinaidd Cym- relg ar fryniau Cassia. Wedi dychwelyd ym- SefydIodd Mr. Lewis yn Lerpwljfel cyfreithiwr, a dilynodd yr alwedigaeth am rai blynyddoedd. Ond yr oedd ei fryd ar wasanaethu ei genedl mewn cylchoedd cyhoeddus, a chan fod ei arngylchiadau yn [caniatau cai hynny fwy o'i eadwl a'i amser na'i alwedigaeth. Ymdaflodd }n foreu i helyntion ei sir enedigol, ac yr oedd Yn bur amlwg ym mywyd Cymru cyn iddo fyned Aelod Seneddol. Pan ddaeth Deddf y ynghorau Sir i rym yn 1889 dewiswyd ef yn ga eirydd cyntaf Cyngor Swydd Callestr, ac efe y pryd oedd y cadeirydd ieuangaf Cyngor Sir yn yr holl Deyrnas Gyfunol. Efe hefyd oedd cadeirydd cyntaf Pwyllgor Hyfforddiant Celfydd- ydol (Technical Instruction) yn y sir. Swydd Callestr, o dan ei arweiniad a'i gyfarwyddyd ef, oedd y gyntaf o'r holL siroedd i gymeryd mantais a'r Ddeddf Hyfforddiant Celfyddydol, 1889. Y mae hefyd wedi bod yn amlwg iawn ynglyn ag Addysg Ganolraddol ac Uwchraddol, nid yn unig yn ei sir ei hun, ond yng Nghymru yn gyffredinol. Efe fu a'r llaw benaf mewn ffurfio cynllun o addysg ganolraddol i swydd Callestr, ac y mae o'r cychwyn wedi gwasanaethu fel cadeirydd ei Chorph Llywodraethol, ac er MR. J. HERBERT LEWIS, A.S. amled ei ddyledswyddau nid yw bron byth yn absenol o gyfarfodydd y corph hwnnw. Ni weithiodd neb yn fwy egniol a didroi-yn-ol nag ef er sicrhau i Gymru y gyfundrefn genedlaethol o addysg y mae yn awr yn fwynhau. Mae yn un o Lywodraethwyr Coleg y Gogledd o'i sefyd- liad, a bu am flynyddoedd yn aelod o Lys y Brifysgol. Yn wir, nid yw yn bosibl cyfeirio at unrhyw fudiad sy'n gwasanaethu er dyrchafiad meddyliol a chymdeithasol Cymru yn ystod y chwarter canrif ddiweddaf nad yw Mr. Herbert Lewis wedi bod mewn cysylltiad agos ag ef. Cymer hefyd ran flaenllaw ym mrwydrau addysg y genedl yn y dyddiau presenol. Dywedai pobpeth fod gwr o'i gyrhaeddiadau, ei wladgarwch, a'i ymroddiad ef wedi ei dorri allan ar gyfer gyrfa seneddol. Gallasai fod yn y Senedd yn gynarach nag yr aeth pe yn dewis. Yn y flwyddyn 1892, fodd bynag, ar ymneillduad y diweddar Mr. John Roberts, Bryngwenallt- gwr a anwylir gan Gymru yn hir ar gyfrif Deddf Cau y Tafarndai ar y Sabboth-etholwyd Mr. Herbert Lewis yn Gynrychiolydd Bwrdeisdrefi Callestr. Nid oes eisieu dweyd mai fel aelod Rhyddfrydol ac Ymneillduol. Cadwodd ei sedd yn etholiadau 1895 a 1900, er iddo orfod ymladd am dani bob tro. Yn bur fuan wedi myned i Dy y Cyffredin dangosodd mai myned yno i weithio ac nid i segura a wnaethai. Ym mhen rhyw ddwy flynedd neu lai tynodd ef a thri eraill o'r aelodau Cymreig sylw mawr, a llawer o ddirmyg arnynt eu hunain hefyd, drwy godi baner gwrth- ryfel yn erbyn y Llywodraeth Ryddfrydol oblegid ei bod yn oedi dwyn i mewn Fesur i Ddad- gysylltu yr Eglwys yng Nghymru. Beth bynag am effeithiau uniongyrchol y gwrthryfel hwnnw, gwnaeth un peth yn glir fod Cymru, os yn fechan, yn medru anfon cynrychiolwyr i Dy y Cyffredin na oddefent i'w hawliau gael eu han- wybyddu. Yr oedd Mr. Herbert Lewis yn un o'r rhai cyntaf i sylweddoli mai unig obaith Cymru i gael unrhyw sylw yn y Senedd ydoedd drwy gadw ei hun in evidence yn barhaus. A dyna mae ef wedi wneyd. Cymerer un engrhaifft. Yn y flwyddyn 1896 yr oedd y Llywodraeth Yn Fyddar Hollol i Bob Cais Cymreig. Penderfynodd ychydig o'r aelodau dros Gymru dalu y pwyth iddi drwy wrthwynebu pob mesur a chynygiad o'i heiddo o ba natur bynag y byddai. Ac mewn un noson yn unig traddododd Mr. Herbert Lewis gynnifer a phump ar hugain o areithiau gwrthwynebol. Ni ddaeth i fynu a'i gyfaill Mr. Lloyd-George ychwaith, oblegid siaradodd hwnnw ddeunaw ar hugain o weithiau mewn noson yn yr un tymhor. Gwelodd yr awdurdodau yn fuan mai nid gwr i gellwair ag ef ydoedd yr aelod ieuanc dros Fwrdeisdrefi Callestr. Rhoed sylw i'r cwynion Cymreig a godai i fynu, a mawr yw dyled ei genedl iddo. Efe a wnaeth y cais cyntaf am rodd i Gymru o'r Trysorlys Tuagat Gynnal Amgueddfa a Llyfrgell Genedlaethol, a bu am amser yn dadleu dros hynny heb nemawr neb yn ei gynorthwyo. Dygodd ger- bron yr angenrheidrwydd am ad-blanu fforestydd yng Nghymru, llwyddodd i gael pwyllgor arbenig i ystyried hynny, a chariwyd allan rai o awgrym- iadau y pwyllgor hwnnw. Mae wedi dadleu yn ddyfal dros adeiladu porthladdoedd mwy cyfleus ar arfordir Cymru er mantais i ddadblygiad