Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Y Diwygiad.
News
Cite
Share
Y Diwygiad. CYFARFODYDD RHYFEDD YN LERPWL. Yn Lerpwl y llafuria y Diwygiwr Evan Roberts y dyddiau hyn, ac y mae y cyfarfodydd a gynhelir yno y rhai rhyfeddaf fu erioed yn nghylchoedd Cymreig y ddinas mewn mwy nag un ystyr. Dyma fel y desgrifia gohebydd un o honynt Cyfarfod Nos Wener. Cyfarfod i bobl ieuainc oedd hwn yn y Sun Hall, bernid fod tua chwe mil yn bresenol, llawer o honynt yn oedranus. Daeth Arglwydd Faer y ddinas yno, yr hwn a roisai wledd i'r Diwygiwr yn gynarach yn y dydd. Dechreuodd y cyfarfod cyn i Evan Roberts gyrhaedd, ac yr oedd y dyrfa fawr yn canu pan y daeth i mewn. Pan ddechreuodd siarad yr oedd yn amlwg fod yr hen elyn yn ei flino, -anufudd-dod y gynulleidfa. Ofn sydd yn teyrnasu yma," meddai; pe byddai yma fwy o dan byddai mwy o ryddid a mwy o ogoniant." Yna aeth ym mlaen yn ei ddull arferol i siarad ar y pwysigrwydd o ufudd-dod a gwasanaeth, hyd nes torodd amryw allan i ganu a gweddio, ac eisteddodd yntau i lawr a'i ben cydrhwng ei ddwylaw. Cyn pen hir cyfododd drachefn, ac ychwanegodd fod ugeiniau eto yn anufuddhau. Yr oedd yno ganoedd, meddai, yn rhwystro yr Ysbryd. Rhwystrodd y canu, gan dywedyd fod yno yn gyntaf waith chwilio. Ar 01 gweddi gan y Parch. Griffith Ellis, Bootle, cymerodd digwyddiad rhyfedd Ie. Yr oedd Evan Roberts ar ei draed, a dywedodd yn Saesneg, mewn llais uchel, There is an English friend in this meeting trying to hypnotize me." Yna trodd i Gymraeg, a dywedodd wrth y gynulleidfa am ofyn i'r Arglwydd faddeu iddo neu ei daro oddiar wyneb y ddaear. "Maddeu, maddeu, 0 Dduw llefai ugeiniau yn uchel, ac ychwanegodd Mr. Roberts fod chwareu hefo pethau mor gysegredig yn beth ofnadwy. "Dyfod yma i addoli yr ydym," meddai, ac aeth y lie yn ferw o weddiau. I cannot ask God to save him," meddai y Diwygiwr, yn codi ei ben drachefn, can you ? I can ask God to bend him or strike him off the earth." Ym mhellach, ar ol distawrwydd mawr, gofynodd i'r person hwn, pwy bynnag oedd, ofyn am faddeuant yn fuan neu fyned allan. This person is not a member," meddai, ac ychwan- egodd ei fod wedi gweled pobl yn cyfodi yn erbyn Duw o'r blaen. Aeth y gwaith ym mlaen yn ddigyffro am ysbaid ym mhellach,-y gweddiau a'r canu yn dilyn'eu gilydd mewn hwyl dda. Adeg bleserus i'r rhan fwyaf ydyw adeg profi y cyfarfod beth bynnag na all dyn ei wneyd yn gyhoeddus, gall gyfodi ei law a chwilio am eraill sydd heb wneyd, a cheisio eu perswadio. Gofynwyd am yr arwydd drachefn a thrachefn, ac yr oedd rhywun o'r newydd yn dyfod bob tro. Yr Achwynwr. Ond yn awr torodd yr ystorm. Cyfododd Evan Roberts braidd yn gynhyrfus, a dywedodd fod rhywun wedi grwgnach-neu achwyn—am ei fod wedi gorfod rhoddi arwydd. Nid oedd neb yn ateb. Unwaith eto dywedodd Mr. Roberts' fod y peth wedi digwydd, a chan gerdded yn ol a blaen hyd y llwyfan galwodd ar yr euog i gyfodi yn ei le a chyffesu, "onide," meddai bydd yn ystorom ofnadwy yn ei enaid. Nid yn ami y mae Duw yn gofyn peth fel hyn, ond yn awr mae yn rhaid i hwn gyfodi a chyffesu." Na," meddai wrth ryw ferch oedd yn amcanu gweddio, dim gweddio yn awr. Nid yw Duw yn caniatau gweddio yn awr. Cyffeswch yn fuan, os gwelwch yn dda." Nid oedd neb yn ateb, a bu distawrwydd mawr a gorlethol am yspaid deng mynud. Yna, er syndod i bawb, a braw i lawer, dywedodd Evan Roberts mai nid Sais oedd y grwgnachwr ond Cymro; nid blaenor ac nid pregethwr, ond gweinidog, a'i fod ar y llwyfan yr amser honno. Yr oedd wedi dywedyd cynts pan awgrymodd rhywun nad oedd pawb yn deall, Mae yr hwn wyf fi yn ei feddwl yn deall yn eithaf da. Mae ystorom yn ei enaid yn awr. Na ryfedded pe bai ei law wedi gwywo cyn iddo fyned allan o'r cyfarfod heno, a bydded hynny yn arwydd arno byth." Yr oedd teimladau pawb erbyn hyn yn lied gyffrous a chymysglyd, ac yr oedd distawrwydd i'w deimlo yn nghorph y gynulleidfa. Torwyd ar y distawrwydd gan rywun yn gofyn a oedd y grwgnachwr wedi dywedyd wrth rhywun arall. Do," meddai Mr. Roberts. Cyffeswch yn fuan, neu bydd raid i mi ymadael." Cyfododd y Parch. H. R. Roberts, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a gofynodd i Mr. Roberts roddi yr enw, oherwydd yr oedd yno ymosodiad ar yr holl weinidogion. Os yw eich cydwybod chwi yn dawel," oedd yr ateb, "pabam yr ydych yn poeni ?" Yna cyfododd y Parch. O. L. Roberts, gweinidog capel Annibynol y Tabernacl, a dywedodd ei Tod yn weinidog yn y ddinas ers wyth mlynedd, a'i fod yn cydymdeimlo yn hollol a'r hyn ddywedwyd gan ei gyfaill. Eisteddwch i lawr," meddai Evan Roberts. Na," atebai y gweinidog, mae genyf hawl i fyned yn mlaen O frawd. frawd meddai y Diwygiwr a gadawodd y llwyfan yn frysiog, a chanlynwyd ef gan ei chwaer a Miss Annie Davies. Y Diwedd. Cyn torri y cyfarfod i fyny rhoddodd Mr. John Williams anogaeth i'r dyrfa ymdawelu. Peth difrifol," meddai, oedd holi Mr. Evan Roberts." "Nid yw ond dyn, Mr. Williams," meddai rhywun; ond aeth Mr. Williams yn mlaen. Nid oedd yn honni fod gan Mr. Roberts alluoedd goruwch-naturiol, ond yr oedd yn ffaith ryfedd fod yr hyn ddywedwyd ganddo yn mhob man wedi troi allan yn wirionedd. Mewn distawrwydd dwfn dywedwyd Gweddi yr Arglwydd, a thorrwyd y cyfarfod i fyny a'r unig beth wyf yn deimlo yn glir am dano ydyw mai siomedig oedd fel cyfarfod i bobl ieuainc. Nid wyf yn dewis dweyd dim yn mhellach hyd yn nod pe gallwn. Yr ydym yn sefyll gerbron dirgelwch. s
Y DIWYGIWR MEWN ENBYDRWYDD.
News
Cite
Share
Y DIWYGIWR MEWN ENBYDRWYDD. Diangfa Gyfyng. Mae manylion wedi ymddangos am ddamwain ddifrifol a gyfarfyddodd y Diwygiwr y dydd o'r blaen. Ymddengys fod Evan Roberts, ynghyd a'r Parch. John Williams, wedi myned i West Kirby yn ystod y diwrnod hwnnw. Galwasant gyda Dr. M'Affee,—-sydd yn cym- eryd dyddordeb mewn gwaith efengylaidd. Yn nhy Dr. M'Affee gwelsant Mr. Lewis Jones, gwyliedydd yr orsaf bellebrol ar Ynys Hilbre. Amlygodd y Diwygiwr ei fwriad i fyned i'r ynys, ac yna awd drosodd mewn dau gerbyd. Yr oedd Mr. Jones yn yr un cerbyd a'r Diwygiwr, ac yn sydyn rhuthrodd y ceffyl am y creigiau, ond trodd Mr. Jones ef at gerbyd oedd ar y ffordd, a chymerodd gwrthdarawiad dych- rynllyd Ie. Taflwyd y Diwygiwr a Mr. Jones i'r llawr. Drylliwyd y cerbyd yn hollol. Aeth olwyn y cerbyd dros ran o droed y Diwygiwr. Aeth Dr. M'Affee a'r Parch. John Williams i'r fan rhag blaen, a chaed fod y Diwygiwr bron yn anymwybodol. Caed fod ei droed wedi chwyddo, ond ni thorwyd asgwrn. Dioddefai y Diwygiwr oddiwrth gynhyrfiad. Dywed cyfoesolyn Seisnig i Evan Roberts ddweyd, pan ddaeth ato ei hun, Nid yw ond un o hen driciau Satan etc ond y mae wedi methu eto." Cynghorodd y meddyg y Diwygiwr i beidio myned i Gapel Stanley Road, Bootle, y noswaith honno, ond atebodd y Diwygiwr, Y mae y Meddyg Mawr yn peri i mi fyned, a myned a wnaf." A myned a wnaeth. Bu Dr. M'Affee gydag ef hyd nes yr aeth i'w wely. Dywed y meddyg fod Evan Roberts yn dioddef yn awr oddiwrth effeithiau y ddamwain, ond y cwbl a ddywed y Diwygiwr yw fod bys bach ei law aswy yn anafus, ac fod ei esgid wedi ei niweidio.
Am Gymry Llundain.
News
Cite
Share
flautist, Mr. Eli Hudson violin, Mr. Robert Crawford; elocutionist, Mrs. Tudor Rhys; accom- panist, Miss Deborah Rees. Yr oedd pawb o honynt mewn hwyl, a chafwyd un o'r cyngherddau Cymreig goreu a gawsom ers blynyddau o ran cynulliad a chanu. Yn absenoldcb y cadeirydd pennodedig, traddododd Mr. J. H. Hinds, anerchiad gwresog.—J. REES. EGLWYS ST. MAIR, CAMBERWELL.—Clywsom yr wythnos ddiweddaf fod rhagolygon am eisteddfod ardderchog tua cbyffiniau Eglwys I St.,Mair, Camberwell New Road, Llun y Pasc. Y mae yr entries yn clylifo i fewn, a disgwylir o leiaf bump cor i gystadlu ar y prif ddernyn. Y mae y pwyllgor wedi bod yn hynod ffodus i t, Sicrhau gwasanaeth cadeirydd mor dwym-galon a gwladgarol a'r Prifathraw Thomas, ac hefyd Wedi cael beirniad amrywiaeth o waed coch cyfa' ym mherson y Parch. G. Hartwell Jones, darlun a hanes pa un a ymddangosasant yn rhifyn diweddaf CYMRO LLUNDAIN. Y maent Wedi bod mor gall a dewis dau o feirniaid cerddoriaeth, a'r naill fel y llall yn gwybod ei .1 Waith "i'r dim." Bydd yn fraint cael talu swllt neu ddau am fyned i mewn i glywed y fath, a sicrheir i ni wledd gerddorol o'r radd uchaf. Gweler manylion mewn rhan arall o'r rhifyn hwn. EGLWYS ST. PADARN, HOLLOWAY. — Cyn- haliwyd eisteddfod rhagorol mewn cysylltiad a'r eglwys uchod nos Iau, Mawrth 23am, yn Myddelton Hall, Upper Street, Islington. Y cadeirydd oedd Councillor Lewis, y llywydd oedd y Parch. Morris Roberts, St. Mathias, Poplar. Beirniad y canu oedd Mr. T. Vincent Navies, organydd Dewi Sant, a'r adroddiadau Mr. Tom Jenkins. Beirniad y farddoniaeth oedd y Parch. D. Lewis, B.A. (Ap Ceredigion), ar amrywiaeth y Parch. G. Hartwell Jones, M.A. Y cyfeilydd oedd Mr. Isaac Jones, organydd Eglwys St. Padarn. Gwobrwywyd y rhai canlynol :-Pianoforte solo, Miss Jennie Jones, Jewin; traethawd, Mr. Jones, Clapham Junction baritone solo, Llew Caron deuawd, Llew Caron a J. Pugh, King's Cross bardd- oniaeth, Mr. Jenkin Morgan, Eglwys St. Padarn; tenor solo, Mr. John Pugh, King's Cross; amrywiaeth, Mr. Llewelyn Davies, Eglwys St. padarn; soprano solo, Miss Annie Thomas, ylorley Hall; adroddiad Mr. W. D. George, Jewin, a Miss Lucy B. Davies, Eglwys St. padarn, Holloway; parti meibion, Welsh roister Glee Singers, arweinydd Mr. Sydney Jones (Ap Caeralaw).—CYMRAES. MR. R. J. LLOYD, solicitor, of Swansea and ^berayron, is well known to many London /Welshmen. Last month he brought an action the Durham Assizes, before Mr. Justice r^gham, against certain shipbuilders of the ;°rth of England, claiming damages in connec- tion with a contract for the building of a steamer, but he was unsuccessful. Last Friday e applied to Mr. Justice Bigham, in his Court J*1 London, that the action should be retried efore a London jury, on the ground that the JUry in Durham had stated that they had made }*P their minds in favour of the local people they had heard the whole of his evidence. ^•ls Lordship declined to accede to the request, said that Mr. Lloyd had personally con- ^cted his case at Durham with conspicuous blllty, and that he failed to see how anyone could possibly conduct it better in London, and, at being so, how the result could be different it retried before a London jury. Mr. j^°yd intimated that he would probably appeal. Will be remembered that twelve months ago r; Lloyd appeared in person in another c ion at law before the Court of Appeal, when e Was opposed by three barristers, and that he cceeded, not only in winning his appeal, but in gaining the highest praise from the ^aster of the Rolls upon the ability he had ^°Wn in arguing his case. Mr. Lloyd, as a trough Welshman, is to be warmly con- ulated upon having now received from Mr. s ice Bigham this further striking testimony t0 hls ability.