Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
PREQETHWYR Y SABBOTH NESAF.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
PREQETHWYR Y SABBOTH NESAF. YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Eglwys St. Benet, Queen Victoria-street— 11.0, Parch. T. Crowle Ellis. 6.30, W. R. Richards. Eglwys Dewi Sant, Paddington— 11.0 a 6.30, Parch. W. Richards. Eglwys St. Padarn, Hornsey Road- 11.0 a 6 30, Parch. W. Davies. Eglwys St. Mary, Camberwell New Road- 11.0 a 6.30, Parch. Lewis Roderick. Cenhadaeth y Dwyrain, Bridge Street, Bow- i i. o a 6.30, Parch. Howell Watkins, B.A. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Jewin Newydd 10.45, Parch. John Davies, Pandy. 6.30, J. E. Davies, M.A. Charing Cross Rd. 10.45, Parch. G. H. Havard, M.A. 6.30, H. M. Edwards, Cam- bridge. Wilton Square 10.30, Parch. H. M. Edwards, Cam- bridge. 6.30, G. H. Havard, M.A. Falmouth Road 10.45, Supply Lewisham. 6.30, S. E. Prytherch. Mile End Road 11.0, Parch. F. Knoyle, B.A. 6.30, D. Oliver. Shirland Road, 10.45 a Parch. John Thickens, Aber- aeron. Holloway 10.30, Parch. LI. Edwards, M.A. 6.30, R. O. Williams. Hammersmith 11.0, Parch. D. Oliver. 6.30, F. Knoyle, B.A. Stratford 11.0, Parch. J. Tudno Williams, 6.30, J. Wilson Roberts. Clapham Junction 11.0, Parch. J. E. Davies, M.A. 6.30, John Davies, Pandy. Walham Green 11.0, Parch. J. Wilson Roberts. 6.30, J. T. Williams, M.A. Willesden Green 11.0, Supply Shirland Road. 6.30, J. Thickens, Aberaeron Lewisham 11.0, Parch. S. E. Prytherch. 6.30, Tottenham, 11.0 a 6.30, Supply Wood Green. 6.30, Parch. J. Garnon Owen. Walthamstow 11.0, Parch. R. 0. Williams. 6.30, LI. Edwards, M.A. Wood Green 11.0, Parch. J. Garnon Owen. 6.30, YR ANNIBYNWYR. Y Tabernacl, King's Cross- 11.0, Parch. E. Owen, B.A. 6.30, Parch. H. Elvet Lewis. Y Boro', Southwark Bridge Road- 11.0, Parch. J. Machreth Rees. 6.30, D. C. Jones. Radnor Street, Chelsea- 11.0, Parch. D. C. Jones. 6.30, J. M. Rees. Barrett's Grove, Stoke Newington- 11.0, Parch. H. Elvet Lewis. 6.30, E. Owen, B.A. East Ham, Sibley Grove- 11.0 a 6.30, Mr. H. Watkins. Woolwich, Parson's Hill- v j V 11.0 a 6.30, Mr. J. T. Davies. Battersea Town Hall— 11.0 a 6.30, Y BEDYDDWYR. Castle Street, Oxford Circus- 11.0 a 6.30, Mr. R. S. Rogers, Coleg Caerdydd. Little Alie Street, Aldgate— 11.0 a 6.30, Parch. B. Arberth Evans. Tottenham-ILo a 6.30, Parch. W. Rees. Norman Hall, 252, Harrow Road- 3, Ysgol Sul. 6.30, Mr. H. Edwards. Y WESLEYAID. City Road- 11.0, Parch. T. Jones. 6.30, Mr. D. Owen. v. Gothic Hall, St. Thomas Street, W.- 11.0, Myfyriwr. 6.30, Parch. T. Jones. Poplar, Duff Street- 3.0 a 6.30. Myfyriwr. Dymunir am i bob hysbysrwydd ar gyfer y golofn hon gael ei anfon i'r Swyddfa erbyn Dydd Mawrth y fan beUaf
Advertising
Advertising
Cite
Share
HENRY BOWN, HiGH-CLASS PHOTOGRAPHER, 43, NEW KENT ROAD (close to Falmouth Road); 298, CLAPHAM RD.; 31 & 33, JAMAICA RD. (Dockbead). Under personal supervision of the Proprietor. Cabinets from 7/6 per dozen. C.D.V.'s from 2/6 per dozen. Well recommended by Welshmen who have patronised me SPECIAL ATTENTION GIVEN TO COPYING AND ENLARGING.
Colofn y Gan.
News
Cite
Share
Colofn y Gan. Y PRIF gyngherdd yn ystod yr wythnos nesaf fydd yr un a gynhelir yn yr Holborn Town Hall nos Fawrth. Hyderwn yr aiff llu o'n cydwlad- wyr yno i gefnogi'r achos sydd mewn golwg gyda'r cyfeillion sy'n trefnu'r cyngherdd ac yn annibynol ar deilyngdod y symudiad fel un yn haeddu ein cefnogaeth mwyaf calonog, y mae rhaglen ardderchog o gerddoriaeth wedi ei pharotoi. UN newydd-deb ynglyn a'r cyngherdd hwn fydd "string band"o dan arweiniad Miss Jennie Jones, A.R.C.M. (merch Mr. D. R. Jones, Old Kent Road). Nid yw Miss Jones ond merch ieuanc iawn, ond y mae wedi gwneyd cynycld mawr yn y gelfyddyd gerddorol, ac yr ydym yn ei llongyfarch ar ei llwyddiant, gan ei hannog i fyned ymlaen gyda'r gelfyddyd. Nid ydym hyd yn hyn wedi cael y cyfleusdra i glywed y string band hwn, ond yr ydym yn llawenychu oher- wydd ei fodolaeth am ei fod yn torri tir newydd, oblegid yr ydym fel cenedl wedi mawr esgeuluso yr adran offerynol. PETH arall dyddorol yn y cyngherdd fydd cor merched Mrs. Frances Rees-Rowlands, ac fel y deallwn y maent yn canu gystal ag erioed. Ym mysg pethau eraill cenir ganddynt Llwyn Onn," ac fe wyr pawb nad oes neb all ganu yr hen alaw hon yn well na Chor y Kymric. Bydd yno gor meibion hefyd, ac unawdwyr o fri yn ogystal a Mrs. Tudor Rhys fel adroddes. I'R rhai hyny o'n cydwladwyr ag sydd yn byw yn ardal Holloway dyddorol feallai fydd ganddynt ddeall y bydd cyngherdd yn cael ei gynhal yn y Stanley Hall, Junction Road, heno (nos Sadwrn), yn mha un y cymerir rhan gan rai o'n cydwladwyr. CAED cyfarfod cystadleuol llwyddianus iawn yn Sibley Grove, East Ham, nos Tau yr wythnos ddiweddaf, ac yn ol tystiolaeth gohebydd lleol, yr oedd y cystadleuaethau unawdol o safon uchel. Amlygwyd talentau addawol iawn drwy y cyfarfod hwn a dyna lie y mae y cyrddau cystadleuol yma yn profi yn fanteisiol i ni. Er cymaint sydd wedi ei ddweyd yn erbyn y cyfar- fodydd cystadleuol hyn y mae peth daioni yn deilliaw drwyddynt wedi'r cwbl. CYNGHERDD da gafwyd yn Nghapel Little Alie Street, yr un noson, sef nos Tau. Cawsom fwynhad mawr wrth wrando ar y ddeuawd gan Mri. Ben Ivor a David Evans, ac yr oedd y ddau hyn yn bur dda hefyd gyda'r unawdau. Un o berlau y cyngherdd yn ddiau ydoedd Lo hear the gentle lark," gan Madame Eleanor Jones-Hudson, gyda "flute obligato" gan Mr. Eli Hudson. Miss Alice Maude Lewis hefyd oedd yn dda gyda "Chan y Weddw"; ac yr oedd Mrs. Tudor Rhys yn ei hwyliau arferol gyda'i hadroddiadau, a Miss Deborah Rees yn ddeheuig wrth y berdoneg. PRIF gyngherdd y tymhor, heb os nac onibai, fydd yr un a gynhelir yn y Queen's Hall ar y 29am o Fai, gan Gor Meibion a Chor Cymysg Cymry Llundain, dan arweiniad Mr. Merlin Morgan. Y mae bron bawb o'n cyd-ddinasydd- ion yn gwybod am allu y cor meibion hwn ac am yr enwogrwydd y maent wedi ennill yn ddi- weddar mewn cystadleuaethau mawr a thrwy hynny ennill anrhydedd nid bychan i ni Gymry Llundain, fel nad oes angen am ganmoliaeth arnynt ond yn unig nodi y bydd y cor yn y Queen's Hall yn hollol fel ag yr oedd yn yr Albert Hall yn ddiweddar. Heblaw y ddau gor enwog hyn, bydd y cantorion poblogaidd canlynol yn gwasanaethu :-Miss Maggie Davies, Miss Muriel Foster, Mr. William Green, Mr. D. Ffrangcon Davies a Mr. Hans Wessley. Gydag enwau fel hyn nid oes dim ar ffordd llwyddiant hollol i'r cyngherdd. Gellir cael tocynau oddiwrth aelodau y ddau gor, neu oddiwrth yr ysgrifenydd, Mr. E. T. Williams, 272, Gray's Inn Road, W.C.
Y DYFODOL
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Y DYFODOL [Dymunir ar i ysgrifenyddion a threfnwyr y gwananol Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynnal, er mwyn rhoddi hysbys- rwydd amserol yn y golofn hon.] 1905. Ebrill 18. Holborn Town Hall. Cyngherdd er budd gweddw a phlant y diweddar Mr. R. Griffith. 24. Eglwys St. Mary, Camberwell. Eisteddfod Fawreddog. 21,23, a 24. Cyfarfodydd Pregethu y Pasc. (Gweler ein colofnau hysbysiadol). 24. Swper Goffi olaf y Tymhor yn City Road. Mai 6, 7, a 8. Cymanfa Bregethu Flynyddol Radnor Street, Chelsea. 6, 7, a 8. Little Alie Street, Leman Street, Aid- gate. Cyfarfod Pregethu Blynyddol. 11. Barrett's Grove. Jiwbili Talu y Ddyled. I I. Cyngherdd Mr. T. Vincent Davies yn y Queen's Hall. 14 a 15. Cyfarfod Pregethu y Gothic Hall,Parch. T. O. Jones (Tryfan), Coedpoeth 14 a 15. Cyfarfod Pregethu Blynyddol Barrett's Grove. 29. Cyngherdd Mawreddog y London Welsh Male Choir yn y Queen's Hall.
DARLITH AR GERDDORIAETH GYMRAEG.
News
Cite
Share
DARLITH AR GERDDORIAETH GYMRAEG. Nos Iau diweddaf, yn East Ham Town Hall, rhoddodd Mr. Lloyd Edwards ddarlith ar y testyn dyddorol hwn. Cynorthwyid ef gan Miss Thomas, Miss Maggie Evans, Miss Maggie Ellis, Mr. J. D. Evans, a Mr. Dan Evans. Da genym allu dweyd ddarfod i'r darlithydd a'r cantorion wneyd eu rhan yn bur ganmoladwy, ac y oedd y Saeson a'r Cymry yn mwynhau y canu yn fawr. Canwyd a chwareuwyd tua 29 o ddarnau, fel y gwelir y cafwyd nifer dda o engreifftiau o alawon ein gwlad. Yr oedd y rhaglen gerddorol mor faith fel y bu'r ddar- lithydd yn ddoeth i gwneyd sylwadau meithion ar y darnau. Fel arfer, rhoddai bwys ar ber- ffeithrwydd boreu yr alawon Cymreig, ond, fel y gwyddir, nid oes brawf digonol i'w gael fod cymaint ag un o'r alawon henaf mor hen ag y dywedir yn gyffredin. Ond wedi'r cyfan, nid yw hyn o bwys; y meddiant o'r gemau cer- ddorol hyn sydd bwysig ac sydd hefyd yn beth i ymfalchio ynddo. Cadeiriwyd gan Mr. Alderman Savage yn ystod rhan o'r cyfarfod, a dilynwyd ef gan Mr. J. O. Jones, "y Bane," Manor Park. Y mae pob ymgais i godi'r Hen Wlad yn beth i'w edmygu, a mawr lwydd a ddilyno ymdrechion tebyg i'r eiddo Mr. Lloyd Edwards, yr hwn, er yn llafurio gyda cher- ddoriaeth ym mhlith y Saeson, na thybiodd hi yn iselhad i gyflwyno detholiad o'r alawon Cymreig i'n cymydogion, a'r hwn hefyd sydd yn cadw'r hen iaith yn loyw o hyd.—EXEL.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Wear WALTON'S Good Clothes. Our Invincible fwo- Year" SERGE is far and away the most economical to buy. LOUNGE & SUIT 50 f" tGood Clothes. Made to Measure. WILL STAND 2 years' HARD wear. Keep its deep rich colour, and look well all the time. Write for sample or call and see the Cloth. ISAAC WALTON & CO., LTD." 97, 99 & loi, NEWINGTON CAUSEWAY, S.E. 1, 3, 5, 7 & 9, LUDGATE HILL, E.C. 518,520 & 522, BRIXTON ROAD, S.W. 442, 444 & 446, HOLLOWAY ROAD, N.