Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

PRYDDEST Y GORON YN EISTEDDFOD…

News
Cite
Share

PRYDDEST Y GORON YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL RHYL, 1904. "TOM ELLIS." BEIRNIADAETH GWYLFA. Derbyniwyd naw o gyfansoddiadau, a sylwir arnynt o un i un yn fanwl, ynglyn a'u lleoliad. "Huraddig.Ofnwn nad yw yr awdwr hwn yn gwybod sut i sillebu ei ffugenw, chwaithach cyfansoddi cerdd ar gyfer cystadleuaeth fel hon. Y mae ar ei phen ei hun, ac er na fynwn fod yn galed a Ilawdrwm, eto rhaid dweyd nad oes ganddi y gobaith lleiaf am sefyll yn gyfochrog a rhai o'r pryddestau eraill. Y mae y mesurau yn yfflon, yr odlau yn feius, ac nis gallwn wneyd allan a oes ystyr i'r gerdd a'i peidio. Mae Jeremiah a Cymydog o'r Cwmdwy- graig," Gwrongarwr," Zingarelli," a Lacrima Musae mewn dosbarth arall, a chryn deilyngdod o ryw fath ynddynt; a diolchwn iddynt am wneyd ymgais, er fod yn rhaid iddynt foddloni hyd ryw dro eto cyn cael coron. J eremiah. Y mae llawer o naturioldeb dy- munol yn mhryddest yr awdwr hwn, a rhyw gyffyrddiad ysgafn a ffodus iawn yma ac acw, megys yn y ddau bennill hyn :— Carai gestyll gwlad ei dadau, Carai ei cholegau heirdd, Carai arwyr ei phwlpudau, Ei cherddoriaeth byw a'i beirdd. Carai 'i chrwth a charai'i thelyn, Carai'i hynaifaethau drud, Carai hyfryd fawl ei hemyn, Carai ei daioni i gyd. Arferiad y buasai'n well i "Jeremiah" ei fwrw heibio yw dodi ymadroddion rhwng cromfachau. Teimla ei hun, mi wn, eu bod yn amherthynasol. Yn y darnau diodl y mae yn wan hefyd, a gocheled rhag ymdroi i chwarae a geiriau, gan ddechreu rhes o linellau a'r un gair, heb ddim yn galw am hynny. Teimlwn ei fod yn ail- ddweyd yr un pethau, ac yn gwneyd defnydd mawr a mynych o'r gair sel." Weithiau ym- ollynga i ryddiaith werinol fel hyn :— Nid trwy aur na gwaed ei dadau Cofier, y derbyniodd hyn. Ond pan yn cyfeirio at farwolaeth gynar Tom Ellis, y mae ganddo ddwy linell nodedig o dyner yn dangos ymdrech ddidor y seneddwr ieuainc, Mae y boreu'n werthfawrocach Lie nad oes yr un prydnawn. Cymydog o'r Cwmdwygraig."—Brycheuyn anymunol yn y gerdd hon yw fod yr awdwr yn cyfeirio at Tom Ellis fel Tomi (ffurf Gymraeg laprwth i'r gair Seisnig "Tommy" yn ddiau). Y mae'r gair hwn yn boenus yn y bryddest, ac yn dod i'r golwg yn bur fynych. Mae yr awdwr yn gyfarwydd iawn a hanes Thomas Ellis, ac yn ei adrodd yn rhigl. Dengys y llinellau hyn beth yw y cyfansoddiad hwn i raddau :— Cadd hanes gwyn y Cymro ei gyhoeddi Mewn argraff fras i'r byd yn hanes Tomi. 'Roedd syniad felly gan hen daid y Dr., Yr enwog Charles o'r Bala" wedi agor, &c. Paham mae'r Alban wedi derbyn breintiau, A Chymrun gorfod bod islaw eu sodlau. Gwelir nad oes dim gafael a dim nerth yn hwn. Gymydog mwyn ofnwn fod yn well it, chwilio am ffordd arall o wario'th amser. Gwrongarwr."—Nid yw addoli gwron yn cynysgaeddu dyn a gallu i ganu iddo bob amser, debygwn a thipyn yn gloff ac anystwyth yw y bryddest hon eto. Rhaid i'r awdwr feistroli y mydrau, a glanhau ei iaith, a'i hadgyweirio ychydig gwneyd gwell trefn ar y sillebu hefyd geiriau afrosgo ac afrwydd yw cymblethu," "hwyan," "ymborthu," o'i phlaid feiddiau godi. ei Iais diIychwyn." Llawer coron hardd ei llun Enillodd Ellis tirion. Heblaw y cymysgedd sydd yma— Dracht o ddior yn ei osod oil ar dan. Oherwydd meflau fel hyn, ac anystwythder anghelfydd y mydrau, ac absenoldeb pob hoen awenyddol, rhaid i'r cyfaill hwn foddloni ar gystadleuaeth is na hon am ychydig. Un ochr ragorol i gymeriad Tom Ellis ag y tal hwn sylw iddi yw ei grefyddolder, ac y mae ganddo ambell linell o'i eiddo yn bur dda. Zingarelli."—Mae gan hwn gynllun yn ei feddwl, a rhywbeth go dda dybygem ni, ond nid yw wedi llwyddo i'w weithio allan. Gesyd argraffo rwysg arnom, ond rhwysg ofer a gwag ydyw; ac ar ol mynd drwy'r bryddest oil, teimlwn yn siomedig. Cyfeiria at Tom Ellis fel crewr y Deffroad, a hynny yn gyfeiliornus yn ddiddadl; ond gwyr hwn am ffynhonellau llwyddiant ei arwr, a chwery o gylch y mudiadau y bu y Seneddwr ieuanc yn amlwg ynglyn a hwy. Nid yw ei Gymraeg yn dda:- Fel dyn ymladdodd ryddid ei gyd-dynion. A grynhoiant ynddo. Beth sydd yn gryfach yn y byd na Cariad. Drwy ølion yr amgylchoedd lanwagwledydd. Gosodwyd ef yn Whip ymhlith y Cyngor. Ein pur Llywiawdydd. Gwelir natur y brychau sydd yn anurddo y gerdd hon. Wrth gwrs, ceir yma linellau cryfion a graenus yn ogystal, a gwyddom fod yn Zingarelli gwrs o allu meddyliol pan ddaw o dan addysg neu wrteithiad priodol. Yma dengys ei fod yn ansicr o'i feddwl ei hun yn ami, ac y mae yn neidio o un mesur i'r Hall braidd yn fwy mynych nag sydd ddymunol; eithr dalied hwn ati. "Lacrima M usæ." H wn a "Jeremiah"—y ddau ffrynd wylofus-yw y goreuon hyd yn hyn, ac nid anhebyg y ddau. Maent fel eu gilydd yn rhoi darlun pur dyner o'r gwrthrych y canant am dano, ac yn meddu cryn lawer o deimlad lleddf enillgar. Drwg genym weld bardd cystal a Lacrima yn ysgrifenu Tommi Edward." Mae wedi rhanu ei gerdd i naw caniad, ac y mae ei gynllun yn eang a chynwysfawr a chlir, fel hyn:—Cylchoedd mebyd Gweled gweledig- aethau Gwisgo'r arfogaeth Mynediad allan Arwain y Derfroad Oracl y Genedl: Pinaclau Llwyddiant: Yr allor a'r bedd Dadorchuddio'r golofn. Y mae hyn yn cymeryd y maes oil i mewn; nid oes genym ddim yn erbyn ei gynllun, oddieithr ei fod yn gwasgu rhai o honynt at eu gilydd, ac yn gwneyd pedwar neu bum caniad yn lie naw, ond mater o chwaeth yw hynny. Mae llwybr pur dda o flaen "Lacrima," pe y gallasai ei gerdded yn hoyw a diwyro. Gwyr yr awdwr hwn dipyn am hanes Groeg a'i chwedloniaeth, a gwna ddefnydd hapus ddigon weithiau o'i wybodaeth eithr ei fai mawr yw crwydro yn ol a blaen gyda manion a nod- xweddion cyffredin yn mywyd Tom Ellis, yn hytrach na cheisio y prif linellau a glynu wrthynt yn ddifeth; cerdded ei lwybr yn ddi- gyfeiliorn gan fynd yn nes i'w nod bob cam. Yn lie hynny y mae ganddo ddarnau dibwynt, a llinellau pur ddiraen a ffurfiau ystrydebol; sonia am "finioawch," ac am "ymwybyddiaeth yn tyneru'r glenyddheb ddweyd "glenydd" beth, ac Na pheidiodd Natur fod yn athraw iddo," a dyma gypled y dylai'r awdwr fynd drosto droion cyn ei ollwng o'i law :— Gwyddai fod yn rhaid i arwyr amser, cyn wynebu'r maes, Gael rhyw lanerch gel i fagu plyf, a nerth i'w aden laes. Mae "arwyr" yn lliosog, ac aden yn unigol; a mwy na hynny, gwyr Lacrima," mi wn, fod rhywbeth pwysicach yn natblygiad arwr na magu plyf- Sonia am "eneidfiodau yn gwywo," ac yn y llinell nesaf ceir :— Gwyddai fod eneidiau gweigion yn colledu'r Holl- alluog, Fel mae teiau' anghyfanedd yn colledu eu perchenog. Rhaid i Lacrima," fel llawer un arall o feirdd Cymru, roi i fyny yr arfer anifyr o fan-athronyddu yn hytrach na chanu fel bardd. Y caniadau goreu yn y bryddest hon yw Oracl y Genedl a "Phinaclau Llwyddiant." Y mae'r pedair llinell hyn yn dangos ansawdd yr oil yn ffyddlon Paham mae cylch y wlad yn uchel ganu, A lleisiau'n bloeddio concwest hyd y ffyrdd ? Cyrbaeddodd y gwleidyddwr glew i fyny, I fysg y llu sy'n cario'r llawryf gwyrdd. Pryddest yn gadael argraff pur ddymunol arnom yw hon dim yn newydd iawn, na hen ychwaith. Bellach deuwn at oreuon y gystad- leuaeth, sef Alun Mabon," Edmygydd," ac Elltyr Manaw." Dyma ddosparth hollol ar ei ben ei hun, a disgwyliwn lawer oddiwrth y rhai hyn. Beiddiwn osod y safon yn bur uchel oblegid gwelwn arwyddion gallu mewn meddwl a saerniaeth. Mewn pryddest sydd yn mynd i fyw disgwylir tri pheth meddwl mawr, myneg- iant mawr, a gorffenedd mawr. Mewn gwaith anfarwol ceir y tri; ond weithiau cyll awdwr mewn un, neu efallai, ddau ohonynt; safle israddol gymer ei waith o anghenrhaid wedyn. Wrth feddwl mawr golygwn feddwl dwfn, neu feddwl cryf, neu feddwl newydd un yn cymeryd bywyd oil i'w scope. Rhaid fod rhyw fawredd ynddo, wna i bawb a'i darlleno deimlo hynny: rhywbeth sydd yn cydio, ac yn dragwyddol wir prawf diatreg mai nid eiddilyn sydd wedi bod yn cvfansoddi. Wrth fynegiant mawr golygwn eto fynegiant coeth, cryf, cyfaddas. Y meddwl mawr wedi ei ddweyd yn yr iaith oreu. Gyda'r arddull oreu yr oil yn y fath fodd nes y teimla'r darllenydd fod y peth wedi ei ddweyd am byth nad all neb ei wella, ac nad oes awydd ar neb am dreio. Yna rhaid i'r gerdd fod'yn orffenedig yn emwaith telaid nid yn fratiog ac afrwydd mewn mesur, iaith na brawddegiad. Pwy bynag a'i cymero mewn llaw yn gweld 61 y meistr trwyadl ar y gwaith saerniaeth gain melodi, a lliw, a phobpeth wedi cael eu lie priod. Os na cheir y pethau hyn, ofer disgwyl i gerdd fyw. Carem i farddon- iaeth ein cenedl dalu mwy o sylw i'r elfenau hyn, sydd gyfuwch a dim yn syniad llenorion goreu y byd. Dygwn y safon hon i raddau at y tri chystadleuydd hyn, ynghyd a phethau eraill, sy'n dal perthynas neillduol a'r testyn. (I'w barhau.)

BYWYD Y5WIRIANT.

Advertising