Hide Articles List

3 articles on this Page

\ LLEOLIAD Y LLYFRFA.

News
Cite
Share

LLEOLIAD Y LLYFRFA. Ym mhle y gosodir y Llyfrgell a'r Amgueddfa Gymreig? Dyna'r mater sy'n tynu sylw llu mawr o Gymry y dyddiau hyn, a chyn pen deu- fis disgwylir y byddis wedi cael atebiad pendant oddiwrth gynrychiolwyr y Cyfrin Gyngor, sydd .wedi eu penodi i wneyd y dyfarniad. Hyd yn hyn mae barn y wlad yn hynod o anaddfed ar y pwnc. Mewn gair, nid yw'r genedl wedi sylweddoli pwysigrwydd y peth, ac er cael barn Cymry'r ddinas ar y mater bu Cymdeithas y Brythonwyr yn gwyntyllu y ceisiadau ddiwedd yr wythnos ddiweddaf. Agorwyd yr ymdrafodaeth mewn araith alluog a chynnwysfawr gan Mr. J. H. Davies, M.A., gwr a wyr fwy am lenyddiaeth Cymru nag odid i lenor yn awr, a chan mai a'r Llyfrfa yn arbenig yr ymdrinid y tro hwn nis gellid wrth unrhyw berson a allai osod y mater mewn ffordd fwy cywir nag a wnaed gan y boneddwr o'r Cwrtmawr y nos hon. Ond beth a feddylir wrth Lyfrgell Genedlaethol ? Cred rhai, meddai'r darlithydd, mai rhyw fath o "glorified lending Carnegie Library a feddylir, lie y gall miloedd gwerin Cymru dyrru yno a benthyca llyfrau o bob math ac am bob cyfnod. I'r pwrpas hwn, honai rhai pobl y dylid ei gosod yn y man mwyaf poblog, ac ni waeth beth fo'r boblogaeth honno-Cymry, Saeson, Gwyddelod, Parthiaid a Hottentotiaid, Iuddewon neu Broselytiaid. Wrth gwrs, golyga y syniad o boblogaeth y bydd miloedd o Gymry yn ymdyrru iddi bob dydd, ac y ceir yr adeilad yn lath o "show" barhaol. Yn wir, dyna, ellid casglu, yw syniad Maer Caerdydd wrth osod hawliau y dref honno o flaen y cyhoedd mewn cyfarfod y dydd o'r blaen. Dyma ddywedai:—" If a National Library was to serve any useful purpose, it must be for all the inhabitants of Wales—those who spoke Welsh and those who did not. The greatest part of the population of Wales was within 40 miles of Cardiff, and of what use, he asked, would be a library and museum for the jackdaws of Plynlimon to gaze at ? Ond, yn ol y darlithydd, camsyniad mawr fyddai gosod Llyfrgell Genedlaethol i wneyd i fynu am ddiffygion. Llyfrgelloedd Lleol. Gwaith y llyfrgelloedd Ileol yw addysgu y werin a'r bobl gyffredin, a dylai pob tref a phentref feddu un, ond peth hollol wahanol oedd cen- hadaeth y Llyfrgell Genedlaethol i Gymru. Iddo ef yr oedd y syniad o Lyfrgell Genedl- aethol yn rhywbeth amgenach na phentwr o lyfrau wedi eu gosod mewn adeilad gwych yn eiddo'r genedl. Rhaid i'r berthynas rhwng y casgliad llyfrau fod yn agosach ac yn fwy cysegredig cyn hawlio'r gair "cenedlaethol" i'w ddesgrifio. Mewn gair, rhaid fod y cysylltiad cyfriniol yna cydrhwng y llyfrau neu'r ysgrifau a'r genedl ag sydd rhwng y plant a'r wlad a'u magodd. Beth am gynnwys y Llyfrgell ? Dylai, yn ei farn ef, gael ei dosrannu i gynnwys y pethau a ganlyn :— (1) Pob llawysgrif wreiddiol, a chopi o bob llyfr yn yr iaith Gymraeg (2) Pob llyfr mewn iaith estronol sydd yn ymdrin yn arbenig a Chymru (3) Unrhyw weithiau neu gyfrolau wedi eu hysgrifenu gan Gymry; (4) Llyfrau ac ysgrifau yn dwyn perthynas a'r cenhedloedd Celtaidd. Y mae'n anghenrheidrol felly i sicrhau i'r llyfrfa bob llyfr ac ysgrif sydd o bwys i'r genedl cyn byth y gall mewn un ystyr hawlio ei bod yn genedlaethol. Llyfrau Cymru .-Plie y Maent? Ond pa fodd y saif pethau heddyw ? Os bydd ar ryw efrydydd awydd astudio hanes Cymru yn y dyddiau hyn, pa fodd y gall ym- gydnabyddu a'r ffeithiau ? Y mae pedwar man lie y gall ddod o hyd i ran o'r llenyddiaeth yn y gorphenol. Y lleoedd hynny ydynt:— (1) Yr Amgueddla Brydeimg yn Llundain (2) Y Bodleian yn Rhydychen; (3) Llyfrgell Coleg Cenedlaethol Aberyst- wyth (4) Llyfrgell Rad Tref Caerdydd. Ac o'r rhai hyn yr Amgueddfa Brydeinig yw'r unig un gwerth son am dani. Wedi archwilio y pedwar casgliad hyn nis gall unrhyw lenor draethu ei farn yn gywir am lenyddiaeth ein cenedl am fod yna ddau gasgliad arall, yn meddiant personau arbenig, ydynt yn anrhaethol fwy eu gwerth na'r gweddill i gyd. Cyfeirio yr ydoedd at Gasgliad Peniarth a Chasgliad Llyfr- gell Syr John Williams, yn Llanstephan, a gallai'r darlithydd yn hawdd enwi trydydd yn nghasgliad Cwrtmawr onibae am ei wyleidd-dra naturiol. Dylasai y Llyfrgell Genedlaethol gynnwys yn anad dim y llyfrau a'r llawysgrifau sydd yn y casgliadau arbenig hyn, oherwydd hebddynt nis gall yr un casgliad fod yn gyflawn, ac ni fyddai ein cri ond ofer os na sicrheir hwy. Ei Lleoliad. Mewn llyfrgell sydd yn dal perthynas mor arbenig a Chymru, ac a Chymru Gymreig hefyd, y pwnc yw-ai yn y rhanau gweithfaol a mwyaf poblog y dylid ei lleoli, ynte yn y man mwyaf canolog a manteisiol i efrydwyr Cymru'n gy- ffredinol ? Yr oedd yr un hen anhawsder wedi bod ger bron y genedl o'r blaen, pan yn ceisio sefydlu Coleg Cenedlaethol yn 1872. Pryd hynny deuwyd i'r penderfymad mai'r man mwyaf canolog oedd i benderfynu'r ddadl, a rhoddwyd yr adeilad hwnnw i Aberystwyth; a gwyr y genedl erbyn heddyw faint o les a wnaed trwy'r penodiad hwnnw, a'r fath do o genedlaetholwyr godidog a godwyd o'r Coleg Cymreig hwnnw. Dylai yr un egwyddor reoli yn awr. Pe tynech linell o'r Rhyl i Abertawe, ceid, yn ol y cyfrifiad diweddaf, fod yr adran Gymreig yn byw i'r gorllewin a'r adran Seisnig i'r dwyrain o'r llinell honno, a'r man mwyaf canolog yn yr adran Gymreig yn ddios yw Aberystwyth, gan y saif rhwng De a Gogledd Cymru, ac yn fanteisiol iawn i gyrhaedd iddi o bob rhan o siroedd Cymreig y genedl. Y dref hon, hefyd, yw'r unig dref o fewn y rhaniad hwn, sydd yn gwneyd cais am y Llyfrgell. Ond pa gymhwysderau sydd ynddi i ofyn am y fath adeilad ? Yn un peth y mae'n dref henafol, ac iddi hanes a thraddodiadau sydd yn glymedig a bywyd y genedl. Y mae hefyd wedi gweithio yn rhagorol yn ystod y deugain mlynedd diweddaf hyn tros adnewyddu bywyd cenedlaethol ein gwlad, ac o'i choleg hi y trowyd allan y to goreu o wladgarwyr sydd genym heddyw'n fyw. Ar wahan i'r swyn a'r traddodiadau a berthynai i Aberystwyth, yr oedd, yn ei dyb ef, fater arall llawn mor bwysig. Yr oedd y dref a'i thrigolion wedi gweithio yn rhagorol dros ei chael, ac yn addaw yn haelionus tuag at yr adeiliad. Fel y gwyddis, gwnaethant yn rhagorol ar ran y Coleg, a'r man adeiladau ynglyn ag ef, ac yn awr eto y mae ganddynt amryw filoedd wedi eu haddaw tuag at y mudiad ar wahan i ddarn eang o dir lie y gellir codi adeilad gwych arno. Pwy Sy'n ei Cheisio. Yn ol y darlithydd does ond Caerdydd ac Aberystwyth yn ceisio am y Llyfrgell. Y mae trefi ereill yn tynu am yr Amgueddfa, ond y ddwy dref hon yn unig sy'n gofyn am i'r Sais osod y Llyfrfa Genedlaethol yn eu cartrefi hwy. Ond beth mae'r ddwy dref hyn wedi ei wneyd tros fudiadau cenedlaethol ? Edrycher ar Gaer- dydd a'i Choleg. Sicrhaodd y sefydliad hwn yn 1883, a rhoddodd fath o lety iddo ar y pryd mewn hen glafdy, ac er fod dwy-flynedd-ar- hugain wedi myned heibio, mewn hen glafdy mae'r Coleg o hyd Er hynny nid o ddiffyg arian y mae'r esgeulusdra hwn. Yn ystod yr amser y mae'r dref wedi codi adeiladau gwych at faterion lleol, a lleoedd mawr er chwyddo urddas y dref, ond pan fo eisieu aberthu rhyw- beth dros les y genedl nis symuda yr un llaw. Am Aberystwyth y mae wedi codi ac ail-godi Coleg, yn ogystal a chartref ardderchog i'r merched a ddeuant yn efrydesau i'r lie. Hawliau Caerdydd yw ei phoblogaeth a'i harian. Mae yn boblog mae'n wir, ond am ei chyfoeth y mae hwnnw hyd yn awr wedi ei droi at faterion lleol yn unig. Ond at y rhai hyn dygir ymlaen reswm arall dros y dref, sef fod casgliad mawr o lyfrau yno eisoes. Mewn gair, dywed un o bapurau Caerdydd fod ganddi gatalog o lyfrau sydd yn rhedeg dros bum' cant o dudalenau, tra nad yw catalog Aberystwyth ond haner canto dudalenau. Y ffaith yw mai casgliad cymharol ddiweddar yw eiddo Caer- dydd, ac nid yw i'w gydmaru mewn nifer, gwerth, na phwysigrwydd cenedlaethol i'r hyn a welir eisoes yn Aberystwyth. Yn wir bydd yn hollol amhosibl i gasgliad Caerdydd, er cymaint cyfoeth y dref, i sicrhau y fath gasgliad ag sydd yn Aberystwyth, am y rheswm fod mwy- afrif y llawysgrifau Cymreig a wyddis am danynt eisoes wedi eu sicrhau ganddi, ac y mae'r ugeiniau lawer o lyfrau sydd i fyned i Aberystwyth yn gopiau nad oes eu bath i'w cael o gwbl. Bydd ei chasgliad am hynny yn amhrisiadwy. Addawa Caerdydd rhyw dair erw o dir llaith i godi'r Llyfrgell arno, tra y mae Aberystwyth yn barod i addaw pedair erw ar ddeg ar fan creigiog a sych i godi'r adeilad arno Y mae'r gymhariaeth yn dangos fod safle Caerdydd yn amhosibl. Apeliai ef yn daer ar i Gymry'r ddinas uno eto ar yr amgylchiad presenol, fel yn mhob adeg pan oedd budd y genedl mewn cwestiwn, gan gefnogi y cais a wnaed gan Aberystwyth ar hyn o bryd. Ar ol y ddarlith caed sylwadau cefnogol gan Mr. R. A. Griffith (Elphin), Mr. Arthur Rhys Roberts (y cyfreithiwr), Mr. Rowland Rees, Mr. David Rhys, ac eraill, a chytunwyd yn unfrydol ar derfyn y cyfarfod "Fod y Gym- deithas hon yn dadgan ei barn y dylid sefydlu y Llyfrgell Genedlaethol mewn tref Gymreig, 0 safle ganolog, ac oblegid hynny yn y modd mwyaf cadarn yn cefnogi cais Aberystwyth."

Advertising

Enwogion Cymreig.-XXVIII.…