Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Enwogion Cymreig.-XXVIII.…

News
Cite
Share

Enwogion Cymreig.-XXVIII. Y Parch. Griffith John, D.D. ER ein bod yn y gyfres hon o frasluniau wedi dilyn camrau ami i Gymro a arweiniwyd gan Ragluniaeth allan o derfynau ,ei wlad enedigol i wasanaethu ac i ennill enw iddo ei hun ym mysg estroniaid, nid ydym hyd yn hyn wedi bod allan o Ynys Prydain. Ond y mae ein cydgenedl yn wasgaredig dros y pum cyfandir, a cheir rhai o feibion Gwalia wedi dringo i amlyg- rwydd mewn amrywiol gylchoedd ym mhob gwlad bron o dan haul. Ni byddai ein cyfres tnewn un modd yn gyflawn heb i rai ohonynt hwythau hefyd ymddangos ynddi. Ac nis gallwn gael gwell esiampl o un yn cynrychioli pobpeth goreu y cymeriad Cymreig na'r gwr y rhoddwn y tro hwn ddarlun ohono-y cenhadwr Cristion- ogol byd-enwog, Dr. Griffith John. Nid oes gwaith mwy anrhydeddus yn ddychmygadwy nag efengyleiddio paganiaid tywyll leoedd y ddaear, ac ni roed i odid neb lafurio mor hir, a chyda mwy o lwyddiant na'r Cymro enwog sydd Wedi gwneyd ei enw ei hun ac enw China yn eiriau teuluaidd ar gynifer o aelwydydd crefyddol Cymru. Brodor o Abertawe ydyw Dr. Griffith John. Ganwyd ef yn y dref honno ar y i4eg o Ragfyr, 1831, felly y mae yn y bedwaredd-flwyddyn-ar-ddeg a thriugain o'i oedran. Cafodd y fantais o feddu rhieni cre- fyddol, y rhai a'i hyfforddiasant yn fore yn mhen Y ffordd. Ymhyfrydai yng nghymdeithas pobl grefyddol pan yn blentyn ieuanc, ac nid oedd Ond wyth mlwydd oed pan y derbyniwyd ef yn aelod eglwysig ) n Ebenezer, Abertawe. Pan yn bedair-ar-ddeg dechreuodd bregethu, ac yr oedd y tyrfaoedd yn cyrchu ar ei ol. Ond rhoes J gwaith i fynu am ryw ysbaid, am y teimlai ei yn rhy ieuanc a dibrofiad. Pan yn un-ar- bymtheg, ar gymhellion taer ei gyfeillion, ail yrnciflodd yn y gorchwyl, i barhau gydag ef mwy gwaith ei fywyd. Ym mis Medi, 1850, der- byniwyd ef I Goleg Aberhonddu, Pan aeth i'r coleg, ei fwriad oedd ymsefydlu yn y weinidogaeth yn y wlad hon, a'r fath oedd ei alIuoedd a'i boblogrwydd fel y prophwydid iddo yrfa ddisglaer ryfeddol. Ond yn fuan dechreuodd aWydd am fod yn offeryn i gario yr efengyl i'r Pagan feddiannu ei galon. Rywbryd yn ystod j tymhor talodd y cenhadwr enwog, y Parch, avid Griffith, Madagascar, ymweliad a'r Coleg, dadleuodd hawliau y maes cenhadol yn y fath a d fel na fedrai Griffith John feddwl mwyach lafurio mewn unrhyw faes arall. Ym mis awrth, 1853, cynygiodd ei wasanaeth i ^yrndeithas Genhadol Llundain, a derbyniwyd 0' Madagascar yr arfaethasai fyned, ond yr fre ^rws yn gloedig i'w erbyn yno gan y p. lnes greulon ac erlidgar Ranavalona. Felly yn fyne^ China. Ordeiniwyd ef Ebenezer, Abertawe, ei fam eglwys, ar y chweched o Ebrill, 1855, hanner can mlynedd i'r wythnos ddiweddaf. Ar yr 2 lain o Fai hwyliodd i dir Sinim," a chyrhaeddodd Shanghai yr wythnos olaf o fis Medi yr un flwyddyn. Pan y glaniodd Griffith John yn China yr oedd y wlad yn dechreu dod yn agored i dramorwyr deithio a phreswylio ynddi. Symudasid ymaith yr atalfeydd a fuasent am gyhyd o amser yn rhwystro ymdrechion cenhadol. Hyd y flwyddyn 1842 ni chaniateid i dramorwyr fyned i mewn i'r wlad o gwbl, ond darparodd cytundeb a wnaed Y PARCH. GRIFFITH JOHN, D.D. rhwng Prydain a China y flwyddyn honno eu bod i gael rhyddid i fyned Daith un Diwrnod o'r Porthladdoedd. O'r pryd hwnnw agorwyd y drws yn lletach yn barhaus. Gwelodd y cenhadwr ieuanc fod cyfle ardderchog yn cael ei roddi iddo i fyned a'r newyddion da i ganolbarth y wlad, ac ymroddodd i gymhwyso ei hun ar ei gyfer. Ond bu raid iddo aros blynyddoedd cyn medru cario allan ei gynlluniau. Dysgu yr iaith oedd y gorchwyl mawr cyntaf. Ac y mae yn werth dyfynu brawddeg neu ddwy o un o'i lythyrau yng nglyn a hyn, brawddegau sydd yn dangos yr ysbryd a lanwai y gwr a'i hysgrifenodd :—" Pwy a'i teimlai yn feichus i feistroli iaith sydd wedi ei threfnu gan Ragluniaeth Duw i fod yn gyfrwng drwy ba un y mae gwirionedd Dwyfol, fel ffrwd fywiol, i lifo i bedwar can miliwn o eneidiau sychedig ond anfarwol. Y mae syniad felly yn ddigon i ddeffroi holl egnion ein bodolaeth. Lie ceir amcan ardderchocach a diben uwch i gysegru iddo holl alluoedd a chynheddfau yr enaid ? Gogoniant Duw drwy achubiaeth eneidiau ydyw y gwaith godidocaf dan y nefoedd." Wedi treulio chwe' blynedd yn Shanghai yn llafurio yn ddyfal yn y ddinas a'r cylchoedd, a gwneyd ami daith i ddinasoedd eraill yn y parth hwnnw o'r wlad, daeth yr adeg iddo Ddechreu ei Waith yn y Canolbarth. Y mae yn China afonydd mawrion sydd yn fordwyol am gannoedd Jawer o filldiroedd. Y benaf o'r rhai hyn yw yr Yang-tsi-mab yr eigion, fel y'i gelwir gan y Chineaid. Ryw 780 milldir i fynu yr afon hon saif dinas fawr Hankow. Dyma y ddinas a ddewisodd Griffith John i fod yn bencadlys iddo. Efe a'i deulu a'i gyd- genhadon oedd rhai o'r Ewropeaid cyntaf i ymsefydluyno. Yr oedd hyn yn 1861, bedair blynedd a deugain yn ol. Gwelodd y cenhadon hyn lawer tro ar fyd yn ystod y blynyddoedd. Bu raid wynebu rhagfarnau cryfion, a llawer o erledigaethau ac ymosodiadau. Ond yn raddol daeth y brodorion i weled mai ceisio daioni iddynt oedd neges y cenhadwr, ac ers llawer o flynyddoedd bellach y mae y parch i Griffith John yn Hankow a dinasoedd eraill talaethau canolbarth y wlad yn ddiderfyn. Nis gallwn fanylu ar ei lafur enfawr er yr ymsefydlodd yn Hankow. Yn 1861 nid oedd cymaint ag un orsaf genhadol cydrhwng Shanghai a'r ddinas honno, ac yr oedd y talaethau i'r gogledd, de, a gorllewin yn dir disathr i'r genhadaeth. Wedi codi capel yn Hankow penderfynodd y cenhadwr gymeryd teithiau cenhadol yma a thraw. Byddai weithiau yn absennol oddicartref am fwy na chwe' mis o amser, yn pregethu, gwasgaru traethodau cref- yddol, ac ennill serch ac ymddiriedaeth y bobl. Erlidid ef yn ami, teflid llaid a cherrig ato yn fynyqh, ac mewn llawer man gwrthodid caniatau iddo fyned i mewn i'r dinasoedd. Ond daliodd ati, a gwelodd Rhagluniaeth yn dda ddilyn ei lafur a llwyddiant anarferol. Erbyn hyn y mae yn nhalaethau Hupeh a Hunan tua Chant a Deugain o Addoidai yn dal cyssylltiad a Chymdeithas Genhadol Llundain, a'r cwbl wedi eu codi drwy ymdrech- ion Griffith John a'r rhai a lafuriasant gydag ef, a cheir ynddynt uwchlaw saith mil o aelodau eglwysig. Yng nghanol yr holl lafur mawr mewn pre- gethu a theithio, ac adeiladu capeli, a dysgu y dychweledigion, mae y cenhadwr ymroddgar •