Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

PENNODAU YN HANES METHODISTIAETH…

News
Cite
Share

PENNODAU YN HANES METHODISTIAETH YN LLUNDAIN. Gan y diweddar Mr. T. Hamer Jones. Gweinidogion o Gymru. Yr oedd yn arferiad gan Gymdeithasfaoedd De a Gogledd Cymru i benodi pregethwyr i weinidogaethu i'r Cymry yn y Brifddinas, a threfydd eraill yn Lloegr, am ddau neu dri o fisoedd ar y tro. Nis gwn pa bryd y dechreuwyd hyn, na pha sut yr oedd y drefn. Yn nechreu y flwyddyn 1782 bu pre- gethwr yma o'r enw Robert Evans, o Lanrwst. Wrth fyned adref i Gymru cyfarfu a dam wain fu yn angeuol iddo, trwy gwympo oddiar ben y cerbyd. Bu yr enwog Robert Roberts, Clynog, yma ddwywaith yn ystod ei oes fer, sef yn haf y flwyddyn 1797, a thrachefn ym mhen dwy flynedd. Wrth fyned i Lundain y tro cyntaf, cadwodd ef, ynghyda'r Parch. Thomas Charles, o'r Bala, gyfarfod pregethu yn y Mwythig, mewn ty wrth ben Pont y Cymry, a thyna y pregethu Cymraeg cyntaf fu yn y dref honno; ac wrth ddychwelyd o Lundain cadwodd gyfarfod eglwysig yno am chwech o'r gloch y boreu. Tra yn gwasanaethu yn Llundain yr ail dro ysgrifenodd lythyr sydd argraffedig mewn hen rifyn o'r Drysorfa, a chan ei fod mor ddyddorol ac mor nodweddiadol o'r seraph tanllyd hwnw fu am ychydig o flynyddoedd yn gwefreiddio Cymru o ben bwy gilydd, yr wyf yn ei ddyfynu yn gyflawn "Llundain, Gorph. 23ain, 1799. Fy anwyl Nai,—Yr wyf yn dra diolchgar i ti am dy anwyl lythyr, yn yr hwn y cefais ronyn o'th hanes, a'm teulu anwyl hefyd. Yr wyf yn gobeithio y pery marwor dy gariad at dy hen ewythr tlawd, fel yr anfonych i mi lawer o jythyrau etto, os byddwn byw. Am amryw oethau yr wyf yn eu gweled ac yn eu clywed yn y ddinas fawr hon, nid z, ettyb ddim dyben i mi eu hanfon attat. Mae y poen mawr ag oedd yn fy nghefn, pan ar fy nhaith, wedi ymadael a mi 1 raddau go fawr; ond mae fy afiechyd gwreiddiol yn dywedyd yn ddifrifol wrthyf nad ymad efe a mi nes fy myned i dywyll byrth y bedd. Minnau ganaf:- Dyma'r ffordd a drefnwyd i mi Cyn fy ngeni, gan fy Nhad. fy ngwaith yma mae fy meddwl yn lied dawel fod yr Arglwydd mawr yn fy nghynorth- Wyo yn dirion, a'r gogoniant yn aros ar y babell. V Sabbath diweddaf yr oedd yma awelon ,ryflon hynod. Yr oeddynt yn canu Halelu- iah, yma agos drwy'r dydd, ond yn unig yr aniser y byddwn yn llefaru. Moliant i Dduw aip ronyn o awelon hyfryd Pen Calfaria yn Wlr, y maent yn hyfryd iawn i'r rhai a gurwyd ac a faeddwyd yn nyffryn trallod. Fy nwys fyfyr- °d (study) i y dyddiau hyn ydyw Job xxxiii, echreu yn adnod 14. Y Sabboth diweddaf y lefaru ar y materion yma. Yr ydwyf yn darllen ar yr adnodau Dr. Trap 1 ehediadau uchel; Caryl a'i fatterion dwys iad ^s§°^eigaidd; a Henry gyflawn o addysg- a au. Ond trallodion fy nghorph a'm hysbryd chymdeithas a gorseddfainc y gras sydd yn nysgu i ddeall y lie yn oreu [well] nag yr un r awduron p^rchus a soniwyd. Mae hyn yn ngalw i ddywedyd y munud hwn, Mat da vri 1 nghystuddio.' Yr wythnos nesaf yr he^r ■^■r* C s yma- Y mae yr q n J ones, druan, ynghanol ei donnau, yn hynod ad^tyyth. Mae bod yn ei gyfeillach yn adeil- am° Vmi- ydym yn ymddiddan cryn lawer •tyri ^3 tu draw i'r bedd. Yr ydym yn ys- he 6 eir^ n* e*n ^au yn a§os yno efe yn yn .m*nnau yn aflach a gwael iawn. Yr ydym a'r Ceisi° cyd-weddio am i ni gael darfod mwy sydd yma ar y llawr, a thebygoli att0 •>* r hen Jacob, yr hwn a dynodd ei draed -1 r gwely. Yr ydym yn byw heb neb ond dj *n au mewn dwy ystafell, mewn He tawel, v\c o gyfleus i ddarllen a gweddio. yr j?/ y gorchwyl yma, ynghyd a phregethu Mae y dymunwn dreulio gweddill fy oes. §wedd n aC astuc^0 yn magu ynof ysbryd feddvl'1' a nesau at Dduw yn meithrin ynof rnan ^wae^ 'awn am danaf fy hun, a thyna'r yr wy^ yn dymuno byw. Cofia fi yn garedig iawn at y brodyr oil yng Nghlynog, a hysbysa iddynt fy mod yn dymuno rhan yn eu gweddiau. Cefais lythyr oddiwrth fy mrawd John. Cofia fi atto." Wyf dy gAr, a'th garwr, dy ewythr, ROBERT ROBERTS." Pan benodwyd Robert Roberts i fynd i Lun- dain (y tro cyntaf) i bregethu i'r Cymry, ei gyfeillion a ddywedent wrtho y ca'i weled llawer o ryfeddodau yn y Brifddinas, a dymuneut arno anfon ychydig hanes a darluniad o'r pethau hynotaf a welai. Wedi cyrhaedd yno, yn y llythyr a ysgrifenodd gartref, dywedai mai y rhyfeddod fwyaf a welodd ef yn Llundain oedd y drydedd-benod-ar-ddeg-a-deugain o lyfr y Prophwyd Esaia. Llythyr oddiwrth y Parch. John Elias at ei gyfeillion yn Mon, pan oedd efe yn gweindog- aethu yna:- "Llundain, Ebrill 21, 1817. Frodyr caredig,—Yr wyf yn cymeryd y cyfle hwn i'ch annerch. Er bod yn mhell oddi wrthych o ran fy nghorph, y mae fy meddwl yn agos attoch a fy ysbryd gyda chwi. Yr ydwyf yn meddwl yn fynych am waith mawr yr Arglwydd yn eich plith. Mewn perthynas i mi fy hun, y mae yn llawer gwell arnaf nag yr ofnais yn mhob ystyriaeth. Y mae pethau yn dawel iawn yn y ddinas hon yn bresennol, er fod miloedd o dlodion mewn gwasgfeuon mawr iawn etto, pan ddystawyd Hunt a Cobbett a'u cyffelyb, y mae y tlodion yn dawel er maint eu cyfyngderau. Y mae pethau yn llawer gwell na'm hofnau yn yr eglwys yma. Yr ydym yn cael cymmorth i fyned a phobpeth yn mlaen mewn undeb a heddwch. Y mae lluaws mawr yn gwrando, a rhai yn methu cael lie yn yr addoldy. Nid wyf finnau yn cael fy ngadael i mi fy hun wrth lefaru. Yr ydwyf yn edrych ar y drugaredd fawr hon gyda syndod—fod yr Arglwydd yn rhoi graddau o'i gymmorth i'r fath un gwael ac anheilwng 0 frodyr, gweddiwch trosof. Mae y gwaith yn fawr iawn yma. Y mae yma gyfle da i wneuthur gwaith dros Dduw, torf fawr yn gwrando, a llawer o honynt yn anghynnefin a gwrando, ie, llawer yn dra chyfeiliornus, yn Ddeistiaid ac yn Sociniaid, &c. 0 na allwn fod yn dyst ffyddlawn dros Dduw a'r gwirionedd yn eu plith. Ond yr ydwyf yn hollawl anghymwys ac annigonol o honof fy hun i fod yn fuddiol i neb am hynny yr wyf yn gofyn yn daer drachefn, 0 frodyr gweddiwch trosof. Wyf eich brawd gwael a'ch cydwas yn ngwinllan Crist, "JOHN ELIAS." LLYTHYRAU AT YR EGLWYS.—Yr oedd yn arferiad gan y pregethwyr o Gymru a elent i Lundain i wasanaethu'r achos, yn ol pender- fyniad y Gymdeithasfa neu y Cyfarfodydd Misol, i anfon llythyr at yr eglwys ar ol dychwelyd gartref. Y mae amryw o'r llythyrau hyn eto ar gael, ac yn ddiddadl y maent yn gyfansoddiadau rhagorol, teilwng o'r oes Apostolaidd. Ceir un felly yn yr Athraw am 1836, tud. 75, oddiwrth y Parch. David Evans, gynt o Aberaeron, Sir Aberteifi, at eglwys y Trefnyddion yn Wilderness Row, Llundain. Nid oes dyddiad wrtho, ond fe'i hysgrifenwyd oddeutu can mlynedd yn ol. Temtir fi i ddyfynnu ychydig o hono :— "Anwyl Frodyr a Thadau,—Y mae yn dda genyf gael eich annerch a'r ychydig linellau canlynol, o'r man lie yr ydwyf, er yn mhell, eto yn teimlo fy meddwl a'm hysbryd yn agos attoch, gan ddymuno i chwi ras, trugaredd, a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist; a Duw pob gras, yr hwn a'ch galwodd chwi i'w dragwyddol ogoniant trwy Grist Iesu, wedi i chwi ddioddef ychydig, a'ch perffeithio chwi, a'ch cadarnhao, a'ch cryfhao, a'ch sefydlo. Meddyliais i mi gael mwynhau gradd o gysur a thangnefedd yn eich plith lawer gwaith; ac y mae cof am hynny yn gweithio fy ysbryd yn fwy agos attoch, i fod yn eon arnoch i ddywedyd fy meddwl. Gochelwch rhag treulio mwy o'ch amser i chwilio allan beth yw dyledswyddau eraill tuag atoch chwi, nag ydych yn ei dreulio i chwilio beth yw eich dyledswydd chwi tuag at eraill. Y mae llawer yn medru darllen gwersi eraill yn dda, ond nid ydynt byth yn dyfod adref at eu gwers eu hunain." Hen foneddwr caredig oedd Syr Robert o Nannau Byddai yn arfer rhoddi gwledd i'w holl weithwyr ar nos Galan. Un tro a'i heibio i hen wr yn tori cerrig ar ochr y ffordd fawr. Ti dwad i Nannau nos Calan, Shon ? ebai wrtho. Diolch yn fawr i chi, Syr Robat." Mi eisio pobl i canu, Shon. Ti 'n medru canu ? "Dim ond canu tipyn i mi fy hun i spario talu, syr."

Advertising