Hide Articles List

1 article on this Page

Enwogion Cymreig.-XXVII. Y…

News
Cite
Share

Enwogion Cymreig.-XXVII. Y Parch. G. Hartwell Jones, M.A. ,n. GELLIR rhanu meibion talentog Cymru sydd ar wasgar ym mysg cenhedloedd eraill i ddau ddosbarth. Gwneir un i fynu o'r rhai a welant g\neusdra gwell i ymarfer eu galluoedd a'u troi i wasanaeth ymhlith estroniaid nag ym mhlith eu cenedl eu hunain. Gwneir y Hall i fynu o rai a yrwyd allan o Gymru gan amgylchiadau, ac amgylchiadau anhawdd eu deall a'u hesbonio yn ami. Ac er iddynt lwyddo yn dda, a chyrhaedd enwogrwydd yn y byd estronol, erys eu calon fel calon Ceiriog yng Nghymru lie bynnag yr ant. Mae eu hanian, eu traddodiadau, a'u delfrydau yn rhy Gymreig iddynt fedru teimlo yn gartrefol yn unman o'r tu allan i derfynau Gwyllt Walia. I'r dosbarth olaf hwn y perthyn y gwr y rhoddir i'n darllenwyr ddarlun ohonno yr wythnos hon—y Parch G. Hartwell Jones, Rheithior Nutfield. Colled Ddirfawr i Gymru ydyw fod y Cymro talentog a chynnes-galon hwn wedi ei alltudio ohonni i gongl anghysbell o Loegr. Ac y mae yn syn na buasai yr Eglwys y perthyna iddi wedi ei alw yn ol ers talm. 0 ran cyrhaeddiadau y mae yn ddiamheuol deilwng o'r safle uchaf o'i mewn. Cafodd gyfle i'w osod yng Nghadair y Prifathraw yng ngholeg Dewi Sant yn Llanbedr ychydig flynyddau yn ol, ond dewisodd yn hytrach roddi y swydd bwysig honno i Sais uniaith, na fedrai ddeall Cymru na chydymdeimlo a'i dyheuadau. Ym mhlith y rhai a enwyd fel yn gymwys i gael eu dyrchafu i bob cadair esgobyddol a ddaeth yn wag yng Nhymru ers deng mlynedd ceir enw Rheithior Nutfield, ond hyd yn hyn nid ydym yn deall ei fod wedi cael cynyg ar unrhyw anrhydedd felly. Tybed fod yr Eglwys yng Nghymru mor gyfoethog o ddoniau fel y gall fforddio gadael i dalentau mor loewon a gwlad- garwch mor ddiragrith a'r eiddo y Parch. Hart- well Jones gael eu treulio yn ngwasanaeth yr ■estron ? Ai ynte a oes rhyw ddylanwadau cuddiedig yn gweithio i'w gadw allan o wlad ei enedigaeth. Pe mynegid pob peth hwyrach y ceid nad yw yr ysbryd a alltudiodd Goronwy ac leuan Glan Geirionydd wedi marw yn hollol eto. Buasai yn anhawdd i Mr. Hartwell Jones fod yn amgen na llengarwr a gwladgarwr Cymreig, heb iddo brofi yn anffyddlon i draddodiadau ei dadau ac i'r cysylltiadau ym mha rai y gosodddd Rhagluniaeth ef. Hana o linach lenyddol. Yr oedd ei daid, Pyll Glan Conwy, yn fardd a lienor adnabyddus iawn yn ei ddydd, a gwnaeth Wasanaeth mawr i oleuo a dyrchafu ei gydgenedl. Preswyliai Pyll yn Llanrwst, yn sir Ddinbych, *n yr un sir, ond yn y cwr eithaf arall o hdni sydd yn ffinio a Maldwyn, yganwyd ei wyr. Yn Llanrhaiadr=yn^Mochnant, gysgodion y Berwyn, y gwelodd efe oleuni ydd gyntaf. Treuliodd flynyddoedd ei febyd yn y Persondy lie y cyfieithiodd Dr. William Morgan y Beibl i'r Gymraeg. Edrycha efe yn ol ar y blynyddoedd hynny gyda boddhad dirfawr, ac y mae yn sicr iddynt feithrin a chryf- hau yr anian a'r tueddiadau a dderbyniasai drwy waedoliaeth. Yn y flwyddyn 1875, ac efe eto yn lied ieuanc, cafodd ei anfon i hen ysgol enwog y Mwythig, He yr arosodd bedair blynedd. Cyn diwedd y tymbor hwnnw llwyddodd i ennill amryw wobrwyon pwysig, megis y Careswell Scholarship, y Care swell Priz., ac Ysgoloriaeth Powys o ^60 .y flwyddyn. Yn 1879 ennillodd ysgoloriaeth yng Ngholeg yr Iesu, yn Rhydychain. Y PARCH. G. HARTWELL JONES, M.A. Ym mhen dwy flynedd cafodd First Class in Classical Moderations, ac yn 1883 graddiodd gan gymeryd Second Class in Liter.le Humanores. Y flwyddyn ddilynol dyfa nwyd iddo wobr y Canghellydd am draethawd Lladin. Yr oedd y, gystadleuaeth honno yn un anarferol o galed, dim llai na phedwar Cymrawd yn cydymgais ag ef. Yn 1886 pennodwyd ef Yn Broffeswr Lladin yng Ngholeg y De, yng Nghaerdydd, a daliodd y swydd honno am chwe' blynedd, gan ennill cymeradwyaeth uchel y Prifathraw Viriamu Jones a'r holl athrawon eraill.. Yn 1890 ordeiniwyd ef yn ddiacon modd y gallai gynbrtnwyo fel ciwrad didal yn Eglwys Dewi Sant, Caerdydd. Y11 1892, cypygiwyd Rheithioriaeth Nutfield iddo gan Brifathraw a Chymrawdwyr Coleg yr Iesu. Yr oedd cael cynyg bod yn olyriydd i William Briscoe a Llewelyn Thomas, ill dau wedi bod yn Is- lywyddion y Coleg, yn ormod o brofedigaeth i'w gwrthod, ac yn nechreu y flwyddyn ddilynol torrodd ei gysylltiad a Chymru, a sefydlodd yn Nutfield, lie y mae wedi aros hyn yn hyn. Ond nid yw ei dafod wedi colli dim o'i hyawdledd Cymreig. Parha i bregethu yn yr hen iaith yn fynych, ac ar fwy nag un achlysur rhoed iddo yr anrhydedd o draddodi y bregeth yn y gwasanaeth Cenedlaethol Cym- raeg yn Eglwys Gadeiriol St. Paul ar nos Wyl Dewi. Ac nid yw wedi colli dim oi ddyddordeb mewn pethau Cymreig. Yn 1894 pennodwyd ef i gynrychioli y Goron yn Llys Llywodraethwyr Prifysgol Cymru, a deil i wneyd hynny o hyd. Mae yn aelod amlwg o Gymdeithas y Cymmrodorion, ac nid oes fudiad Cymreig o'r Eisteddfod Genedlaethol i lawr nad yw Mr. Hartwell Jones yn gefnogwr aiddgar iddo. Ac nid yw ychwaith yn anghofio hawliau y bobl y mae wedi ymsefydlu yn eu plith. Gwna waith mawr yn Surrey ac yn esgobaeth Rochester fel Arolygwyr Ysgolion, ac fel Arholwr mewn Gwybodaeth Ysgrythyrol ac Eglwysig. Ond rhaid i ni beidio anghofio crybwyll Am ei Lafur a'i Wasanaeth Llenyddol. Mae wedi gwneyd iaith a hanes Cymru yn bynciau arbenig ei efrydiaeth, a cheir cynnyrch ei ysgrifell yn ami yn y cyfnodolion Cymreig a Seisnig. Gelwir arno yn fynych i ddarlithio o tlaen cymdeithasau y dysgedigion. Yn 1892 cyfieithodd a chyhoeddodd Detholion o Law- ysgrifau yr Hengwrt. Yn 1897 cyhoeddodd draethawd ar Yr Eglwys Ddwyreiniol: Ei Hanes a'i Duwinyddiaeth." Y flwyddyn ddilynol dygodd allan gyfrol o bregethau a darlithiau yn dwyn y teitl Religion and Race," a'r flwyddyn ar ol hynny ysgrifenodd un o lyfrau Cyfres yr Ugeinfed Ganrif ar Ddylanwad Addysg ar Fywyd Crefyddol Cymru." Ond ei brif waith llenyddol hyd yn hyn yw y gyfrol "Dawn of European Civilisation," a ddaeth allan yn 1903. Cafodd y llyfr hwn ganmoliaeth uchel nodedig gan y prif adolygwyr Prydeinig, a hefyd gan ddysgedigion Holland a'r Almaen. Mae yn awr wrthi yn paratoi cyfrol Seisnig arall ar "Dyfiant Diwylliant Celtaidd," ac y mae hwn yn faes hoff ei fyfyrdodau ers llawer blwyddyn. Ni feddwn ofod i fanylu ar y lliaws mawr o bamphletau hanesyddol, ieithyddol, ac addysgol a ddygodd allan. Gwelir ei fod yn weithiwr difefl, ac yn troi ei dalentau disglaer i hyrwyddo dyrchaliad a lies ei gyd-ddynion ym. mhob modd dichonadwy. Yr unig beth i ofidio o'i blegidynglyn a Mr. Hartwell Jones ywnachawsai ei genedl ei hun, syddjtIlor agos at ei galon. fwy o ffrwyth ei lafur a'i ymroddiad. Ond nid' efe sy'n gyfrifol am hynny.