Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
WYBROW & SON, 222, Coldharbour Lane, Lougbborough Junction, S.W. INEXPENSIVE AND MODERN FUNERALS in Town or Country, at stated charges • ■ which in all cases are moderate. P*ICE LIST ON APPLICATION. Distance no object
Colofn y Gan.
News
Cite
Share
Colofn y Gan. Nos Fawrth nesaf cynhelir cyngherdd mewn cysylltiad a Chymdeithas Ddiwylliadol Dewi Sant, Paddington; a chan mai hwn fydd y cwrdd terfynol diau y ceir yno noson lawn o adloniant. PRIF gyngherdd yr wythnos nesaf fydd un mewn cysylltiad ag Eglwys y Bedyddwyr yn Little Alie Street, yr hwn a gynhelir nos Iau. Y mae rhestr o gantorion poblogaidd wedi eu sicrhau i wasanaethu, a diau yr aiff llu o'n cyd- wladwyr yno i gydgyfranogi wrth y bwrdd te ac i gydfwynhau y caneuon. Gweler y manylion mewn colofn arall. AR yr un noson, fel y gwyddis, bydd cwrdd cystadleuol Sibley Grove, East Ham, yn cymeryd lie. Y mae'r rhagolygon ynglyn a'r cyfryw yn argoeli yn dda. AR yr 24ain o'r mis hwn y cynhelir Eisteddfod Eglwys St. Mary, Camberwell. Deallwn fod nifer fawr o ymgeiswyr wedi anfon eu henwau i mewn yn yr adran gerddorol. DAL i wella y mae Mr. David Evans fel cantor, ac yr oedd ef a Miss Margaret Lewys yn canu yn rhagorol yng nghwrdd yr Undeb nos Sadwrn diweddaf. Gwelwn fod y ddau hyn wedi eu sicrhau i wasanaethu yn yr Hoi born Town Hall ar y i8fed o'r mis hwn, ym mudd- gyngherdd Mrs. Griffith. HEFYD, sylwn fod Miss Gertrude Hughes a Mr. Herbert Emlyn i gymeryd rhan yn y budd- gyngherdd hwn, yn ogystal a chor enwog Miss Frances Rees ac unawdwyr offerynol medrus, fel drwy bobpeth bydd yn gyngherdd mawr. DARLITH AR DIEDIN.Fel hyn yr agorodd Syr Frederick Bridge ei ddarlith ar Dibdin, yr hen gerddor, yn y Church House, y dydd o'r blaen :—" The Government gave him a pension of £200, and then a Whig Government came in and took it away. I am no politician, and I don't know whether I agree with the Whigs or not, but I know I don't agree with them in taking away Dibdin's pension. The Government now' is no better-musicians are not properly treated." Dyddorol iawn ydoedd clywed hen ganeuon y mor. Dan Price oedd yn eu canu, ac yr oedd hyn yn gynorthwy mawr i ddeall y ddarlith. Rhoddodd Syr Frederick hanesion dyddorol iawn, gan sylwi i Dibdin, pan yn hogyn yng nghor Eglwys Gadeiriol. Win- chester, ddyfod i gysylltiad a'r organydd Kent, dylanwad pa un sydd yn hawdd ei olrhain yng ngweithiau Dibdin.
The Children's Column.
News
Cite
Share
The Children's Column. My DEAR NIECES AND NEPHEWS, Here we are once again, and I hope you are in jolly health and spirits, all of you. Your lively letters seem to show that you are. Willie writes wanting to know if I have found any birds' nests yet, and if I tore my coat in getting; at them through the thorns. As if old "Wncwl" were as careless now of his clothes as he was when a boy of ten And where in London could I find thorns and brambles to tear my clothes? If I went over the railings in any of the parks, some policeman would take hold of me at once. He would be much more likely to tear my coat than any thorn bush. Jennie wants to know if I have overbalanced myself yet this year, in trying to reach at some primroses in the park whilst looking for the policeman round the corner ? Now, Jennie, that is too bad. Wncwl. Huw" has too much respect for law and order to try to reach anything that does not belong to him;. either in a park or out of it. But my day will come before long when I shall have my laugh at you for teasing me thus. The answers to the questions given you on March 18th are not quite as good as your answers generally are. You do not seem to know as much of the history of Wales as I expected, and not nearly so much as I could have wished. But, then, they do not teach you any of the history of your own country in the day schools in London they do not do it in the schools in Wales, for that matter. Here are the correct answers i. Welsh proverb :— Esmwyth civsg cawl erfin. 2. Llewelyn, our last Prince. He was killed in the woods of Buallt in Breconshire, but whether in battle or by the hand of a traitor is uncertain. 3. Mi glywais yr eos; mi glytvais lygoden yr oeddwn yn clywedy bwydyn stir yr wyf yn ei chlywed yn oer yr wyf yn clywed fy lum yn sal. A word of explanation about the third answer. In Welsh, one sense is made to do duty for another,1 and that is the sense of hearing. Instead of aroglaf Ieiilzlaf, archwaethaf a thorough Welshman, not corrupted by false idioms copied from the English, will say clywaf Yr wyf yn ei tlzeimlo yn oer, is not Welsh at all.. But more about this another time. Here is your next task :— I. Numerical charade My 2, 8, 9, 5, is running water. My 10, 3, 8, is above. My 2, 6, 4, 9, 5, is the name of a great Bible character. My 1, 9, 7, is musical. My whole, composed of 10 letters, is the name of a well-known Welsh town. 2. A Welsh diamond (all the words read the same down and across). A consonant. A command to bring anything. The reverse, of better. A precious stone. A consonant. 3. What is the difference in meaning between the following sentences :—" John a ddywedodd and Dywedodd fohn." Send your answer by Thursday as usual, addressed to "Wncwl Huw," care of THE LONDON WELSHMAN, 45, St. Martin's Lane, W.C. CYSTADLEUAETH "CYMRO LLUNDAIN." Yr ydym yn deall yn awr mai Mr. Tom Jenkins, 507, Battersea Park Road, Llundain, yw "Gwilym Teifi," ennillwr y wobr gyntaf 0 ddau gini; ac mai Mr. D. Lewis Davies (Roser- onian), 28, Hastings Street, King's Cross, Llun- dain, yw "Cymro o'r De," ennillwr yr ail wobr o gini, yn ein cystadleuaeth. Llongyfarchwn y ddau frawd yn galonog ar eu llwyddiant-. Anfonir y gwobrwyon iddynt heb oedi.
Am Gymry Llundain.
News
Cite
Share
canu, adrodd, &c., gan amryw o aelodau yr eglwys. Cafwyd cyfarfod hwyliog a chynulliad rhagorol. Deallwn fod y rhagolygon yn addawol iawn am eisteddfod lwyddianus y Pasg nesaf.—E. H. O. DEWI SANT, P ADDINGTON.-N os Fawrth, yr 2 lain o Fawrth, traddodwyd darlith, gerbron Cymdeithas Lenyddol y He uchod, gan Mr. b Thomas Jones, Cenhadwr Dinesig. Cymerwyd y gadair gan y Parch. W. Richards, B.A. Testyn y ddarlith ydoedd Tennyson a'i Weithiau." Yr oedd y darlithydd wedi astudio ei destyn yn ofalns, ac felly yn alluog i drosglwyddo i'r gwrandawyr gynyrch ei astudiaeth yn adeiladol, trefnus, ac effeithiol. Hefyd trwy gyfrwng y Llusern ledrith aeth Mr. Jones a'r gwrandawyr i gartref y bardd yn y wlad, aeth a ni trwy y palas a'r llwybrau dymunol yn yr ardd, wedi hynny i lan y mor, i'r traeth garw, ac i'r clog- Wyn uwchben y glasfor, oedcl yn edrych yn dra ysgythrog. A thyma y lleocdd lie y bu y bardd enwog Tennyson yn cyfansoddi ei fardd- oniaeth anfarwol. Adroddwyd amryw ddarnau 0 waith y bardd gan Miss Emily Thomas yn effeithiol. Diolchwyd yn gynes i Mr. Jones am ei ddarlith odidog, ac ar ol canu un o emynau Tennyson, aeth pawb i'w cartref wedi eu llwyr foddloni. WOOLWICH.—Nos Iau, Mawrth 23ain, cyn- haliwyd cyngherdd yn y Co-operative Hall mewn cysylltiad ag Eglwys Annibynol Parson's Hill, a chafwyd cyfarfod hynod o lwyddianus. Cymerwyd y gadair gan Mr. W. H. Lewis, London and Provincial Bank. I ddechreu y cyfarfod cafwyd unawd ar y berdoneg gan Miss Sallie Jenkins gyda medrusrwydd neillduol. Gwnaeth Miss Jenkins hefyd ei gwaith yn dra chanmoladwy fel cyfeilyddes y cyfarfod. Rhoddodd Miss Myfanwy Jones ddatganiad gwir effeithiol o'r Golomen Wen," felly, hefyd Mr. Emlyn Edwards, o Hoff Wlad fr Ngened- igaeth," a Mr. Edwin Evans Devout Lover," hefyd The Promise of Life gan Miss Ethel Cottle. Daeth Mr. Eddie Evans yn mlaen i adrodd y dernyn digrif hwnnw, "Old Mose Counting the Eggs," a phrofodd ei fod yn adroddwr penigamp. Cafwyd unawd ar y crwth gan Mon. Leon J. Fontaine, a thriawd, II Naviganti," gan Miss Jones, Messrs. Edwards ac Evans. Yn yr ail ran o'r rhaglen gwnaeth y rhai a enwyd eisoes waith llawn mor ganmoladwy:—Unawd ar y berdoneg Polonaise," Miss Jenkins; can, "Entreat Me ft°t to Leave Thee," Miss Cottle; can, Nirvana," Mr. Emlyn Edwards unawd ar y crwth, Mons. Leon J. Fontaine; can, Chorus, gentlemen," Mr. Edwin Evans; can, "To the airies," Miss Jones; pedwarawd, "In this ^tour of Softened Splendour," Misses Jones a °ttle a'r Mri. Edwards a Evans. Terfynwyd y cyfarfod trwy ganu yr anthem genedlaethol, Hen Wlad fy Nhadau." -Ap TRLBOR. BATTERSEA TOWN HALL.—Nos Fercher, [(^Wr4 2 2ain, cynhaliodd yr eglwys uchod ei C, Swper Goffi." Dyma'r Swper Goffi mwyaf Poblogaidd wyf wedi weled ers blynyddoedd. *olch yn gynes i bawb oedd yno am roddi eu presenoldeb, a gallaf ddweyd y cant groesaw 3-lon unrhyw amser bydd chwant arnynt droi i eWn i'r eglwys weithgar hon. Yr oedd nifer y cystadleuwyr yn lliosog iawn-tua deugain o ^geiswyr ar y ddau unawd. Cawsom ddat- rhagorol ar yr unawd, "Ora Pro obis." Roedd llawer o'r boneddigesau yn angos ol diwylliant yn eu lleisiau, ac yn canu gYda llawer o deimlad; yr oedd cystadleuaeth J mejbi°n yn amrywio, oblegid fod pob un i ewis ei gan, a phob amser yn y math yma
Am Gymry Llundain.
News
Cite
Share
o gystadleuaeth mae un yn dewis .ei gan am ei bod yn hoff ganddo, tra mae'r llall yn dewis ei gan am ei tod wedi ennill o'r blaen, ond er hynny cafwyd cystadleuaeth ddyddorol iawn. Cafwyd cystadleuaeth dda hefyd ar y darn adroddiadol, Gwron y Conemaugh." Llanwyd y gadair gan Mr. W. Davies, Y.H., L.C.C. Cafwyd anerchiad pwrpasol iawn ganddo yn ystod y cyfarfod, yr oedd ei ddull dirodres, a'i wen siriol yn galonogol iawn i'r cystadleuwyr oil, ac yr oedd yn amlwg ei fod yn mwynhau y cyfarfod drwyddo. Rhoddwyd y cwpanau gan y boneddigon canlynol: I Mr. William Jenkins, Aylesbury Street; Mr. Percy M. Thornton, M.P., a Mr.' B. Rees, Carthusian Street. Rhoddwyd y lluniaeth gan Mr. Powell, York Road, Battersea; Mrs. Dunster, Queen's Road; Evans and Hughes, Battersea Park; a Mr. Francis, Castle Street. Mae diolchgarwch cynes yn ddyledus i'r boneddigesau fu'n gweinyddu wrth y byrddau am wneyd eu gwaith mor ragorol, a rhoddi gwynebau siriol i'r dieithriaid. Clorianwyd y cantorion gan F. Hayes, Ysw., A.R.C.A., a'r adroddiad gan y Parchedigion William Rees a Thomas Jones. Chwareuwyd ar y berdoneg gan Miss Sallie Jenkins. Aeth pawb adref mewn llawn hwyl, wedi eu llwyr foddloni.—BRYTHON.