Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Pobl a Phethau yn Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yn Nghymru. PRYDNAWN Sadwrn, yn Neuadd Drefol, Caerdydd, cynhaliwyd cyfarfod nodedig o ddyddorol, pryd y cyflwynwyd i Mabon y swm sylweddol o £ 1,790, ynghyd a dernyn o arian, fel ffrwyth y mudiad fu ar dro i wneuthur tysteb genedlaethol iddo. Yn absenoldeb Arglwydd Tredegar, Ilywyddwyd gan Syr John Dillwyn Llewelyn, a chyflwynwyd yr anrheg gan Syr Alfred Thomas. Yn ystod y cyfarfod awgrymodd Mr. Tom Richards, A.S., mai purion peth fyddai anrhydeddu Mabon a rhyddfraint tref Caerdydd. Derbyniwyd yr awgrym gyda chryn foddhad, a datganodd y Maer ei barodrwydd i ddyfod ag ef i sylw ei gyd-aelodau ar y Cynghor Trefol. CYMERADWYODD Pwyllgor Addysg Morganwg yn eu cyfarfod yr wythnos ddiweddaf y cynllun canlynol o addysg grefyddol :—Yn y boreu Emyn, gweddi'r Arglwydd, darllen rhan o'r Beibl gan yr athraw, gwers Feiblaidd, gweddi i orphen. Yn y prydnawn Emyn agoriadol, gweddi, emyn prydnawnol, a gweddi'r Arglwydd. Cymeradwywyd hefyd wers-len o hyfforddiant moesol a chrefyddol ar gyfer y gwahanol ddos- barthiadau. Os caniata ei iechyd, y Parch. J. Morgan Gibbon sydd i draddodi yr anerchiad i fyfyrwyr Coleg Bala-Bangor yn adeg y cwrdd blynyddol nesaf. MAE Rhosllanerchrugog yn parhau yn gyrch- fan dieithriaid o bell ac agos i weled a theimlo rhyfeddodau y Diwygiad. Gwelir yno yn ami Americani^aid, Ysgotiaid, Gwyddelod, a Saeson o wahanol leoedd wrth yr ugeiniau. AWGRYMA un gohebydd yn yr Aberystwyth Observer mai yr hyn sydd wrth wraidd gelyn- iaeth chwerw un golygydd yn Aberystwyth tuagat Mr. Llewelyn Williams ydyw fod yr ymgeisydd dros fwrdeisdrefi Caerfyrddin yn gefnogwr aiddgar i newyddiadur a gychwynwyd i gydymgeisio a newyddiadur y golygydd a nodwyd. TRA yn son am Mr. Llewelyn Williams, ymddangosodd llythyr tra dyddorol oddiwrth un o'i edmygwyr yng ngholofnau y South Wales Weekly Press, yn cjnnwys darlun 0 Mr. Williams gan yr Athro John Morris Jones. Fel y mae'n wybyddus, bu yr Athro yn cyd-efrydu gyda Mr. Williams yn Rhydychen. Un arall o'u cyfoedion yno oedd Mr. O. M. Edwards. Ymhen rhai blynyddoedd, mewn adgof o'r dyddiau diddan yn Rhydychen, ysgrifenodd yr Athro gywydd, ac ynddi darlunia amryw o'i gyd- efrydwyr. Gan mai anfynych y gwelir cynnyrch awen yr Athro, rhoddwn yma ei bortread o'i gyfaill:— Y llonaf oil, hwn a fu O'r dilesg hygar deulu, Ac ef e faith,gofiaf i Ystyriaf ei ffraeth stori; Ac yn ami dychmygu wnaf, Yn bur ddedwydd breuddwydiaf Fy mod yn canfod y cylch Yn ymgom eto o'm hamgylch. Hyglod wr yr arogldarth Yn ddidor greu ei dewdarth Ac ami y mae'r cwmwl mwg Yn ei gelu o'n golwg; >• 7 Ond wrth ffrwd ei araeth ffri Hynod bob gair o honi, Wrth ei nod a'i chwerthin o Fe 'dwaenir ei fod yno. A gwir iawn mai gwr hynaws A lion oedd, didwyll ei naws A bu ami imi'r hiraeth Am wir ffrynd, ac un mor ffraeth. YM marwolaeth Mr. E. H. Jonathan, Goginan, Aberystwyth, cafodd Addysg ac Anghydffurfiaeth yn y Gogledd golled drom. Tua'r Nadolig, cyfarfu Mr. Jonathan a damwain wrth feisyclo i Ffestiniog. Bu'n gorwedd am beth amser wedi hynny, ond tybid ei fod wedi gwella yn iawn. Cafodd anwyd ar yr ysgyfaint wed'yn, a phrofodd hyn yn angeuol iddo er pob cymhorth meddygol Mab ydoedd i'r diweddar Mr. Henry Jonathan, Caernarfon. Bu yn aelod o'r Cyngor Dinesig yn Ffestiniog, ond yn benaf yn y cylchoedd sirol, fel cynghorwr a henadur, y bu yn fwyaf amlwg er adeg sefydliad y Cyngor Sir. Yr oedd yn Rhyddfrydwr trwyadl. Er yn eiddil o gorff, yr oedd yn fawr mewn meddwl a gallu i drefnu a llywodraethu. Rhoddwyd ei weddillion i orphwys yng nghladdfa y teulu yn mynwent Llanbeblig, Caernarfon. MAE y rhyw deg" wedi ennill buddugol- iaeth fawr yn y Deheudir, dim Uai na mynedfa i'r set fawr" yn Llandyssul. Y mae dwy foneddiges, aelodau o'r eglwys Undodaidd vn y lie, wedi eu hethol yn "ddiaconiaid!" Y MAE mudiad ar droed yng Nghymru i anrhegu Syr Isambard Owen ar amgylchiad ei briodas a Miss Ethel Holland Thomas. Yn nwylaw y Prifathraw Griffiths, Caerdydd, y mae y paratoadau rhagarweiniol, ac y mae ef eisoes wedi .anfon cylchlythyr at y gwyr sydd yn cymeryd rhan flaenllaw yn achosion Addysg i ofyn iddynt weithredu ar y pwyllgor. Awgrymir mai priodol fyddai i ran o'r arian a gesglir gael ei neillduo i'r pwrpas o gael darlun o Syr Isambard yn swvddfa Cofrestrydd y Brifysgol yng Nghaerdydd, ac i ddefnyddio y gweddill mewn anrheg bersonol. DYMUNWN longyfarch y Morning Leader ar ei waith yn darganfod eglwys new) dd ym Mangor. Yn y newyddiadur a enwyd, boreu Sadwrn diweddaf, ymddangosod darlun o angladd y diweddar Ardalydd Mon, ac odditano dywedir mai darluniad ydyw o'r Funeral pro- cession leaving the Wickens Bangor Church for the grave." Rhag i ddarllenwyr y "LONDON WELSHMAN gael eu camarwain, dylid dweyd mai "Wickens, Bangor," ydyw enw yr arlunydd, ac mai yn Llanedwen, sir Fon, y claddwyd y pendefig ymadawedig. YCHYDIG amser yn ol ymddangosodd para- graph mewn llawer o'r newyddiaduron yn hysbysu fod y Wladfa Gymreig yn Patagonia ar fedr ymfudo i Rhodesia, ac fod Llywodraeth y wlad honno, nid yn unig yn barod i roddi tir yn rhad ac am ddim iddynt, ond hefyd yn barod i ymgymeryd a'r gwaith o drosglwyddo yr ymfudwyr a'u heiddo yn ddidraul. 'Nawr wele baragraph arall yn ymddangos yn yr un newyddiaduron yn hysbysu fod y gwladfawyr yn awyddus i ymsefydlu yn Nova Scotia. MAE anghydfod arall wedi cyfodi yn un o chwarelau y Gogledd, y tro hwn yn chwarel Glynrhonwy, Llanberis, sir Gaernarfon. Gos- tyngiad yng nghyflogau y gweithwyr a achosodd yr helynt. Haera y meistriaid fod cyflwr y farchnad lechi y fath ag i wneyd gostyngiad yn angenrheidiol. Nid yw y gweithwyr, y rhai a rifant dri chant, yn barod i gydnabod hynny, a gwrthodant weithio ar delerau y meistriaid. AETH golygydd y Tyst i wrando ar Mr. Winston Churchill yng Nghaerdydd, ac wrth wrando, meddai ef, amhosibl oedd peidio gwneyd cymhariaeth rhwng y gwladweinydd ieuanc Seisnig a Mr. Lloyd-George. Y mae llawer wedi gwneyd y gymhariaeth hon o'r blaen, ond nis gwelsom un mor hapus a meistrolgar ag eiddo golygydd y Tyst. Yn ei farn ef, "o ran gallu meddyliol a gwleidyddol, nid oes fawr wahaniaeth rhyngddynt. Mae'r ddau yn wladweinydd-neu yn cynnwys y cymhwysder i fod, ac o'r radd flaenaf. Eithr mae George yn gryfach fel areithydd, yn fwy o feistr cynulleidfa, ac yn ganmil medrusach yn holl berffeithderau y siaradwr mawr cyhoeddus. Ond ceir gwell adroddiad bob amser 0 Churchill, am ei fod yn fwy manwl gyda'i barotoad, ac yn fwy gofalus wrth lefaru. Er hynny, ni cheir gan Churchill asides gwefreiddiol George, a'i allu i gymeryd y sefyllfa i mewn ar eiliad. Ar lawer ystyr mae Churchill yn debycach i'r diweddar Tom Ellis nac i George, ond mae'r ddau yn sicr o fod yn prysur ddringo i gadeiriau uchaf gwladweiniaeth. Mae talent Churchill yn aruthrol, ond mae George yn berchen athrylith."

WELSH TEACHING SCHEME.